Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 

Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meurig Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Light: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Anwen Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Owain Wyn: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Manon Cadwaladr: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Tegryn Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Savanna Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Bethan Webb: Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru 

Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru 

(Ysgrifenyddiaeth) Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Bethan Webb Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran Cymraeg 2050.

Croesawyd 7 aelod newydd i’r Cyngor Partneriaeth yn dilyn prosesi benodi ddiweddar. Hefyd diolchwyd i’r tri aelod a oedd yn camu i lawr ar ddiwedd eu cyfnod am eu gwaith a’u cyfraniad i’r Cyngor ar hyd y blynyddoedd.

Pwyntiau gweithredu

Eitem 1: pynciau poeth

Cafwyd diweddariad gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 yn rhoi rhagflas o waith yr Is-adran yn ystod 2023. Trafodwyd amrywiol feysydd fel technoleg a Dydd Miwsig Cymru. Yn sgil hyn, nodwyd y byddai cyfle i aelodau: 

  • roi mewnbwn i Raglen Waith 5 mlynedd nesaf y Llywodraeth o 2026 ymlaen
  • cynghori ar gynnwys cynlluniau gweithredu blynyddol Cymraeg 2050 yn y dyfodol

Cam gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg y 'Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024' gyda’r aelodau. 

Eitem 2a: Bil y Gymraeg ac Addysg 

Cafwyd diweddariad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ar Fil y Gymraeg ac Addysg, a’r hyn a fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.

Eitem 2b: cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg (CSCA) 

Cafwyd cyflwyniad gan swyddog o Lywodraeth Cymru ar y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg sydd wedi bod yn weithredol ym mhob un o’r 22 awdurdod lleol ers Medi 2022. Rhoddwyd braslun o’r targedau a’r ymrwymiadau sydd yn y cynlluniau gan drafod eu llwyddiannau a’u heriau.

Eitem 2c: cydraddoldeb a’r Gymraeg

Oherwydd prinder amser, bydd yr eitem hon yn cael ei haildrefnu ar gyfer un o gyfarfodydd y dyfodol.

Cam gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y dyfodol. 

Eitem 3: teclyn cynllunio drafft i gynorthwyo gyda chynllunio ieithyddol ar lefel awdurdod lleol

Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar y 'Fframwaith ar gyfer Asesu Risgiau Cynllunio i'r Gymraeg'.

Rhagwelir y gallai'r Fframwaith gefnogi a darparu arweiniad i swyddogion cynllunio awdurdodau lleol wrth iddynt asesu a lliniaru risgiau posibl i'r Gymraeg sy'n deillio o bolisïau a phenderfyniadau cynllunio.

Cafwyd trafodaeth ar ystyriaethau eraill a allai fod yn ddefnyddiol i’w hystyried mewn fframwaith o’r fath. 

(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.)

Eitem 4: gair o groeso gan y Gweinidog

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. 

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.

Eitem 5: y cyfrifiad a’r cyd-destun ehangach

Cafwyd cyflwyniad gan Ystadegydd y Gymraeg, Llywodraeth Cymru, ar y data diweddaraf am y Gymraeg ac ar y ffynonellau eraill sydd gennym ar allu’r boblogaeth yn y Gymraeg, a sut y cesglir y data hyn.

Gofynnwyd i bawb ystyried dyfodol casglu gwybodaeth am allu yn y Gymraeg wrth drafod y cwestiynau canlynol:

  • Pe na bai cyfrifiad yn y dyfodol, sut mae: 
    • Diffinio siaradwyr Cymraeg?
    • Mesur nifer y siaradwyr Cymraeg?

(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymadael â’r cyfarfod a swyddog o Lywodraeth Cymru yn cymryd y gadair.)

Eitem 6: unrhyw fater arall

Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl i Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 a thrafodwyd strwythur cyfarfodydd y dyfodol a chytunwyd yr isod:

  • Penderfynwyd anelu i gynnal archwiliad dwfn o bwnc penodol yng nghyfarfodydd y dyfodol fel bod cyfle i graffu’n benodol ar bwnc. 
  • Cytunwyd mai “y blynyddoedd cynnar” fydd ffocws y cyfarfod nesaf gan gynnwys amrywiol elfennau, er enghraifft:
    • Deall mwy am enghreifftiau o ble ceir perthynas dda rhwng ysgolion a chylchoedd meithrin.
    • Deall mwy am rôl y sector ymwelwyr iechyd wrth drafod y Gymraeg gyda rhieni. 
  • Ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.

Cam gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.

Pwynt gweithredu

Cam gweithredu 1

Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i gylchredeg y 'Cynllun gweithredu technoleg Cymraeg: adroddiad terfynol 2018 i 2024' gyda’r aelodau.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth.

Wedi cwblhau?

Gwyrdd: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol. 

Cam gweithredu 2

Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i aildrefnu sesiwn ar Gydraddoldeb a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y dyfodol.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth.

Wedi cwblhau?

Oren: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.

Cam gweithredu 3

Pwynt gweithredu: Ysgrifenyddiaeth i ystyried cynnal cyfarfod estynedig un waith y flwyddyn pan fydd amser yn caniatáu gyda grwpiau ffocws ar bynciau penodol i drafod a rhannu syniadau.

I bwy?

Ysgrifenyddiaeth.

Wedi cwblhau?

Oren: bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.