Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Adran Addysg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran Ymadael â’r UE a Strategaeth, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-adran Ymadael â’r UE a Strategaeth, Llywodraeth Cymru
  • Meirion Prys Jones, Arweinydd Prosiect Ymchwil ar Gategoreiddio Ysgolion

Ymddiheuriadau

  • Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Sesiwn y bore

Yn ystod sesiwn y bore, a gynhaliwyd gyda swyddogion, cafwyd:

  1. croeso a diweddariad gan Bethan Webb ar y cynnydd gyda strategaeth Cymraeg 2050, gan gynnwys y sefyllfa o ran addysg, y continwwm, y cwricwlwm newydd a rheoliadau Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg.
  2. cyflwyniad ar y cwricwlwm drafft a’r Gymraeg yng nghyd-destun Maes Dysgu a Phrofiad Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu gan swyddog o’r Adran Addysg, gyda sgwrs i ddilyn.

PWYNT GWEITHREDU

Trefnu i swyddog Safonau Proffesiynol Addysg fynychu un o gyfarfodydd y dyfodol er mwyn trafod yr hyn sy’n cael ei wneud i ddatblygu’r gweithlu addysg o safbwynt y Gymraeg.

  1. cyflwyniad byr gan swyddog ar ddadbacio “hybu a hyrwyddo’r Gymraeg” – oherwydd diffyg amser ni chafwyd trafodaeth lawn am y eitem hon.

Sesiwn y prynhawn

Eitem 1 – Brexit a’r Gymraeg

Croesawodd y Gweinidog bawb i sesiwn y prynhawn.

Cafwyd cyflwyniad gan swyddogion o Is-adran Ymadael â’r UE a Strategaeth Llywodraeth Cymru ar effeithiau posibl Brexit yng Nghymru – gan ganolbwyntio ar ardaloedd lle mae dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg.

[Casglwyd y dogfennau a’r diagramau ar ddiwedd y cyflwyniad]

Ar ôl y cyflwyniad, nododd y Gweinidog fod paratoadau trylwyr ar y gweill, ond bod Brexit heb gytundeb yn bryder mawr. Ychwanegodd fod y cyflwyniad yn rhoi syniad o’r gwaith sy’n digwydd yn y cefndir yn Llywodraeth Cymru nad yw’n cael ei weld yn gyhoeddus.

Nododd y Gweinidog ymhellach y byddai’r cyfarfod nesaf fis Hydref yn canolbwyntio ar yr economi a’r Gymraeg, er mwyn adlewyrchu’r ffaith bod y berthynas rhwng y ddau yn hollbwysig.  

Dywedodd y Gweinidog ei bod am ddod yn ôl at Brexit yng nghyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Eitem 2 – Dynodi Ysgolion

Ar ôl i’r Gweinidog ymadael, cafwyd cyflwyniad a thrafodaeth ynghylch newid y ffordd o ail ddynodi ysgolion, dan arweiniad Meirion Prys Jones.

Mynegodd Meirion ei fod am weld system sy’n galluogi ysgolion i symud ar hyd y continwwm drwy ail ddynodi, gyda’r targed yn y CSGA yn gyrru’r Awdurdod Lleol i ail ddynodi. Nododd fod elfennau o hyn yn eu lle eisoes.  Roedd am i’r system fod wedi’i diffinio a bod yn eglur i bawb, ac roedd angen felly iddi fod yn syml.

Nododd Aelod fod angen asio’r gwaith dyondi â’r cwricwlwm newydd. Yna cafwyd trafodaeth ar fanteision ac anfanteision cael 5 categori o’i gymharu â 3 chategori. Cytunodd Meirion i rannu’r categorïau ag Aelodau’r Cyngor Partneriaeth cyn mynd allan i ymgynghori yn eu cylch.

PWYNT GWEITHREDU

Rhannu manylion y categorïau gydag Aelodau’r Cyngor Partneriaeth cyn cynnal yr ymgynghoriad.

Eitem 3: Unrhyw fater arall

Holodd Aelod a fyddai modd cael rhestr o uchafbwyntiau’r cyfnod diwethaf o ran hybu a hyrwyddo.