Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Rhodri Llwyd Morgan: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rosemary Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafydd Hughes: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Swyddogion: Adran Ystadegau, Llywodraeth Cymru

Dr Ioan Matthews: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Gwenllian Griffiths: Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Bethan Webb: Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Swyddogion Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig): Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Simon Brooks: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Eitem 1: Gair o groeso a diweddariad

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Cafwyd diweddariad cryno gan y Gweinidog.

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i rannu dolen at araith y Gweinidog yn nodi trigain mlynedd ers traddodi Tynged yr Iaith gydag Aelodau.

Eitem 2: Diweddariad ar Ddatblygu Cynllun 10 Mlynedd y Gweithlu Addysg

Cafwyd cyflwyniad gan Rosemary Jones, Aelod o’r Cyngor Partneriaeth, ar y Cynllun 10 Mlynedd sy’n cael ei ddatblygu ar hyn o bryd ar gyfer y Gweithlu Addysg.

Nododd mai grŵp gorchwyl a gorffen yw hwn, wedi ei gynnull gan y Llywodraeth. Mae’n grŵp cymysg sy’n gweithio tuag at amcan 10 mlynedd.

Mae Rosemary wedi ei henwebu i gynrychioli’r Cyngor ar y grŵp. Bydd y grŵp yn cyhoeddi adroddiad ym mis Ebrill.

Cyfeiriodd y drafodaeth ddilynol at:

  • weithlu yn y maes addysg bellach a phrentisiaethau
  • cynyddu darpariaeth addysg yn y sector gwirfoddol
  • gofynion ieithyddol polisïau recriwtio ysgolion.

Athrawon fydd ffocws yr ail gyfarfod.

Cynigiodd Rosemary i aelodau gysylltu â hi rhwng cyfarfodydd gydag unrhyw sylwadau yr hoffent iddi eu cyflwyno yn y cyfarfodydd. Cynhelir y cyfarfod nesaf ar 28 Chwefror.

Eitem 3: Bil Addysg Cyfrwng Cymraeg (sgwrs gychwynnol)

Cafwyd diweddariad gan Swyddogion Llywodraeth Cymru am y gwaith sgopio cynnar sydd wedi digwydd hyd yma.

Yn dilyn y diweddariad, cafwyd trafodaeth fer am y camau nesaf gyda’r Aelodau ac addewid y bydd trafod pellach yn y dyfodol.

Eitem 4: Trafodaeth am y daith ddiwygio a sut i fanteisio'n llawn ar gyfleoedd i gynyddu defnydd o’r Gymraeg

Rosemary Jones, Aelod o’r Cyngor Partneriaeth fu’n arwain y drafodaeth hon.

Soniodd fod ysgolion ledled Cymru’n cynllunio ar gyfer cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru ym mis Medi 2022 (neu 2023 ar gyfer rhai ysgolion uwchradd).

Cafwyd diweddariad ar:

  • Y cyfleoedd sydd gan yr ysgolion wrth gynllunio eu darpariaeth ar gyfer y Gymraeg yng nghyd-destun y Cwricwlwm i Gymru
  • Yr heriau y mae’r ysgolion yn eu hwynebu wrth gynllunio ar gyfer y Cwricwlwm i Gymru.

Canolbwyntiodd y drafodaeth ar ddau gwestiwn penodol:

  1. Sut all y gymuned ehangach gynorthwyo’r broses o ddiwygio’r cwricwlwm o safbwynt darpariaeth y Gymraeg ar draws y continwwm 3 i 16 ac mewn amrediad o gyd-destunau ieithyddol?
  2. A yw’r trefniadau presennol ar gyfer addysg Gymraeg yn hwyluso’r broses o ddarparu cyfleoedd cyfoethog ar gyfer caffael iaith?

Cyfeiriodd y drafodaeth ddilynol at:

  • Bwysigrwydd deall cyfrifoldebau
  • Rôl cymunedau’n dylunio’r cwricwlwm
  • Sgiliau iaith Gymraeg y gweithlu

Nododd Aelod y byddai’n croesawu papur i ehangu ychydig ar gyflwyniad Rosemary er mwyn i aelodau allu ystyried sut allant gyfrannu at y gwaith hwn yn y dyfodol.

Cam Gweithredu 2

Rosemary i gyflwyno papur er mwyn ehangu ar ei chyflwyniad.

Eitem 5: Cyflwyniad ar Ddefnydd Iaith

Trosglwyddwyd yr awenau i Rhian Hodges o Brifysgol Bangor. Cafwyd cyflwyniad ar ei chanfyddiadau ar ddefnydd iaith yn dilyn cyhoeddiad ei herthygl “Defiance within the decline? Revisiting new Welsh speakers’ language journeys.

Cafwyd trafodaeth fywiog ar ganfyddiadau’r ymchwil a’i bwysigrwydd wrth i ni geisio cyrraedd y miliwn a dyblu defnydd iaith.

Cam Gweithredu 3

Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law yr Ysgrifenyddiaeth.

Cam Gweithredu 4

Nododd y Gweinidog ei fod yn awyddus i ystyried y cyflwyniad hwn ymhellach mewn cyd-destun polisi.

Eitem 6: Unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth ac am eu gwaith.

Pwyntiau Gweithredu

Pwyntiau Gweithredu
 Pwynt gweithreduI bwy?Erbyn pryd?Wedi cwblhau?
1Ysgrifenyddiaeth i rannu dolen at araith y Gweinidog yn nodi trigain mlynedd ers traddodi Tynged yr Iaith gydag Aelodau.YsgrifenyddiaethCyn gynted ag sy’n bosiblGwyrdd
2Rosemary i gyflwyno papur er mwyn ehangu ar ei chyflwyniad.Rosemary Jones2 MaiGwyrdd
3Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law yr Ysgrifenyddiaeth.Ysgrifenyddiaeth i gysylltu gyda Rhian HodgesCyn gynted ag sy’n bosiblGwyrdd
4Nododd y Gweinidog ei fod yn awyddus i ystyried y cyflwyniad hwn ymhellach mewn cyd-destun polisi.YsgrifenyddiaethErbyn y cyfarfod nesafGwyrdd