Welsh Language Partnership Council meeting: 14 October 2021
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 14 October 2021.
This file may not be fully accessible.
In this page
Yn bresennol |
Rôl |
---|---|
Jeremy Miles AS |
Gweinidog y Gymraeg ac Addysg |
Rhodri Llwyd Morgan |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Enlli Thomas |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Simon Brooks |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Angharad Mai Roberts |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Rosemary Jones |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Dyfed Edwards |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Dafydd Hughes |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Lowri Morgans |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Meleri Davies |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Rhys Jones |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Andrew White |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
|
Adran Ystadegau, Llywodraeth Cymru |
|
Adran Ystadegau, Llywodraeth Cymru |
Dr Ioan Matthews |
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Gwenllian Griffiths |
Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Bethan Webb |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
(Ysgrifenyddiaeth) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
(Ysgrifenyddiaeth) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig) |
Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru |
Ymddiheuriadau
Ymddiheuriadau |
Rôl |
---|---|
Rhian Huws Williams |
Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg |
Eitem 1: croeso gan ddirprwy gyfarwyddwr is-adran y Gymraeg
Croesawyd pawb gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gymraeg i gyfarfod y Cyngor Partneriaeth.
Eitem 2: diweddariad data
Trosglwyddwyd yr awenau i un o swyddogion Llywodraeth Cymru i roi diweddariad ar ddata ym maes y Gymraeg.
Eitem 3: diweddariad ar y proffiliau iaith fesul awdurdod lleol
Cafwyd diweddariad gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar y gwaith sydd wedi’i wneud yn ddiweddar ar y proffiliau iaith fesul awdurdod lleol.
Cam Gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i anfon copïau o’r cyflwyniad at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod.
Cam Gweithredu 2
Swyddogion Ymchwil i ddarparu data ôl-16, gan edrych ar ddilyniant o addysg cyfrwng Cymraeg yn yr ysgol i addysg bellach ac addysg uwch.
Cam Gweithredu 3
Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at y proffiliau iaith at yr aelodau i holi am adborth ar y cynnwys / i nodi unrhyw fylchau.
Eitem 4: sgwrs gyda chyfarwyddwr addysg a’r gymraeg, Llywodraeth Cymru
Cafwyd diweddariad gan Gyfarwyddwr Addysg a’r Gymraeg newydd Llywodraeth Cymru. Bu’n trafod ei weledigaeth ar gyfer y swydd a bu Aelodau’n cynnig sylwadau ac yn holi cwestiynau.
Egwyl
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair]
Eitem 5: gair o groeso a diweddariad ar y rhaglen waith
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar y Rhaglen Waith.
Eitem 6: y cynllun tai cymunedau Cymraeg
Symudodd y Gweinidog ymlaen at yr eitem nesaf gan droi i edrych ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
Dyma rai o’r materion a godwyd gan Aelodau:
- bydd angen i effeithiau COVID-19 a Brexit ar y maes fod yn ganolog yn ein meddyliau, yn enwedig wrth ddadansoddi canlyniadau’r Cyfrifiad pan fyddant ar gael a bydd hyn yn effeithio ar ein polisi addysg ac ati
- nododd un Aelod bod entrepreneuriaeth yn allweddol i hyn a bod datblygu cymunedau mentrus yn rhan fawr o’r ateb
- nodwyd bod angen helpu cymunedau i brynu tai i’w gosod i bobl leol
- nodwyd bod y syniad o greu ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol yn hanfodol
- nodwyd bod yr egwyddor o roi cyfle i bobl leol neu fentrau cymdeithasol yn unig i gael cyfle i brynu eiddo cyn agor y farchnad i eraill yn un pwysig
Eitem 7: diweddariad ar y maes Ôl-16
Cafwyd diweddariad ar y maes Ôl-16 gan Dr Ioan Matthews a Gwenllian Griffiths o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
- Cafwyd trafodaeth ar ddenu myfyrwyr i astudio’n Gymraeg ac ar ddatblygu’r gweithlu a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
- Cyfeiriwyd at rwydwaith SEREN: er bod yna rai pryderon am y gwaith hwn, mae’n gyfle pwysig i gadw cysylltiad gyda myfyrwyr. Nodwyd bod angen edrych ar sut mae cysoni nodau’r prosiect.
- Cafwyd trafodaeth hefyd am brentisiaethau.
Cam Gweithredu 4
Ioan Matthews i rannu rhai adnoddau codi ymwybyddiaeth gydag Aelodau i geisio eu hadborth arnynt.
Eitem 8: unrhyw fater arall
Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.
Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth ac am eu gwaith.
Pwyntiau gweithredu
|
Pwynt gweithredu |
I bwy? |
Erbyn pryd? |
Wedi cwblhau? |
---|---|---|---|---|
1. |
Ysgrifenyddiaeth i anfon copïau o’r cyflwyniad at yr Aelodau ar ôl y cyfarfod. |
Ysgrifenyddiaeth |
Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022 |
Ydw |
2. |
Swyddogion Ymchwil i ddarparu data ôl-16, gan edrych ar ddilyniant o addysg cyfwng Cymraeg yn yr ysgol i addysg bellach ac addysg uwch. |
Swyddogion Ymchwil |
Diweddariad wedi’i anfon ar 10 Chwefror 2022 |
Ydw |
3. |
Ysgrifenyddiaeth i anfon dolen at y proffiliau iaith at yr Aelodau i holi am adborth cynnwys / i nodi unrhyw fylchau. |
Ysgrifenyddiaeth |
Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022 |
Ydw |
4. |
Ioan Matthews i rannu rhai adnoddau codi ymwybyddiaeth gydag Aelodau i geisio eu hadborth arnynt. |
Ioan Matthews, Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
Wedi’u hanfon ar 10 Chwefror 2022 |
Ydw |