Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • Dylan Hughes, Llywodraeth Cymru
  • [                     ] Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg 
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Sesiwn y bore

  1. Croeso a diweddariad

Estynnwyd croeso cynnes i bawb i’r cyfarfod gan Ddirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg a rhoddodd ddiweddariad cryno ar y datblygiadau diweddaraf. Wedi hynny, trosglwyddwyd y gadair i swyddog arall ar gyfer gweddill sesiwn y bore.

Cyflwynwyd swyddog o Lywodraeth Friesland. Mae hi wedi bod yn cysgodi aelodau o Is-adran y Gymraeg ac yma heddiw i’r un perwyl.

Nodwyd y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd y Cyngor drwy gyfrwng fideo gynhadledd yn y dyfodol yn hytrach na chyfarfod wyneb yn wyneb, o ystyried y sefyllfa bresennol gyda Covid-19 a beth allai ddigwydd.  

Cyflwynodd swyddog yr Adroddiad Amlygu fel ffordd o roi diweddariad ar gip ac ysgogi trafodaeth. Cytunwyd y byddai’n ddefnyddiol parhau i drafod dogfennau o’r fath yng nghyfarfodydd y dyfodol.

Pwynt gweithredu 1: Yr Ysgrifenyddiaeth i ystyried llunio Adroddiad Amlygu ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, yn ôl y galw.

Cafwyd diweddariad cryno ar y CSCA (WESPs) ac ar gwrs newydd sy’n cael ei beilota ar hyn o bryd sef “Arwain mewn Gwlad Ddwyieithog” – cwrs AcademiWales ar unconscious bias ar gyfer arweinwyr sefydliadau’r sector cyhoeddus.

Pwynt Gweithredu 2: Swyddog i drafod gyda’r aelod perthnasol y posibilrwydd o gynnal cwrs tebyg gyda’r farnwriaeth yng Nghymru drwy gyfrwng y 'Coleg' blynyddol a gynhelir.

Pwynt Gweithredu 3: Swyddog i rannu adborth anffurfiol gyda’r aelodau ar y peilot Deall Dwyieithrwydd cychwynnol a gynhaliwyd.

[Diweddariad Mai 21: cynhaliwyd sesiwn gyntaf Arwain Mewn Gwlad Ddwyieithog ym mis Mawrth, ychydig cyn i’r argyfwng coronafeirws ddechrau. Cafwyd adborth anffurfiol cadarnhaol gan y cyfranogwyr (roedd swyddogion y Llywodraeth yno ar ffurf arsylwyr, ond heb gymryd rhan yn y drafodaeth).  Oherwydd yr argyfwng, bu’n rhaid gohirio’r rhaglen er mwyn ei hailddylunio i fod ar-lein. Mae sesiwn ar-lein gyntaf y cohort i’w chynnal ym mis Mehefin. Wedi i’r cohort hwn orffen y rhaglen, byddwn yn mynd ati i edrych ar dargedu sectorau eraill ar gyfer cohorts y dyfodol.]

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau ar gofnodion y cyfarfod diwethaf. Cymeradwywyd y cofnodion.

Holwyd am ddiweddariad ar y datganiad llafar arfaethedig ar seilwaith ieithyddol. Rhoddwyd amlinelliad bras gan swyddogion o’r amserlen debygol. Fel rhan o hyn, trafodwyd maes terminoleg hefyd, a’r angen i fuddsoddi mewn canolfan ganolog i gydlynu’r maes.

  1. Cynllun Gweithredu Cymraeg 2050 ar gyfer 2020-2021

Yn ystod sesiwn yn bore, cafwyd cyfle i drafod drafft o Gynllun Gweithredu 2020-21, a fydd yn cael ei gyhoeddi cyn diwedd mis Mawrth. Dyma ddogfen sy’n trafod beth fydd y Llywodraeth yn ei wneud yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf (2020-2021) i weithredu’r hyn sydd wedi’i nodi yn Rhaglen Waith 2017-2021.

Estynnwyd cyfle i’r aelodau holi cwestiynau.

Ymrwymodd yr Ysgrifenyddiaeth i geisio sicrhau y bydd Cynlluniau Gweithredu a dogfennau tebyg yn cael eu rhannu'n gynharach gyda’r Cyngor yn y dyfodol.

Pwynt Gweithredu 4: Aelodau i anfon sylwadau lefel uchel ar y Cynllun Gweithredu at yr Is-adran erbyn dydd Mawrth, 17 Mawrth.

Pwynt Gweithredu 5: Yr Ysgrifenyddiaeth i wneud yn siŵr y bydd cyfarfodydd y Cyngor yn cyd-fynd yn well ag amserlen cyhoeddi cynlluniau gweithredu y dyfodol.

  1. Trefniadau’r Dyfodol – Cyngor Partneriaeth

Fe drodd y Cyngor i drafod papur a luniwyd gan un o swyddogion yr Is-adran ar drefniadau’r Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Cytunwyd bod yr hyn sydd wedi ei gynnig yn adlewyrchu’r hyn a drafodwyd mewn cyfarfodydd unigol gyda’r swyddog.

Trafodwyd hefyd y broses o benodi arbenigwyr allanol i Prosiect 2050 a’u perthynas â’r Cyngor. Nodwyd bod swyddogion wedi dod i’r casgliad mai’r peth gorau fyddai penodi dau grŵp ar wahân: y Cyngor a’r arbenigwyr.

Roedd cefnogaeth i’r syniad o gael “deep dives” thematig a gofyn i aelodau penodol / y rhai mwyaf addas fewnbynnu i'r rhain yn ôl y galw, o bosibl fel is-grwpiau.

Nododd Aelod y gallai fod yn fuddiol i’r Cyngor ddod ynghyd ymlaen llaw, cyn y cyfarfodydd gyda’r Gweinidog, i drafod y materion a fyddai’n cael eu cynnwys yn y cyfarfod swyddogol er mwyn trafod mewn manylder a chael cyfle i ffurfio barn a chyngor ar gyfer y Gweinidog.

Nododd Aelod y gallai cynnal diwrnod Cwrdd i Ffwrdd fod yn fuddiol unwaith neu ddwywaith y flwyddyn i fagu cysylltiadau a dealltwriaeth ar lefel bersonol rhwng aelodau a chyda swyddogion.

Trafodwyd y modelau gynigiwyd a nodwyd y gall fod gofyn cyfuno rhai ohonynt.

Cafwyd syniad y byddai’n ddefnyddiol edrych ar raglen y flwyddyn gron a gweld beth yn union yr hoffai aelodau / beth yr hoffai’r Gweinidog i’r Aelodau ei drafod.

Nodwyd hefyd nad yw amlder cyfarfodydd y Cyngor yn ddelfrydol – nid ydynt yn digwydd yn ddigon aml. Ond fe fyddai sefydlu is-grwpiau a fyddai’n cyfarfod rhwng y prif gyfarfodydd o bosibl yn helpu gyda hyn.

Hefyd, nodwyd bod angen atgoffa aelodau’r Is-adran a’r Gweinidog bod croeso iddynt gysylltu gydag aelodau rhwng cyfarfodydd os ydynt eisiau holi eu barn ar faterion penodol sy’n codi.

Pwynt Gweithredu 6: Is-adran y Gymraeg i roi argymhellion y papur ar waith.

  1. Dynodi Ysgolion

Cafwyd diweddariad gan swyddogion o Is-adran y Gymraeg ar drefniadau statudol newydd y CSCA (WESP) a sut mae hynny’n plethu gyda’r polisi ar ddynodi ysgolion. Cafwyd diweddariad ar y gwaith a wnaed ers i Meirion Prys Jones gyflwyno’r adroddiad drafft ‘Diffinio Addysg Cyfrwng Cymraeg at ddibenion y Cwricwlwm newydd a Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013’  yng nghyfarfod y Cyngor ar 17 Mehefin 2019.

Mae Rheoliadau newydd ar gyfer y CSCA bellach yn rhoi dyletswyddau ar awdurdodau lleol i gynllunio eu darpariaeth addysg Gymraeg dros 10 mlynedd ac yn unol a thargedau Cymraeg 2050. Mae’r disgwyliadau ar awdurdodau lleol i gynllunio  eu darpariaeth Cymraeg yn uwch nag erioed o’r blaen. Mae’r modd y caiff ysgolion eu dynodi yn ôl cyfrwng y dysgu yn chware rhan bwysig yn CSCA nifer o awdurdodau. Bydd y cwricwlwm newydd hefyd yn chwarae rhan yn hyn o beth. Rhaid edrych ar sut mae’r awdurdodau lleol yn cefnogi’r Gymraeg.

Nodwyd fod peth ymgynghori (sesiynau ymgysylltu) wedi digwydd gydag awdurdodau lleol ym mis Chwefror ar y cynigion drafft i symleiddio’r dynodiadau ysgolion presennol. [Mae’r cynigion yn cynnwys symud o 5 categori i 3 yn y cynradd, ac o 4 categori (gyda 4 is gategori pellach) i 3 categori yn yr uwchradd].

Gofynnwyd cwestiynau ynglŷn â chyllido a phwy sy’n gyfrifol am ddynodi ysgolion a pha bryd fydd y drefn newydd yn dod i rym.

Nododd swyddog fod y dynodiadau ysgolion yn parhau i fod yn anstatudol ond fod rheoliadau CSCA yn gosod gofynion statudol ar yr awdurdodau lleol i gynyddu’r gyfran o’r Gymraeg yn eu hysgolion sy’n darparu addysg drwy’r Gymraeg a’r Saesneg. Bydd yna gyfrifoldeb ar yr awdurdodau lleol ac ar ysgolion i gydweithio er mwyn penderfynu ym mha ddynodiadau y mae ysgolion yn perthyn iddynt.

Un peth sy’n amlwg iawn yw bod angen cyfathrebu cryf rhwng yr awdurdodau lleol a’r ysgolion.

Pwynt gweithredu 7: Swyddogion i gynnal trafodaeth y tu allan i’r cyfarfod gydag aelodau perthnasol.

Sesiwn y prynhawn

Cadeiriwyd sesiwn y prynhawn gan Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol.

5. Polisi Trosglwyddo

Nododd y Gweinidog nad oes llawer yn cael ei wneud yn rhyngwladol yn y maes hwn ac felly bod hwn yn waith arloesol. Bu datganiad ar lawr y Senedd tua mis yn ôl yn ymwneud â’r polisi. Nodwyd bod hwn yn faes sensitif iawn felly rhaid bod yn ofalus iawn wrth drafod unrhyw beth sy’n ymwneud â’r uned deuluol.

Cafwyd diweddariad gan un o swyddogion Is-adran y Gymraeg ar yr ymgynghoriad.

Ar ddiwedd y diweddariad, nododd y swyddog bod y gwaith ar hyn o bryd mewn cyfnod o ymgynghori, gyda’r nod o gyhoeddi y polisi terfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

Estynnwyd croeso i’r aelodau i rannu sylwadau ar y ddogfen ymgynghori.

Nododd Aelod bod hwn yn adroddiad ardderchog a heriol. Tynnwyd sylw arbennig at y ffaith bod y ddogfen yn amlinellu nad yw’r Gymraeg yn rhywbeth i’r ysgol yn unig ac mai dyna’r her.   

Nododd Aelod bod rhai rhieni yn gyndyn o ddefnyddio’r Gymraeg. Mae nifer yn medru’r Gymraeg ond heb hyder i wneud hynny. Angen gwneud mwy i’w hannog i ddefnyddio’r iaith. Mae angen eu helpu i ddeall bod eu Cymraeg yn “ddigon da”.

Nododd Aelod arall bod angen dilyniant i’r Gymraeg y tu allan i’r ysgol. Angen arwain ar ddefnydd o’r iaith fel oedolion ac angen dod i wybod os mai diffyg hyder ynteu diffyg rhuglder sy’n gyfrifol am hyn. Ychwanegwyd bod nifer o rieni am i’w plant gael addysg / dysgu’r iaith ond ddim am ei defnyddio gartref.

Soniodd Aelod y gall amrywiaethau sosio-economaidd neu ddaearyddol fod wrth wraidd hyn yn aml iawn.  

Nododd Aelod mai dyna lle mae gwaith arolwg defnydd iaith yn bwysig – holi cwestiwn dros gyfnod o amser o ran lle mae pobl yn caffael iaith. Nododd ei fod yn meddwl bod y ddogfen wedi ei hysgrifennu mewn ffordd gynhwysol gan siarad gyda'r byd, nid gyda rhanddeiliaid amlwg yn unig.

Nododd Aelod arall bod yna bryder o bosibl o ran sut mae pobl yn gweld eu hunain yn ein diwylliant. Efallai bod yna botensial i weithio gyda’r cyfryngau, fel S4C / BBC, er mwyn creu cynnwys creadigol gyda chynrychiolaeth o’r gwahanol fathau o siaradwyr Cymraeg / amrywiol deuluoedd sy’n bodoli yng Nghymru.

Holodd Aelod i ba raddau ydym ni’n defnyddio rhieni sydd wedi bod drwy’r broses fel lleisiau y gall teuluoedd newydd uniaethu â nhw? Nodwyd bod eu lleisiau nhw’n bwysig er mwyn argymell i bobl eu bod nhw’n gwneud dewisiadau positif.

Awgrymwyd bod hyn y benderfyniad anymwybodol i lawer. Nodwyd bod gofyn dylanwadu’n fwy systematig ar bobl, gan gyrraedd cynulleidfa sy’n llai tebygol o wylio S4C a’u dal ar y cychwyn gan ei bod hi’n annhebygol y bydd pobl yn newid iaith y teulu ar ôl gwneud y penderfyniad.

Nododd swyddog mai un o ystyriaethau canolog y polisi yw sut mae troi siaradwyr newydd yn drosglwyddwyr y dyfodol, a hynny'n awtomatig / anymwybodol heb orfod gwneud dewis penodol. Mae angen troi siaradwyr dihyder yn siaradwyr anymwybodol. Soniodd Aelod mai’r allwedd i wireddu’r polisi yw torri’r cylch a ganlyn: unigolyn yn mynd i ysgol Gymraeg, ddim wir yn defnyddio’r iaith ar ôl gadael yr ysgol, ddim yn trosglwyddo’r iaith ond yn anfon ei b(ph)lentyn i ysgol Gymraeg.

Nododd Aelod nad yw llawer o’r genhedlaeth hon (boed yn siaradwyr iaith gyntaf neu ail iaith) yn aml yn gyfarwydd â hwiangerddi Cymraeg, hanes chwedlau Cymru etc. Mae’r rhain yn bwysig iawn hefyd ac yn bwydo i mewn i'r cwricwlwm newydd yn ogystal â phwyslais ar hanes lleol a hanes Cymru. Mae angen trosglwyddo’r cyfanwaith diwylliannol i’r plant.

Holwyd sut mae cyngor sy’n cael ei gynnig gan fydwragedd o ran defnyddio’r Gymraeg yn cael ei werthuso? Nododd swyddog fod yna lawer o waith wedi’i wneud gyda dosbarthiadau ôl-enedigol. Fe wnaeth gwerthusiad proses o raglen Cymraeg i Blant a gwblhawyd yn 2019 edrych ar waith partneriaid ym maes iechyd.

Ar ddiwedd yr eitem, soniodd y Gweinidog ei bod hi’n bwysig nodi ein bod yn awyddus i roi cynnig ar wahanol bethau ac nad oes ofn methu arnom ni.

[Diweddariad Mai 2019: oherwydd sefyllfa Covid-19, mae’r Gweinidog wedi ymestyn y cyfnod ymgynghori ar y Polisi Trosglwyddo tan ddiwedd Medi 2020.]

6. Defnydd y Gymraeg o fewn y Llywodraeth

Estynnwyd gwahoddiad i’r Ysgrifennydd Parhaol i’r cyfarfod mewn ymateb i bwynt gweithredu un o gyfarfodydd blaenorol y Cyngor. Cafwyd ymddiheuriadau gan yr Ysgrifennydd Parhaol ar y funud olaf wrth iddi gael ei galw i gyfarfod COBRA brys i drafod Covid-19.

Cyflwynwyd yr eitem felly ar ei rhan gan swyddogion. Rhoddwyd diweddariad ar sefyllfa strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar ddefnydd mewnol o’r Gymraeg sef Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd.

Gwahoddwyd aelodau i holi cwestiynau / cyflwyno sylwadau.

Nododd Aelod bod hwn yn nod syfrdanol ac uchelgeisiol ac mai dyma’r arweiniad sydd ei angen ar y sector cyhoeddus. Ychwanegodd y bydd hyn yn ddylanwad mawr ar gyflogwyr a bod edrych ar y sefyllfa fel un hirdymor yn ddoeth iawn.

Nododd Aelod fod gofyn trafod sut i gyrraedd sefyllfa lle mae modd trawsieithu mewn cyfarfodydd rhwng y Gymraeg a'r Saesneg fel sy'n digwydd gyda Saesneg – Ffrangeg ym Mrwsel.

Ychwanegodd ei bod am ddiolch i’r Ysgrifennydd Parhaol am arwain ac ymrwymo i’r nod. Mae’n edrych ymlaen at glywed beth fydd yr heriau y daw ar eu traws. Nododd bod y strategaeth yn rhywbeth y gall ei drosglwyddo i’w holynydd nad oes modd i neb ei ddadwneud.

Nododd Aelod ei bod yn falch gweld bod hyn yn gymaint mwy na darparu cyfleoedd i ddysgu Cymraeg.

Nododd y Gweinidog bod angen nodi erbyn hyn bod yr iaith yn sgil arbenigol y dylid ei chydnabod.

Nododd swyddog bod gofyn gwir ystyried a meddwl beth yw pwrpas y Gymraeg yn y gweithle.

Pwynt gweithredu 8: Yr Ysgrifenyddiaeth i rannu cynnig y Cyngor Partneriaeth i gynghori ar weithredu strategaeth Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd gyda swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol.

7. Unrhyw fater arall

Holodd y Gweinidog a oedd gan yr Aelodau unrhyw fater arall i’w grybwyll cyn cloi’r cyfarfod.