Skip to main content

Yn bresennol

Bae Caerdydd

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
  • [                   ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)

Caernarfon

  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • [                   ], Is-adran y Gymraeg

Ymddiheuriadau

Rhian Huws-Williams

Gwion Lewis

Marian Thomas

Eitem 1: gair o groeso gan y Gweinidog

Croesawodd y Gweinidog yr aelodau i gyfarfod y Cyngor Partneriaeth a diolchwyd iddynt am fynychu ar fyr rybudd.

Eitem 2: datganiad ar Fil y Gymraeg

Eglurodd y Gweinidog mai pwrpas y cyfarfod oedd hysbysu aelodau’r Cyngor y byddai’n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi penderfyniad y Cabinet i beidio â pharhau gyda’r gwaith i ddatblygu Bil y Gymraeg. Gwnaeth y Gweinidog yn glir ei bod yn awyddus iawn bod y Cyngor Partneriaeth yn cael gwybod yn gynnar a rhannwyd copïau caled o’r datganiad drafft gyda’r aelodau.

(Casglwyd y copïau caled ar ddiwedd y cyfarfod).

Nododd y Gweinidog bod yr ymgynghoriad i’r Papur Gwyn wedi sbarduno trafodaeth gyhoeddus am bolisi iaith, ac o’r drafodaeth honno roedd dau beth yn amlwg:

  • bod cefnogaeth i’r safonau a chydnabyddiaeth eu bod wedi gwneud gwahaniaeth, er bod anfodlonrwydd gyda rhai agweddau ohonynt. Serch hynny, nid oedd yna gefnogaeth i wneud newidiadau sylweddol i’r system a
  • chytundeb bod angen blaenoriaethu hybu’r Gymraeg a chynyddu defnydd ohoni, er nad oes cytundeb o'r ffordd orau i wneud hynny

Yn sgil y ffactorau uchod, nododd y Gweinidog fod y Cabinet wedi cytuno nad oedd hi’n werth creu rhwyg a checru posibl o fewn y gymuned Gymraeg a chyda rhanddeiliaid, felly cytunwyd na ddylid bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i gyflwyno Bil.

Eglurodd y Gweinidog bod angen symud y drafodaeth oddi wrth y Bil i ystyried y ffordd ymlaen. Roedd hi’n gweld mai rhan o’r ateb yw natur y berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd. Gwnaed yn glir ei bod am weld gwedd newid yn y berthynas honno yn y dyfodol gan greu perthynas gydweithredol a chadarnhaol.

Gwahoddwyd aelodau’r Cyngor i ymateb i’r datganiad yn eu tro.

Nododd aelod o’r Cyngor fod awydd wedi bod ymysg y Cyngor i symud y ffocws tuag at hybu ond wrth wneud, roedd hefyd yn betrus o ollwng y safonau, yn arbennig o ran busnesau mawr felly roedd angen darganfod man canol rhwng hybu a rheoleiddio. Holodd yr Aelod a fyddai modd i’r Cyngor Partneriaeth fod yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Comisiynydd.

Nododd aelod arall ei fod yn cytuno bod angen symud y ffocws mwy tuag at hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Roedd o’r farn bod llai o bwys am ble fyddai’r cyfrifoldebau penodol yn eistedd ond petai yn gyfrifoldeb i’r Comisiynydd, roedd angen diogelu annibyniaeth y Comisiynydd yn arbennig o ran rheoleiddio.

Roedd aelod arall yn teimlo ei bod yn rhesymol edrych eto ar rôl y Comisiynydd, yn dilyn penodiad Comisiynydd newydd. Cyn hyn, roedd yr Aelod wedi bod yn amheus o ran sefydlu Comisiwn, roedd yn gweld ailedrych ar newidiadau strwythurol fel ymdrech i newid ‘un peth amherffaith i rhywbeth amherffaith arall’. Roedd o’r farn bod angen ystyried y pecyn ‘hybu’ yn gyflawn o ran gweledigaeth y Comisiynydd, eglurder ar beth oedd y gweithgareddau ‘hybu a hyrwyddo’ a beth fydd y sefyllfa ariannol, a oedd yna arian ychwanegol? Pwysleisiodd bod angen pwrpas clir i’r newid cyfeiriad. Cafwyd croeso i’r newyddion y byddai’r rhaglen safonau yn ail gychwyn.

Soniodd aelod arall bod angen ystyried y ddau beth ar wahân. Roedd yn derbyn penderfyniad y Llywodraeth o ran y safonau ond teimla nad dyma oedd yr elfen bwysicaf, er bod y safonau wedi ennyn ymateb. Amlinellodd mai ei farn ef oedd bod y gwaith cynllunio ieithyddol wedi bod ar goll ers i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddod i ben. Roedd o’r farn bod methiant strwythurol yn bodoli a’r Comisiwn arfaethedig fyddai wedi llenwi’r bwlch hwnnw, teimla’r aelod ei bod hi’n drueni na fyddai’r Llywodraeth yn creu corff strategol.

Roedd aelod arall yn awyddus i gael trafodaethau am gyfrifioldebau’r Comisiynydd. Roedd yn gweld bod elfen o’r gwaith cynllunio ieithyddol o ran datblygu polisi a datblygu strategaeth yn waith y dylai’r Llywodraeth ymgymryd ag ef. Roedd o’r farn bod elfennau eraill fel hyrwyddo, yn yr ystyr ehangach, a thynnu partneriaid ynghyd yn fwy addas i’r Comisiynydd arwain arnynt. Cytunodd aelod arall â’r farn hon a phwysleisiwyd y rôl allweddol y byddai addysg yn ei chwarae. Cafwyd cytundeb bod angen i’r Adran Addysg weithio’n agos gyda’r Comisiynydd i wneud gwaith cynllunio ieithyddol, mae hyn yn allweddol i unrhyw lwyddiant.

Cafwyd disgrifiad gan aelod arall o ddylanwad y safonau ar y sefydliad y mae’n gweithio iddo, teimla bod y safonau wedi bod yn bwysig i godi statws y Gymraeg yn y sefydliad. Nodwyd bod y sefydliad wedi cael cefnogaeth gan y Comisiynydd er mwyn gallu cynllunio yn well o lawer.

Cafwyd ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Gweinidog.

Nododd y Gweinidog, ar sail trafodaethau cynnar gyda’r Comisiynydd newydd, eu bod yn hyderus bod modd ailsefydlu’r berthynas a newid diwylliant o fewn y corff er mwyn i ffocws y gwaith symud tuag at hybu. 

Nododd bod gwaith ar droed i adolygu Cytundeb Fframwaith y Comisiynydd, byddai’r Cytuneb Fframwaith yn gosod disgwyliadau ar y Comisiynydd o ran y gwaith hwnnw. Roedd y Gweinidog yn glir bod angen diogelu annibyniaeth y Comisiynydd o ran y swyddogaethau rheoleiddio.

Gwnaeth y Gweinidog yn glir bod modd cyflawni amcanion y papur gwyn heb ddeddfwriaeth, o ran Safonau, mae gwaith eisoes wedi digwydd i leihau biwrocratiaeth o ran prosesau’r Mesur. Nododd bod cyngor cyfreithiol yn nodi bod gan y Comisiynydd sgôp o ran sut mae hi’n delio gyda chwynion, mae’r Llywodraeth o’r farn y gall y Comisiynydd fabwysiadu polisi ‘datrysiad buan’ fel bod adnoddau ar gael i weithio ar waith hybu.

Nododd y Gweinidog mai’r broblem fwyaf yn sgil y penderfyniad i beidio â chyflwyno Bil oedd na fyddai modd ehangu’r safonau i’r sector preifat (y tu hwnt i’r sectorau a oedd wedi’u rhestru yn y Mesur). Nid oedd modd felly gosod Safonau ar fanciau ac archfarchnadoedd ond mae’r Gweinidog wedi cysylltu gyda’r sectorau i holi pa wasanaethau Cymraeg fyddai’n bosib iddynt eu cynnig. Roedd y Gweinidog hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio gwlad a thref i drafod sut fyddai modd defnyddio’r Cynlluniau Datblygu Lleol (LDPs) i gyfrannu at gynyddu gwasanaethau Cymraeg.

Roedd y Gweinidog yn glir ei bod yn awyddus i Swyddfa’r Comisiynydd gynnig mwy o arweiniad a chyngor i gyrff a oedd yn dod o dan y Safonau, roedd hi am i’r ffocws symud oddi ar fod yn blismon iaith i fod yn cydweithio â chyrff.

Ategodd swyddog o Is-adran y Gymraeg bod ffocws y safonau wedi bod ar gyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd a oedd eisoes wedi bod yn digwydd ers dyddiau’r cynlluniau iaith. Ond nid oedd y safonau ‘newydd’ a fyddai’n arwain at gynllunio gwell yn y gweithle a safonau yn ymwneud â strategaethau hybu wedi bod yr un mor llwyddiannus. Eglurodd bod ei gwaith yn trafod Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA/WESPs) wedi dangos bod awdurdodau lleol yn gweld bod y safonau strategol lawer yn fwy heriol.

O ran y ffordd ymlaen, eglurodd y Gweinidog bod angen trafodaethau gyda’r Comisiynydd a’r Cyngor Partneriaeth o ran sut orau i rannu cyfrifoldebau rhwng Swyddfa’r Comisiynydd a’r Llywodraeth. Nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ond roedd y Gweinidog yn gweld y gallai rhai cyfrifoldebau cynllunio ieithyddol eistedd yn well gyda’r Llywodraeth fel yn y maes addysg a chynllunio ar lefel strategol ond roedd yn gweld bod meysydd eraill yn fwy priodol ar gyfer y Comisiynydd. Gofynnodd i swyddogion Is-adran y Gymraeg baratoi papur yn amlinellu’r posibiliadau o ran y gwaith hwn ac ymrwymodd i drafod syniadau gyda’r Cyngor Partneriaeth. Roedd y Gweinidog yn teimlo bod awgrymiadau’r Cyngor Partneriaeth yn hollbwysig.

Nododd y Gweinidog y byddai’n rhannu drafft o’r Cytundeb Fframwaith gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn fuan.

Eitem 3: unrhyw Fater Arall

Diolchodd un aelod i’r Gweinidog am y sgyrsiau personol a fu rhyngddo â’r Gweinidog a gyda’r Gweinidog Addysg yn dilyn cyhoeddi papur gwyn y Cwricwlwm. Teimlodd fod y sgyrsiau yn sail i gydweithio cadarnhaol i yrru polisi’r Gymraeg ac Addysg.

Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog bod y Gweinidog Addysg a’r Llywodraeth yn hollol gefnogol i addysg drochi ac mai camgymeriad oedd y geiriad yn y papur gwyn, gwnaeth yn glir nad oedd unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i orfodi cylchoedd meithrin i ddysgu Saesneg.

Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb ar fyr rybudd a chaewyd y cyfarfod.