Welsh Language Partnership Council meeting: 9 April 2019
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 9 April 2019.
This file may not be fully accessible.
In this page
Yn bresennol
- Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
- Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Bethan Webb, Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- [ ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- [ ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
- [ ] Is-adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
- Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Sesiwn y bore
Yn ystod sesiwn y bore, a gynhaliwyd gyda swyddogion, cafwyd:
- diweddariad gan Bethan Webb ar y cynnydd gyda strategaeth Cymraeg 2050
- sgwrs yn seiliedig ar bapur trafod a gyflwynwyd gan [ ] ar strwythurau posib ar gyfer gweithredu strategaeth y Gymraeg – rhoddodd aelodau adborth i’r Gweinidog ar y trafodaethau hyn yn ystod sesiwn y prynhawn
- trafodaeth fer ar y [ ] a’r Ddogfen Cychwyn Rhaglen sy’n gysylltiedig â Bwrdd Rhaglen mewnol LlC ar gyfer y Gymraeg
Sesiwn y prynhawn
Eitem 1 – Diweddariad ar y prosiect Ail Gartrefi
1. Croesawodd y Gweinidog bawb i sesiwn y prynhawn.
2. Cyflwynodd y Gweinidog yr aelod fyddai’n rhoi diweddariad ar ail gartrefi yng Nghymru a’r datrysiadau polisi sydd wedi’u cyflwyno yng Nghernyw. Nododd y Gweinidog ei bod yn ymwybodol bod ail gartrefi yn fater pryder yn ei hetholaeth e.e. yn Nhŷ Ddewi, yn ogystal ag yng Ngwynedd.
3. Traddododd aelod o’r Cyngor Partneriaeth gyflwyniad byr ar yr hyn a wnaed ynghylch ail gartrefi yn St. Ives yng Nghernyw.
4. Nododd fod y polisi yng Nghymru yn seiliedig ar dreth, a bod gan Awdurdod Lleol hawl i godi treth uwch ar ail dai, ond bod y system hon yn agored i gamddefnydd. Yng Nghernyw, eir ati i ddylanwadu ar y mater drwy’r system gynllunio o dan y Locality Act 2011 a’r is-ddeddfwriaeth, y Neighbourhood Planning Regulations 2012 (Diwygio 2016). O dan y rheoliadau hyn, gall Awdurdod Lleol ddirprwyo penderfyniadau i lefel plwyf, ac mae 213 o’r rhain yng Nghernyw.
5. O dan y drefn hon, gall pob plwyf greu cynllun cymdogaeth lleol ynghylch pob agwedd ar gynllunio tir yn lleol, gyda chefnogaeth Cyngor Cernyw. Yn St. Ives yn benodol, gweithredir polisi Principle Residence, sydd i bob pwrpas â’r effaith o wahardd ail dai mewn ardaloedd lle caiff tai newydd eu hadeiladu.
6. Mae’r polisi hwn wedi ei herio ddwywaith mewn llysoedd barn, ac wedi goroesi.
7. Diolchodd y Gweinidog i’r aelod am y cyflwyniad, a holi a fyddai’n gwneud gwahaniaeth pe bai’r stoc dai yn bodoli’n barod (h.y. ddim yn cael ei adeiladu o’r newydd). Atebodd yr aelod bod angen gweithredu ar lefel leol iawn, a bod rhai yn dadlau bod hyn wedyn yn effeithio ar werth tai.
8. Nododd un o swyddogion y Llywodraeth fod Deddf Cynllunio Cymru 2015 yn cynnwys cymal “Planned Places”, sydd i fod i efelychu’r cymal ‘Locality Acts’ yn Lloegr. Ychwanegodd un aelod fod cynlluniau ‘Planned Places’ yn cael eu datblygu yn chwe tref marchnad Ceredigion.
9. Nododd y Gweinidog fod llawer o’r broblem yn digwydd mewn Parciau Cenedlaethol, lle’r oedd ‘Covenants’ yn bwysig i sicrhau bod y tai mewn perchnogaeth leol am yr hirdymor. Rhoddodd yr aelod a oedd yn cyflwyno amlinelliad bras o’r sefyllfa yn Jersey, sydd wedi creu dwy farchnad dai gyfochrog.
10. Holodd y Gweinidog a fyddai’n werth ystyried polisi Cernyw yng nghyd-destun y stoc dai gyfan. Holodd hefyd faint o dai newydd sydd wedi eu codi yn St. Ives yng nghyfnod y polisi h.y. pa wahaniaeth y mae’r ddeddf wedi’i wneud? Beth yw’r deilliant? Atebodd yr aelod perthnasol y byddai adroddiad ar y ffordd fis Gorffennaf.
Eitem 2 – Adrodd yn ôl ar bapur trafod: Strwythurau ar gyfer gweithredu strategaeth Cymraeg 2050
11. Roedd un o swyddogion y Llywodraeth wedi cyflwyno papur yn ystod y bore a oedd yn amlinellu nifer o strwythurau posibl ar gyfer Is-adran y Gymraeg, gyda’r nod o fynd i’r afael ag ochr Cynllunio Ieithyddol y strategaeth yn sgil y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen gyda Bil y Gymraeg.
12. Wrth gyflwyno’r eitem, holodd y Gweinidog am farn aelodau am yr opsiynau, gan ofyn iddynt ystyried: Ble yw’r man gorau ar gyfer gwneud y gwahanol swyddogaethau a nodwyd yn y Papur Gwyn, yn arbennig Cynllunio Ieithyddol?
13. Nododd un aelod ei fod am weld Cynllunio Ieithyddol yn cael bri a’i bod yn siom bod y Bil heb ei weithredu. Ychwanegodd aelod arall bod unrhyw gamau ailstrwythuro yn gyfle i osod cyd-destun newydd, gan aildanio disgwyliadau. Mynegodd y byddai arweiniad cryfach a mwy o brif-ffrydio yn Llywodraeth Cymru yn arwain at well deilliannau yn hyn o beth, ond bod siom yn gyffredinol am ddiwylliant mewnol LlC a’r baich ar Is-adran y Gymraeg.
14. Soniodd un aelod bod hwn yn gyfle da i feddwl am newid diwylliant ac ymddygiad yn hytrach na chraffu ar strwythurau yn unig.
15. Nododd aelod arall bod un peth yn gwbl hanfodol: rhaid cadw golwg ar ein gweledigaeth – ar yr hyn yr ydym ni am ei gyflawni. Rhaid gwneud yn siŵr bod y cyhoedd yn gwybod ble i droi yn y dyfodol.
16. Dywedodd yr un aelod fod angen sicrhau bod awdurdod y tu ôl i waith Cynllunio Ieithyddol, gan holi’r cwestiwn a fyddai hynny’n gryfach yn Is-adran y Gymraeg ynteu’r tu allan i’r Llywodraeth? Nododd y Gweinidog fod rhai adrannau’n dda o safbwynt prif-ffrydio, tra bod eraill angen eu gyrru mwy – a allai ‘asiantaeth’ helpu gyda hynny?
17. O safbwynt strwythur yr Is-adran, roedd aelodau’n cynnig creu Is-grŵp o’r Cyngor Partneriaeth i weithio gyda swyddogion i ystyried yr opsiynau’n fanylach. Crybwyllwyd hefyd y byddai’n fuddiol gwahodd yr Ysgrifennydd Parhaol i gyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth, gyda’r Gweinidog yn cytuno i hynny.
CAM GWEITHREDU: sefydlu Is-grŵp i ystyried opsiynau ar gyfer ail-strwythuro.
CAM GWEITHREDU: gwahodd yr Ysgrifennydd Parhaol i gyfarfod nesaf y Cyngor Partneriaeth.
18. Nododd un aelod bwysigrwydd ystyried effaith Brexit ar y Gymraeg wrth fwrw ymlaen.
CAM GWEITHREDU: erbyn y cyfarfod nesaf, llunio a chylchredeg i aelodau bapur ar Brexit a’r Gymraeg yn canolbwyntio ar effeithiau economaidd Brexit yn ôl ardaloedd daearyddol.
19. Cytunodd yr holl aelodau ei bod hi’n bwysig i’r Cyngor Partneriaeth gyfarfod â Chomisiynydd newydd y Gymraeg i feithrin partneriaeth, ac y dylid trefnu cyfarfod ychwanegol brys o’r Cyngor i’r perwyl hwnnw.
CAM GWEITHREDU: trefnu cyfarfod ychwanegol o’r Cyngor Partneriaeth cyn gynted â phosib, a gwahodd y Comisiynydd i fod yn bresennol.
20. I gloi, diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu help yn gwrando ar syniadau ac yn cynnig adborth adeiladol.