Welsh Language Partnership Council meeting: 7 December 2022
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 7 December 2022.
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dyfed Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwyr Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (arsylwi’n unig), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Rosemary Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050.
Eitem 1: cyflwyniad ar ddata Cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg
Trosglwyddwyd yr awenau i ystadegwyr Llywodraeth Cymru roi cyflwyniad ystadegol ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg fel rhagarweiniad i Eitem 3.
Mae’r data diweddaraf ar gael: Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021).
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair]
Eitem 2: gair o groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau Rhaglen Waith Cymraeg 2050 ers y cyfarfod diwethaf.
Eitem 3 : trafodaeth ar ganlyniadau’r cyfrifiad o ran y Gymraeg
Cafwyd trafodaeth yn dilyn y cyflwyniad ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 ym maes y Gymraeg.
- Diolchwyd i’r ystadegwyr am eu cyflwyniad clir.
- Roedd y drafodaeth a ddilynodd yn cyfeirio at bwysigrwydd:
- Deall yn well y gwahaniaeth a geir rhwng gwahanol arolygon sy’n mesur nifer y siaradwyr Cymraeg.
- Parhau’n gadarnhaol gan mai megis dechrau oedd strategaeth Cymraeg 2050 cyn i COVID-19 daro.
- Pwyllo a dadansoddi’r canlyniadau’n fanwl cyn gweithredu a chofio y bydd angen gwahanol ymyraethau mewn gwahanol ardaloedd daearyddol.
- Rôl hollbwysig ysgolion cyfrwng Saesneg wrth greu siaradwyr Cymraeg hyderus yn y dyfodol.
- Ystyried rôl y Cyfrifiad Ysgolion (PLASC) wrth dracio gallu iaith disgyblion ysgol a meddwl sut i ddilyn eu patrymau byw ar ôl gadael y byd addysg, meysydd fel gyrfa a symudedd.
- Cofio nad yw’r Cyfrifiad yn mesur defnydd iaith a phwysigrwydd y targed hwnnw fel rhan o strategaeth Cymraeg 2050.
Eitem 4: cyflwyniad ar addysgu Cymraeg mewn cyd-destun Saesneg
Cafwyd cyflwyniad gan un o aelodau’r Cyngor am addysgu Cymraeg mewn cyd-destun Saesneg. Roedd y drafodaeth ddilynol yn canolbwyntio ar bwysigrwydd sicrhau bod gan fyfyrwyr sy’n gadael addysg orfodol cyfrwng Saesneg y gallu, yr hyder a’r awydd i ddefnyddio’u Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.
Bydd y gwaith hwn yn bwydo i mewn i’r Bil Addysg Gymraeg.
Eitem 5: cynllun gweithredu Cymru wrth-hiliol a strategaeth Cymraeg 2050
Cyflwynodd un o swyddogion Is-adran Cymraeg 2050 y diweddaraf ar yr elfennau o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol sy’n berthnasol i weithredu Cymraeg 2050.
Cafwyd trafodaeth ar bwysigrwydd y maes hwn i’r Gymraeg.
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn gadael y cyfarfod a swyddog Is-adran Cymraeg 2050 yn cymryd y gadair]
Eitem 6: Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Trafodaeth
Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma.
- Anogwyd aelodau’r Cyngor i ymateb i’r alwad am dystiolaeth, boed hynny drwy’r ffurflen swyddogol, drwy e-bost neu drwy sgwrs ffôn gyda’r Cadeirydd.
- Cafwyd trafodaeth ar Arfor 2 a gofynnwyd am ddiweddariad.
- Cytunwyd y byddai Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg yn rhoi diweddariadau rheolaidd i’r Cyngor Partneriaeth yn ôl y galw yng nghyfarfodydd y dyfodol.
Cam Gweithredu 1
Yr Ysgrifenyddiaeth i geisio diweddariad ar raglen Arfor 2 gan swyddogion perthnasol y Llywodraeth a’i anfon dros e-bost at yr aelodau.
Cam Gweithredu 2
Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i roi diweddariad i’r Cyngor Partneriaeth yn ôl y galw yng nghyfarfodydd y dyfodol.
Eitem 7: unrhyw fater arall
- Trafodwyd sefyllfa is-grwpiau'r Cyngor Partneriaeth a chytunodd y Cadeirydd i drafod y mater gyda Dirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050 ac i adrodd yn ôl i’r Cyngor cyn y cyfarfod nesaf.
- Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd anffurfiol gyda’r aelodau rhwng y cyfarfodydd gyda’r Gweinidog. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gadw hwn mewn cof wrth drefnu cyfarfodydd y dyfodol.
Cam Gweithredu 3
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi diweddariad ar sefyllfa is-grwpiau'r Cyngor cyn y cyfarfod nesaf.
Cam Gweithredu 4
Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gadw mewn cof y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd anffurfiol rhwng y cyfarfodydd gyda’r Gweinidog.
Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu
|
Pwynt gweithredu |
I bwy? |
Wedi cwblhau? |
---|---|---|---|
1 |
Yr Ysgrifenyddiaeth i geisio diweddariad ar raglen Arfor 2 gan swyddogion perthnasol y Llywodraeth a’i anfon dros e-bost at yr aelodau.
|
Ysgrifenyddiaeth |
Diweddariad wedi ei anfon ar 22 Mawrth 2023. |
2 |
Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg i roi diweddariad i’r Cyngor Partneriaeth yn ôl y galw yng nghyfarfodydd y dyfodol. |
|
Bydd y diweddariad nesaf yn ystod cyfarfod 29 Mawrth 2023. |
3 |
Yr Ysgrifenyddiaeth i roi diweddariad ar sefyllfa is-grwpiau'r Cyngor cyn y cyfarfod nesaf. |
Ysgrifenyddiaeth |
Bydd diweddariad llafar yn ystod y cyfarfod nesaf (29 Mawrth 2023). |
4 |
Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gadw mewn cof y posibilrwydd o gynnal cyfarfodydd anffurfiol rhwng y cyfarfodydd gyda’r Gweinidog. |
Ysgrifenyddiaeth |
|