Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • [                       ] Prif Swyddog Rhanbarthol Canolbarth a De-Orllewin Cymru, Llywodraeth Cymru
  • [                       ]   Pennaeth y Gangen Addysgeg, Safonau Proffesiynol a Lefel A, Llywodraeth Cymru
  • [                        ]       Pennaeth Ystadegau Gweithlu Ysgol
  • [                        ]       Uwch Reolwr Cynllunio, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Gwion Lewis, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Marian Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Sesiwn y bore

  1. Croeso a diweddariad

Estynnwyd croeso cynnes i bawb.

  1. Brexit a’r Gymraeg

Yn ystod sesiwn y bore, cafwyd trafodaeth fer ynglŷn ag effaith Brexit ar Cymraeg 2050. Tynnodd yr aelodau sylw at sawl peth gan gynnwys y pwyntiau isod yn benodol:

  • Effaith ar gefn gwlad Cymru.
  • Y broblem gynyddol bosibl o ran sut i recriwtio a chadw athrawon yn eu hardaloedd lleol ac felly cynaliadwyedd ysgolion.
  • Pa mor aml y caiff y Gymraeg ei chrybwyll mewn trafodaethau Brexit.

Nodwyd y byddai modd trafod y pwyntiau uchod mewn manylder yn hwyrach yn ystod sesiwn y bore.

  1. Y Gymraeg a’r Economi

[Y Gweinidog yn bresennol ar gyfer rhan o’r eitem hon]

Croesawyd Prif Swyddog Rhanbarthol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Canolbarth a’r De-orllewin i arwain ar yr eitem.

Cafwyd ddiweddariad am Raglen Arloesi Arfor ac esboniwyd mai ffocws y rhaglen yw hybu’r economi yn yr ardal gan sicrhau budd i’r Gymraeg a’r gymuned ehangach. Cyngor Gwynedd sy’n cydlynu rhaglen Arfor ar ran yr awdurdodau lleol eraill. (Ceredigion, Gwynedd, Sir Gâr ac Ynys Môn). Nodwyd fod cwmni ymgynghori wedi’i benodi i werthuso’r rhaglen ac archwilio i weld pa ymyraethau sydd wedi bod yn fuddiol. Mae’n bosib y caiff gwersi eu dysgu o ganlyniad i brosiectau Arfor.

Amlinellwyd hefyd  ‘Cynllun Gweithredu ar yr Economi’ a lansiwyd yn 2017, sydd gyda ffocws rhanbarthol newydd, gan roi pwyslais ar leoliad, a chydweithredu o fewn y rhanbarthau i ystyried heriau’r dyfodol gyda Brexit a newid yn yr hinsawdd yn ganolog i’r gwaith.

Trafodwyd hefyd y cytundeb economaidd ac amlygwyd egwyddorion y cytundebau sef twf cynaliadwy, gwaith teg, lleihau olion traed carbon, iechyd a lles, a sgiliau a dysgu yn y gweithle.

Mae Contractau Economaidd yn hyblyg ac yn cael eu cytuno yn unigol gyda phob busnes. Er nad oes disgwyliadau penodol o ran y Gymraeg, gall ystyriaethau ieithyddol eu cynnwys os dymunir gwneud hynny. Nododd sawl aelod bod peidio â chynnwys y Gymraeg fel maes o fewn contract economaidd yn siomedig.  

Trafodwyd hefyd y defnydd o Asesiadau Effaith ar y Gymraeg gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal â phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod datblygiadau mawr yn cael eu hasesu’n fanwl o ran eu heffaith ar y Gymraeg e.e. effaith ar ysgolion lleol / gwarchod cymunedau Cymraeg, ac ati.

Nododd y Gweinidog fod ffocws ar y rhanbarthau’n gwneud synnwyr, gyda’r nod o roi mwy o lais i randdeiliaid yn lleol. Ychwanegodd fod rhagor o waith i’w wneud o ran y bargeinion dinesig / ardaloedd twf a bod cyfle i ystyried cynlluniau tebyg sy’n cyd fynd â blaenoriaethau cefn gwlad.

Trafodwyd y ffactorau ddylai fod ar waith i sicrhau bod modd i bobl ifanc aros mewn cymunedau gwledig, neu pa ymyriadau sydd eu hangen i gefnogi pobl i ddychwelyd i’w cymunedau lleol.

Crybwyllodd aelod fod angen i’r Gymraeg fod yn rhan o’r gwaith cynllunio integredig o’r dechrau, a bod angen i bolisi cyhoeddus roi mwy o bwyslais ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Nodwyd fod gan Arfor ei heriau, ond ei fod yn amlwg yn creu cyfle i gydweithio rhwng awdurdodau lleol ar draws arfordir y gogledd a’r de-orllewin, ac yn creu cyfle iddynt gydweithio’n agosach o safbwynt datblygu economaidd.

Pwyntiau gweithredu:

  • Cytunwyd y byddai Ken Skates / Lee Waters yn cael gwahoddiad i fynychu un o gyfarfodydd y dyfodol i drafod eu gwaith wrth brif ffrydio Cymraeg 2050 i faes yr economi. Byddai’n gyfle i aelodau ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd ac i gyflwyno unrhyw sylwadau sydd ganddynt yn uniongyrchol i’r Gweinidog perthnasol.

O ran caffael, nododd y Gweinidog fod angen sicrhau cyfleoedd i gwmnïau lleol allu cynnig am gontractau, sydd yn sicrhau budd i’r gymuned a’r economi leol. Mae model a ddatblygwyd mewn ardaloedd eraill yn enghraifft o sut all hyn weithio.

Nododd y Gweinidog fod angen ystyried sut allwn ni ystyried y Gymraeg o fewn y Contract Economaidd ynghyd â sicrhau amodau neu ystyriaethau i’r Gymraeg wrth i’r Llywodraeth ddyrannu grantiau i fusnesau.

Pwynt Gweithredu: 

  • Cynigiodd y Gweinidog ysgrifennu at ei chyd weinidogion i’w hatgoffa o bwysigrwydd eu hymrwymiad i brif ffrydio Cymraeg 2050 i’w gwaith ac asesu effaith prosiectau ayyb ar y Gymraeg.

Nododd aelod bod angen mwy o gydweithio er mwyn i’r Gymraeg gael ei phrif ffrydio’n naturiol yn y gwaith o ddydd i ddydd. Holodd y Gweinidog a yw’r rhanbarthau economaidd, yn darparu ar gyfer y Gymraeg. Soniodd y swyddog fod pob rhanbarth yn y broses o ddatblygu Fframweithiau Rhanbarthol a bydd angen i’r Fframweithiau hyn ystyried nifer o faterion gan gynnwys y Gymraeg.

Holwyd  a fydd Arfor yn parhau fel prosiect, ac os na fydd, sut fydd yn symud i ddull rhanbarthol o weithio? Nodwyd bod cyfle i ystyried pethau arloesol a’u gwerthuso, bod cyllid ar gyfer 2 flynedd yn unig, ond bod cyfle i ystyried beth sy’n gweithio a pha wersi a ddysgir.

Nododd y Gweinidog y bydd cyfarfod Bwrdd Crwn yn cael ei gynnal ar yr economi ar 10 Hydref, ac y byddai modd ystyried beth ydym ni wedi’i ddysgu o Arfor a’i brif-ffrydio er mwyn cynnal yr effaith yn yr ardal dan sylw. Ychwanegodd ei bod am i’r Prif Swyddogion Rhanbarthol gyfrannu i’r gwaith prif ffrydio hwn.

Rhannwyd gwybodaeth am Fenter Gymdeithasol Siop Griffiths ym mhentref Penygroes, Gwynedd sydd â strategaeth gadarn er mwyn hybu’r Gymraeg. Gwirfoddolwyr sefydlodd y prosiect ond yn awr, mae cyllid wedi’i sicrhau i greu swydd gyflogedig i symud y cynllun yn ei flaen.

Pwynt gweithredu:

  • Yr aelod i anfon manylion y prosiect at weddill y Cyngor a’r Gweinidog.

Diolchodd y Gweinidog i’r swyddog am ei gyfraniad.

  1. Y gweithlu addysg

Croesawodd y Gweinidog ddau swyddog i drafod ac i arwain ar yr eitem nesaf sef y gweithlu addysg.

Cafwyd diweddariad ar beth yn union sy’n cael ei wneud ar hyn o bryd er mwyn recriwtio athrawon a’r adnoddau sydd ar gael. Diolchwyd i’r swyddogion am yr wybodaeth – gwaith da yn cael ei wneud.

Bu sôn am y canlynol mewn trafodaeth gyda’r aelodau:

  • Cyllidebau ysgolion yn cael eu torri – Cymraeg Safon Uwch yn bwnc sy’n dioddef ac yn cael ei dorri os nad oes digon o ddysgwyr am ei astudio. Bydd gwybodaeth trwy’r CSGA yn hanfodol i ddeall patrymau.
  • Angen gwybod beth yw disgwyliadau dysgwyr am beth yn union y mae astudio’r Gymraeg fel pwnc safon uwch yn ei olygu. Angen deall beth maent yn ei fwynhau / ddim yn ei fwynhau. Bydd posibiliadau i ddiwygio’r fanyleb dros amser i gynnwys meysydd megis e.e. dwyieithrwydd / cynllunio ieithyddol – nid oes rhaid i’r fanyleb ganolbwyntio ar farddoniaeth yn unig.
  • Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda’r Adrannau Cymraeg i greu llyfryn yn egluro beth all astudio’r Gymraeg fel disgyblaeth addysg uwch ei gynnwys.
  • Myfyrwyr yn dewis dilyn cyrsiau TAR dros y ffin oherwydd ei bod yn haws cael mynediad atynt (disgwyliadau is) a mwy o gyfraniad at ffioedd. Hyn yn arwain at golli myfyrwyr ac athrawon.
  • Ystadegau yn dangos bod 400 o fyfyrwyr yn mynd i ddilyn cyrsiau TAR dros y ffin a bod 270 yn dod yn ôl i gofrestru i addysgu yng Nghymru.
  • Eglurwyd y bydd y Cyngor Gweithlu Addysg yn cymryd rôl i hyrwyddo’r proffesiwn dysgu.
  • Angen mynd yn ôl i hyrwyddo’r proffesiwn dysgu fel gyrfa. Efallai y gallai hyn fod yn waith i undebau athrawon.
  • Trafod y syniad o wneud blwyddyn fel cynorthwyydd dosbarth – angen trafod y syniad o ariannu a rheoleiddio hynny – mae yna un ysgol sy’n treialu hyn yn barod.
  • Cwmnïau Gyrfaoedd – angen cwestiynu beth yw’r wybodaeth sydd ganddynt am y proffesiwn.

Pwyntiau Gweithredu

  • Aelod i rannu gwybodaeth am fodiwl cyflwyniad i ddysgu sydd wedi’i ddatblygu ym Mhrifysgol Bangor gyda swyddogion.  
  • Swyddog i ystyried rôl y cwmnïau gyrfaoedd yn hyrwyddo’r proffesiwn dysgu.
  • Swyddog i edrych ar yr hyn sy’n cael ei dreialu mewn ysgol yng Nghaerdydd o ran cael profiad fel cynorthwy-ydd dosbarth.

Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu presenoldeb a’u cyngor, ac ymadael.

Sesiwn y prynhawn

[Nid oedd y Gweinidog yn bresennol ar gyfer sesiwn y prynhawn.]

6. Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cymru (yr NDF)

Cafwyd cyflwyniad gan swyddog ar gefndir y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol.

  • Ymgynghoriad 12 wythnos ar y gweill ar hyn o bryd – daw i ben ar 1 Tachwedd.
  • Mae’r ymgynghoriad yn cyfeirio at Cymraeg 2050 (canlyniad 4).

Aeth swyddog drwy wahanol haenau’r fframwaith, gan nodi bod y Gymraeg yn un o 11 o amcanion i’w datblygu rhwng 2020 a 2040, a bod hyblygrwydd yn y ddogfen i rannu Canolbarth a De-Orllewin Cymru yn ddau ranbarth.  Ychwanegodd ei fod yn ymwybodol o’r achos dros adlewyrchu Arfor yn y fframwaith. Nodwyd bod swyddogion Is-adran y Gymraeg wedi cyfrannu o ran y Gymraeg, a bod cyfle i bwysleisio pwysigrwydd Caernarfon, Caerfyrddin ac Aberystwyth yn rhanbarthol, ond bod angen i’r ddogfen gyfleu hyn yn well.

Nododd y byddai cyfle i addasu Polisi 16, tudalen 46 yn sgil cyfarfodydd gyda grwpiau iaith er mwyn esbonio materion yn well.

Cwestiynau a godwyd:

  • Beth yw’r weledigaeth o ran y Gymraeg?
  • Nododd aelod, gan fod polisïau datblygu economaidd fel petaent yn blaenoriaethu datblygu economaidd mewn ardaloedd poblog, di-Gymraeg, ai ymgais oedd y FfDC i liniaru’r effaith ar gefn gwlad? A oes angen nodi’r Gymraeg fel ardal sensitif fel a wneir yn achos harddwch naturiol? Nododd y swyddog y dylai cwestiynau fel hyn gael eu mynegi drwy’r ymgynghoriad.
  • Holodd aelod, mewn perthynas â phennod 2 y ddogfen ymgynghori, a oes angen nodi’n gliriach o lawer beth yw ystyr pwysigrwydd y Gymraeg?
  • Ychwanegodd aelod arall ei bod yn hollbwysig i’r Gymraeg fod yn ystyriaeth bwysig yn y ddogfen a datblygu’r drafodaeth oddi yno.

7. Prosiect 2050

Cafwyd diweddariad byr gan swyddog am Prosiect 2050.