Welsh Language Partnership Council meeting: 29 March 2023
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 29 March 2023.
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Dyfed Edwards: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Meleri Davies: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White: Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Bethan Webb: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Seimon Brooks: Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg
Ysgrifenyddiaeth: Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 (arsylwi’n unig): Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050.
Cafwyd trafodaeth gyffredinol am strwythur y Cyngor yn ogystal â thrafod awgrymiadau am bynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, gan gynnwys estyn gwahoddiad i swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg.
Trafodwyd canlyniadau diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg sef ystadegau yn ymwneud ag iaith a hil / ethnigrwydd gyda. Cytunwyd y byddai’r Cyngor yn trafod y mater yn fanylach yn un o gyfarfodydd y dyfodol.
Nodwyd y byddai’n fuddiol gwahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol er mwyn cael diweddariad ar y gwaith hwn.
Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu
Cam Gweithredu 1
Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth ar ddata diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y berthynas rhwng y Gymraeg â hil / ethnigrwydd yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.
Cam Gweithredu 2
Ysgrifenyddiaeth i wahodd swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.
Cam Gweithredu 3
Ysgrifenyddiaeth i wahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.
[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair]
Eitem 2: gair o groeso gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau 'Rhaglen Waith Cymraeg 2050' ers y cyfarfod diwethaf.
Eitem 3: Papur Gwyn, Bil Addysg Gymraeg: diweddariad a thrafodaeth
Cafwyd trafodaeth yn dilyn cyhoeddi Papur Gwyn: Cynigion ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg yn gynharach yn ystod yr wythnos.
Diolchodd y Gweinidog yn swyddogol i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar y Papur Gwyn am eu gwaith caled.
Roedd y drafodaeth a ddilynodd yn ffocysu yn bennaf ar rôl y gweithlu addysg i wireddu amcanion y Bil.
Eglurodd y Gweinidog fod Pennod 4 yn cynnig y bydd disgwyl i Weinidogion Cymru bennu targedau cenedlaethol ar gyfer nifer yr athrawon sydd eu hangen er mwyn hwyluso’r twf mewn addysg Gymraeg. Ni fydd y targed yn y Bil, yn hytrach, bydd y Bil yn gosod y fframwaith.
Nodwyd pwysigrwydd:
- Cryfhau’r cyfraniad sy’n rhaid i brifysgolion a’r sector ôl-16 ei wneud o ran hyfforddi athrawon drwy osod targedau mwy pendant o ran y Gymraeg.
- Trafodwyd yr effaith ar y gweithlu a’r mecanweithiau sydd wedi eu gosod er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dechrau dysgu siarad Cymraeg.
- Yr angen i gynllunio’r gweithlu yn ofalus.
Trafodwyd hefyd:
- Pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y papur gwyn gyda’r rhanddeiliaid a thrafod ei gynnwys gyda phlant a phobl ifanc a’r holl randdeiliaid y bydd y Bil yn effeithio arnynt maes o law.
- Pwysigrwydd canolbwyntio ar drochi cynnar.
- Nodwyd bod y Bil yn cymryd camau a fydd yn lleihau’r bwlch sylweddol o ran deilliannau ieithyddol disgyblion rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg.
Eitem 4: cyflwyniad ar beilot Dwyfor (ail gartrefi a fforddiadwyedd)
Cafwyd cyflwyniad gan un o swyddogion y Llywodraeth ar beilot Dwyfor sydd wedi bod yn weithredol ers y llynedd. Cytunwyd i rannu’r papur yn nodi crynodeb diweddaraf o waith y peilot gydag aelodau’r Cyngor. Nododd y swyddog ei fod yn hapus i drafod gydag unrhyw un sydd am wybodaeth bellach.
Cam Gweithredu 4
Ysgrifenyddiaeth i rannu papur sy’n crynhoi Peilot Dwyfor gyda’r aelodau.
Eitem 5: Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Trafodaeth
Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma:
- Diolchodd i bawb am eu sylwadau i’r alwad am dystiolaeth. Cadarnhaodd y bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi maes o law ac y bydd yr Aelodau yn cael copi.
- Cytunodd i roi diweddariadau rheolaidd i’r Cyngor Partneriaeth yn ôl y galw yng nghyfarfodydd y dyfodol.
- Nododd y bydd y Comisiwn yn awr yn mynd ati i baratoi papur safbwynt a fydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd. Bydd y papur yn crynhoi egwyddorion cynllunio ieithyddol o safbwynt cynllunio cymdeithasol, yn ogystal â thrafod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol a chanlyniadau’r cyfrifiad.
- Y bwriad yw cynnal cyfres o gyfarfodydd rhwng Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r gwaith ysgrifennu manwl yn digwydd rhwng mis Awst a Rhagfyr.
- Cafwyd trafodaeth bellach ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol a sut y gallai’r ardaloedd hyn gael eu dynodi.
Cam Gweithredu 5
Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o grynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth a’r papur safbwynt at yr aelodau unwaith caiff ei gyhoeddi.
Cam Gweithredu 6
Ysgrifenyddiaeth i wahodd Seimon Brooks i gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn rheolaidd er mwyn trafod cynnydd y gwaith.
Eitem 6: unrhyw fater arall
Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal cyfarfod wyneb yn wyneb y tro nesaf gyda’r lleoliad yn ddibynnol ar galendr y Gweinidog. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau’r manylion maes o law.
Cam Gweithredu 7
Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau manylion y cyfarfod nesaf gyda’r Aelodau maes o law.
Pwyntiau gweithredu
Cam gweithredu 1
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth ar ddata diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y berthynas rhwng y Gymraeg â hil/ethnigrwydd yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Oren: Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 2
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i wahodd swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Oren: Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 3
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i wahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd y dyfodol.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Oren: Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.
Cam gweithredu 4
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i rannu papur sy’n crynhoi Peilot Dwyfor gyda’r aelodau.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Gwyrdd: Papur wedi ei rannu.
Cam gweithredu 5
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o grynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth a’r papur safbwynt at yr aelodau unwaith caiff ei gyhoeddi.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Gwyrdd: Papurau wedi’u rhannu.
Cam gweithredu 6
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i wahodd Seimon Brooks i gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn rheolaidd er mwyn trafod cynnydd y gwaith.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Gwyrdd: SB yn mynychu cyfarfod 13 Gorffennaf 2023.
Cam gweithredu 7
Pwynt gweithredu
Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau manylion y cyfarfod nesaf gyda’r Aelodau maes o law.
I bwy?
Ysgrifenyddiaeth.
Wedi cwblhau?
Gwyrdd.