Skip to main content

Yn bresennol

Bae Caerdydd

  • Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Gwynedd Parry, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg
  • [                   ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)

Caernarfon

  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • [                   ], Is-adran y Gymraeg

Ymddiheuriadau

Rhian Huws-Williams

Gwion Lewis

Marian Thomas

Eitem 1 - Gair o groeso gan y Gweinidog

Croesawodd y Gweinidog yr aelodau i gyfarfod y Cyngor Partneriaeth a diolchwyd iddynt am fynychu ar fyr rybudd.

Eitem 2 - Datganiad ar Fil y Gymraeg

Eglurodd y Gweinidog mai pwrpas y cyfarfod oedd hysbysu aelodau’r Cyngor y byddai’n cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn nodi penderfyniad y Cabinet i beidio â pharhau gyda’r gwaith i ddatblygu Bil y Gymraeg. Gwnaeth y Gweinidog yn glir ei bod yn awyddus iawn bod y Cyngor Partneriaeth yn cael gwybod yn gynnar a rhannwyd copïau caled o’r datganiad drafft gyda’r aelodau.

(Casglwyd y copïau caled ar ddiwedd y cyfarfod).

Nododd y Gweinidog bod yr ymgynghoriad i’r Papur Gwyn wedi sbarduno trafodaeth gyhoeddus am bolisi iaith, ac o’r drafodaeth honno roedd dau beth yn amlwg:

  • bod cefnogaeth i’r safonau a chydnabyddiaeth eu bod wedi gwneud gwahaniaeth, er bod anfodlonrwydd gyda rhai agweddau ohonynt. Serch hynny, nid oedd yna gefnogaeth i wneud newidiadau sylweddol i’r system; a
  • chytundeb bod angen blaenoriaethu hybu’r Gymraeg a chynyddu defnydd ohoni, er nad oes cytundeb o'r ffordd orau i wneud hynny.

Yn sgil y ffactorau uchod, nododd y Gweinidog fod y Cabinet wedi cytuno nad oedd hi’n werth creu rhwyg a checru posibl o fewn y gymuned Gymraeg a chyda rhanddeiliaid, felly cytunwyd na ddylid bwrw ymlaen gyda’r cynlluniau i gyflwyno Bil.

Eglurodd y Gweinidog bod angen symud y drafodaeth oddi wrth y Bil i ystyried y ffordd ymlaen. Roedd hi’n gweld mai rhan o’r ateb yw natur y berthynas rhwng y Llywodraeth a’r Comisiynydd. Gwnaed yn glir ei bod am weld gwedd newid yn y berthynas honno yn y dyfodol gan greu perthynas gydweithredol a chadarnhaol.

Gwahoddwyd aelodau’r Cyngor i ymateb i’r datganiad yn eu tro.

Nododd aelod o’r Cyngor fod awydd wedi bod ymysg y Cyngor i symud y ffocws tuag at hybu ond wrth wneud, roedd hefyd yn betrus o ollwng y safonau – yn arbennig o ran busnesau mawr felly roedd angen darganfod man canol rhwng hybu a rheoleiddio. Holodd yr Aelod a fyddai modd i’r Cyngor Partneriaeth fod yn rhan o’r trafodaethau gyda’r Comisiynydd.

Nododd aelod arall ei fod yn cytuno bod angen symud y ffocws mwy tuag at hybu a hyrwyddo’r Gymraeg. Roedd o’r farn bod llai o bwys am ble fyddai’r cyfrifoldebau penodol yn eistedd ond petai yn gyfrifoldeb i’r Comisiynydd, roedd angen diogelu annibyniaeth y Comisiynydd yn arbennig o ran rheoleiddio.

Roedd aelod arall yn teimlo ei bod yn rhesymol edrych eto ar rôl y Comisiynydd, yn dilyn penodiad Comisiynydd newydd. Cyn hyn, roedd yr Aelod wedi bod yn amheus o ran sefydlu Comisiwn – roedd yn gweld ailedrych ar newidiadau strwythurol fel ymdrech i newid ‘un peth amherffaith i rhywbeth amherffaith arall’. Roedd o’r farn bod angen ystyried y pecyn ‘hybu’ yn gyflawn o ran gweledigaeth y Comisiynydd, eglurder ar beth oedd y gweithgareddau ‘hybu a hyrwyddo’ a beth fydd y sefyllfa ariannol – a oedd yna arian ychwanegol? Pwysleisiodd bod angen pwrpas clir i’r newid cyfeiriad. Cafwyd croeso i’r newyddion y byddai’r rhaglen safonau yn ail gychwyn.

Soniodd aelod arall bod angen ystyried y ddau beth ar wahân. Roedd yn derbyn penderfyniad y Llywodraeth o ran y safonau ond teimla nad dyma oedd yr elfen bwysicaf, er bod y safonau wedi ennyn ymateb. Amlinellodd mai ei farn ef oedd bod y gwaith cynllunio ieithyddol wedi bod ar goll ers i Fwrdd yr Iaith Gymraeg ddod i ben. Roedd o’r farn bod methiant strwythurol yn bodoli a’r Comisiwn arfaethedig fyddai wedi llenwi’r bwlch hwnnw – teimla’r aelod ei bod hi’n drueni na fyddai’r Llywodraeth yn creu corff strategol.

Roedd aelod arall yn awyddus i gael trafodaethau am gyfrifioldebau’r Comisiynydd. Roedd yn gweld bod elfen o’r gwaith cynllunio ieithyddol o ran datblygu polisi a datblygu strategaeth yn waith y dylai’r Llywodraeth ymgymryd ag ef.  Roedd o’r farn bod elfennau eraill fel hyrwyddo, yn yr ystyr ehangach, a thynnu partneriaid ynghyd yn fwy addas i’r Comisiynydd arwain arnynt. Cytunodd aelod arall â’r farn hon a phwysleisiwyd y rôl allweddol y byddai addysg yn ei chwarae. Cafwyd cytundeb bod angen i’r Adran Addysg weithio’n agos gyda’r Comisiynydd i wneud gwaith cynllunio ieithyddol – mae hyn yn allweddol i unrhyw lwyddiant.

Cafwyd disgrifiad gan aelod arall o ddylanwad y safonau ar y sefydliad y mae’n gweithio iddo – teimla bod y safonau wedi bod yn bwysig i godi statws y Gymraeg yn y sefydliad. Nodwyd bod y sefydliad wedi cael cefnogaeth gan y Comisiynydd er mwyn gallu cynllunio yn well o lawer.

Cafwyd ymateb i’r pwyntiau a godwyd gan y Gweinidog.

Nododd y Gweinidog, ar sail trafodaethau cynnar gyda’r Comisiynydd newydd, eu bod yn hyderus bod modd ailsefydlu’r berthynas a newid diwylliant o fewn y corff er mwyn i ffocws y gwaith symud tuag at hybu. 

Nododd bod gwaith ar droed i adolygu Cytundeb Fframwaith y Comisiynydd –  byddai’r Cytuneb Fframwaith yn gosod disgwyliadau ar y Comisiynydd o ran y gwaith hwnnw. Roedd y Gweinidog yn glir bod angen diogelu annibyniaeth y Comisiynydd o ran y swyddogaethau rheoleiddio.

Gwnaeth y Gweinidog yn glir bod modd cyflawni amcanion y papur gwyn heb ddeddfwriaeth – o ran Safonau, mae gwaith eisoes wedi digwydd i leihau biwrocratiaeth o ran prosesau’r Mesur. Nododd bod cyngor cyfreithiol yn nodi bod gan y Comisiynydd sgôp o ran sut mae hi’n delio gyda chwynion – mae’r Llywodraeth o’r farn y gall y Comisiynydd fabwysiadu polisi ‘datrysiad buan’ fel bod adnoddau ar gael i weithio ar waith hybu.

Nododd y Gweinidog mai’r broblem fwyaf yn sgil y penderfyniad i beidio â chyflwyno Bil oedd na fyddai modd ehangu’r safonau i’r sector preifat (y tu hwnt i’r sectorau a oedd wedi’u rhestru yn y Mesur). Nid oedd modd felly gosod Safonau ar fanciau ac archfarchnadoedd ond mae’r Gweinidog wedi cysylltu gyda’r sectorau i holi pa wasanaethau Cymraeg fyddai’n bosib iddynt eu cynnig.  Roedd y Gweinidog hefyd wedi ysgrifennu at y Gweinidog â chyfrifoldeb dros gynllunio gwlad a thref i drafod sut fyddai modd defnyddio’r Cynlluniau Datblygu Lleol (LDPs) i gyfrannu at gynyddu gwasanaethau Cymraeg.

Roedd y Gweinidog yn glir ei bod yn awyddus i Swyddfa’r Comisiynydd gynnig mwy o arweiniad a chyngor i gyrff a oedd yn dod o dan y Safonau – roedd hi am i’r ffocws symud oddi ar fod yn blismon iaith i fod yn cydweithio â chyrff.

Ategodd swyddog o Is-adran y Gymraeg bod ffocws y safonau wedi bod ar gyflenwi gwasanaethau i’r cyhoedd a oedd eisoes wedi bod yn digwydd ers dyddiau’r cynlluniau iaith. Ond nid oedd y safonau ‘newydd’ a fyddai’n arwain at gynllunio gwell yn y gweithle a safonau yn ymwneud â strategaethau hybu wedi bod yr un mor llwyddiannus. Eglurodd bod ei gwaith yn trafod Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg (CSGA / WESPs) wedi dangos bod awdurdodau lleol yn gweld bod y safonau strategol lawer yn fwy heriol.

O ran y ffordd ymlaen, eglurodd y Gweinidog bod angen trafodaethau gyda’r Comisiynydd a’r Cyngor Partneriaeth o ran sut orau i rannu cyfrifoldebau rhwng Swyddfa’r Comisiynydd a’r Llywodraeth. Nid oedd unrhyw benderfyniadau wedi’u gwneud eto ond roedd y Gweinidog yn gweld y gallai rhai cyfrifoldebau cynllunio ieithyddol eistedd yn well gyda’r Llywodraeth fel yn y maes addysg a chynllunio ar lefel strategol ond roedd yn gweld bod meysydd eraill yn fwy priodol ar gyfer y Comisiynydd. Gofynnodd i swyddogion Is-adran y Gymraeg baratoi papur yn amlinellu’r posibiliadau o ran y gwaith hwn ac ymrwymodd i drafod syniadau gyda’r Cyngor Partneriaeth. Roedd y Gweinidog yn teimlo bod awgrymiadau’r Cyngor Partneriaeth yn hollbwysig.

Nododd y Gweinidog y byddai’n rhannu drafft o’r Cytundeb Fframwaith gydag aelodau’r Cyngor Partneriaeth yn fuan.

Eitem 3 - Unrhyw Fater Arall

Diolchodd un aelod i’r Gweinidog am y sgyrsiau personol a fu rhyngddo â’r Gweinidog a gyda’r Gweinidog Addysg yn dilyn cyhoeddi papur gwyn y Cwricwlwm. Teimlodd fod y sgyrsiau yn sail i gydweithio cadarnhaol i yrru polisi’r Gymraeg ac Addysg.

Cafwyd cadarnhad gan y Gweinidog bod y Gweinidog Addysg a’r Llywodraeth yn hollol gefnogol i addysg drochi ac mai camgymeriad oedd y geiriad yn y papur gwyn – gwnaeth yn glir nad oedd unrhyw fwriad gan y Llywodraeth i orfodi cylchoedd meithrin i ddysgu Saesneg.

Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb ar fyr rybudd a chaewyd y cyfarfod.

 

Share this page