Llythyrau at Brif Swyddogion Cynllunio
Diweddarwyd 05 Rhagfyr 2018
Mae llythyrau at Brif Swyddogion Cynllunio yn rhoi cyngor ac arweiniad ar faterion cynllunio penodol, ac maent hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf yn eu cylch.
Mae’r Is-adran Gynllunio yn anfon y llythyrau hyn yn ôl y gofyn at bob Prif Swyddog Cynllunio.
05/12/18
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig wedi cyhoeddi Cyfarwyddyd Hysbysu newydd yn ymwneud â datblygu glo a petrolewm.
17/10/18
Mae’r llythyr hwn yn ymwneud â chamau gweithredu cymesur ac amserol i gynnal hyder y cyhoedd yn y system gynllunio, a'r ffordd yr adroddir arno yn y Fframwaith Perfformiad Cynllunio.
18/07/18
Mae'r llythyr hwn gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn hysbysu awdurdodau cynllunio lleol fod 'Cais am dystiolaeth' ar ddarparu tai drwy'r system gynllunio wedi dechrau.
12/06/18
Mae’r llythyr hwn yn ymwneud ag unedau dofednod dwys a sut y dylai’r system gynllunio yng Nghymru eu trin.
14/05/18
Mae’r llythyr hwn yn ymwneud â diwygiad i’r Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir), sy’n golygu estyn y cyfnod o amser pan fydd cyfarpar band eang llinell sefydlog o fewn tir Erthygl 1(5) (tir gwarchodedig) wedi’i eithrio rhag cael cymeradwyaeth ymlaen llaw.
02/05/18
Mae’r llythyr hwn oddi wrth Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig yn hysbysu awdurdodau cynllunio lleol ynghylch adolygiad eang ei gwmpas sydd ar y gweill ynghylch cyflenwi tai drwy’r system gynllunio.
01/03/18
Mae'r llythyr hwn yn ymwneud â newid yn y weithdrefn hysbysu gan Gyfoeth Naturiol Cymru ynglŷn â dyroddi trwydded rhywogaethau a warchodir gan Ewrop.
27/02/18
Llythyr gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig sy’n nodi’r pwerau sydd gan awdurdodau lleol i reoli Tai Amlfeddiannaeth.
20/12/17
Mae’r llythyr hwn yn hysbysu Prif Swyddogion Cynllunio ynghylch datblygiad y gwasanaeth ceisiadau cynllunio ar-lein newydd i Gymru sef “Ceisiadau Cynllunio Cymru”.
25/10/17
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi ysgrifennu at Awdurdodau Cynllunio Lleol i nodi’r bwriad i ymgynghori ar ddiwygiadau posib i bolisi cynllunio a ph'un a ddylai polisi cynllunio beidio cefnogi'r mathau canlynol o echdynnu tanwyddau ffosil.
13/10/17
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig wedi cyhoeddi diweddariad i Nodyn Cyngor Technegol 20 ar 12 Hydref 2017.
18/07/17
Mae'r llythyr hwn yn ymwneud â chyflwyno Rhaglen Cyfathrebu Symudol y Gwasanaethau Brys a sut y dylai'r system gynllunio yng Nghymru fynd i'r afael â'i gofynion.
20/06/17
Mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol i'w cynghori ynghylch dyfodol y pecyn cymorth ar-lein ar ddiogelu awyrennu a ddefnyddir ar gyfer asesu tyrbinau gwynt domestig o dan hawliau datblygu a ganiateir.
26/05/17
Mae’r llythyr hwn a'r atodiadau cysylltiedig yn darparu gwybodaeth ar weithredu Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 a materion cysylltiedig.
26/05/17
Mae’r llythyr hwn yn datgan y bwriad i fabwysiadu egwyddor cyfrwng newid ym Mholisi Cynllunio Cymru.
05/05/17
Mae'r llythyr hwn a'r atodiadau sydd ynghlwm wrtho'n cyhoeddi'r ffaith bod newidiadau'n dod i rym i ddeddfwriaeth a chanllawiau ynghylch apeliadau, costau, symiau dyddiol safonol a gorchmynion prynu gorfodol.
26/04/17
Mae’r llythyr hwn yn darparu gwybodaeth am newidiadau i’r broses o Asesu Effeithiau Amgylcheddol mewn perthynas â chynllunio gwlad a thref.
04/04/17
Mae'r llythyr yn rhoi cyngor ynghylch cychwyn Adran 39 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 i'r graddau y mae'n ymwneud â maint ac aelodaeth pwyllgorau cynllunio.
22/03/17
Mae’r llythyr hwn yn cyhoeddi fod y Map Cyngor Datblygu wedi ei drosglwyddo i Gyfoeth Naturiol Cymru.
23/02/17
Mae’r llythyr hwn yn ymwneud â chyflenwi cartrefi fforddiadwy drwy’r system gynllunio.
17/11/16
Mae’r llythyr hwn yn cyflwyno’r newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2016.
19/05/16
Newidiadau i ddeddfwriaeth gynllunio o ganlyniad i Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016.
22/03/16
Mae'r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi cyhoeddi cyfarwyddyd hysbysu newydd ynglŷn â nwyeiddio glo tanddaearol.
16/03/16
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol ynghylch asesu prosiectau ynni adnewyddadwy a prosiectau carbon isel.
16/03/16
Mae’r llythyr hwn yn cyflwyno newidiadau i Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 12: Dylunio a chanllawiau ar ddadansoddi safle a chyd-destun a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2016.
01/03/16
Mae'r llythyr hwn yn datgan y ddod i rym o’r broses Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DAC) ac yn amlygu’r newidiadau allweddol.
01/02/16
Mae’r llythyr hwn a'r atodiadau cysylltiedig yn rhoi arweiniad ar nifer o ddarpariaethau sy’n deillio o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015.
13/01/16
Mae'r llythyr hwn i awdurdodau cynllunio lleol yn rhoi sylw i'r gwasanaeth dilysu adroddiadau Categoreiddio Tir Amaethyddol y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu.
10/12/15
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol am ei ddisgwyliadau o ran polisïau ynni mewn cynlluniau datblygu lleol.
10/12/15
Mae'r llythyr hwn yn datgan bod y Cynllun Gweithredu Cynllunio Cadarnhaol wedi'i gyhoeddi.
07/12/15
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi llofnodi, a thrwy hynny wedi rhoi’r gorchmynion a enwir uchod ar 5 Hydref a 2 Rhagfyr, yn ôl eu trefn.
02/11/15
Mae’r llythyr hwn yn tynnu sylw at y gwaith sy’n cael ei wneud i gefnogi’r broses gynllunio gan y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Amgylcheddol yng Nghymru.
21/09/15
Mae’r llythyr hwn yn nodi bod fersiwn ddiwygiedig o ‘Ynni Adnewyddadwy - Llawlyfr i Gynllunwyr’ wedi’i gyhoeddi.
14/08/15
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi ysgrifennu at rhanddeiliaid cynllunio (gan gynnwys awdurdodau cynllunio lleol) yn dilyn datganiad Llywodraeth y D.U. ar 13 Awst ynglŷn â phenderfynu ceisiadau nwy siâl.
14/08/15
Mae'r llythyr hwn yn cyhoeddi y bydd rheoliadau ffioedd newydd yn dod i rym ar 1 Hydref 2015. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar y prif welliannau i'r ddeddfwriaeth.
04/06/15
Mae'r llythyr hwn yn nodi'r darpariaethau newydd sy'n ymwneud ag apeliadau, lloriau mesanîn, a'r ddyletswydd i ymateb i ymgynghoriadau.
05/03/15
Mae'r dogfennau hyn yn cynnig trosolwg o gynigion Bil Cynllunio (Cymru).
25/02/15
Mae'r llythyr hwn yn rhoi'r newyddion diweddaraf inni ar y Fframwaith Perfformio a Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.
13/02/15
Mae’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol wedi datgan Cyfarwyddyd Hysbysu newydd ynglŷn â Olew a Nwy Anghonfensiynol.
23/01/15
Mae'r llythyr hwn yn rhoi rhaghysbysiad am y newidiadau sydd wedi'u gwneud i TAN 1.
19/01/15
Mae'r llythyr yma yn dynodi fod Mapiau Cyngor Datblygu (DAM) newydd wedi'u rhyddhau. Mae hefyd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am Gynlluniau Rheoli Traethlin.
12/11/14
Llythyr dilynol yw hwn gyda 3 Atodiad yn cynnwys canllawiau ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol.
03/11/14
Mae’r llythyr hwn yn cadarnhau’r mesurau perfformiad ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol ac yn nodi’r trefniadau ar gyfer casglu data ac adrodd arnynt.
15/10/14
Rhybudd ymlaen llaw o newidiadau i Ran 24 yr hawl datblygu a ganiateir (“Datblygu gan Weithredwr Codau Cyfathrebu Electronig (Cymru)”) gan Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Datblygu Cyffredinol a Ganiateir) (Diwygio)(Cymru) 2014. .
06/10/14
I gyd-fynd â'r Bil Cynllunio (Cymru), mae nifer o ddogfennau ymgynghori wedi'u cyhoeddi. Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi'r Cylchlythyr terfynol ar amodau cynllunio.
21/08/14
Bydd trefn newydd i wneud newidiadau ansylweddol i ganiatâd cynllunio sydd eisoes yn bodoli yn dod i rym ar 01 Medi 2014.
31/07/14
Mae’r llythyr yn cyflwyno newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a chanllawiau ar adeiladau cynaliadwy y cyhoeddir yng Ngorffennaf 2014.
17/03/14
Bydd hawliau newydd ynghylch datblygu a ganiateir ar gyfer diwydiant, busnesau, sefydliadau addysgol ac ysbytai yng Nghymru yn dod i rym ar 28 Ebrill 2014.
09/01/14
Mae'r llythyr hwn yn atgyfnerthu polisi cynllunio cenedlaethol ar berygl o lifogydd ac yn nodi newidiadau i sicrwydd gan y diwydiant yswiriant ar berygl llifogydd, a'r goblygiadau gall hyn gael ar gyflenwad tir ar gyfer tai.
18/12/13
Mae’r llythyr hwn yn disgrifio disgwyliadau’r Gweinidog Tai ac Adfywio o ran prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a rôl y system gynllunio.
10/12/13
Mae’r llythyr hwn yn rhoi’r diweddaraf ar y broses o gyflwyno Dangosyddion Datblygu Cynaliadwy.
13/11/13
Bydd y pwyntiau egluro hyn ar waith o Astudiaethau 2014 ymlaen.
08/10/13
Mae’r llythyr hwn at y Prif Swyddogion Cynllunio yn rhoi gwybodaeth am effaith bosibl y Prosiect Seilwaith Telathrebu Symudol ar wasanaethau cynllunio yng Nghymru.
01/10/13
Daeth newidiadau i hawliau datblygu a ganiateir i ddeiliaid tai i rym ar 30 Medi 2013. Mae'r newidiadau yn caniatáu i'r mwyafrif o ddeiliaid tai inswleiddio waliau solet yn allanol heb ganiatâd cynllunio.
22/07/13
Gwybodaeth am hawliau newydd ynghylch datblygu a ganiateir ar gyfer deiliaid tai yng Nghymru a fydd yn dod i rym ar 30 Medi 2013.
08/07/13
Mae’r llythyr hwn yn darparu cyngor gweithdrefnol i awdurdodau cynllunio lleol sy’n paratoi cynlluniau datblygu lleol.
15/05/13
Mae’r diweddariad hwn yn adolygu’r Datganiadau Technegol Rhanbarthol ar gyfer Agregau presennol, ac yn egluro rôl y Gweithgorau Agregau Rhanbarthol a statws y Datganiadau Technegol Rhanbarthol.
17/04/13
Caiff awdurdodau lleol godi Ardoll Seilwaith Cymunedol (ASC) ar ddatblygiadau newydd er mwyn cefnogi’r seilwaith sydd ei angen. Mae’r llythyr hwn yn egluro’r newidiadau i’r Ardoll; nid yw’r Ardoll hwn wedi cael ei ddatganoli.
28/03/13
Mae’r llythyr hwn yn cyflwyno’r dangosyddion newydd ar gyfer mesur cyfraniad y system gynllunio at gyflawni datblygu cynaliadwy yng Nghymru.
12/03/13
Mae'r llythyr yma yn dynodi fod Mapiau Cyngor Technegol (DAM) newydd wedi'u rhyddhau.
14/11/12
Mae’r llythyr hwn yn rhoi’r diweddaraf i chi ar y gwaith sy’n cael ei wneud gan Arolwg Daearegol Prydain i wneud Map Adnoddau Mwynol a Map Diogelu Agregau Cymru.
07/11/12
Mae’r llythyr hwn yn cyflwyno’r newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2012.
02/10/12
Ar 5 Hydref 2012 daw hawliau newydd i rym mewn perthynas â datblygu a ganiateir yng Nghymru a fydd yn cynnwys gosod technolegau ynni adnewyddadwy mewn eiddo annomestig.
19/09/12
Mae’r canllawiau diwygiedig yn ymwneud â’r trefniadau diwygiedig a ddechreuodd ym mis Ebrill 2012.
11/07/12
Ysgrifennon ni at y Prif Swyddogion Cynllunio fis Mehefin yn esbonio’r categorïau newydd o geisiadau cynllunio y mae’n rhaid eu cyfeirio at Weinidogion Cymru o 30 Gorffennaf 2012 ymlaen, pan fydd awdurdodau cynllunio lleol yn bwriadu rhoi caniatâd cynllunio iddynt.
11/06/12
Rydym wedi ysgrifennu at Brif Swyddogion Cynllunio er mwyn cyhoeddi’r ffaith y bydd canllaw arfer yn cael ei gyhoeddi a fydd yn annog ac yn hwyluso trafodaethau cyn ymgeisio.
27/04/12
Ysgrifennwyd at y Prif Swyddogion Cynllunio ym mis Ebrill 2012 gan egluro’r newidiadau i’r rheoliadau ynghylch y defnydd o’r ffurflen cais cynllunio safonol ar-lein a gorchmynion datblygu lleol.
08/02/12
Mae Llywodraeth y DU wedi datblygu fframwaith strategol i geisio gwneud mannau poblog yn fwy diogel rhag ymosodiadau gan derfysgwyr ac i ofalu bod mesurau gwrthderfysgaeth yn rhan o ddyluniad y mannau hynny.
06/02/12
Bydd y trefniadau diwygiedig hyn ar gyfer awdurdodau cynllunio lleol yn dechrau ym mis Ebrill 2012.
12/01/12
O 1 Ebrill 2012, bydd y tâl dyddiol safonol y mae’r Arolygiaeth Cynllunio yn ei godi am gynnal ymchwiliadau i Gynlluniau Datblygu Lleol a gwaith arall y gellir cael ad-daliad arno yn cynyddu.
06/07/11
Mae John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, wedi cadarnhau ein hymrwymiad parhaus i ganiatáu i ffermydd gwynt mawr gael eu datblygu dim ond mewn saith ardal sydd wedi’u dewis yn arbennig. Mae hefyd wedi gofyn i bawb sy’n gwneud penderfyniadau barchu uchafswm y capasiti gosod ar gyfer ynni gwynt ar
...
18/04/11
Mae dyfarniad yr achos llys wedi newid hyd a lled rheolau cynllunio defnydd tir mewn perthynas â dymchwel adeiladau.
01/03/11
Mae’r trefniadau hirdymor ar gyfer cydgysylltu Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai, a gaiff eu cyhoeddi gan awdurdodau cynllunio lleol, yn cael eu hadolygu. Bydd trefniadau interim yn eu lle o fis Ebrill 2011 ymlaen.
28/02/11
Polisi Cynllunio Cymru sy’n darparu’r fframwaith polisi fel y gall awdurdodau cynllunio lleol fynd ati’n effeithiol i baratoi cynlluniau datblygu. Cyhoeddwyd Argraffiad 4 o Bolisi Cynllunio Cymru ar 28 Chwefror 2011.
25/01/11
Rydym wedi ysgrifennu at awdurdodau cynllunio lleol gan fod Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 wedi diddymu’r angen i warchodwyr plant brofi i Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru fod ganddyn nhw ganiatâd cynllunio.
15/11/10
Ym mis Gorffennaf 2010, cyhoeddwyd taflenni yn egluro'r hyn y dylid ei ystyried wrth fynd ati i osod technoleg ynni adnewyddadwy, rheoliadau cynllunio a sut y gellir lleihau unrhyw effeithiau technoleg o’r fath.
22/10/10
Mae’r Awdurdod Glo wedi datblygu dull seiliedig ar risg o godi ymwybyddiaeth a rheoli’r materion yn ymwneud ag etifeddiaeth mwyngloddio o fewn yr holl awdurdodau cynllunio meysydd glo lleol. Mae’r dull gweithredu hwn yn rhan o’i amcan i fynd ati i ddosbarthu gwybodaeth am fwyngloddio a chydweithio’
...
20/10/10
Byddwn, o fis Ebrill 2011 ymlaen, yn cyflwyno trefniadau interim ar gyfer cydgysylltu’r Cyd-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai sy’n cael eu paratoi gan awdurdodau cynllunio lleol. Bydd y trefniadau hynny’n parhau nes y cytunir ar drefniadau mwy hirdymor.
01/09/10
Mae grantiau ar gael i Awdurdodau Lleol er mwyn iddynt allu caffael cymorth ymgynghorol i'w helpu i benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer cyfleusterau ynni adnewyddadwy a gwastraff.
24/08/10
Mae’r Comisiwn Ewropeaidd yn adolygu’r Gyfarwyddeb Asesu Effaith Amgylcheddol (85/337/EEC). Mae’n gofyn am safbwyntiau ar y modd y mae’r Gyfarwyddeb yn cael ei chymhwyso ac ar ba mor effeithiol ydyw.
13/08/10
Mae'r polisi cynllunio cenedlaethol ar adeiladau cynaliadwy wedi'i amlinellu ym Mholisi Cynllunio Cymru. O 1 Medi ymlaen, bydd yn cynnwys pob cartref newydd sy'n gofyn am ganiatâd cynllunio. Mae'r polisi'n disgwyl i bob cartref newydd fodloni safon adeiladu cynaliadwy ofynnol er
...
26/07/10
Dyma’r diweddaraf ar sefyllfa bresennol cyfres o gynigion rheoli datblygu. Mae’r cynigion yn deillio o Ddeddf Cynllunio A Phrynu Gorfodol 2004 a Deddf Cynllunio 2008.
20/07/10
Mae Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 3, 2010) yn cyflwyno’r newidiadau i’r polisi cynllunio gwledig. Mae fersiwn ddiwygiedig o Nodyn Cyngor Technegol 6 Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy hefyd wedi’i gyhoeddi.
09/06/10
Ar 8 Mehefin 2010, gwnaeth Jane Davidson, y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai, ddatganiad am gyhoeddi Argraffiad 2 Polisi Cynllunio Cymru.
03/06/10
Daeth Rheoliadau (Sylweddau Peryglus) (Cymru) (Diwygio) 2010 ("Rheoliadau 2010") i rym ar 19 Mawrth 2010. Mae'r newidiadau a ddaw yn sgil Rheoliadau 2010 yn cysoni'r drefn ar gyfer cael caniatâd sylweddau peryglus â'r hyn a geir yng Nghyfarwyddeb Ewropeaidd 96/82/EC, neu 'Cyfarwydde
...
04/05/10
Cafodd y Mesur Rheoli Llifogydd a Dŵr Gydsyniad Brenhinol ar Ebrill 8 2010. Mae'r Ddeddf yn cwmpasu llifogydd, erydu arfordirol a rheoli risg dŵr. Mae'r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol defnyddio Systemau Draenio Cynaliadwy (SDCau) i ddraenio dŵr wyneb ym mhob datblygiad tai a busnes newydd.
...
14/01/10
Rydym wedi comisiynu ymchwil i’r goblygiadau cynllunio o ran defnyddio tir ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy carbon isel.
14/01/10
Rydym wedi cyhoeddi gofynion cyfreithiol ar gyfer datganiadau Dylunio (a Mynediad) i gyd-fynd â’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio. Rydym hefyd wedi cyhoeddi polisi cynllunio cenedlaethol newydd ar gynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy.
14/01/10
Rydym wedi cyflwyno gofynion cyfreithiol newydd ar gyfer datganiadau Dylunio (a Mynediad) i gyd-fynd â’r rhan fwyaf o geisiadau cynllunio. Rydym hefyd wedi cyhoeddi polisi cynllunio cenedlaethol newydd ar gynllunio ar gyfer adeiladau cynaliadwy. Rydym wedi ariannu seminar i helpu cynghorwyr lleol i
...
12/01/10
Fel rhan o'n hymrwymiad i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd drwy'r system gynllunio, gofynnom i Faber Maunsell gynnal prosiect 'Ymchwil ar y Rhwystrau i Awdurdodau Lleol ym Maes Datblygiad Di-garbon' yn 2008. Darn o waith ymchwil yw hwn i sicrhau datblygiadau di-garbon
...
02/04/09
Daeth Deddf Gynllunio 2008 i rym yng Nghymru a Lloegr ar 26 Tachwedd 2008. Fodd bynnag, ni chaiff y Ddeddf gyfan ei gweithredu yng Nghymru.
01/04/09
Ar 1 Ebrill 2009, cyhoeddwyd llythyr yn egluro’r gofynion Asesu Effeithiau Amgylcheddol materion cludiant ar gyfer ceisiadau i ddatblygu ffermydd gwynt.