Skip to content

Y Fforwm Cymunedau Ffydd

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio â chymunedau ffydd i barhau i feithrin ac i hybu gwerthoedd sydd gennym yn gyffredin a dealltwriaeth rhwng cymunedau ar draws Cymru.

Nod y Fforwm Cymunedau Ffydd yw hwyluso deialog rhwng Llywodraeth Cymru a'r prif gymunedau ffydd ar unrhyw faterion sy'n effeithio ar fywyd economaidd, cymdeithasol a diwylliannol yng Nghymru.  

Pwy sy'n rhan o hyn?

Cynrychiolir Llywodraeth Cymru gan y Prif Weinidog, Cadeirydd y Fforwm. Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip, sydd â chyfrifoldeb dros faterion yn ymwneud â chydraddoldeb, yw'r Dirprwy Gadeirydd.Mae 19 aelod arall, sy'n cynnwys bydd dau gynrychiolydd o bob un o’r cymunedau ffydd canlynol:

  • Baha’i 
  • Bwdhaeth 
  • Hindŵaeth 
  • Iddewiaeth 
  • Islam 
  • Sikhiaeth  
  • Cynghrair Efengylaidd Cymru
a chynrychiolydd o bob un o'r canlynol:
  • Yr Eglwys yng Nghymru    
  • Yr Eglwys Gatholig yng Nghymru
  • Cyngor Eglwysi Rhyddion Cymru
  • Eglwysi Ynghyd yng Nghymru (CYTUN)
  • Cyngor Rhyng-ffydd Cymru. 

Beth sy'n cael ei drafod?

Gellir codi unrhyw faterion sy'n peri pryder i gymunedau ffydd yng Nghymru, ac yn yr un modd gall gwleidyddion godi unrhyw fater y mae angen ymgynghori â’r cymunedau ffydd yn eu cylch. Mae'r pynciau a drafodwyd yn ddiweddar yn cynnwys cydlyniant cymunedol, trechu tlodi, problemau sy'n wynebu cymunedau o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru, polisi cyflogaeth, caethwasiaeth fodern ac Addysg Grefyddol yn y cwricwlwm.