Sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar gyfer ystyried effeithiau newidiadau i’r system les ar y sector rhentu cymdeithasol ym mis Gorffennaf 2013.
Roedd aelodau'r Grŵp yn cynnwys rhanddeiliaid amrywiol iawn o bob rhan o Gymru a allai ystyried effeithiau'r newidiadau i'r system les - ac yn arbennig y dreth ystafell wely - ar landlordiaid a thenantiaid yn y sector rhentu cymdeithasol.
Diben y Grŵp oedd:
- derbyn ac asesu'r wybodaeth ddiweddaraf am effeithiau'r newidiadau i'r system les ar y sector rhentu cymdeithasol (tenantiaid a landlordiaid)
- archwilio'r camau y mae landlordiaid yn eu cymryd er mwyn rheoli'r effeithiau ynghyd ag unrhyw oblygiadau neu ganlyniadau i denantiaid
- ffurfio barn ynghylch pa mor ddigonol oedd yr ymateb ac i ba raddau y mae'n amlwg o safbwynt pob landlord
- nodi arferion da o safbwynt ymdrin â'r newidiadau a rhannu'r arferion hynny.
Roedd aelodau'r grŵp yn cynnwys:
Rhanddeiliaid
Ian Simpson - Cymdeithas Tai Bron Afon
Keith Edwards a Julie Nicholas - Sefydliad Siartredig Tai (Cymru)
Alun Thomas - Cyngor ar Bopeth (Cymru)
Amanda Oliver ac Aaron Hill - Tai Cymunedol Cymru
John Marr - Cyngor y Benthycwyr Morgeisi (Cymru)
Paul Neave - Cyngor Sir y Fflint
Michelle Wales a Jennie Bibbings - Shelter Cymru
Amanda Oliver - Gwasanaeth Cynghori i Denantiaid ar Gyfranogi (TPAS)
Shayne Hembrow a Steve Porter - Cymdeithas Tai Cymru a'r Gorllewin
Joy Williams a Paula Holland - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Steve Clarke - Tenantiaid Cymru
Llywodraeth Cymru
Peter Griffiths a Lowri Hamer - Y Tîm Rheoliadau Tai
Simon Prothero a Geoff Marlow - Y Tîm Digartrefedd (Opsiynau Tai)
Tim Margetts a Karl Thomas (Cadeirydd) - Diwygio Lles (Tai) a Swyddogion Rhenti Cymru (Diweddaru Budd-daliadau)
Phil Lawson a Chris Gittins -Llywodraeth Leol a Chymunedau (Cynhwysiant Ariannol)
Sara Ahmad - Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Cyfarfu'r Grŵp dair gwaith: 16 Gorffennaf 2013, 6 Medi 2013 ac 11 Tachwedd 2013
Mae'r Grŵp wedi cyflwyno un ar bymtheg o argymhellion i'r Gweinidog Tai ac Adfywio at ddiben asesu'r effeithiau ar y Sector Rhentu Cymdeithasol (landlordiaid a thenantiaid) a phennu a rhannu arferion da o fewn y Sector ar gyfer ymdrin â'r newidiadau. Mae'r adroddiad yn cael ei ystyried ar hyn o bryd a bydd y Gweinidog yn ymateb iddo maes o law.
I gael rhagor o wybodaeth am y Grŵp Gorchwyl a Gorffen anfonwch e-bost at: rentofficerhelpdesk@wales.gsi.gov.uk