Skip to content

Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016

Dolenni perthnasol

Heddiw cafodd deddfwriaeth arloesol i wella bywydau miliwn o bobl yng Nghymru sy'n rhentu eu cartrefi Gydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi'r Frenhines.
Crynodeb o'r gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ar ymddygiad a gwybodaeth tenantiaid a landlordiaid.
Amlinelliad byr o’r trefniadau newydd ar gyfer rhentu cartrefi a sut y gallwch gysylltu â ni mewn perthynas â hyn.
Enghreifftiau o Gontract Cyfnodol Safonol a Chontract Diogel.
Enghreifftiau sy’n dangos rhai o’r anawsterau sy’n wynebu pobl oherwydd cymhlethdod y gyfraith bresennol ynglŷn â thai.
Ar 5 Mai 2006, cyhoeddodd Comisiwn y Gyfraith adroddiad terfynol ar rentu cartrefi (Rhif 297 Comisiwn y Gyfraith).
Crynodeb o’r ymchwil a wnaed gan Lais Defnyddwyr Cymru i’r hyn a allai ddigwydd yn y sector tai rhent preifat yn sgil diwygio’r gyfraith ynghylch tenantiaeth.
Darllenwch adroddiad Comisiwn y Gyfraith ar Rentu Cartrefi yng Nghymru
Ei gwneud yn haws rhentu cartref yng Nghymru.

Bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dolen allanol) Bydd y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (dolen allanol) yn ei gwneud yn haws ac yn symlach rhentu cartref, drwy ddisodli amryw o ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth gydag un fframwaith cyfreithiol eglur.

Yr hyn sydd wrth wraidd y Ddeddf yw'r "contractau meddiannaeth" newydd. Heblaw am ychydig o eithriadau, mae'r Bil yn cyflwyno dau fath o gontract meddiannaeth yn lle'r holl denantiaethau a thrwyddedau presennol:

  • contract diogel - sy'n seiliedig ar y denantiaeth ddiogel a roddir gan Awdurdodau Lleol
  • contract safonol - sy'n seiliedig ar y denantiaeth fyrddaliol sicr a ddefnyddir yn y sector rhentu preifat yn bennaf.

Ar ôl iddo gael ei gyflwyno, bydd y Ddeddf yn ei gwneud yn rheidrwydd i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'r contract meddiannaeth sy'n amlinellu hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rheini sy'n rhentu oddi wrthynt yn eglur. Bydd Llywodraeth Cymru'n darparu enghreifftiau am ddim o gontractau, er mwyn helpu landlordiaid i gydymffurfio â'r gofyniad hwn.

Bydd y Ddeddf yn sicrhau cyfnod o chwe mis o leiaf o feddiannu eiddo, a bydd yn rhaid i landlordiaid sicrhau bod yr eiddo’n addas i bobl fyw ynddo. Bydd y Ddeddf hefyd yn helpu i amddiffyn pobl sy'n cwyno ynglŷn â chyflwr eiddo rhag cael eu troi allan o'u cartrefi.

Bydd pobl sy'n wynebu sefyllfaoedd anodd hefyd yn elwa ar y Ddeddf. Bydd yn helpu i atal sefyllfa sydd ar hyn o bryd yn arwain at ddigartrefedd, pan fo cyd-denant yn gadael tenantiaeth, a thrwy hynny'n dod â'r denantiaeth i ben i bawb arall. Bydd yr agwedd newydd at gyd-gontractau hefyd yn helpu'r rhai hynny sy'n dioddef cam-drin domestig, drwy ei gwneud yn bosibl troi'r sawl sy'n cam-drin allan o'r cartref.

Caiff anghydraddoldebau yn y modd y gall rhywun olynu tenantiaeth eu trin hefyd, gan greu hawl olynu newydd i ofalwyr.

Bydd y Ddeddf hefyd yn galluogi landlordiaid i adfeddiannu eiddo sydd wedi'i adael heb fod gofyn cael gorchymyn llys, gan olygu y bydd yn bosibl ailosod yr eiddo yng nghynt, sydd er budd pawb.

Dyma un o'r darnau mwyaf arwyddocaol o ddeddfwriaeth i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei basio, a bydd yn effeithio'n uniongyrchol ar fywydau dros un filiwn o bobl sy'n rhentu cartref yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae rhaglen waith sylweddol ar droed i roi’r Ddeddf ar waith. Mae gwneud yr is-ddeddfwriaeth sy’n ofynnol, megis penderfynu ar ffitrwydd cartrefi i bobl fyw ynddynt, contractau enghreifftiol a thelerau atodol y contractau meddiannaeth, yn golygu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Byddwn wrth gwrs yn targedu landlordiaid, asiantau gosod a thenantiaid o ran cyhoeddusrwydd yn ystod y misoedd yn arwain at y dyddiad pan ddaw’r Deddf i rym.

Hoffem ddiolch i’r holl sefydliadau ac unigolion sydd wedi helpu i ddatblygu’r Ddeddf, ac edrychwn ymlaen at barhau i gydweithio â rhanddeiliaid wrth i’r Ddeddf gael ei rhoi ar waith.