Yr Eirfa Ddrafftio
Mae’r Eirfa yn cynnwys geiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn gyffredin yn neddfwriaeth Cymru.
This file may not be fully accessible.
Rhagymadrodd
Beth yw’r Eirfa Ddrafftio?
Casgliad o eiriau, ymadroddion, byrfoddau a darnau o destun gosod a ddefnyddir gan gyfieithwyr deddfwriaethol Llywodraeth Cymru wrth gyfieithu testunau deddfwriaethol yw’r Eirfa Ddrafftio. Nid yw’n cynnwys pob gair, ymadrodd, byrfodd na thestun gosod a ddefnyddir mewn deddfwriaeth, ond yn hytrach y rhai y mae’r cyfieithwyr deddfwriaethol yn gweld ei bod yn ddefnyddiol eu cynnwys.
Lluniwyd y fersiwn cyntaf o’r Eirfa yn 2004. Roedd yn cynnwys ychydig dros 130 o gofnodion, gyda’r bwriad o gofnodi’r termau sylfaenol yr oedd y cyfieithwyr deddfwriaethol wedi cytuno arnynt drwy drafodaeth a defnydd. Ffrwyth trafodaethau ynghylch cyfieithu testunau penodol yw’r Eirfa yn hytrach nag ymgais i safoni’r holl derminoleg sy’n ymwneud â deddfwriaeth yn systematig. Er hynny, wrth ddod i benderfyniad mae’r cyfieithwyr deddfwriaethol yn ystyried sut y bydd penderfyniadau unigol yn effeithio ar y corff cyfan o ddeddfwriaeth ddwyieithog a’r gobaith yw y bydd y casgliad hwn yn gam tuag at safoni a sefydlogi’r derminoleg Gymraeg a ddefnyddir mewn deddfwriaeth er hwyluso hygyrchedd y gyfraith yng Nghymru.
Sut mae’r Eirfa Ddrafftio yn cael ei llunio?
Y cyfieithwyr deddfwriaethol eu hunain sy’n penderfynu pa eitemau i’w cynnwys yn yr Eirfa a hynny drwy broses o ymgynghori a thrafod o fewn yr Uned Cyfieithu Deddfwriaethol gan ymgynghori ag eraill yn ôl yr angen.
Sut y dylid defnyddio’r Eirfa Ddrafftio?
Yr Eirfa felly yw’r awdurdod uchaf i gyfieithwyr deddfwriaethol Llywodraeth Cymru o safbwynt y geiriau, yr ymadroddion, y byrfoddau a’r testunau gosod. Wrth raid, mae’n bosibl y bydd unrhyw destun penodol yn gofyn am ddefnyddio geiriau neu ymadroddion gwahanol i’r hyn a geir yn yr Eirfa. Y geiriau mwyaf addas yw’r rhai sy’n cyfleu ystyr y testun gliriaf. Ond mae angen cofio bod pob darpariaeth unigol a phob deddfiad unigol yn rhan o gorff mwy o ddeddfwriaeth a bod cysondeb o fewn y corff cyfan yn bwysig o ran hygyrchedd y gyfraith. Felly dylid osgoi gwyro oddi wrth yr Eirfa oni bai bod cyfiawnhad amlwg dros hynny.
Pwy sy’n gallu gweld yr Eirfa Ddrafftio?
Er mai dogfen at ddefnydd y cyfieithwyr deddfwriaethol yw’r Eirfa yn bennaf, mae ar gael i bob aelod o staff Llywodraeth Cymru ac i’r cyhoedd drwy wefan BydTermCymru. Dogfen fyw yw hi a chaiff ei diweddaru’n rheolaidd, felly os ydych yn argraffu copi i’w ddefnyddio, dylech sicrhau eich bod yn defnyddio’r copi diweddaraf.
Perthynas yr Eirfa Ddrafftio â Chronfa Dermau TermCymru
Bu prosiect hirdymor i fwydo unrhyw dermau addas o’r Eirfa i gronfa termau TermCymru, i roi statws addas i gofnodion o’r Eirfa sydd yn TermCymru, ac i sicrhau nad oes gwrthdaro diangen rhwng cofnodion yr Eirfa a chofnodion TermCymru. Mae’r prosiect hwnnw bellach wedi ei gwblhau, a bydd y mwyafrif llethol o dermau’r Eirfa (ac eithrio cofnodion fel ymadroddion cyfreithiol, nad oes diben eu cynnwys yn y gronfa dermau) hefyd i’w gweld fel cofnodion statws A yn TermCymru. Yn achos y cofnodion hynny o’r Eirfa lle bo angen gwahaniaethu rhwng y termau a ddefnyddir mewn testunau deddfwriaethol a thestunau cyffredinol, bydd cofnodion TermCymru bellach yn gwneud hynny’n eglur. Wrth gynnwys cofnodion newydd yn yr Eirfa, sicrheir bod trafodaeth ynghylch priodoldeb cynnwys y cofnodion hynny yn TermCymru ar statws addas. Serch hynny, wrth gyfieithu deddfwriaeth y disgwyl yw y bydd cyfieithwyr yn dilyn yr Eirfa os ydynt yn dod o hyd i anghysondebau rhwng cofnodion yr Eirfa a chofnodion TermCymru.
Pa wybodaeth sydd yng nghofnodion yr Eirfa Ddrafftio?
Mae’r Eirfa Ddrafftio yn cynnwys y canlynol: termau, ymadroddion, darnau testun gosod, a byrfoddau.
Ar gyfer termau, rhoddir y term Saesneg a’r term Cymraeg cyfatebol ynghyd â rhan ymadrodd y term Cymraeg ynghyd â’r ffurf luosog ar enwau. Weithiau ychwanegir diffiniad, yn Gymraeg neu yn Saesneg, neu yn y ddwy iaith. Fel arfer, mae’r diffiniadau yn addasiadau o ddiffiniadau mewn ffynonellau cyfeirio safonol e.e. The Oxford English Dictionary. Lle y gwelir hynny’n ddefnyddiol rhoddir nodiadau ychwanegol.
Mae rhai cofnodion yn yr Eirfa er mwyn:-
- gwahaniaethu rhwng ystyron gwahanol geiriau e.e. area (rhan, man, llecyn a pwnc) ond ni roddir cyfrif am bob ystyr gwahanol (e.e. ni chynhwysir ardal nac arwynebedd)
- pennu termau ar gyfer grwpiau cysylltiedig o eiriau y mae angen gallu gwahaniaethu rhyngddynt e.e. boat, craft, vessel, ship (cwch, bad, llestr, llong)
- dangos sillafiad cymeradwy e.e. archaeolegol (yn hytrach nag archeolegol).
- dangos ffurf luosog gymeradwy e.e. apelau (yn hytrach nag apeliadau fel lluosog apêl).
English | Definition(unrhyw nodiadau yr ydych am eu cynnwys ynglŷn â’r term Saesneg) | Cymraeg | Diffiniad(unrhyw nodiadau yr ydych am eu cynnwys ynglŷn â’r term Cymraeg) | Rhannau ymadrodd | Lluosog | Nodiadau ychwanegol | ||
(1) Gwr. /ben. | (2) Unig./ lluos.
| (3) Enw etc (gweler y rhestr ar ddiwedd y ddogfen)
| ||||||
A statutory instrument containing regulations under this Act is subject to annulment in pursuance of a resolution of Senedd Cymru. | Mae offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon yn ddarostyngedig i’w ddiddymu yn unol â phenderfyniad gan Senedd Cymru. | ymad | ||||||
A statutory instrument containing regulations under this Act may not be made unless a draft of the instrument has been laid before and approved by a resolution of Senedd Cymru. | Ni chaniateir gwneud offeryn statudol sy’n cynnwys rheoliadau o dan y Ddeddf hon oni bai bod drafft o’r offeryn wedi ei osod gerbron Senedd Cymru ac wedi ei gymeradwyo ganddi drwy benderfyniad. | ymad | ||||||
accept | derbyn | bf | ||||||
acquis communautaire | acquis communautaire is a French term referring to the cumulative body of European Community laws, comprising the EC’s objectives, substantive rules, policies and, in particular, the primary and secondary legislation and case law – all of which form part of the legal order of the European Union (EU). | acquis communautaire | g | u | e | |||
act | Act of Parliament, statute | deddf | b | u | e | deddfau | ||
act | something transacted in council, or in a deliberative assembly, hence, a decree passed by a legislative body, a court of justice, etc (e.g. an EU institution) | act | b | u | e | actau | ||
Act (of Parliament) | Deddf (gan Senedd y Deyrnas Unedig) | b | u | e | Deddfau (gan Senedd y Deyrnas Unedig) | Gweler y cofnod “Act of the Parliament of the United Kingdom” hefyd. | ||
Act of Accession | Act Ymaelodi | b | u | e | Actau Ymaelodi | |||
Act of Parliament | Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig | b | u | e | Deddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig | Gweler y cofnod “Act of the Parliament of the United Kingdom” hefyd. Arferid defnyddio “Deddf Seneddol”, a “Deddfau Seneddol” yn y lluosog, ond bellach argymhellir defnyddio "Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig" i gyfeirio at ddeddfau a gaiff eu pasio gan Senedd y Deyrnas Unedig a chadw "deddf seneddol" ar gyfer deddf a gaiff ei phasio gan unrhyw senedd ("an act of a parliament"). | ||
Act of the Assembly | Deddf gan y Cynulliad | b | u | e | Deddfau gan y Cynulliad | Roedd y ffurfiau 'Deddf Cynulliad' a 'Deddfau'r Cynulliad' yn cael eu harfer hefyd, gan gynnwys gan y Cynulliad Cenedlaethol ei hun, er bod y ffurfiau hynny yn fwy amwys. | ||
Act of Senedd Cymru | Deddf gan Senedd Cymru | b | u | e | Deddfau gan Senedd Cymru | Arferir “Deddfau Senedd Cymru” yn y lluosog hefyd. Mae hyn yn cyfeirio at y corpws cyfan o Ddeddfau tra bo “Deddfau gan Senedd Cymru” yn cyfeirio at fwy nag un o’r Deddfau ond nid pob un ohonynt. | ||
Act of the Parliament of the United Kingdom | Deddf gan Senedd y Deyrnas Unedig | b | u | e | Deddfau gan Senedd y Deyrnas Unedig | Gweler y cofnod “Act of Parliament” hefyd. Yn yr unigol arferir "Deddf gan Senedd y DU" weithiau. Yn y lluosog, arferir “Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig” a "Deddfau Senedd y DU" yn ogystal â "Deddfau gan Senedd y DU" fel y bo'n briodol. | ||
act or default | gweithred neu ddiffyg | ymad | gweithredoedd neu ddiffygion | |||||
act or failure to act | gweithred neu fethiant i weithredu | ymad | gweithredoedd neu fethiannau i weithredu | |||||
act or omission | gweithred neu anweithred | ymad | gweithredoedd neu anweithredoedd | |||||
An Act of the National Assembly for Wales | Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru | b | u | e | Deddfau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru | Arferid “Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru” hefyd, ee ar ddechrau Biliau, a grëir yn awtomatig gan Legislative Workbench. Roedd y Cynulliad am inni gadw at hyn er y byddai modd dadlau fel a ganlyn: Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol” = Un o ddeddfau CCC; Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru = Unig ddeddf CCC. Fodd bynnag, gellid dadlau mai’r ddeddf o dan sylw yw’r unig ddeddf sy’n trafod y materion a nodir yn yr enw hir. Arferir “Deddfau Cynulliad Cenedlaethol Cymru” yn y lluosog hefyd.
| ||
adoption order | gorchymyn mabwysiadu | g | u | e | gorchmynion mabwysiadu | |||
adverse possession | The occupation of land to which another person (the paper owner) has title, with the intention of possessing it as one's own. | meddiant gwrthgefn | Dyma’r term cyfreithiol am yr hyn a elwir yn gyffredin yn ‘sgwatio’.
| g | u | e | ||
adverse possessor | person sy’n meddu’n wrthgefn | g | u | e | personau sy’n meddu’n wrthgefn | |||
advocacy | eiriolaeth | b | u | e | ||||
advocacy service | gwasanaeth eirioli | g | u | e | gwasanaethau eirioli | |||
advocate | eirioli | bf | ||||||
affirmative procedure | gweithdrefn gadarnhaol | b | u | e | gweithdrefnau cadarnhaol | |||
agglomeration | extended city or town, esp. in relation to the Environmental Noise (Wales) Regulations 2006 and the Environmental Noise (Identification of Noise Sources) (Wales) Regulations 2007 | crynodref | ardal ddinesig fawr neu ddinas sydd â phoblogaeth o dros 250,000 | b | u | e | crynodrefi | |
agreement | cytundeb | g | u | e | cytundebau | |||
aircraft | any of various vehicles capable of flight; (originally) a hot-air balloon; an airship (now chiefly historical); (subsequently) an aeroplane or other heavier-than-air machine | cerbyd awyr | g | u | e | cerbydau awyr | Pan fo angen manwl gywirdeb neu wahaniaethu oddi wrth “awyren” (“aeroplane”). | |
amending instrument | offeryn diwygio | g | u | e | offerynnau diwygio | |||
amendment | an alteration (addition, removal, replacement, or other change) made by means of one piece of legislation to the text of other legislation
| diwygiad | newid (ychwanegiad, dilead, disodliad, neu newid arall) a wneir drwy un darn o ddeddfwriaeth i destun deddfwriaeth arall | g | u | e | diwygiadau | Gweler yr ail gofnod ar gyfer “amendment” hefyd. |
amendment | a change proposed or made to the text of proposed primary legislation by legislators as part of a formal process before the legislation is passed | gwelliant | newid a gynigir neu a wneir i destun deddfwriaeth sylfaenol arfaethedig gan ddeddfwyr fel rhan o broses ffurfiol cyn i’r ddeddfwriaeth gael ei phasio | g | u | e | gwelliannau | Gweler y cofnod cyntaf ar gyfer “amendment” hefyd. |
among(st) other things | ymhlith pethau eraill | ymad | ||||||
anaw | Act of the National Assembly for Wales | dccc | Deddf gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru | byr | ||||
and all other powers which enable it in that behalf | a phob pŵer arall sy’n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw | |||||||
and now vested in them | ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy | ymad | ||||||
animal feed | bwyd anifeiliaid | g | u | e | bwydydd anifeiliaid | |||
animal feeding(-)stuff | bwyd anifeiliaid | g | u | e | bwydydd anifeiliaid | |||
annex | atodiad | g | u | e | atodiadau | |||
annul | to render void in law, declare invalid or of none effect. | diddymu | bf | |||||
any provision of this Act | unrhyw ddarpariaeth yn y Ddeddf hon | ymad | ||||||
appeal | apêl | b | u | e | apelau | |||
appendix | atodiad | g | u | e | atodiadau | |||
application | (e.g. as a title in an instrument) | cymhwyso | bf | |||||
application to the Crown | cymhwyso i’r Goron | ymad | Ond “y cymhwysiad hwnnw i’r Goron” | |||||
apply | (e.g. these regulations apply to Wales/in relation to Wales). Daw’r diffiniad isod o ddyfarniad llys: "The Oxford English Dictionary (2nd ed. 1989), vol. I, at p 577, states that to “apply” means to “bring (a law, rule, test, principle, etc.) into contact with facts, to bring to bear practically, to put into practical operation”. | bod yn gymwys | (e.e. mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru/o ran Cymru) | bf | ||||
appointed day | diwrnod penodedig | g | u | e | diwrnodau penodedig | |||
apportion | dosrannu | bf | ||||||
appropriate | priodol | ans | ||||||
approvement | The conversion to his own profit, by the lord of the manor, of waste or common land by enclosure and appropriation | cau tir gan y perchennog | bf | |||||
arbitration | cymrodeddu | bf | ||||||
archaeological | archaeolegol | ans | ||||||
area | a piece of ground or space within a building, that is not built on or occuppied, or is enclosed, or reserved for a particular purpose (e.g. area of highway) | rhan; man; llecyn etc | u | e | rhannau; mannau; llecynnau etc | |||
area | =policy area (to differentiate from ‘maes’ and ‘mater’ in memoranda etc | pwnc | g | u | e | pynciau | ||
article | a clause in a document | erthygl | b | u | e | erthyglau | ||
as amended [from time to time] | fel y’i diwygir [o bryd i’w gilydd], fel y’u diwygir [o bryd i’w gilydd] | ymad | ||||||
as it had effect immediately before exit day | fel yr oedd yn cael effaith yn union cyn y diwrnod ymadael | ymad | ||||||
as it has effect in EU law | fel y mae’n cael effaith yng nghyfraith yr UE | ymad | ||||||
as originally enacted | fel y’i deddfwyd yn wreiddiol, fel y’u deddfwyd yn wreiddiol | ymad | ||||||
as the case may be | yn ôl y digwydd | ymad | ||||||
asc | Act of Senedd Cymru | dsc | Deddf gan Senedd Cymru | byr | ||||
asp | Act of the Scottish Parliament | dsa | Deddf gan Senedd yr Alban | byr | ||||
Assembly Measure | Mesur gan y Cynulliad | g | u | e | Mesurau gan y Cynulliad | Arferir “Mesur Cynulliad”, a “Mesurau’r Cynulliad” yn y lluosog, hefyd | ||
associated provision | darpariaeth gysylltiedig | b | u | e | darpariaethau cysylltiedig | Nid yw hwn yn derm fel y cyfryw ond dyma gyfieithiad posibl. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “related provision”. | ||
audit | archwilio | bf | ||||||
audit | archwiliad | g | u | e | archwiliadau | |||
auditor | archwilydd | g | u | e | archwilwyr | |||
authenticate | dilysu | bf | ||||||
award | Swm o arian sy’n ddyledus fel cosb, iawndal neu daliad yn sgil dyfarniad gan farnwr neu benderfyniad gan gymrodeddwr | dyfarndal | g | u | e | dyfarndaliadau | ||
before the end of | cyn diwedd | ymad | ||||||
beginning on | gan ddechrau ar | ymad | Mae “beginning on” yn llai manwl na “beginning with” o ran ystyr: nid yw’n ei gwneud hi’n glir pa bryd yn union yn ystod y diwrnod hwnnw y mae’r cyfnod yn dechrau. Mae’n bosibl y bydd “sy’n dechrau ar” yn gweithio’n well mewn rhai cystrawennau. | |||||
beginning with | gan ddechrau â | ymad | Defnyddir “beginning with” er mwyn disgrifio cyfnod sy’n dechrau ar ddechrau’r diwrnod hwnnw (h.y. yn union wedi hanner nos). Mae’n bosibl y bydd “sy’n dechrau â” yn gweithio’n well mewn rhai cystrawennau. | |||||
believe | (e.g. if the Welsh Ministers believe…) | credu | (e.e. os yw Gweinidogion Cymru yn credu…) | bf | ||||
bend | a curve, especially a sharp one in a road | tro | g | u | e | troadau | Argymhellir y ffurf luosog “troadau” yn hytrach na “troeon”. | |
benefit | state payment e.g. for unemployed person | budd-dal | g | u | e | budd-daliadau | ||
berth | a sleeping-place in a ship; a long box or shelf on the side of the cabin for sleeping; a sleeping-place of the same kind in a railway carriage or elsewhere | man cysgu | g | u | e | mannau cysgu | Bydd “gwely” yn briodol mewn rhai cyd-destunau | |
best practice | arferion gorau | ll | e | Ond os oes angen ffurf unigol e.e. ‘a best practice is a X’, arfer orau (gan ddilyn y genedl gyntaf a nodir yn GPC). | ||||
bill | draft of a proposed Act | bil | g | u | e | biliau | ||
biological parent | rhiant biolegol | g | u | e | rhieni biolegol | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “birth parent” a “natural parent” | ||
birth parent | rhiant geni | g | u | e | rhieni geni | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “biological parent” a “natural parent” | ||
boat | cwch | g | u | e | cychod | |||
both Houses of Parliament | The House of Lords and the House of Commons | dau Dŷ Senedd y Deyrnas Unedig | g | u | e | |||
bring into force | dwyn i rym | bf | ||||||
butcher | cigyddio | torri anifail yn ddarnau cig ar gyfer ei fwyta | bf | |||||
butcher | cigydd | g | u | e | cigyddion | |||
but not so as to bring the duty under section X into force | ond nid fel bod y ddyletswydd yn adran X yn cael ei dwyn i rym | ymad | ||||||
by virtue of | yn rhinwedd | ymad | ||||||
C. | Commencement | C. | byr | |||||
C. | Command Paper (1870-1899) | G. | byr | |||||
c. | chapter | p. | byr | |||||
calculate | cyfrifo | bf | ||||||
capture | The forcible taking by an enemy of smth as a prize in time of war with intent to deprive the owner of all property in the thing taken (maritime law) | cipio | bf | |||||
caravan | carafán | b | u | e | carafannau | |||
carry on | e.g. carry on a business | cynnal | bf | |||||
Cd. | Command Paper (1900-1918) | Gn. | byr | |||||
centre point | (in road orders) | canolbwynt | (mewn gorchmynion ffyrdd) | g | u | e | canolbwyntiau | Mae’r sillafiad Saesneg yn amrywio rhwng “centre point”, “centre-point” a “centrepoint”. |
cereal | Any grass that produces an edible grain, cereal plant | ŷd | e.e. cae o ŷd | g | u | e | ydau | ‘llafur’ yn y De |
cereal | Mass of grain produced by cereal plants | grawn | e.e. llwyth o rawn yn barod i fynd i’r llong | g | u | e | ||
cereal | Breakfast food made from roasted grain | grawnfwyd | e.e. bowlaid o rawnfwyd gyda llaeth | g | u | e | grawnfwydydd | |
Church Measure | Mesur gan Eglwys Loegr | g | u | e | Mesurau gan Eglwys Loegr | Arferir “Mesur Eglwys Loegr”, a “Mesurau Eglwys Loegr” yn y lluosog, hefyd os ydynt yn fwy priodol yn y cyd-destun. | ||
circulatory carriageway | cerbytffordd gylchredol | b | u | e | cerbytffyrdd cylchredol | |||
cited | e.g. These Regulations may be cited as…. | enw | e.e. Enw’r Rheoliadau hyn yw….. | |||||
civil status | statws sifil | g | u | e | statysau sifil | |||
class | (=category) | dosbarth (ar) | g | u | e | dosbarthau | ||
class | (=of pupils, students etc) | dosbarth (o) | g | u | e | dosbarthiadau | ||
clause | cymal | g | u | e | cymalau | |||
Clerk of the Senedd | Clerc y Senedd | g | u | e | ||||
closing words | geiriau cloi | ll | e | |||||
Cm. | Command Paper (1986- ) | Gorch. | Papur Gorchymyn | byr | ||||
Cmd. | Command Paper (1919-1956) | Gorchm. | byr | |||||
Cmnd. | Command Paper (1956-1986) | Gorchmn. | byr | |||||
co-draft | cyd-ddrafftio | bf | ||||||
co-drafter | cyd-ddrafftiwr | g | u | e | cyd-ddrafftwyr | |||
co-drafting | the process of co-drafting | cyd-ddrafftio | bf | |||||
come into force | dod i rym | bf | ||||||
coming into force date | dyddiad dod i rym | g | u | e | dyddiadau dod i rym | |||
Command Paper | document issued by the UK government and presented to Parliament formally 'By His Majesty's Command'.
| Papur Gorchymyn | g | u | e | Papurau Gorchymyn | ||
commencement | (eg. as a title in an instrument) | cychwyn | bf | |||||
commencement order | gorchymyn cychwyn | g | u | e | gorchmynion cychwyn | |||
comment | sylw | g | u | e | sylwadau | Os defnyddir 'sylw(adau)' i gyfleu 'representation(s)' a bod angen gair arall am 'comment(s)' gellir defnyddio 'sylwadaeth(au)' (eb) ar gyfer 'comment(s)' er mwyn gwahaniaethu rhyngddynt | ||
Commission Decision | Penderfyniad gan y Comisiwn | g | u | e | Penderfyniadau gan y Comisiwn | Arferir “Penderfyniad Comisiwn” a “Penderfyniad y Comisiwn” hefyd, a “Penderfyniadau’r Comisiwn” yn y lluosog, os ydynt yn fwy priodol yn y cyd-destun. | ||
Commission Regulation | Rheoliad gan y Comisiwn | g | u | e | Rheoliadau gan y Comisiwn | Arferir “Rheoliad Comisiwn” a “Rheoliad y Comisiwn” hefyd, a “Rheoliadau’r Comisiwn” yn y lluosog, os ydynt yn fwy priodol yn y cyd-destun. | ||
common commencement date | dyddiad cydgychwyn | g | u | e | dyddiadau cydgychwyn | |||
common law | the body of law in England and Wales developed by the courts as opposed to that created by statute | cyfraith gyffredin | corff o gyfraith yng Nghymru a Lloegr a ddatblygir gan y llysoedd o’i gyferbynnu â’r corff a lunnir drwy statud | b | u | e | Er enghraifft, “Nid yw’r rheol gyfreithiol bod dyletswydd oblygedig ar denant i ymddwyn fel tenant wrth ddefnyddio annedd sydd ar les (yn yr ystyr sydd i “tenant-like user” yn ôl y gyfraith gyffredin) yn gymwys i ddeiliad contract os yw’r denantiaeth yn gontract meddiannaeth.” | |
common law | the rules of law in England and Wales developed historically by the King’s Courts as opposed to the rules of equity developed by the Chancellor’s Courts, both sets of rules now being administered by a unified court system
| cyfraith gyffredin | rheolau cyfraith a ddatblygwyd yng Nghymru a Lloegr yn hanesyddol gan Lysoedd y Brenin o’u cyferbynnu â rheolau ecwiti a ddatblygwyd gan Lysoedd y Canghellor; mae’r ddwy set o reolau bellach yn cael eu gweinyddu gan system lysoedd unedig
| b | u | e | Er enghraifft, “Effaith gwneud y llysoedd yn awdurdod cyhoeddus o dan y Ddeddf yw rhoi pwysau arnynt i fireinio ac i ddatblygu rheolau’r gyfraith gyffredin ac ecwiti mewn ffordd sy’n cyd-fynd â hawliau’r Confensiwn.” Er bod y ddwy “system” yn cael eu gweinyddu o fewn yr yn drefn lysoedd, mae dal gwahaniaeth, er enghraifft rhwng rhwymedïau’r gyfraith gyffredin a rhwymedïau ecwiti. Er enghraifft, os yw rhywun yn torri contract, un o rwymedïau’r gyfraith gyffredin yw talu iawndal, ond o dan reolau ecwiti, mae modd i’r llys orchymyn i’r parti sydd heb gyflawni telerau’r contract wneud hynny (specific performance) neu roi’r ddau barti yn ôl yn eu sefyllfa cyn gwneud y contract drwy ddad-wneud y contract (recission) | |
common law | the body of law based on the legal system of England and Wales, as opposed to a civil law system based on the Napoleonic Code or Roman Law
| cyfraith gyffredin | y corff o gyfraith sy’n seiliedig ar system gyfreithiol Cymru a Lloegr, o’i chyferbynnu â systemau cyfraith sifil sy’n seiliedig ar y Cod Napoleonaidd neu Gyfraith Rhufain.
| b | u | e | Er enghraifft, “Yn yr un modd ag y lledaenodd traddodiad y gyfraith gyffredin drwy’r byd yn sgil twf yr Ymerodraeth Brydeinig, aethpwyd â’r gyfraith sifil i gyfandiroedd eraill drwy ymdrechion ymerodraethol gwladwriaethau eraill yng ngorllewin Ewrop.” | |
Community law | cyfraith y Gymuned | b | u | e | cyfreithiau’r Gymuned | |||
Community legislation | deddfwriaeth Gymunedol | b | u | e | pan fydd yn cyfeirio at nifer o ddeddfau penodol yn hytrach na'r holl gorff o ddeddfwriaeth sy'n bodoli o fewn yr UE. Os cyfeirir at holl gorff deddfwriaeth yr UE, defnyddir ‘deddfwriaeth y Gymuned’. | |||
Community obligation | rhwymedigaeth Gymunedol | b | u | e | rhwymedigaethau Cymunedol | |||
Community provision | darpariaeth Gymunedol | b | u | e | darpariaethau Cymunedol | |||
compensate | digolledu | bf | ||||||
compliance | cydymffurfedd | g | u | e | ||||
compulsory | gorfodol | ans | ||||||
compute | cyfrifiannu | bf | ||||||
confinement | the condition of being in childbirth, delivery, e.e. (6) In this section “confinement” means (a) labour resulting in the issue of a living child, or (b) labour after [24 weeks] of pregnancy resulting in the issue of a child whether alive or dead (adrannau 36(5) a 171(1) o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992) | gwelyfod | g | u | e | |||
confiscate | Take or seize property with authority (not necessarily legal authority) | 1. (yn gyffredinol) mynd â rhywbeth oddi ar rywun; cymryd rhywbeth oddi ar rywun; 2. (yn gyfreithiol): atafaelu | bf | |||||
conformity | cydymffurfiaeth | b | u | e | ||||
connivance | ymoddefiad | g | u | e | ||||
consequential amendment | diwygiad canlyniadol | g | u | e | diwygiadau canlyniadol | |||
consequential provision | darpariaeth ganlyniadol | b | u | e | darpariaethau canlyniadol | |||
consider | (e.e. if the Commissioner considers…) | ystyried | (e.e. os yw’r Comisiynydd yn ystyried…) | bf | ||||
consolidate | combine into a single whole | cydgrynhoi | bf | |||||
construe | dehongli | bf | ||||||
consumer | defnyddiwr | g | u | e | Pan fo angen gwahaniaethu rhwng ‘user’ a ‘consumer’ gellir defnyddio ‘treuliwr’ am ‘consumer’ fel yn achos Rheoliadau Gwastraff Pecynwaith 2023 | |||
contract | contractio | bf | ||||||
contract of employment | contract cyflogaeth | g | u | e | contractau cyflogaeth | |||
contractor | contractwr | g | u | e | contractwyr | |||
contractual | contractiol | ans | ||||||
control measure | mesur rheoli | g | u | e | mesurau rheoli | |||
contravene | offend against the prohibition or order of (a law, treaty, or code of conduct)
conflict with (a right, principle, etc.), especially to its detriment | torri (e.e. torri Erthygl 15(6) o Reoliad 470/2009)
mynd yn groes i (e.e. ‘mynd yn groes i hawl sydd wedi ei hamddiffyn o dan gyfraith hawliau dynol’) | bf | |||||
contravention | toriad | . | g | u | e | toriadau | Mewn rhai cyd-destunau y mae’n bosibl y bydd termau eraill yn gweddu e.e. torri, tor (e.e. tor rheoliad am ‘contravention of regulation’), tramgwydd e.e. tramgwyddau traffig, traffic contraventions. Gweler hefyd yr erthygl ar ‘contravention’ yn yr Arddulliadur, a’r cofnod ar ‘in contravention of’ isod. | |
convict | euogfarnu | bf | “euogfarnu rhywun o rywbeth e.e. trosedd” e.e. “euogfarnwyd hi o lofruddiaeth yn Llys y Goron”
OND yn fwy cyffredinol “euogfarnu rhywun am wneud rhywbeth”, e.e. “euogfarnwyd hi am ladd ei chymydog”. | |||||
conviction | euogfarn | b | u | e | euogfarnau | “euogfarn / euogfarnau am rywbeth”, e.e. “euogfarn / euogfarnau am lofruddiaeth” | ||
corporate | of or belonging to a body politic, or corporation, or to a body of persons, e.g. corporate brand, corporate identity, corporate name | corfforaethol | e.e. brand corfforaethol | a | Gweler hefyd yr ail gofnod ar gyfer “corporate” a’r cofnodion ar gyfer “incorporate” ac “incorporated” | |||
corporate | constituted as a legal or formal constitution, e.g. corporate body, body corporate | corfforedig | e.e. corff corfforedig | a | Gweler hefyd y cofnod cyntaf ar gyfer “corporate” a’r cofnodion ar gyfer “incorporate” ac “incorporated” | |||
correction slip | slip cywiro | g | u | e | slipiau cywiro | |||
Council Directive | Cyfarwyddeb gan y Cyngor | b | u | e | Cyfarwyddebau gan y Cyngor | Arferir “Cyfarwyddeb Cyngor” a “Cyfarwyddeb y Cyngor” hefyd, a “Cyfarwyddebau’r Cyngor” yn y lluosog, os ydynt yn fwy priodol yn y cyd-destun. | ||
Council Regulation | Rheoliad gan y Cyngor | g | u | e | Rheoliadau gan y Cyngor | Arferir “Rheoliad Cyngor” a “Rheoliad y Cyngor” hefyd, a “Rheoliadau’r Cyngor” yn y lluosog, os ydynt yn fwy priodol yn y cyd-destun. | ||
Council Tax, Wales | Y Dreth Gyngor, Cymru | b | u | e | Ym mhenawdau Offerynnau Statudol | |||
craft | (=boat, ship etc) | bad | g | u | e | badau | ||
crime | A public wrong punishable by the state in criminal proceedings e.g. suicide is no longer a crime. | trosedd | b | u | e | troseddau | ||
crime | Criminal activity e.g. proceedings of crime, crime reduction | troseddu | bf | |||||
criminal | troseddol | ans | ||||||
criminal offence | A public wrong punishable by the state in criminal proceedings e.g. council tax offence means any criminal offence in connection with the making of an application. | trosedd | b | u | e | troseddau | ||
Crown application | cymhwyso i’r Goron | ymad | Ond “y cymhwysiad hwnnw i’r Goron” (y cymwysiadau hynny i’r Goron) | |||||
damages | iawndal | g | u | e | iawndaliadau | |||
data capture | Cause (data) to be stored in a computer etc.; the process of determining that a record should be made and kept; The process of lodging a document into a recordkeeping system and assigning metadata to describe the record and place it in context, thus allowing the appropriate management of the record over time. | cipio data | bf | |||||
debenture | a long-term security yielding a fixed rate of interest, issued by a company, and secured against assets | dyledeb | Sicreb hirdymor sy'n talu cyfradd sefydlog o log. Caiff ei chyhoeddi gan gwmni a'i sicrhau yn erbyn asedau. | b | u | e | dyledebau | Yn achos tystysgrif i gydnabod dyled defnyddir ‘debentur’ (eg) neu ‘debenturau’
|
debenture | debentur | Tystysgrif i gydnabod dyled | g | u | e | debenturau | Mae modd defnyddio “debentur” hefyd yng nghyd-destun yr hawl i gael tocynnau mewn clwb chwaraeon etc. | |
decision | penderfyniad | g | u | e | penderfyniadau | |||
dedicate | (e.g. dedicate land) | cyflwyno | bf | |||||
dedication instrument | offeryn cyflwyno | g | u | e | offerynnau cyflwyno | |||
deem | barnu | bf | Defnyddir “barnu” os defnyddir “deemed” yn ferfol, e.e. “consent is deemed to have been given” = “bernir bod cydsyniad wedi ei roi”. Fodd bynnag, os defnyddir “deemed” fel ansoddair, defnyddir “tybiedig”, e.e. “deemed consent” = “cydsyniad tybiedig”. | |||||
default power | pŵer diofyn | g | u | e | pwerau diofyn | |||
definition | diffiniad | g | u | e | diffiniadau | |||
dehydrated fodder | porthiant sych | g | u | e | ||||
deliver | to give or distribute to the proper person or quarter (letters or goods brought by post, carrier, or messenger) | danfon | e.e. where the tobacco is being delivered or collected = pan fo’r tybaco yn cael ei ddanfon neu ei gasglu | bf | Defnyddir “anfon” i gyfleu “send” a “dosbarthu” i gyfleu “classify” neu “distribute”. Gweler y cofnod ar gyfer “issue” hefyd. | |||
deliver | To give or hand over formally (esp. a deed to the grantee, or to a third party) | traddodi | e.e. The documents may be served on a person by delivering them to the person, or by sending them by post = Caniateir cyflwyno'r dogfennau i berson drwy eu traddodi i'r person, neu drwy eu hanfon drwy'r post | bf | Defnyddir “traddodi” i gyfleu “consign” hefyd, e.e. “all animals consigned for export” = “pob anifail a draddodir i’w allforio” | |||
deliver | To give forth in words, utter, enunciate, pronounce openly or formally | traddodi | e.e. when he delivered the James Callaghan Memorial Lecture = pan draddododdDdarlith Goffa James Callaghan | bf | Defnyddir “traddodi” i gyfleu “consign” hefyd, e.e. “all animals consigned for export” = “pob anifail a draddodir i’w allforio” | |||
deposit | (e.g. deposit a plan or money) | adneuo | bf | |||||
deposit | lay down (matter) gradually as a layer or covering | dyddodi | bf | |||||
derivative lease | les ddeilliannol | b | u | e | lesoedd deilliannol | |||
derogate | (e.g. derogating from Directive 2001/15/EC to postpone the application of the prohibition of trade to certain products".
| rhanddirymu | (e.e. yn rhanddirymu Cyfarwyddeb 2001/15/EC er mwyn gohirio cymhwyso'r gwaharddiad ar fasnachu i gynhyrchion penodol".
| bf | ||||
derogate | (e.g. the Senedd could not lawfully derogate from the requirements of EC legislation) | ymeithrio | (e.e ni allai’r Senedd ymeithrio’n gyfreithlon rhag gofynion deddfwriaeth y GE) | bf | ||||
derogation | rhanddirymiad | g | u | e | rhanddirymiadau | |||
designate | dynodi | bf | ||||||
detain | (a) officially seize and hold goods (b) keep someone in official custody | cadw’n gaeth | bf | |||||
detention and training order | gorchymyn cadw a hyfforddi | g | u | e | gorchmynion cadw a hyfforddi | |||
detention centre | canolfan gadw | b | u | e | canolfannau cadw | |||
determination notice | hysbysiad penderfynu | g | u | e | hysbysiadau penderfynu | |||
determination report | adroddiad ar gyfer penderfynu | g | u | e | adroddiadau ar gyfer penderfynu | |||
determine | to firmly decide; come to a judicial decision | penderfynu; dyfarnu | ‘ | bf | ‘penderfynu’ fel arfer, ond os oes angen gair am ‘decide’ yn y testun hefyd, yna defnyddier ‘dyfarnu’ neu os bydd ‘dyfarnu’ yn gweddu’n well. | |||
determine | to ascertain or establish as a result of research or calculation | canfod | bf | Sylwer nad dyma’r unig bosibilrwydd yng nghyd-destun symiau a ffigurau – gweler ‘pennu’ hefyd. | ||||
determine | to bring to an end (eg. determine a lease) | terfynu | bf | |||||
determine | to fix in scope, extent, variety, etc (eg. determine a procedure) | pennu | bf | Caiff swm ei ‘bennu’ os mai ‘fix’ neu ‘specify’ yw’r ystyr, yn hytrach nag ‘establish as a result of calculation’. Er enghraifft, ‘pennu swm cosb ariannol’.
Os rhoddir ‘specify’ (‘pennu’) yn y testun hefyd, ystyriwch a oes angen gwahaniaethu a defnyddio term arall am ‘determine’ er mwyn osgoi unrhyw ddryswch. Bydd hyn yn angenrheidiol os caiff y naill neu’r llall ei ddiffinio. | ||||
direction | An instruction how to proceed or act; an order to be carried out, a precept e.g. If a direction is made under subsection (2), the local authority must comply with the instructions of the Welsh Ministers or the nominee in relation to the exercise of the functions. | cyfarwyddyd | g | u | e | cyfarwyddydau | ||
directive | cyfarwyddeb | b | u | e | cyfarwyddebau | |||
disapply | datgymhwyso | bf | ||||||
discontinuance | peidio â pharhau | bf | ||||||
disqualify | anghymhwyso | bf | ||||||
distrain | Seize goods by way of distress | atafaelu | Dwyn eiddo ymaith er mwyn gorfodi’r perchennog i gyflawni gwasanaeth neu i dalu dyled. | bf | ||||
distress | Seizure of goods as security for the performance of an obligation | atafael | g | u | e | |||
diversionary route | llwybr dargyfeiriol | g | u | e | llwybrau dargyfeiriol | |||
domicile | domisil | Y diriogaeth y mae ei chyfraith yn cael ei chymhwyso ar gyfer person | g | u | e | Yn y gyfraith, mae angen gwahaniaethu rhwng cysyniad domicile/domisil a chysyniad residence/preswyliad neu preswylio. | ||
draft | drafft | g | u | e | drafftiau | |||
draft | drafftio | bf | ||||||
draft LCO | GCD drafft | g | u | e | GCDau drafft | |||
draft Measure | Mesur drafft | g | u | e | Mesurau drafft | |||
drafter | drafftiwr | g | u | e | drafftwyr | |||
drainage improvement work | gwaith gwella draenio | g | u | e | ||||
due | of the proper quality or extent; adequate eg. due regard, due diligence, due notice | dyladwy | ans | |||||
due | required or owed as a legal or moral obligation e.g. you must pay any tax due | dyledus | ans | |||||
due to | in consequence of e.g. due to unforeseen circumstances | oherwydd; o ganlyniad i; o achos etc | ymad | |||||
dwell | anheddu | bf | ||||||
dweller | anheddydd | g | u | e | anheddwyr | |||
dwelling | annedd | b | u | e | anheddau | |||
dwelling house | tŷ annedd | g | u | e | tai annedd | |||
EC | EC | Pan fydd ‘EC’ (European Community) yn ymddangos yn rhan o deitl deddf Ewropeaidd, cedwir at ‘EC’, ond pan na fydd yn rhan o deitl felly defnyddir ‘CE’. | byr | |||||
EC | CE | Pan fydd ‘EC’ (European Community)yn ymddangos yn rhan o deitl deddf Ewropeaidd, cedwir at ‘EC’, ond pan na fydd yn rhan o deitl felly defnyddir ‘CE’. | byr | |||||
EEA frontier self-employed person | person hunangyflogedig trawsffiniol AEE | g | u | e | personau hunangyflogedig trawsffiniol AEE | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
EEA frontier worker
| gweithiwr trawsffiniol AEE
| g | u | e | gweithwyr trawsffiniol AEE | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
EEA migrant worker
| gweithiwr mudol AEE | g | u | e | gweithwyr mudol AEE | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
EEA national
| gwladolyn AEE | g | u | e | gwladolion AEE | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
EEA self-employed person
| person hunangyflogedig AEE
| g | u | e | personau hunangyflogedig AEE
| Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
EEA State
| Gwladwriaeth AEE
| b | u | e | Gwladwriaethau AEE
| Defnyddir “Gwladwriaethau AEE” yn y lluosog, e.e. “y Gwladwriaethau AEE hynny” | ||
enacting authority | awdurdod deddfu | g | u | e | awdurdodau deddfu | |||
enclosure | The act of surrounding or marking off (land) with a fence or boundary; | cau tir | bf | |||||
ending on | gan orffen ar | ymad | Mae “ending on” yn llai manwl nag “ending with” o ran ystyr: nid yw’n ei gwneud hi’n glir pa bryd yn union yn ystod y diwrnod hwnnw y mae’r cyfnod yn gorffen. Mae’n bosibl y bydd “sy’n gorffen ar” yn gweithio’n well mewn rhai cystrawennau. | |||||
ending with | gan orffen â | ymad | Defnyddir “ending with” er mwyn disgrifio cyfnod sy’n gorffen ar ddechrau’r diwrnod hwnnw (h.y. yn union wedi hanner nos). Mae’n bosibl y bydd “sy’n gorffen â” yn gweithio’n well mewn rhai cystrawennau. | |||||
enforce | gorfodi | bf | ||||||
enforcement notice | hysbysiad gorfodi | g | u | e | hysbysiadau gorfodi | |||
engage | arrange to employ or hire | cymryd ymlaen | bf | |||||
entitlement | hawlogaeth | b | u | e | hawlogaethau | |||
enter | e.g. enter a house | mynd i | e.e. mynd i dŷ (yn hytrach na ‘mynd i mewn i dŷ). | bf | ||||
entry | printed or written item | cofnod | Ond defnyddier ‘eitem’ pan fydd angen gwahaniaethu rhwng ‘record’ (‘cofnod’) ac ‘entry’ (‘eitem’) e.e. unrhyw eitem mewn unrhyw gofnod (any item in any record) | g | u | e | cofnodion | |
environmental impact assessment | count noun | asesiad o’r effaith amgylcheddol | g | u | e | asesiadau o’r effaith amgylcheddol | ||
environmental impact assessment | mass noun | asesu’r effeithiau amgylcheddol | bf | |||||
environmental scoping report | adroddiad cwmpasu amgylcheddol | g | u | e | adroddiadau cwmpasu amgylcheddol | |||
equivalence | cyfwerthedd | g | u | e | Defnyddir ‘cywerthedd’ mewn rhai OSau blaenorol, megis Rheoliadau Marchnata Hadau (Cymru) 2012, felly dylid parhau i ddefnyddio’r term hwn os oes angen dyfynnu neu ddiwygio’r rhain. | |||
EU national
| gwladolyn UE | g | u | e | gwladolion UE | |||
European Communities Act 1972 | Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 | b | u | e | ||||
except | eithrio | bf | ||||||
exception | eithriad | g | u | e | eithriadau | |||
exclude | (= children from school) | gwahardd | bf | |||||
execute | to go through the formalities necessary to the validity of a document e.g. signing, sealing, etc | cwblhau | bf | |||||
exempt | esempt | ans | ||||||
exempt | esemptio | bf | ||||||
exemption | esemptiad | g | u | e | esemptiadau | |||
exercise | (e.g. exercise of power) | arfer | bf | |||||
exerciseable | arferadwy | ans | ||||||
expedient | hwylus | ans | ||||||
Explanatory Note | Nodyn Esboniadol | g | u | e | Nodiadau Esboniadol | Mae 'Nodiadau Esboniadol' yn cael eu darparu ar gyfer Deddfau gan y Senedd, a Mesurau gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gynt, cymh. 'Nodyn Esboniadol' sy'n cael ei atodi i Offerynnau Statudol | ||
expose for sale | rhoi …ar ddangos i’w werthu | bf | ||||||
Expressions used in these Regulations and in the Housing (Wales) Act 2014 have the same meaning as in that Act. | Mae i ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn ac yn Neddf Tai (Cymru) 2014 yr un ystyr ag sydd iddynt yn y Ddeddf honno. | Brawddeg safonol | ||||||
extend | estyn/ymestyn | bf | Defnyddir “estyn” os oes gwrthrych ond “ymestyn” os nad oes gwrthrych | |||||
extend to | (e.e. These Regulations extend to England and Wales) | rhychwantu | (e.e. Mae’r Rheoliadau hyn yn rhychwantu Cymru a Lloegr) | bf | ||||
extent | rhychwant | b | u | e | rhychwantau | |||
fall-out words | Gweler “full-out words” | |||||||
full-out words | geiriau cloi | ll | e | Gwelir “fall-out” weithiau ond “full-out” yw’r term cywir | ||||
feed | bwyd anifeiliaid | g | u | e | bwydydd anifeiliaid | |||
feed material | deunydd bwyd anifeiliaid | g | u | e | deunyddiau bwyd anifeiliaid | |||
feeding(-)stuff | bwyd anifeiliaid | g | u | e | bwydydd anifeiliaid | |||
feedstuff | bwyd anifeiliaid | g | u | e | bwydydd anifeiliaid | |||
field | In Schedule 5 to GOWA 2006 | maes | g | u | e | meysydd | ||
fishery | the right of fishing in certain waters | pysgodfa; hawl i bysgota | b | u | bf/e | pysgodfeydd; hawliau i bysgota | ||
fishery | place or district where fish are caught; fishing-ground | pysgodfa | b | u | e | pysgodfeydd | ||
fodder | porthiant | g | u | e | ||||
food | bwyd | g | u | e | bwydydd | |||
foodstuff | deunydd bwyd, cynnyrch bwyd, bwyd | g | u | e | deunyddiau bwyd, cynhyrchion bwyd, bwydydd | |||
footway | troetffordd | b | u | e | troetffyrdd | |||
for different purposes and different cases | at ddibenion gwahanol ac ar gyfer achosion gwahanol | ymad | ||||||
for the purposes of | at ddibenion | ymad | ||||||
forage | porthiant | planhigion a chynnyrch a ddaw o blanhigion ac a roddir yn fwyd i anifeiliaid, yn enwedig da byw, wrth eu magu yw ‘porthiant’
| g | u | e | Porthiannau | ||
forage | porfwyd | planhigion a chynnyrch a ddaw o blanhigion y mae anifeiliad yn dod o hyd iddynt eu hunain, yn enwedig da byw, wrth eu magu yw ‘porfwyd’ | g | u | e | Porfwydydd | ||
forfeit | to lose property or a right as a consequence of an offence or the breach of an undertaking | fforffedu | bf | |||||
form | set order of words | ffurf | b | u | e | ffurfiau | ||
form | printed document with blank spaces for information to be inserted | ffurflen | b | u | e | ffurflenni | ||
freedom | rhyddid | g | u | e | rhyddidau | |||
frustration | termination of a contract as a result of an event that either renders its performance impossible or illegal or prevents its main purpose from being achieved. | llesteirio | e.e. adran 148(2) o Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016: (2) Nothing in this section affects— (a) any right of the landlord or contract-holder to rescind the contract, or (b) the operation of the law of frustration = Nid oes dim yn yr adran hon yn effeithio ar— (a) unrhyw hawl sydd gan y landlord neu ddeiliad y contract i ddad-wneud y contract, na (b) gweithrediad cyfraith llesteirio. | bf | ||||
full-time | llawnamser | ans | ||||||
function | swyddogaeth | b | u | e | swyddogaethau | |||
general assessment drawing | lluniad asesiad cyffredinol | g | u | e | lluniadau asesiad cyffredinol | |||
grain | single seedlike fruit of a cereal plant | gronyn | g | u | e | gronynnau | ||
grain | mass of seedlike fruits produced by cereal plants | grawn | e.e. pentwr o rawn yn pydru yn y warws | g | u | e | ||
grain | cereal plants | ŷd | e.e. mae lot o ŷd yn tyfu ar yr ynys | g | u | e | ydau | ‘llafur’ yn y De |
green fodder | porthiant glas | g | u | e | ||||
guardianship | gwarcheidiaeth | b | u | e | gwarcheidiaethau | |||
guidance | advice or information aimed at resolving a problem or difficulty, especially as given by somone in authority | canllawiau | ‘cyfarwyddyd’ yng nghyd-destun gyrfaoedd etc | ll | e | |||
guide | book, document etc providing information on a subject | arweiniad | ‘arweinlyfr’ ar gyfer llyfryn fel arweinlyfr i heneb | g | u | e | ||
have effect | cael effaith | bf | ||||||
have regard | rhoi sylw (i) | bf | ||||||
having had regard | ar ôl rhoi sylw (i) | ymad | ||||||
Having been passed by Senedd Cymru and having received the assent of His Majesty, it is enacted as follows: | Gan ei fod wedi ei basio gan Senedd Cymru ac wedi derbyn cydsyniad Ei Fawrhydi, deddfir fel a ganlyn: | ymad | Gweler “Penderfyniad y Llywydd o ran y Ffurf Briodol – Biliau Cyhoeddus ar gyfer Deddfau Senedd Cymru”, Mai 2020 | |||||
heading | pennawd | g | u | e | penawdau | |||
hereditament | unit of land that has been seperately assessed for rating purposes | hereditament | g | u | e | hereditamentau | ||
hold | e.g. land, property, lease | dal | bf | |||||
holder | of land, property, lease, etc. | deiliad | g | u | e | deiliaid | ||
holding | e.g. agricultural holding | daliad | g | u | e | daliadau | ||
household | “it was the judge’s finding that the keeping of not only separate houses but also separate homes was not consistent with the parties’ living in the same household” | aelwyd | b | u | e | aelwydydd | ||
imminent health risk | risg ar fin digwydd i iechyd | b | u | e | risgiau ar fin digwydd i iechyd | |||
impose | gosod | bf | ||||||
in accordance with | yn unol â | ymad | ||||||
In accordance with section **(*) of that Act, the Welsh Ministers have consulted those persons appearing to them to represent interests with which these Regulations are concerned as they considered appropriate.
| Yn unol ag adran **(*) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori, fel y gwelsant yn briodol, â’r personau hynny yr ymddangosai iddynt hwy eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.
| Brawddeg safonol | ||||||
In accordance with section 61(2) of that Act, a draft of this instrument has been laid before, and approved by resolution of, Senedd Cymru. | Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno, gosodwyd drafft o’r offeryn hwn gerbron Senedd Cymru ac fe’i cymeradwywyd ganddi drwy benderfyniad.
| Brawddeg safonol | ||||||
in contravention of | gan dorri
yn groes i | ymad | Gweler y cofnod ar ‘contravene’ i benderfynu pa ymadrodd sy’n gweddu orau yn y cyd-destun o dan sylw | |||||
in exercise of the powers | drwy arfer y pwerau | ymad | ||||||
in exercise of the powers conferred by | drwy arfer y pwerau a roddir gan | ymad | ||||||
in exercise of the powers conferred on the Secretary of State…and now vested in them | drwy arfer y pwerau a roddwyd i’r Ysgrifennydd Gwladol…ac a freiniwyd bellach ynddynt hwy | ymad | ||||||
in force | mewn grym | ymad | ||||||
in good faith | yn ddidwyll | adf | ||||||
in possession | mewn meddiant | ymad | ||||||
in relation to | mewn perthynas â o ran (Cymru) | ymad | ||||||
in reliance on | drwy ddibynnu ar | ymad | ||||||
in respect of | mewn cysylltiad â | ymad | ||||||
in so far as they are applicable to Wales | i’r graddau y maent yn gymwys i Gymru | ymad | ||||||
in so far as they are exercisable in Wales | i’r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru | ymad | ||||||
in so far as exercisable in Wales | i’r graddau y maent yn arferadwy yng Nghymru | ymad | Os nad oes berf atodol yn y Saesneg, dylid defnyddio’r amser presennol, fel sydd uchod, heblaw bod datganiad clir i’r gwrthwyneb e.e. bod swyddogaethau wedi eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru at ddiben gwneud penderfyniad, ond eu bod wedi cael eu diddymu wedyn. | |||||
in that behalf | yn y cyswllt hwnnw | ymad | ||||||
incidental provision | a provision dealing with a subordinate incident of the main provisions | darpariaeth ddeilliadol | b | u | e | darpariaethau deilliadol | ||
incorporate | constituted as a legal or formal constitution | corfforedig | a | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “corporate” a’r cofnod ar gyfer “incorporated” | ||||
incorporated | constituted as a legal or formal constitution | corfforedig | a | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “corporate” a’r cofnod ar gyfer “incorporate” | ||||
incur | cost, expenditure etc | mynd i | costau, gwariant etc | bf | ||||
Independent Remuneration Board of the Senedd | Bwrdd Taliadau Annibynnol y Senedd | g | u | e | ||||
index of defined expressions | mynegai o ymadroddion wedi eu diffinio | g | u | mynegeion o ymadroddion wedi eu diffinio | ||||
index of defined terms | mynegai o dermau wedi eu diffinio | g | u | mynegeion o dermau wedi eu diffinio | ||||
inferior lease | les isradd | b | u | e | lesoedd isradd | |||
inquiry | ymchwiliad | g | u | e | ymchwiliadau | |||
insert | mewnosod | Defnyddir yr arddoddiad “yn” (neu “i mewn”) yn hytrach nag “i” ar ôl “mewnosod”, er enghraifft, mewnosod Atodlen newydd yn y rheoliadau | bf | |||||
inspect | (examine something to ensure that it reaches an official standard e.g. Estyn official looking into a school) | arolygu | bf | |||||
inspect | (look closely at something e.g. members of public looking at plans, etc) | edrych ar | bf | |||||
inspection | arolygiad | g | u | e | arolygiadau | |||
inspector | arolygydd | g | u | e | arolygwyr | |||
instruction | E.g. If a direction is made under subsection (2), the local authority must comply with the instructions of the Welsh Ministers or the nominee in relation to the exercise of the functions. Also, e.g. from officials to lawyers | cyfarwyddiad | g | u | e | cyfarwyddiadau | ||
instrument | offeryn | g | u | e | offerynnau | |||
instruments revoked | yr offerynnau sydd wedi eu dirymu | ymad | ||||||
interest | (e.g. interest in land) | buddiant | g | u | e | buddiannau | ||
interim measure | mesur dros dro | g | u | e | mesurau dros dro | |||
interpretation | (e.g. as a title in an instrument) | dehongli | bf | |||||
interpretation | an instance of interpreting | dehongliad | g | u | e | dehongliadau | ||
intervention | mass noun – action or process of intervening e.g. state intervention in the economy | ymyrraeth | b | u | e | |||
intervention | count noun – action of intervening e.g. her numerous interventions in the debate were not helpful | ymyriad | g | u | e | ymyriadau | ||
investigate | ymchwilio | bf | ||||||
investigation | ymchwiliad | g | u | e | ymchwiliadau | |||
investigator | ymchwilydd | g | u | e | ymchwilwyr | |||
in italics | (e.e. the text in italics) | mewn llythrennau italig | (e.e. y testun mewn llythrennau italig) | ymad | Gweler y cofnodion ar gyfer “italic” ac “italics” hefyd | |||
issue | formally send out or make known (notice, etc) | dyroddi | Defnyddio “cyhoeddi” pan fydd “issue” yn cyfeirio at beri bod dogfen ar gael yn gyffredinol i’r cyhoedd a “dosbarthu” pan fydd yn golygu “rhannu rhywbeth rhwng nifer o bobl”. | bf | ||||
italic | (e.g. italic heading) | italig | (e.e. pennawd italig) | a | Gweler y cofnodion ar gyfer “in italics” ac “italics” hefyd | |||
italics | (e.g. italics show changes to the text) | llythrennau italig | (e.e. mae’r llythrennau italig yn nodi’r newidiadau i’r testun) | ll | e | Gweler y cofnodion ar gyfer “in italics” ac “italic” hefyd | ||
joint tenancy | cyd-denantiaeth | b | u | e | cyd-denantiaethau | |||
joint tenant | cyd-denant | g | u | e | cyd-denantiaid | |||
jointly and severally | ar y cyd ac yn unigol | ymad | ||||||
judgement | dyfarniad | g | u | e | dyfarniadau | |||
known as | (e.g. the property known as Pont Arenig) | o’r enw | (e.e. yr eiddo o’r enw Pont Arenig) | ymad | Dyma a ddefnyddir yn y cyd-destun hwn yng ngwaith ffyrdd. Mae cyfieithiadau eraill yn bosibl mewn cyd-destunau eraill. | |||
L. | (=legal) mewn enw offeryn statudol | Cyfr. | byr | |||||
lawful | cyfreithlon | ans | ||||||
LCO | GCD | byr | ||||||
lease | les | b | u | e | lesoedd | |||
lease | lesio | bf | ||||||
leaseholder | lesddeiliad | g | u | e | lesddeiliaid | |||
lessee | lesddeiliad | g | u | e | lesddeiliaid | |||
lessor | lesydd | g | u | e | leswyr | |||
legal | Cyfreithiol | gofynnol gan y gyfraith, a ganiateir gan y gyfraith, seiliedig ar y gyfraith, yn perthyn i'r gyfraith yw ‘cyfreithiol’
| ans | |||||
legal | Cyfreithlon | yn unol â'r gyfraith, heb fod yn erbyn y gyfraith yw ‘cyfreithlon’ | ||||||
Legal Advisor | Cynghorydd Cyfreithiol | g | u | e | Cynghorwyr Cyfreithiol | |||
legislate | deddfu | bf | ||||||
legislation | deddfwriaeth | b | u | e | ||||
legislative | deddfwriaethol | ans | ||||||
Legislative Competence Order | Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol | g | u | e | Gorchmynion Cymhwysedd Deddfwriaethol | |||
legislature | deddfwrfa | b | u | e | deddfwrfeydd | |||
length | (of a road) | darn | darn (o ffordd) | g | u | e | darnau | |
levy | ardoll | b | u | e | ardollau | |||
liability | (a) the condition of being liable or answerable by law; (b) that which is owed or due (e.g. money, goods, or service) which one person is under an obligation to pay or render to another. | atebolrwydd | e.e. (a) liability in tort arises from the breach of a duty = mae atebolrwydd mewn camwedd yn codi o dor dyletswydd; (b) the estimated total liabilities, which is the cost if all current claims are successful, stand at £65bn” = £65bn yw’r amcangyfrif o gyfanswm yr atebolrwyddau, sef y gost os bydd pob hawliad cyfredol yn llwyddiannus | g | u | e | atebolrwyddau | Defnyddir “atebolrwydd” i gyfleu “liability” oni bai ei fod yn amhriodol yn y cyd-destun. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “obligation” |
liable for | bound or obliged by law or equity, or in accordance with a rule or convention; answerable for | atebol am | e.e. mae’r rheoliadau yn y Rhan hon yn sicrhau bod person ar lefel briodol uchel yn y sefydliad yn atebol am ansawdd y gwasanaeth | a | ||||
liable to | legally subject to | agored i | e.e. mae person sydd wedi ei euogfarnu o’r naill drosedd neu’r llall yn agored ar euogfarn ddiannod i ddirwy ddiderfyn | a | Gall fod ystyr arall i “liable to” yn y defnydd cyffredinol, e.e. “liable to explode”, “liable to occur” ( = tueddol, tebygol etc). Gweler hefyd y trydydd cofnod ar gyfer “subject to” | |||
liable to be proceeded against and punished accordingly | yng nghyd-destun y gyfraith droseddol
| yn agored i gael ei erlyn a’i gosbi yn unol â hynny | Defnyddir “erlyn” am mai ystyr “proceed against” yw “institute legal action, take legal proceedings (against)” ac ystyr “prosecute” yw “institute or conduct legal procedings (in respect of a crime or an action) (against)”. | ymad | ||||
licence | trwydded | b | u | e | trwyddedau | |||
license | trwyddedu | bf | ||||||
licensee | trwyddedai | g | u | e | trwyddedeion | |||
licensor | trwyddedwr | g | u | e | trwyddedwyr | |||
limitation | cyfyngiad / terfyn, e.e. “The limitation to this modification by paragraph 1(3) preserves other duties and responsibilities that exist with regards to ‘pupils’ that need to continue” = “Mae’r cyfyngiad i’r addasiad hwn gan baragraff 1(3) yn cadw dyletswyddau a chyfrifoldebau eraill sy’n bodoli o ran ‘disgyblion’ y mae angen iddynt barhau”; OND “Regulations under subsection (2) may also make provision imposing a prohibition, restriction or other limitation on the exercise of the economic well-being function by a corporate joint committee granted that function” = “Caiff rheoliadau o dan is-adran (2) wneud darpariaeth hefyd sy’n gosod gwaharddiad, cyfyngiad neu derfyn arall ar arfer y swyddogaeth llesiant economaidd gan gyd-bwyllgor corfforedig y rhoddwyd y swyddogaeth honno iddo” | g | u | e | cyfyngiadau / terfynau | Defnyddir “cyfyngiad” fel arfer ond defnyddir “terfyn” os bydd angen gwahaniaethu rhwng “restriction” a “limitation”, e.e. “impose, modify or omit a prohibition, restriction or other limitation”. Os defnyddir y ddau air yn y testun Saesneg, cofiwch ofyn i’r drafftiwr a oes dau gysyniad gwahanol, ac os felly, beth yw’r gwahaniaeth rhyngddynt. Mae’n bosibl y bydd modd newid y Saesneg i osgoi defnyddio’r ddau air. | ||
liquidate | datod | bf | ||||||
liquidation | datodiad | g | u | e | datodiadau | |||
liquidator | datodwr | g | u | e | datodwyr | |||
list | rhestr | b | u | e | rhestrau | |||
list of wastes | rhestr wastraffoedd | b | u | e | rhestrau gwastraffoedd | |||
list of wastes decision | penderfyniad y rhestr wastraffoedd | g | u | e | penderfyniadau’r rhestr wastraffoedd | Byddai “penderfyniadau’r rhestrau gwastraffoedd” yn bosibl hefyd | ||
litter | sbwriel | [NID ysbwriel] | g | u | e | |||
load | llwyth | g | u | e | llwythi | [NID llwythau = tribes] | ||
Made | (of Orders or Regulations) | Gwnaed | ans | |||||
make | regulations, orders, acts, etc | gwneud | bf | |||||
make provision | gwneud darpariaeth | bf | ||||||
mandatory | mandadol | ans | ||||||
matter | Within ‘fields’ in Schedule 5 to GOWA 2006 | mater | g | u | e | materion | ||
meaning | e.g. “Special educational needs” (“anghenion addysgol arbennig”)has the meaning given to it by section 312(1) of the Act. | e.e. Mae i “anghenion addysgol arbennig” yr ystyr a roddir i “special educational needs” gan adran 312(1) o’r Ddeddf. | ||||||
means | e.g. In these Regulations – “cat”(“cath”) means… | ystyr | e.e. Yn y Rheoliadau hyn – ystyr “cath” (“cat”) yw…. | g | u | e | ||
measure | legislative instrument | mesur e.g. Highways and Transport Measure - Mesur Priffyrdd a Thrafnidiaeth | g | u | e | mesurau | Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “Assembly Measure” | |
meet | e.g. conditions | bodloni | bf | |||||
meet | e.g. expenses | talu | bf | |||||
meet | e.g. needs | diwallu | bf | |||||
meet | e.g. requirements | bodloni | bf | |||||
meet | e.g. standards | cyrraedd | bf | |||||
meet | e.g. targets | cyflawni | bf | |||||
Member of the Senedd | Aelod o’r Senedd | g | u | e | Aelodau o’r Senedd | Arferir “Aelodau’r Senedd” hefyd, er enghraifft wrth gyfeirio at bob un o’r Aelodau. | ||
member State | Aelod-wladwriaeth | g | u | e | Aelod-wladwriaethau | |||
Memorandum of Corrections | Memorandwm Cywiriadau | g | u | e | Memoranda Cywiriadau | |||
minor amendment | mân ddiwygiad | g | u | e | mân ddiwygiadau | |||
modifiation | addasiad | g | u | e | addasiadau | |||
modify | addasu | bf | ||||||
N.I. | =Northern Ireland e.g. Statutory Instrument 2004 No. 310 (N.I. 1)
| G.I. | Offeryn Statudol 2004 Rhif 310 (G.I. 1) | byr | ||||
natural parent | rhiant naturiol | g | u | e | rhieni naturiol | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “biological parent” a “birth parent” | ||
negative procedure | gweithdrefn negyddol | b | u | e | gweithdrefnau negyddol | |||
No. | number | Rhif | g | u | e | |||
Note as to earlier commencement orders | Nodyn am y gorchmynion cychwyn cynharach | Pennawd | ||||||
notice | hysbysiad | g | u | e | hysbysiadau | |||
notify | hysbysu | bf | ||||||
notwithstanding | er gwaethaf | Ymad | ||||||
Now therefore | Yn awr felly | ymad | ||||||
of the opinion | (e.g. if the Welsh Ministers are of the opinion…) | o’r farn | (e.e. os yw Gweinidogion Cymru o’r farn…) | ymad | ||||
O.J. | Official Journal | O.J. | byr | |||||
obligation | the condition of being legally bound; an act or course of action to which one is legally bound | rhwymedigaeth | e.e. Regulation 7 imposes an obligation on food authorities to enforce these Regulations = Mae rheoliad 7 yn gosod rhwymedigaeth ar awdurdodau bwyd i orfodi’r Rheoliadau hyn | b | u | e | rhwymedigaethau e.e. Summary of Rights and Obligations, and Transitional Provision = Crynodeb o Hawliau a Rhwymedigaethau, a Darpariaeth Drosiannol | Gweler hefyd y cofnodion ar gyfer “liability” a “liabilities” |
observe | pay practical regard to (a law, custom, principle, etc.); adhere to, keep, follow
| cadw, cadw at, cadw o fewn, etc (gan ddibynnu ar y cyd-destun) | e.e. cadw amod, cadw gwylnos, cadw’r Sul, cadw at god ymarfer, cadw at safonau, cadw o fewn terfynau amser
| bf | ||||
observe | watch attentively or carefully, e.g. the inspector observed the class during a science lesson
| arsylwi | bf | |||||
observe | see, e.g. the vehicle was observed on High Street at 20:35
| gweld | bf | |||||
obsolete provision | darpariaeth ddarfodedig | b | u | e | Darpariaeth a gafodd ei harfer yn y gorffennol ond nad oes defnydd iddi mwyach. Gellir aralleirio mewn deunyddiau llai ffurfiol, er enghraifft nodiadau esboniadol, a defnyddio ‘darpariaeth nad yw bellach yn arferadwy’. | |||
occupancy | meddiannaeth | b | u | e | meddianaethau | |||
occupancy condition | amod meddiannu | g | u | e | amodau meddiannu | |||
occupation | meddiannu | bf | ||||||
occupier | meddiannydd | g | u | e | meddianwyr | |||
occupy | meddiannu | bf | ||||||
offence | A public wrong punishable by the state in criminal proceedings e.g. any person who fails to comply with sub-paragraph (5) is guilty of an offence. | trosedd | b | u | e | troseddau | ||
offend | To commit a criminal offence | troseddu | bf | |||||
offender | One who commits a criminal offence | troseddwr | g | u | e | troseddwyr | ||
offside lane | lôn allanol | b | u | e | lonydd allanol | |||
off-slip road | ffordd ymadael | b | u | e | ffyrdd ymadael | |||
omit | hepgor | bf | ||||||
on indictment | ar dditiad | (nid ‘drwy dditiad’) | ymad | |||||
on-slip road | ffordd ymuno | b | u | e | ffyrdd ymuno | |||
opening words | geiriau agoriadol | ll | e | |||||
opinion | barn | b | u | e | barnau | |||
order | gorchymyn | g | u | e | gorchmynion | |||
Overview of this Act | Trosolwg o’r Ddeddf hon | g | u | e | ||||
owner | perchennog | g | u | e | perchnogion | |||
owner-occupier | perchen-feddiannydd | g | u | e | perchen-feddianwyr | |||
ownership | perchnogaeth | b | u | e | perchnogaethau | Mae GPC a PWT yn gytûn mai ‘perchnogaeth’ yn hytrach na ‘perchenogaeth’ yw’r sillafiad arferol. Mae PWT (III.34) yn dangos bod hyn yn rhan o batrwm ehangach | ||
p. | page | t. | byr | |||||
paragraph | paragraff | g | u | e | paragraffau | |||
Parliament | The legislature of the UK consisting of the sovereign, the House of Lords and the House of Commons | Senedd y Deyrnas Unedig / Senedd y DU | b | u | e | |||
parliament | a legislature | senedd | b | u | e | seneddau | ||
part | of an instrument | rhan | b | u | e | rhannau | ||
pass a resolution | pasio penderfyniad | bf | ||||||
permitting | issuing of permits e.g. environmental permitting | trwyddedu | bf | |||||
person | person | g | u | e | personau | |||
personal property | eiddo personol | g | u | e | ||||
pet food | bwyd anifeiliaid anwes | g | u | e | bwydydd anifeiliaid anwes | |||
plan | diagram or drawing | plan | g | u | e | planiau | ||
plan | detailed proposal | cynllun | g | u | e | cynlluniau | ||
plant food | bwyd planhigion | g | u | e | bwydydd planhigion | |||
possess | meddu (ar) | bf | ||||||
possession | meddiant | g | u | e | meddiannau | |||
possessor | person sy’n meddu | g | u | e | personau sy’n meddu | |||
power | pŵer | g | u | e | pwerau | |||
preamble | rhaglith | b | u | e | rhaglithoedd | |||
premises | mangre | b | e | e | mangreoedd | |||
prepare | (=write a document) | llunio | bf | |||||
prepare | (=make ready) | paratoi | bf | |||||
prescribe | rhagnodi | bf | ||||||
primary legislation | deddfwriaeth sylfaenol | b | u | e | ||||
principal regulations | prif reoliadau | ll | e | |||||
prison | a building to which people are legally committed as punishment for crimes they have committed or while awaiting trial | carchar, (carchardy) | g | u | e | carchardai | ||
prison | confinement in a prison (Mass noun). | carchar | g | u | e | |||
proceedings | legal action or litigation taken in a court, tribunal, &c. to settle a dispute e.g. proceedings brought against a person in respect of an offence; a formal investigation or consideration of a matter conducted by an organisation e.g. disciplinary proceedings
| achos | Mae ‘proceedings’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio fel enw unigol yn yr ystyr hon, ond dyma’r ffurf luosog hefyd. Felly bydd angen ystyried ai ‘achos’ ynteu ‘achosion’ y mae eu hangen yn y cyd-destun dan sylw. Mewn testunau cyffredinol fe all ystyr ‘proceedings’ fod yn nes at ‘procedure’ e.e. ‘capability proceedings’ ac felly gellid defnyddio ‘gweithdrefn(au)’.
| g | u | e | achosion | |
proceedings | business transacted by a society, committee, legislature, &c.; published record of such business | trafodion | ll | e | ||||
produce | (=bring into existence, e.g. write a report) | llunio | bf | |||||
produce | (=show a document) | dangos | bf | |||||
property | eiddo | g | u | e | ||||
proposed LCO | GCD arfaethedig e.g. Proposed Highways and Transport Legislative Competence Order - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig ynghylch Priffyrdd a Thrafnidiaeth ; Committee's Proposed Highways and Transport Legislative Competence Order - Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol Arfaethedig y Pwyllgor ynghylch Priffyrdd a Thrafnidiaeth | g | u | e | GCDau arfaethedig | |||
proposed Measure | Mesur arfaethedig e.g. Proposed Highways and Transport Measure - Mesur Arfaethedig ynghylch Priffyrdd a Thrafnidiaeth | g | u | e | Mesurau arfaethedig | |||
protected tenancy | tenantiaeth warchodedig | b | u | e | tenantiaethau gwarchodedig | |||
provide | darparu | bf | ||||||
provision | condition or requirement | darpariaeth | b | u | e | darpariaethau | ||
public interest | (e.g. in the public interest) | budd y cyhoedd | (e.e. er budd y cyhoedd) | g | u | e | ||
purport | profess to be or do | honni | bf | |||||
pursuant to | yn unol â | ymad | ||||||
quash | diddymu | bf | ||||||
real property | eiddo tirol | g | u | e | ||||
realign | ailalinio | e.e. “adleoli ac ailalinio’r bont droed newydd a’r rampiau dros gefnffordd yr A465 yn Blackrock” | bf | Dyma a ddefnyddir yng nghyd-destun gwaith ffyrdd. Mae cyfieithiadau eraill yn bosibl mewn cyd-destunau eraill. | ||||
receive | esp. of official documents | cael | bf | |||||
recital | part of a legal document that explains its purpose and gives factual information | cronicliad | g | u | e | cronicliadau | ||
recommendation | argymhelliad | g | u | e | argymhellion | |||
record | cofnod | e.e. unrhyw eitem mewn unrhyw gofnod (any item in any record) | g | u | e | cofnodion | ||
redress | iawn | g | u | e | ||||
redundant provision | darpariaeth ddiangen | b | u | e | ||||
refer | pass smth. on for a decision | atgyfeirio | bf | Defnyddir “atgyfeirio” yn lle “cyfeirio” gan amlaf. D.S. “atgyfeirio at berson”, “atgyfeirio i le, pwyllgor, corff ac ati”
| ||||
reference number | cyfeirnod | g | u | e | cyfeirnodau | Os bydd angen gwahaniaethu mewn brawddeg fel “the reference is formed from the reference number and a letter of the alphabet/the date etc”, bydd “rhif cyfeirio” neu “cyfeirif” yn bosibl.
| ||
referral | atgyfeiriad | g | u | e | atgyfeiriadau | |||
register | cofrestr | b | u | e | cofrestrau | |||
regulation | rheoliad | g | u | e | rheoliadau | |||
regulatory appraisal | arfarniad rheoliadol | g | u | e | arfarniadau rheoliadol | |||
related expression | ymadrodd perthynol | g | u | e | ymadroddion perthynol | Defnyddir “perthynol” am “related” yma os bydd yn cyfleu perthynas ieithyddol â gair/ymadrodd arall. Weithiau, bydd “ymadrodd cysylltiedig”, ac “ymadroddion cysylltiedig” yn y lluosog, yn fwy priodol. | ||
related provision | darpariaeth gysylltiedig | b | u | e | darpariaethau cysylltiedig | Nid yw hwn yn derm fel y cyfryw ond dyma gyfieithiad posibl. Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “associated provision”. | ||
relating to | yn ymwneud â ynghylch ynglŷn â | ymad | ||||||
remand centre | canolfan remánd | b | u | e | canolfannau remánd | |||
remedy | rhwymedi | g | u | e | rhwymedïau | |||
remedy | unioni | bf | ||||||
repeal | diddymu | bf | ||||||
repossess | adfeddu | bf | ||||||
representations | formal statements made to a higher authority e.g. to make representations | sylwadau | e.e. cyflwyno sylwadau (nid gwneud sylwadau). | ll | e | |||
require | (ei) gwneud yn ofynnol | e.e. mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyhoeddi’r adroddiad.
| bf | |||||
requirement | gofyniad | g | u | e | gofynion | |||
rescind | to make a law, agreement, order, or decision no longer have any (legal) power; to set aside of a voidable contract, which is thereby treated as if it had never existed | dad-wneud | e.e. “gorchymyn secwestru nad yw wedi ei ddad-wneud” | bf | ||||
reside | preswylio | bf | ||||||
residence | the fact of living in a place | preswyliad | g | u | e | preswyliadau | ||
residence | house etc | preswylfa | b | u | e | preswylfeydd | ||
residency | the fact of living in a place | preswyliad | g | u | e | preswyliadau | ||
residency | house etc | preswylfa | b | u | e | preswylfeydd | ||
residential | preswyl | ans | ||||||
residential property | eiddo preswyl | g | u | e | ||||
residential zone | parth preswyl | g | u | e | parthau preswyl | |||
residents’ association | cymdeithas breswylwyr | b | u | e | cymdeithasau preswylwyr | |||
residual | gweddilliol | ans | ||||||
restriction | something that restricts a person or thing; a limitation on action; a limiting condition or regulation | cyfyngiad | g | u | e | cyfyngiadau | Gweler y cofnod ar gyfer “limitation” hefyd. | |
review | adolygu | bf | ||||||
review | adolygiad
| g | u | e | adolygiadau | |||
reviewer | adolygydd | g | u | e | adolygwyr | |||
revise | re-examine and make alterations (to a written text) | (a) diwygio (b) newid | Defnyddio “diwygio” fel y dewis cyntaf, ond os bydd angen gwahaniaethu rhwng “amend” a “revise”, defnyddio “diwygio” am “amend” a “newid” am “revise”. | bf | ||||
revocation | (eg. as a title in an instrument) | dirymu | bf | |||||
revocation | an act of revoking | dirymiad | g | u | e | dirymiadau | ||
revoke | dirymu | bf | ||||||
Royal Assent | Cydsyniad Brenhinol | Fel arfer defnyddir y fannod o’i flaen e.e. ar y diwrnod y mae’n cael y Cydsyniad Brenhinol. | g | u | e | |||
rule | rheol | b | u | e | rheolau | |||
S. | =Scotland e.g. SI 1998/5 (S.2) | A | OS 1998/5 (A. 2) | byr | ||||
S.I. | Statutory Instrument | O.S. | Offeryn Statudol | byr | ||||
S.R. | Statutory Rule Northern Ireland | Rh.St. | Rheol Statudol | byr | ||||
saving provision | darpariaeth arbed | b | u | e | darpariaethau arbed | Ailadroddir “darpariaeth” mewn ymadroddion megis “darpariaeth ddarfodol, darpariaeth drosiannol neu ddarpariaeth arbed” (am mai berf yw “arbed” ond ansoddeiriau yw “darfodol” a “trosiannol”). | ||
schedule | atodlen | Os un Atodlen yn unig sydd, yr arfer yn Saesneg yw rhoi ‘Schedule’ ond yn Gymraeg, ‘Yr Atodlen’. | b | u | e | atodlenni | ||
scheme | cynllun | g | u | e | cynlluniau | |||
scrutineer | craffwr | g | u | e | craffwyr | |||
scrutinise | craffu | bf | ||||||
scrutiny | craffu | bf | ||||||
secondary legislation | is-ddeddfwriaeth | b | u | e | ||||
Secretary of State | Ysgrifennydd Gwladol | g | u | e | Ysgrifenyddion Gwladol | |||
section | of an instrument | adran | b | u | e | adrannau | ||
Section X of the Y Act defines “Z”. Section X was amended by section T of the U Act. | Mae adran X o Ddeddf Y yn diffinio “Z”. Diwygiwyd adran X gan adran T o Ddeddf U. | Brawddeg safonol | ||||||
secure tenancy | tenantiaeth ddiogel | b | u | e | tenantiaethau diogel | |||
security of tenure | diogelwch deiliadaeth | g | u | e | ||||
See also section 40 of the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4) for provision about the procedure that applies to this instrument.
| Gweler hefyd adran 40 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4) am ddarpariaeth ynghylch y weithdrefn sy’n gymwys i’r offeryn hwn.
| Brawddeg safonol | ||||||
See the definition of the “appropriate national authority” in section 261(1) of the 2004 Act. | Gweler y diffiniad o “appropriate national authority” yn adran 261(1) o Ddeddf 2004. | Brawddeg safonol | Os Deddf uniaith Saesneg yw Deddf 2004, mae’r term mewn dyfynodau yn aros yn Saesneg. | |||||
seize | Take possession of smth by warrant or legal right, confiscate, impound. | ymafael yn | bf | |||||
self-employed person | as opposed to ‘worker’ in EU law | person hunangyflogedig | g | u | e | personau hunangyflogedig | ||
Senedd, the | Main public building of Senedd Cymru | Y Senedd | b | u | e | |||
Senedd Commission | Comisiwn y Senedd | g | u | e | ||||
Senedd Commissioner for Standards | Comisiynydd Safonau y Senedd | g | u | e | ||||
sequester | To remove (property, etc) from the possession of the owner temporarily; to seize and hold the effects of a debtor until the claims of creditors be satisfied. | secwestru, gorfodogi | bf | |||||
serve | to deliver a document (esp a legal document) to whom it is addressed according to a formal process. | cyflwyno | bf | |||||
several fishery | an exclusive right to fish derived from ownership of the soil. | pysgodfa unigol | b | u | e | pysgodfeydd unigol | ||
share | (In a company etc) | cyfranddaliad | g | u | e | cyfranddaliadau | ||
ship | llong | b | u | e | llongau | |||
S. I. | Statutory Instrument | O.S. | Offeryn Statudol | byr | ||||
S.I. No. | Statutory Instrument Number | Rhif O.S. | Rhif Offeryn Statudol | g | u | e | ||
sign | put a signature to a document | llofnodi | bf | |||||
signification | dynodi | bf | ||||||
sitting tenant | tenant (cyfredol) | g | u | e | tenantiaid (cyfredol) | |||
slaughter | cigydda | bf | ||||||
slaughterman | cigyddwr | g | u | e | cigyddwyr | |||
sliproad | ffordd ymadael, ffordd ymuno, neu slipffordd (os na fydd yn glir ai ymadael ynteu ymuno sy’n digwydd, neu os bydd angen cyfeirio at ‘exit road’) | b | u | e | ffyrdd ymadael, ffyrdd ymuno, neu slipffyrdd (os na fydd yn glir ai ymadael ynteu ymuno sy’n digwydd, neu os bydd angen cyfeirio at ‘exit roads’) | |||
special guardianship | gwarcheidiaeth arbennig | b | u | e | gwarcheidiaethau arbennig | |||
specified | penodedig | ans | ||||||
specified Community provision | darpariaeth Gymunedol benodedig | b | u | e | darpariaethau Cymunedol penodedig | |||
specify | pennu | bf | Gweler y nodyn am wahaniaethu yn ‘determine’ [‘pennu’] | |||||
speed limit | terfyn cyflymder | g | u | e | terfynau cyflymder | |||
spent provision | darpariaeth a ddisbyddwyd | b | u | e | ||||
standstill period | cyfnod segur | g | u | e | cyfnodau segur | |||
statement of reasons | datganiad o’r rhesymau | g | u | e | datganiadau o’r rhesymau | |||
statute | statud | b | u | e | statudau | |||
statutory | statudol | ans | ||||||
statutory instrument | offeryn statudol | g | u | e | offerynnau statudol | |||
stipple | dotwaith | g | u | e | ||||
stippled | â dotwaith | ymad | ||||||
stipulate | mynnu, pennu | bf | ||||||
subject of | giving rise to, the focus of e.g. the incident was the subject of international condemnation | yn destun | ymad | |||||
subject to | under the control or authority of, governed or regulated by e.g. a person subject to immigration control; a Statutory Instrument subject to the negative procedure. | yn ddarostyngedig i | ymad | |||||
subject to | dependent on, conditional on e.g. the merger is subject to the approval of the shareholders | yn amodol ar | ymad | |||||
subject to | likely or prone to be affected by, tending to, vulnerable or exposed to e.g. he was subject to bouts of nausea; she was subject to constant questioning | tueddol i, tueddol o gael, agored i etc | ymad | |||||
subject to the other provisions of this Act | yn ddarostyngedig i ddarpariaethau eraill y Ddeddf hon | ymad | ||||||
sub-lease | is-les | b | u | e | is-lesoedd | |||
subordinate legislation | is-ddeddfwriaeth | b | u | e | ||||
sub-paragraph | is-baragraff | g | u | e | is-baragraffau | |||
subsection | is-adran | b | u | e | is-adrannau | |||
substitute | rhoi X yn lle Y | bf | ||||||
superaffirmative procedure | gweithdrefn uwchgadarnhaol | b | u | e | gweithdrefnau uwchgadarnhaol | |||
supplementary provision | darpariaeth atodol | b | u | e | darpariaethau atodol | |||
survey | arolwg | g | u | e | arolygon | |||
survey | arolygu | bf | ||||||
surveyor | person conducting a survey | arolygydd | person sy’n cynnal arolwg | g | u | e | arolygwyr | |
suspend | atal dros dro | bf | ||||||
Swiss employed person
| person cyflogedig Swisaidd
| g | u | e | personau cyflogedig Swisaidd
| Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
Swiss frontier employed person
| person cyflogedig trawsffiniol Swisaidd | g | u | e | personau cyflogedig trawsffiniol Swisaidd | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
Swiss frontier self-employed person
| person hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd | g | u | e | personau hunangyflogedig trawsffiniol Swisaidd | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
Swiss national
| gwladolyn Swisaidd
| g | u | e | gwladolion Swisaidd
| Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
Swiss self-employed person
| person hunangyflogedig Swisaidd | g | u | e | personau hunangyflogedig Swisaidd | Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
take into possession | cymryd i feddiant | bf | ||||||
take possession | cymryd meddiant | bf | ||||||
temporary provision | darpariaeth dros dro | b | u | e | darpariaethau dros dro | |||
tenancy in common | tenantiaeth ar y cyd | b | u | e | tenantiaethau ar y cyd | |||
tenant in common | tenant ar y cyd | g | u | e | tenantiaid ar y cyd | |||
title | enw | “Enw byr” ac “enw hir” a ddefnyddir am “short title” a “long title” | ||||||
tenure | deiliadaeth | b | u | e | deiliadaethau | |||
The Clean Neighbourhoods and Environment Act 2005 | Deddf Cymdogaethau Glân a’r Amgylchedd 2005 | b | u | e | ||||
the day after | (e.g. the day after the day (on which) this Act receives Royal Assent) | drannoeth | (e.e. drannoeth y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol) | adf | “Diwrnod ar ôl” ac “unrhyw ddiwrnod ar ôl” sy’n gywir i gyfleu “a day after” ac “any day after”, e.e. “Welsh Ministers may specify any day after submission of the application as the registration day” = “Caiff Gweinidogion Cymru bennu mai’r diwrnod cofrestru yw unrhyw ddiwrnod ar ôl cyflwyno’r cais.” | |||
The date the provision comes into force | Y dyddiad y daw’r ddarpariaeth i rym | |||||||
The day on which this Act receives Royal Assent | Y diwrnod y caiff y Ddeddf hon y Cydsyniad Brenhinol | ymad | ||||||
The other provisions of this Act come into force on a day appointed by the Welsh Ministers in an order made by statutory instrument. | Daw darpariaethau eraill y Ddeddf hon i rym ar ddiwrnod a bennir gan Weinidogion Cymru mewn gorchymyn a wneir drwy offeryn statudol. | ymad | ||||||
The power to make [an order] under section [x] of the [Y] Act may be exercised to make [regulations] by virtue of section 39 of the Legislation (Wales) Act 2019 (anaw 4).
| Caniateir arfer y pŵer i wneud [gorchymyn] o dan adran [x] o Ddeddf [Y] er mwyn gwneud [rheoliadau] yn rhinwedd adran 39 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (dccc 4). | Brawddeg safonol | ||||||
The power to make regulations under section 38 of the Legislation (Wales) Act 2019 may be exercised to make an order by virtue of section 39 of that Act.
| Caniateir arfer y pŵer i wneud rheoliadau o dan adran 38 o Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 er mwyn gwneud gorchymyn yn rhinwedd adran 39 o’r Ddeddf honno. | Brawddeg safonol | ||||||
The Welsh Ministers' Code of Practice on the carrying out of Regulatory Impact Assessments was considered in relation to [this Order/these Regulations]. As a result, a regulatory impact assessment has been prepared as to the likely costs and benefits of complying with [this Order/these Regulations]. A copy can be obtained from *****, Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ [and on the Welsh Government’s website at www.gov.wales].
| Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r [Gorchymyn hwn/Rheoliadau hyn]. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r [Gorchymyn hwn/Rheoliadau hyn]. Gellir cael copi oddi wrth: *****, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ [ac ar wefan Llywodraeth Cymru ar www.llyw.cymru]. | Brawddegau safonol | Dilynwch y Saesneg, o ran rhoi priflythrennau neu beidio yn ‘Cod Ymarfer’ ac ‘Asesiadau Effaith Rheoleiddiol’. Os yw’r Saesneg yn defnyddio llythrennau bach, tynnwch sylw’r cyfreithiwr at y cyfarwyddyd rydym wedi ei gael gan LS y dylid defnyddio priflythrennau yn y frawddeg gyntaf, a llythrennau bach yn yr ail frawddeg. | |||||
The Welsh Ministers’ Code of Practice on the carrying out of Regulatory Impact Assessments was considered in relation to [this Order/these Regulations]. As a result it was not considered necessary to carry out a regulatory impact assessment as to the likely costs and benefits of complying with [this Order/these Regulations].
| Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r [Gorchymyn hwn/Rheoliadau hyn]. O ganlyniad, ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o’r costau a’r manteision sy’n debygol o ddeillio o gydymffurfio â’r [Gorchymyn hwn/Rheoliadau hyn].
| Brawddegau safonol | ||||||
The Welsh Ministers, as the appropriate national authority in relation to Wales, make the following Regulations in exercise of the powers conferred by sections…
| Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol o ran Cymru, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau…
| Brawddeg safonol | ||||||
the words from “x” to “y” / the words from “x” to the end | y geiriau o “x” hyd at “y” / y geiriau o “x” hyd at y diwedd | ymad | ||||||
there are other amending instruments but none is relevant to these Regulations | mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw’r un ohonynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn | ymad | ||||||
These regulations apply | Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys | ymad | ||||||
These Regulations are made under section XX of the XX Act (“the XX Act”). Section XX of the XX Act contains definitions of a number of terms relevant to these Regulations. | Mae’r Rheoliadau hyn wedi eu gwneud o dan adran XX o Ddeddf XX (“Deddf XX”). Mae adran XX o Ddeddf XX yn cynnwys diffiniadau o nifer o dermau sy’n berthnasol i’r Rheoliadau hyn. | Brawddeg safonol | ||||||
These Regulations may be cited as… | Enw’r Rheoliadau hyn yw… | ymad | ||||||
think | (e.g. if the Commissioner thinks…) | meddwl | (e.e. os yw’r Comisiynydd yn meddwl…) | |||||
This note is not part of the | Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r | ymad | ||||||
title | e.g as a title in an instrument | enwi | bf | |||||
to which there are amendments not relevant to these Regulations | y mae diwygiadau iddo (iddi/iddynt) nad ydynt yn berthnasol i’r Rheoliadau hyn | ymad | ||||||
trailer | ôl-gerbyd | g | u | e | ôl-gerbydau | |||
transfer | trosglwyddo | bf | ||||||
transfer of powers | trosglwyddo pwerau | |||||||
transition agreement | cytundeb pontio | addysg | g | u | e | cytundebau pontio | ||
transition plan | cynllun pontio | addysg | g | u | e | cynlluniau pontio | ||
transitional | trosiannol | ans | ||||||
transitional provision | darpariaeth drosiannol | b | u | e | darpariaethau trosiannol | |||
transitory provision | darpariaeth ddarfodol | b | u | e | darpariaethau darfodol | |||
transport | system or means of conveying people or goods from place to place by means of a vehicle etc. e.g. air transport, public transport | trafnidiaeth | b | u | e | |||
transport | the action of transporting something or the state of being transported; transportation; the transport of crude oil. | cludiant, cludo | g | u | e | |||
transpose | incorporate European law into the law of a Member State | trosi | bf | |||||
transposition note | nodyn trosi | g | u | e | nodiadau trosi | |||
treaty | cytuniad | g | u | e | cytuniadau | |||
tree preservation order | gorchymyn cadw coed | g | u | e | gorchmynion cadw coed | |||
Turkish national | gwladolyn Twrcaidd
| g | u | e | gwladolion Twrcaidd
| Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
Turkish worker | gweithiwr Twrcaidd
| g | u | e | gweithwyr Twrcaidd
| Mae hyn yn codi’n aml mewn Atodlenni ym maes addysg (e.e. mewn cynlluniau) | ||
turning | a place where a road branches off another | trofa | b | u | e | trofeydd | ||
unincorporate | not constituted as a legal or formal constitution | anghorfforedig | a | Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “unincorporated” | ||||
unincorporated | not constituted as a legal or formal constitution | anghorfforedig | a | Gweler hefyd y cofnod ar gyfer “unincorporate” | ||||
United Kingdom national
| gwladolyn o’r Deyrnas Unedig
| g | u | e | gwladolion o’r Deyrnas Unedig, gwladolion y Deyrnas Unedig | Defnyddir “Gwladolion o’r/y Deyrnas Unedig” yn y lluosog, gan ddibynnu ar y cyd-destun, e.e. “Pennir y caiff nifer penodol o wladolion y Deyrnas Unedig fynd...”, Rhaid “i’r gwladolion hynny o’r Deyrnas Unedig sydd wedi cael caniatâd i fynd…” | ||
u-turn | the turning of a vehicle in a u-shaped course so as to face in the opposite direction | tro pedol | g | u | e | troeon pedol | ||
validate | dilysu | bf | ||||||
vary | amrywio | bf | ||||||
verify | gwirhau | bf | ||||||
vessel | (=ship, boat etc) | llestr | b | u | e | llestrau | ||
vest | breinio | bf | ||||||
vested in Senedd Cymru | a freiniwyd yn Senedd Cymru | ymad | ||||||
vulnerable | hyglwyf | ans | ||||||
W. | Wales | Cy. | Cymru | byr | ||||
waive | to dispense with a requirement | hepgor | bf | |||||
waiver | a dispensing with a requirement | hepgoriad | g | u | e | hepgoriadau | ||
waste | gwastraff | g | u | e | gwastraffoedd | |||
waste material | deunydd gwastraff | g | u | e | deunyddiau gwastraff | |||
Welsh authority | An authority which exercises its functions in or as regards Wales | awdurdod Cymreig | g | u | e | awdurdodau Cymreig | Arferir “awdurdodau Cymru” mewn rhai cyd-destunau hefyd | |
Welsh Statutory Instrument | Offeryn Statudol Cymreig | g | u | e | Offerynnau Statudol Cymru | Gweler W.S.I. hefyd | ||
Westminster | = Palace of Westminster, where the UK Parliament meets, also figuratively for ‘Parliament’. | San Steffan | ep | Defnyddier ‘Westminster’ am y ddinas a’r ardal yn Llundain. [yn hanesyddol, nid rhan o’r Palas oedd Capel San Steffan, ond dyna le roedd Tŷ’r Cyffredin yn cwrdd ar ôl 1547] Although the Lords were accommodated in the Palace, the Commons originally had no permanent meeting place of their own, meeting either in the chapter house or the refectory of Westminster Abbey. After the Chantries Act 1547 abolished all private chapels, the Royal Chapel of St Stephen within the Palace of Westminster was handed over to the Commons. The Commons assembled in St Stephen's until 1834 when the Palace was burned down. This fire destroyed almost all of the Palace except Westminster Hall, the crypt of St Stephen's Chapel, the adjacent cloisters and the Jewel Tower. The present Houses of Parliament were built over the next 30 years. They were the work of the architect Sir Charles Barry (1795-1860) and his assistant Augustus Welby Pugin (1812-52). The design incorporated Westminster Hall and the remains of St Stephen's Chapel. | ||||
WG | LlC | byr | Mae hyn yn codi ar frig is-ddeddfwriaeth nad yw’n OS | |||||
whenever enacted or made | pa bryd bynnag y’i deddfir neu y’i gwneir/ pa bryd bynnag y’u deddfir neu y’u gwneir | ymad | ||||||
where the right to reside arises because a British citizen would otherwise be deprived of the genuine enjoyment of the substance of their rights as a European Union citizen | pan fo’r hawl i breswylio yn codi oherwydd byddai dinesydd Prydeinig fel arall yn cael ei amddifadu o fwynhad gwirioneddol sylwedd ei hawliau fel dinesydd o’r Undeb Ewropeaidd | ymad | ||||||
Whereas it appears to Senedd Cymru | Gan ei bod yn ymddangos i Senedd Cymru | ymad | ||||||
Whitehall | (offices, officials, policy, etc of ) Government of UK | Whitehall | ep | |||||
with regard to.. | o ran… | ymad | ||||||
within x months after… | o fewn x mis ar ôl… | Nid yw’r cyfnod yn cynnwys y dyddiad pryd y mae’r cyfnod yn dechrau. | ymad | |||||
within x months of… | o fewn x mis i… | Nid ‘o fewn X mis o...’
Ystyr ‘of’ yma yw ‘indicating a point of time from which something begins’. Mae ‘i’ (ystyr 4 yn GPC) yn cyfateb. Mae’r cyfnod yn cynnwys y dyddiad pryd y mae’r cyfnod yn dechrau. | ymad | |||||
without prejudice to…. | e.g. without prejudice to the Part II of the 1999 Regulations | heb ragfarnu…. neu heb iddo leihau effaith…
[yn ôl yr hyn sy’n briodol yn y cyd-destun] | e.e. heb ragfarnu Rhan II o Reoliadau 1999 ‘ heb iddo leihau effaith Rhan II o Reoliadau 1999 | ymad | ||||
without prejudice to the generality of… | heb ragfarnu cyffredinolrwydd…
| ymad | ||||||
[Word or expression] has the meaning given by section 25 of the Housing (Wales) Act 2014. | Mae i [y gair neu’r ymadrodd] yr ystyr a roddir gan adran 25 o Ddeddf Tai (Cymru) 2014. | Brawddeg safonol | ||||||
Words and expressions used in these Regulations have the same meaning as they have in the Housing (Wales) Act 2014. | Mae i eiriau ac ymadroddion a ddefnyddir yn y Rheoliadau hyn yr un ystyr ag sydd iddynt yn Neddf Tai (Cymru) 2014. | Brawddeg safonol | ||||||
wrong in law | anghywir mewn cyfraith | ymad | ||||||
W.S.I. | Welsh Statutory Instrument | O.S.C. | Offeryn Statudol Cymreig | byr | ||||
young persons | pobl ifanc | b | u | e | ||||
zebra hatching | llinellau sebra | ll | e |
Y rhannau ymadrodd – gallwch ddefnyddio’r byrfoddau hyn:
(1) | (2) | (3) |
Gwrywaidd – g Benywaidd – b
| Unigol – u Lluosog - ll | Enw – e Berf – bf Ansoddair – ans Adferf – adf Arddodiad – ardd Enw Priod – ep Rhagenw – rh Cysylltair – c Ebychair – ebych Bannod – b Niwtral - n Byrfodd - byr |