Publication, Document
LGBTQ+ terms
A glossary of English and Welsh-language terms from the LGBTQ+ field.
A PDF download of this document will be available soon.
These terms are based on terms standardised by the Translation Service for the purpose of translating the Welsh Government's LGBTQ+ Action Plan.
Definitions and notes are provided in Welsh only.
Term Saesneg (English term) | Term Cymraeg (Welsh term) | Lluosog (Plural) | Diffiniad (Definition) | Statws (Status) | Nodiadau (Notes) |
asexual (ace) | arywiol (ace) | Disgrifiad o bobl sy'n cael dim neu prin ddim profiad o atyniad rhywiol at eraill. Ace yw'r label byrfodd. | A | ||
anti-LGBTQ+ | gwrth-LHDTC+ | A | |||
aromantic (aro) | aramantaidd (aro) | Disgrifiad o bobl sy'n cael dim neu prin ddim profiad o atyniad rhamantaidd at eraill. Aro yw'r label byrfodd. | A | ||
sex assignment | pennu rhyw | Y weithred o ddynodi rhyw baban ar adeg ei eni, gan amlaf fel benyw neu wryw. Gwneir hyn gan amlaf gan ymarferydd meddygol, ar sail nodweddion corfforol. | A | ||
assign at birth | pennu adeg geni | A | |||
biphobia | deuffobia | A | |||
biphobic | deuffobig | A | |||
cisgender (cis) | cisryweddol (cis) | Disgrifiad o berson y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. | A | Daw’r elfen 'cis' o’r rhagddodiad Lladin 'cis-', sy’n golygu ‘yr ochr hon i [rywbeth]’. "sis" yw’r ynganiad Saesneg ond "cis" yn Gymraeg, gan adlewyrchu ynganiad y Lladin gwreiddiol. | |
cisgender man (cis man) (cisman) | dyn cisryweddol (dyn cis) (cisddyn) | dynion cisryweddol (dynion cis) (cisddynion) | Gwryw y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. | A | |
cisgender woman (cis woman) (ciswoman) | menyw cisryweddol (menyw cis) (cisfenyw) | menywod cisryweddol (menywod cis) (cisfenywod) | Benyw y mae ei hunaniaeth rhywedd yn cyd-fynd â'r rhyw a bennwyd adeg geni. | A | |
conversion practices | arferion trosi | Ymyriadau o natur amrywiol y bwriedir iddynt newid neu atal cyfeiriadedd rhywiol a rhywedd person, ee ceisio newid person o fod yn berson nad yw'n heterorywiol i fod yn berson heterorywiol, neu o fod yn berson trawsryweddol neu rywedd-amrywiol i fod yn berson cisryweddol. | A | ||
conversion therapy | therapi trosi | therapïau trosi | A | Gweler y ffurf conversion practices / arferion trosi am ddiffiniad. Mae'r term hwn yn gyfystyr â'r ffurf honno, ond yn gyffredinol ni fydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r ffurf conversion therapy / therapi trosi. | |
endosex | endoryw | A | Dyma'r gwrthwyneb i intersex/rhyngryw. | ||
gender | rhywedd | rhyweddau | Hunaniaeth o ran bod yn wryw, yn fenyw neu'n berson anneuaidd, yng nghyd-destun gwahaniaethau diwylliannol a chymdeithasol. | A | Gall y term hwn hefyd fod yn gyfystyr â gender identity / hunaniaeth rhywedd. Gweler y cofnod hwnnw am ddiffiniad o'r cysyniad hwnnw. |
gender-diverse | rhywedd-amrywiol | A | |||
gender expression | mynegiant rhywedd | A | |||
gender identity | hunaniaeth rhywedd | hunaniaethau rhywedd | Term a all fod yn gyfystyr â gender/rhywedd, ac sy'n cyfeirio at ymdeimlad person ohono'i hun fel gwryw, benyw neu berson anneuaidd. | A | |
gender marker | dynodwr rhywedd | dynodwyr rhywedd | Dynodiad ysgrifenedig sy'n cofnodi rhywedd unigolyn, gan amlaf mewn ffurflenni neu gronfeydd data. | A | |
gender reassignment | ailbennu rhywedd | Mae ailbennu rhywedd yn nodwedd sydd wedi'i diogelu gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, lle y'i diffinnir fel proses (neu ran o broses) y bydd person yn bwriadu mynd drwyddi, yn mynd drwyddi neu wedi mynd drwyddi at ddiben ailbennu rhyw y person hwnnw drwy newid priodweddau ffisiolegol neu briodweddau eraill sy'n perthyn i ryw. | A | ||
gender recognition | cydnabod rhywedd | Y weithred gyfreithiol o gofnodi rhywedd person yn swyddogol. | A | ||
gender-neutral language | iaith niwtral o ran rhywedd | Geirfa sy'n osgoi tuedd tuag at ryw neu rywedd penodol. | A | Cymharer â gendered language / iaith ryweddol. | |
gendered language | iaith ryweddol | Geirfa sydd â thuedd tuag at ryw neu rywedd penodol. Er enghraifft, geirfa yn cynnwys elfen mewn gair neu ymadrodd sy'n awgrymu rhywedd y person mwyaf addas ar gyfer cyflawni rhyw rôl (ysgrifenyddes, dyn tân). Gall elfennau gramadegol eraill yn y Gymraeg, fel treigliadau, awgrymu rhywedd hefyd. | A | Cymharer â gender-neutral language / iaith niwtral o ran rhywedd | |
heterosexual (straight) | heterorywiol (syth) | Disgrifiad o ddyn sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd at fenywod neu at fenyw sydd â chyfeiriadedd rhywiol a/neu ramantaidd at ddynion. | A | ||
homophobia | homoffobia | A | |||
homophobic | homoffobig | A | |||
intersectionality | croestoriadedd | Y ffordd y mae gwahanol agweddau o hunaniaeth person, e.e. ethnigrwydd, dosbarth, rhyw, rhywedd, anabledd, yn gweithio gyda’i gilydd i atgyfnerthu anghyfartaledd. | A | ||
intersex | rhyngryw | Person nad yw'n cyfateb i'r disgwyliadau confensiynol ar gyfer datblygiad benyw neu wryw o ran anatomi, metaboliaeth neu eneteg. | A | Dyma'r gwrthwyneb i endosex/endoryw. | |
LGBTQ+ | LHDTC+ | Byrfodd sy'n cyfeirio at bobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol, trawsryweddol/traws a cwiar/pobl sy'n cwestiynu. Defnyddir y symbol + i gynnwys a chydnabod yr amrywiol dermau eraill y mae pobl yn eu defnyddio i ddisgrifio eu hunaniaethau a'u cyfeiriadedd, gan gynnwys rhyngryw, arywiol ac aramantaidd. | A | ||
LGBTQ+ disabled people | pobl anabl LHDTC+ | A | |||
LGBTQ+ inclusive education | addysg sy'n LHDTC+-gynhwysol | A | |||
LGBTQ+ people | pobl LHDTC+ | A | |||
LGBTQ+ rights | hawliau pobl LHDTC+ | A | |||
LGBTQ+ veteran | cyn-aelod o'r lluoedd arfog sy'n LHDTC+ | A | |||
LGBTQ+ Welsh speaker | siaradwr Cymraeg LHDTC+ | A | |||
non-binary | anneuaidd | Disgrifiad o berson sydd â rhywedd y tu allan i'r syniad traddodiadol deuaidd gwryw/benyw o rywedd. Gall y rhywedd hwnnw fod unrhyw le ar hyd y sbectrwm rhwng gwryw a benyw, neu gall profiad y person o rywedd fod yn gyfan gwbl y tu hwnt i'r sbectrwm hwnnw. | A | ||
Pride Cymru | Pride Cymru | A | |||
pride | balchder | Label a ddefnyddir ar ddigwyddiadau cyhoeddus neu arteffactau (baneri, etc) sy'n hyrwyddo hawliau pobl LHDTC+ neu'n dathlu'r diwylliant LHDTC+. | A | Yn aml, defnyddir priflythyren gyda'r gair yn yr ystyr hon. | |
queer | cwiar | A | Yn y gorffennol defnyddid y term hwn fel un difrïol am unigolion LHDTC+, ac mae rhai pobl yn ystyried bod y term yn un sarhaus. Mae bellach wedi cael ei adfeddiannu gan nifer o bobl LHDTC+. Weithiau gwelir y ffurf Gymraeg 'cwiyr' hefyd. | ||
sex | rhyw | rhywiau | Y term cyffredinol am y labeli a bennir i bobl ar sail ystod o nodweddion gan gynnwys cromosomau, proffiliau hormonau a nodweddion corfforol (ee organau rhyw). Gwryw a benyw (neu ddyn a menyw) yw'r labeli deuaidd traddodiadol ar ryw. | A | Cymharer â'r diffiniad o gender / rhywedd. |
sexual orientation | cyfeiriadedd rhywiol | Atyniad rhywiol un person at berson arall. Gall pobl ddefnyddio'r termau heterorywiol, hoyw, lesbiaidd neu ddeurywiol, ymysg eraill, i ddisgrifio eu cyfeiriadedd rhywiol. | A | ||
transgender (trans) | trawsryweddol (traws) | Term cyffredinol i ddisgrifio pobl nad yw eu rhywedd yn cyd-fynd â'r rhywedd a bennwyd iddynt adeg eu geni. Bydd rhai pobl anneuaidd yn ystyried eu hunain yn bobl drawsryweddol, ond nid pob un. | A | ||
transgender man (trans man) | dyn trawsryweddol (dyn traws) | dynion trawsryweddol (dynion traws) | A | ||
transgender people (trans people) | pobl drawsryweddol (pobl draws) | A | Gweler y diffiniad o transgender/trawsryweddol. | ||
transgender woman (trans woman) | menyw drawsryweddol (menyw draws) | menywod trawsryweddol (menywod traws) | A | ||
transphobia | trawsffobia | A | |||
transphobic | trawsffobig | A |