Welsh Language Partnership Council meeting: 16 June 2022
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 16 June 2022.
This file may not be fully accessible.
In this page
Cofnod
Yn bresennol
Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg
Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dafyd Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rosemary Jones , Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Rhian Hodges, Prifysgol Bangor (ar gyfer Eitem 6 yn unig)
Cynog Prys, Prifysgol Bangor (ar gyfer Eitem 6 yn unig)
Sioned Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr, Diogelu Iechyd, Llywodraeth Cymru
Bethan Webb, Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
(Ysgrifenyddiaeth), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig), Is-Adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru
Ymddiheuriadau
Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
Eitem 1: Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran y Gymraeg
Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050.
Eitem 2: Y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg: diweddariad a thrafodaeth
Trosglwyddwyd yr awenau i un o swyddogion Llywodraeth Cymru roi diweddariad ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg.
Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:
- Nododd un aelod ei fod eisiau datgan buddiant gan fod ganddo eiddo yng Nghaerdydd.
- Nodwyd bod nifer yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn galonogol iawn.
- Roedd yna gefnogaeth i’r rheoliadau ar drethi newydd. Cafwyd trafodaeth am rôl y llysgenhadon diwylliannol. Nododd ambell aelod nad oedd am weld y Llywodraeth yn colli ffocws ar y materion hanfodol bwysig fel tai, yn benodol y maes tai i bobl leol. Nodwyd bod angen gofal rhag i’r llysgenhadon ddwyn adnoddau swyddogion oddi wrth waith mai dim ond Llywodraeth, a llywodraeth leol all ymgymryd ag ef.
- Pwysleisiwyd bod angen edrych ar y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yn ei gyd-destun ehangach drwy gysylltu gyda’r maes twristiaeth, yr economi, tai a’r gymuned. Nodwyd y gallai’r pwyslais ar greu mentrau cydweithredol fod yn ddull effeithiol o glymu nifer o’r meysydd hyn at ei gilydd.
Eitem 3: Y Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg (CSCA): diweddariad a thrafodaeth
Cafwyd cyflwyniad gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru ar yr hyn sydd wedi bod yn digwydd wrth i’r CSCA newydd gael eu paratoi a’r hyn fydd yn digwydd dros y misoedd nesaf.
- Fe wnaeth un aelod ddatgan buddiant gan ei bod yn cefnogi ysgolion yn y Gogledd.
- Cydnabuwyd bod hwn yn faes hollbwysig.
- Nodwyd bod y data yn gadarnhaol a phwysigrwydd cyrraedd y targedau o ran y taflwybr tua’r miliwn.
- Cydnabuwyd bod llawer o waith i’w wneud gydag Awdurdodau Lleol.
- Cafwyd trafodaeth am faint y buddsoddiad sydd ei angen o ran refeniw, costau cyfalaf a datblygu gweithlu i wireddu hyn.
Cam Gweithredu 1: Trafod adroddiad ar gynllun peilot Dwyfor yn y cyfarfod nesaf os yn bosib.
Eitem 4: Unrhyw Fater Arall
Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.
Egwyl
(Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair.)
Eitem 5: Gair o groeso a diweddariad gan y Gweinidog
Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.
Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau 'Rhaglen Waith Cymraeg 2050' ers y cyfarfod diwethaf.
Eitem 6: Defnyddio’r Gymraeg ar Ynys Môn
Cafwyd cyflwyniad gan Rhian Hodges a Cynog Prys o Brifysgol Bangor am brosiect sy’n edrych ar ddefnydd o’r Gymraeg ar Ynys Môn.
Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth:
- Fe wnaeth un aelod ddatgan diddordeb gan ei fod yn byw ar yr ynys.
- Nodwyd y byddai wedi bod yn fuddiol gweld y data ar gyfer ardaloedd glan y môr e.e. Benllech a Bae Trearddur, sydd bellach ar eu hail neu drydedd genhedlaeth o bobl ddi-Gymraeg.
- Nodwyd bod yna wahaniaeth rhwng gorfodaeth i ddefnyddio’r Gymraeg a chreu amgylchedd i deimlo’n gyfforddus wrth ei defnyddio.
- Trafodwyd defnyddio chwaraeon fel sbardun i ysgogi pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd manteisio ar broffil y Gymraeg yn sgil llwyddiant y tîm pêl-droed cenedlaethol gyda’u hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Qatar a llwyddiant Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn hyrwyddo’r iaith.
- Nodwyd bod dyfyniad gan Ian Gwyn Hughes yn adran hamdden Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned a gyhoeddwyd gan Brifysgol Bangor yn 2017.
Cam Gweithredu 2: Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth.
Cam Gweithredu 3: Rhian Hodges i rannu’r Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth.
Eitem 7: Diweddariad ar Mwy na Geiriau
Cafwyd diweddariad ar raglen 'Mwy na Geiriau' gan Sioned Rees, Dirprwy Gyfarwyddwr Diogelu Iechyd Llywodraeth Cymru.
Dyma rai o’r materion a godwyd yn ystod y drafodaeth.
- Data: nodwyd bod peidio â chynnwys data yn y prosiect cyntaf yn gam gwag. Cytunwyd y bydd hi’n bwysig cynnwys data o hyn ymlaen er mwyn gosod sylfaen i drywydd y polisi.
- Gweithlu ac ymwybyddiaeth iaith: gan fod canran mor sylweddol yn gweithio yn y maes iechyd, nodwyd bod hyn yn gyfle i ni fynd ati i gynyddu defnydd o’r Gymraeg.
- Nodwyd bod angen canolbwyntio ar arweinyddiaeth o fewn y sector er mwyn gwthio’r neges a chodi ymwybyddiaeth iaith.
Eitem 8: Cyngor i’r Gweinidog ar sail trafodaethau’r bore
Rhoddwyd adborth gan un aelod i’r Gweinidog ar sail trafodaethau’r bore.
Eitem 9: Unrhyw fater arall
- Diolchwyd i Rhodri Llwyd Morgan am ei waith fel aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg dros y degawd diwethaf gan mai hwn oedd ei gyfarfod olaf.
- Nodwyd bod Samuel Williams wedi derbyn gwahoddiad i ymuno â’r Cyngor fel aelod newydd.
- Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth ac am eu gwaith.
Pwyntiau Gweithredu
Pwynt gweithredu | I bwy? | Erbyn pryd? | Wedi cwblhau? | |
---|---|---|---|---|
1 |
Trafod adroddiad ar gynllun peilot Dwyfor yn y cyfarfod nesaf os yn bosib. |
Ysgrifenyddiaeth | Cyfarfod Rhagfyr 2022 | Cwblhawyd |
2 | Rhian Hodges i rannu’r cyflwyniad gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth. | Ysgrifenyddiaeth | Wedi’u hanfon ar 20 Mehefin 2022 | Cwblhawyd |
3 |
Rhian Hodges i rannu’r 'Pecyn Cymorth Hybu’r Gymraeg yn y Gymuned' gyda’r Aelodau drwy law'r Ysgrifenyddiaeth. |
Ysgrifenyddiaeth | Wedi’u hanfon ar 20 Mehefin 2022 | Cwblhawyd |