Skip to main content

Yn bresennol

  • Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg
  • Rhodri Llwyd Morgan, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Enlli Thomas (tan 14:00), Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Bethan Webb, Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru
  • Aelodau staff Is-adran y Gymraeg (Arsylwi’n unig), Is-Adran y Gymraeg, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

  • Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
  • Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg, i rith-gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg. Nodwyd bod aelodau o Uwch-dîm Rheoli Is-Adran y Gymraeg yn bresennol yn y cyfarfod i wrando ar y trafodaethau ac i fod ar gael i ateb cwestiynau ar unrhyw faes perthnasol yn ôl y galw.

Eitem 1: diweddariad gan y Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar yr hyn sydd wedi digwydd dros yr haf.

Cyn troi at yr eitem gyntaf, cyfeiriodd y Gweinidog at gofnodion y cyfarfod diwethaf, a gynhaliwyd ar 18 Mehefin gan holi am unrhyw sylwadau brys. Cynigodd y Gweinidog bod aelodau’n cysylltu gyda’r Ysgrifenyddiaeth os bydd ganddynt unrhyw sylwadau ar y cofnodion. Fel arall, byddant yn cael eu cymeradwyo.

Diolchodd aelod i’r Gweinidog ac i aelodau’r Is-adran am eu gwaith ar hyd y cyfnod hwn.

Eitem 2: adborth gan yr is-grwpiau

Trodd y Gweinidog at yr ail eitem ar yr agenda.

Gan droi at pob is-grŵp yn ei dro, estynnwyd croeso i’r cadeiryddion roi diweddariad ar eu gwaith.

Yn dilyn diweddariad cadeirydd is-grwp yr Economi, cododd dau bwynt gweithredu:

Pwynt Gweithredu 1: Ystyried gwahodd Cyfarwyddwr Busnes a Rhanbarthau y Llywodraeth i ddod i gyfarfodydd Bwrdd Crwn yr Economi yn y dyfodol.

Pwynt Gweithredu 2: Rhannu gwerthusiad Arfor gyda’r Gweinidog pan ddaw ar gael.

Diolchodd y Gweinidog i’r is-grwpiau am eu gwaith gan ddatgan ei bod yn edrych ymlaen at glywed mwy yn y cyfarfod nesaf.

Eitem 3: “Mae Bywydau Du o Bwys / Black Lives Matter”

Cafwyd cyflwyniad anffurfiol gan aelod ar y pwnc ‘Mae Bywydau Du o Bwys’. Nododd yr aelod ei fod wedi bod yn ysgrifennu llyfr sy’n cyffwrdd â’r maes a sut mae hynny’n cysylltu gyda’r gymuned Gymraeg.

Nododd yr aelod beth oedd y canfyddiadau a gafwyd a bu’n trafod ystadegau yn ymwneud â nifer y bobl o gymunedau ethnig sy’n siarad Cymraeg.

Pwynt Gweithredu 3: Ceisio denu aelodau o’r gymuned ethnig i ystyried ymgeisio i ddod yn aelodau o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg yn y dyfodol.

Pwynt Gweithredu 4: Cynnwys cyfeiriad cynhwysfawr at y maes hwn yn Rhaglen Waith nesaf y Llywodraeth a chynnwys aelodau o’r gymuned wrth ddrafftio’r adran berthnasol.

Pwynt Gweithredu 5: Gwneud yn siŵr bod polisïau sy’n ymwneud â’r Gymraeg (er enghraifft strategaeth Cymraeg. Mae’n perthyn i ni i gyd y Llywodraeth) yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau cydraddoldeb.

Eitem 4: diweddariad ar waith ymchwil ym maes ail gartrefi a thrafodaeth

Trodd y Gweinidog at yr eitem nesaf ar yr agenda.

Cafwyd diweddariad anffurfiol gan aelod o’r Cyngor am ei waith ymchwil yn y maes hwn gan gyfeirio at ddatblygiadau pellach yn sgil COVID-19.

Soniodd un aelod ei bod wedi gwneud ymholiadau yn ei hardal leol, a nododd bod yna gynnydd sylweddol wedi bod o ran gwerthiant tai ac ym mhrisiau’r tai. Yn anffodus, nid oedd modd iddi wybod faint o’r tai hyn sy’n ail gartrefi.

Nododd y Gweinidog ei bod yn edrych ymlaen at ddarllen copi terfynol o'r adroddiad yn y Flwyddyn Newydd.

Eitem 5: adroddiad Blynyddol Cymraeg 2050 ar gyfer 2019 i 2020 (drafft) a’r camau nesaf

Trodd y Gweinidog i drafod yr adroddiad blynyddol.

Nododd y Gweindiog bod yr adroddiad ar ffurf drafft. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyflwyno yn y Senedd ddiwedd mis Tachwedd. Y bwriad felly oedd rhoi blas i’r aelodau ar ble oedden ni wedi cyrraedd gyda Cymraeg 2050 cyn i COVID-19 daro cyn agor trafodaeth am rai o’r materion y dylem eu hystyried wrth droi ein golygon tuag at ddrafftio Rhaglen Waith newydd ar gyfer 2021 ymlaen.

Cafwyd trafodaeth lefel uchel ar gynnwys yr adroddiad ac yna ar rai o’r prif heriau i’w hystyried, er enghraifft Brexit, y sefyllfa sosio-economaidd, ail gartrefi, pobl ifanc yn gadael y cadarnleoedd, cadernid yr economi ayyb.

Diolchodd y Gweinidog i’r Aelodau am y drafodaeth gan addo y bydd digon o gyfle i gydweithio a thrafod y Rhaglen Waith nesaf yn 2021.

Eitem 6: unrhyw fater arall

Nid oedd unrhyw fater arall i’w drafod.

Diolchodd i’r Gweinidog i’r aelodau am eu hamser, eu cefnogaeth a’u gwaith.

Pwyntiau Gweithredu

 

 

Pwynt gweithredu

I bwy?

Erbyn pryd?

Wedi cwblhau?

1

Ystyried gwahodd Cyfarwyddwr Busnes Rhanbarthau y Llywodraeth i ddod i gyfarfod Bwrdd Crwn yr Economi yn y dyfodol.  

Is-grŵp yr Economi

 

Gwyrdd

2

Rhannu gwerthusiad Arfor gyda’r Gweinidog pan ddaw ar gael.

Is-grŵp yr Economi

Hwn ar gael ym mis Mawrth

Gwyrdd

3

Ceisio denu aelodau o’r gymuned ethnig i ystyried ymgeisio i ddod yn aelodau o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg yn y dyfodol.

Swyddogion Llywodraeth Cymru

 

Gwyrdd

4

Cynnwys cyfeiriad cynhwysfawr at y maes hwn yn Rhaglen Waith y Llywdoraeth a chynnwys aelodau o’r gymuned wrth ddrafftio’r adran berthnasol. 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Parhaus

Melyn

5

Gwneud yn siwr bod polisïau sy’n ymwneud â’r Gymraeg (er enghraifft strategaeth Cyrmaeg. Mae’n perthyn i ni gyd y Llywdoraeth) yn gweithio ochr yn ochr â pholisïau cydraddoldeb. 

Swyddogion Llywodraeth Cymru

Parhaus

Gwyrdd