Welsh Language Partnership Council meeting: 26 November 2018
Minutes of a meeting of the Welsh Language Partnership Council on 26 November 2018.
This file may not be fully accessible.
In this page
Yn bresennol
Bae Caerdydd
- Simon Brooks, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Rhian Huws-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Dewi Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Angharad Lloyd-Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Owen Derbyshire, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg
- Eluned Morgan AC, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes
- Clive Phillips, Estyn
- Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr, Is-adran y Gymraeg (Cadeirydd sesiwn y bore)
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Is-adran y Gymraeg
- [ ], Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
- [ ], Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
-
[ ], Is-adran y Gymraeg (Ysgrifenyddiaeth)
Sesiwn y bore
Eitem 1 - Gair o groeso gan Bethan Webb
Croesawodd y Cadeirydd yr aelodau i’w trydydd cyfarfod, a chyflwyno ymddiheuriadau gan Gwynedd Parry, Rhodri Llwyd Morgan, Gwion Lewis a Marian Thomas.
Amlinellwyd prif bwrpas y diwrnod, sef edrych yn ôl ar flwyddyn llawn o weithredu’r strategaeth newydd, gyda llawer o waith da wedi’i wneud ym maes y blynyddoedd cynnar, addysg, technoleg, defnydd iaith a phrosiectau ar y cyd â Chomisiynydd y Gymraeg.
Aeth y Cadeirydd ymlaen i agor trafodaeth ar beth yw rôl y Llywodraeth a beth yw rôl y Comisiynydd o ran hybu a hyrwyddo.
Nododd Aelod ei fod yn gweld y Bil newydd yn newid mawr o ran polisi y Llywodraeth, a bod hyn yn ddigwyddiad o bwys.
Gofynnodd Aelod arall beth mae’r Comisiynydd wedi’i gyflawni a beth sy’n gyrru’r ofn y mae grwpiau penodol yn ei deimlo o ran diddymu’r rôl? Dywedwyd hefyd bod cynllunio yn un peth, ond bod datblygu a hybu yn rhywbeth arall, a bod angen i’r Comisiynydd / Comisiwn helpu’r Llywodraeth i fod yn fwy systematig gyda’r rhain.
Dywedodd Aelod arall nad oes ‘Plan B’ yn y tymor byr, a bod peryg i hyn arwain at greu siaradwyr Cymraeg drwy’r system addysg ac wedyn gwneud dim byd gyda nhw wedi hynny, gan ddilyn yr hyn sy’n digwydd gyda’r Wyddeleg. Dywedwyd hefyd bod gan grwpiau lleiafrifol hawliau, ond nad oes gan siaradwyr Cymraeg hawliau tebyg. Ychwanegwyd bod angen i grwpiau ieithoedd lleiafrifol siarad gyda’i gilydd yn amlach.
Gofynnodd Aelod arall beth yw’r sgôp? A fydd personoliaeth newydd yng nghyd-destun y Comisiynydd yn ymestyn y sgôp i symud pethau yn eu blaen yn y tymor byr?
Nododd Swyddog fod y Papur Taro’r Cydbwysedd Iawn wedi newid y gêm ac y bydd cyfle i gael sgyrsiau gyda’r Comisiynydd newydd. Soniwyd hefyd mai rhyddid i siarad Cymraeg yw’r hyn sy’n bwysig.
Cytunodd Aelod a dywedodd fod angen tynnu llinell o dan y safonau presennol a dechrau eto, bod angen symud y pwyslais er mwyn symud ymlaen.
Soniodd Swyddog bod swyddogion iaith mewn sefydliadau yn ganolog i’r Safonau. Bu trafodaeth fer am rôl swyddogion iaith gyda’r Safonau a holodd Aelod a oes rhywun wedi dadansoddi pam nad yw pobl yn awyddus i ymgeisio am swyddi swyddogion iaith, a sut yr aed ati i hysbysebu’r swyddi hynny?
Gofynnodd Aelod a yw hi’n bryd newid gêr gyda’r gwaith cynllunio? Nododd ei fod yn ymwybodol nad yw ‘cynllunio’ a ‘datblygu’ wedi bod yn eiriau sydd wedi eu defnyddio’n aml o ran hybu a hyrwyddo yn y gorffennol.
Eitem 2 - Edrych dros flwyddyn gyntaf y strategaeth – diweddariad ar y Taflwybr gan swyddogion KAS Llywodraeth Cymru
Mewn ymateb i’r cyflwyniad ar y Taflwybr, soniodd Aelod am yr angen i’r system addysg greu mwy o siaradwyr Cymraeg ac esboniodd nad yw’n credu bod y gyfundrefn bresennol yn llwyddo i wneud hyn.
Soniodd Aelod bod Cymraeg ar y cwricwlwm yn bwysig ac y dylai pob plentyn gael ei gyffroi gan y Gymraeg, gan ddysgu am ddiwylliant Cymru ac am ddinasyddiaeth. Nodwyd nad yw’r pwnc yn cael ei ddysgu yn y ffordd orau, ac nad yw’n tanio dychymyg plant o ran y Gymraeg. Ychwanegwyd bod angen sicrhau bod gan blant ddiddordeb mewn ieithoedd a dealltwriaeth ohonynt.
Nododd Aelod bod yna gwymp yn y niferoedd sy’n astudio Lefel A iaith gyntaf ac ail iaith, a bod rhai prifysgolion wedi ddioddef gyda cholli staff.
Ychwanegodd Swyddog bod rhai o’r farn bod Bagloriaeth Cymru yn un o’r rhesymau pam fod y Gymraeg yn bwnc llai poblogaidd erbyn hyn, a bod ieithoedd yn gyffredinol yn dod yn llai poblogaidd. Rhoddwyd clod hefyd i Brifysgol Caerdydd am lwyddo i fynd â’r Gymraeg y tu hwnt i faes llenyddiaeth, a bod y maes astudio yn fwy eang.
Cynigodd Aelod y gellid ystyried peidio â gofyn i fyfyrwyr bod â Lefel A yn y Gymraeg er mwyn cael astudio Cymraeg fel pwnc yn y brifysgol, gan eu bod yn astudio pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg.
Soniodd Aelod am y syniad o hyder o ran gofyn i bobl am eu gallu gyda’r Gymraeg. Trafodwyd bod Cymry Cymraeg yn beirniadu ei gilydd o ran gallu ieithyddol, ac y gall hyn fynd yn fater negyddol iawn. Crybwyllodd Aelod arall ei bod yn bwysig tracio canfyddiadau, ond gan holi a oes angen i’r wybodaeth hon fod yn gyhoeddus.
Cyfeiriodd Aelod arall at y Gwe Iaith gan holi a ellid ei defnyddio wrth adolygu ysgolion? Esboniodd Swyddog nad oedd hynny’n bosibl ar hyn o bryd.
Sesiwn y prynhawn
Eitem 3 - Sgwrs gyda Clive Phillips, Estyn
Agorodd Clive drwy roi cyflwyniad ar ‘Y Fframwaith Cyffredin Arolygu’. Esboniodd bod y Fframwaith yn cael ei ddefnyddio ar gyfer y rhan fwyaf o arolygiadau darparwyr addysg a hyfforddiant yng Nghymru (nododd fod y fframwaith ychydig yn wahanol mewn rhai sectorau), a rhoddodd gefndir y Pum Maes arolygu. Adroddodd hefyd ar y Tri Adroddiad Thematig sydd i ddod.
Gofynnodd Aelod am ddefnydd y Gymraeg fel iaith gymdeithasol. Soniodd Clive bod siarad â’r disgyblion a chynnal gweithgaredd anffurfiol yn un dull o wneud hynny, a bod y Siarter Iaith hefyd yn declyn defnyddiol hefyd.
Soniodd Aelod ei fod yn ymwybodol o ysgolion nad ydynt wedi gwneud dim o ran defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg. Gofynnodd Aelod arall beth yw diffiniad Estyn o ‘ddefnydd cymdeithasol’ o gymharu â diffiniad ysgolion. Dywedodd Clive y byddai’n cysylltu gydag ateb yn y dyfodol. Hefyd, gofynnwyd am ddiffiniad Estyn o ‘ddefnydd o’r Gymraeg,’ a chynutodd Clive i ddarparu’r diffiniad wedi’r cyfarfod.
Cam Gweithredu: Clive Phillips i gyflwyno diffiniad Estyn o ‘defnydd cymdeithasol’
Cam Gweithredu: Clive Phillips i gyflwyno diffiniad o ‘defnydd o’r Gymraeg’
Gofynnodd Aelod faint o argymhellion sy’n bodoli o ran gwella sgiliau Saesneg mewn ysgolion Cymraeg gan ei fod o blaid gwella Saesneg y plant?
Cadarnhaodd Clive nad bwriad Estyn yw newid y Cwricwlwm yn yr ysgolion hynny, ond yn hytrach creu mwy o gyfleoedd i wella Saesneg y plant heb effeithio ar eu Cymraeg. Nododd Clive nad newid cyfrwng yr ysgolion yw hyn, ond yn hytrach rhoi mwy o bwyslais ar ddefnyddio Saesneg mewn gwahanol bynciau. Esboniodd ei fod yn tynnu ar ei brofiad ei hun fel pennaeth ysgol ac fel athro.
Nododd Swyddog bod Cymraeg 2050 yn rhan o weledigaeth Donaldson. Nododd Clive bod Estyn mewn trafodaethau â Llywodraeth Cymru am hyn ac yn gwneud gwaith paratoi, ond mai’r Llywodraeth sy’n arwain.
Soniodd Swyddog, yng nghyd-destun Cynlluniau Strategol y Gymraeg mewn Addysg, bod angen symud i ffwrdd o fesur y galw. Dywedwyd hefyd bod angen gweld beth yw rôl yr awdurdod lleol o ran defnydd iaith ac nad yw mater defnydd iaith wedi’i ddatrys hyd yma.
Gyda hyn, nododd Aelod bod angen sgiliau Saesneg da hefyd ar fyfyrwyr sy’n astudio i fod yn athrawon.
Ar ôl cyflwyniad Clive Phillips, ymunodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes â’r Cyngor.
Cyn trosglwyddo’r awenau, rhoddodd Cadeirydd y bore grynodeb o drafodaethau’r diwrnod hyd yn hyn er budd y Gweinidog.
Croesawodd Aelodau y buddsoddiadau diweddar yn safleoedd yr Urdd yng Nglan-llyn a Llangrannog.
Nododd Aelod, wrth sôn am y cwrs byr TGAU, bod angen sicrhau bod disgyblion sydd yn ddi-Gymraeg yn cael gymaint o ymwneud â’r iaith ag sy’n bosibl.
Ychwanegodd Swyddog bod data trosglwyddo iaith yn dal ei dir yn dda ond nad oedd yn cynyddu. Dywedwyd hefyd bod angen cynyddu’r nifer sy’n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg gan nad ydym yn gallu dibynnu ar deuluoedd Cymraeg eu hiaith yn unig.
Holodd y Gweinidog am y drafodaeth ag Estyn yn gynharach yn y dydd. Nododd Aelod bod y drafodaeth wedi bod yn ddiddorol iawn, a bod angen sicrhau bod pawb yn deall yr un negeseuon – yr ysgolion, y consortia, ac ati. Dywedwyd bod Estyn yn cyfrannu’n bositif ac yn adeiladol iawn.
Soniodd y Gweinidog ei bod yn poeni llai am y dyfodol gan fod fframwaith clir yn ei le, ond ei bod yn poeni mwy am y presennol am nad yw eisiau colli cyfle gyda chenhedlaeth arall o blant. Dywedwyd bod angen i’r Gymraeg fod yn fwy deniadol. Nodwyd bod y meddylfryd wedi newid yn y cynghorau lleol, yn enwedig ers cyhoeddi Cymraeg 2050, ond bod angen ystyried sut allwn ni dreiddio’n well i’r cymunedau.
Nododd Swyddog bod Estyn yn mynd i lunio adroddiad thematig ar ail iaith.
Eitem 4: Deall dwyieithrwydd yn y cyd-destun addysg gan Enlli Thomas
Trafodwyd addysgu dwyieithog a’r llyfryn Dulliau Dysgu Dwyieithog. Cyflwynwyd copi o’r llyfryn i’r Gweinidog.
Nododd Swyddog bod angen deall dwyieithrwydd mewn nifer o wahanol feysydd, megis addysg, teuluoedd dwyieithog, ac yn y blaen. Soniwyd bod Cymraeg 2050 yn dathlu bod yn ddwyieithog.
Soniodd y Gweinidog y byddai’n holi Kirsty Williams i weld a oes modd dosbarthu’r llyfrynnau yn fwy eang.
Soniodd dau Aelod bod hefyd angen tynnu ar bethau penodol fel YouTube, y cyfryngau cymdeithasol, a chlipiau fideo.
Er budd y Gweinidog, nododd Swyddog fod y Siarter Iaith wedi’i thrafod yn y bore, a bod nifer o lwyddiannau wedi bod, gan ychwanegu efallai bod angen newid ambell i beth erbyn hyn. Gofynnwyd a ydym yn gwneud y mwyaf o’r Siarter, a bod nifer o gysylltiadau gyda’r Urdd y gellid manteisio arnynt.
Rhoddodd Aelod ddiweddariad ar brosiect Seren y Coleg Cymraeg. Adroddwyd bod yr adnodd yn cael ei ystyried yn llwyddiant a bod sefydliadau eraill wedi holi’r coleg i gael archwilio opsiynau o ran cyflwyno’r adnodd yn eu hardaloedd eu hunain. Nododd y Gweinidog ei bod yn dymuno i’r Cyngor ystyried y cyfleoedd i ddefnyddio’r adnodd ac i wahodd partneriaid posibl i gymryd rhan yn y trafodaethau.
Nododd y Gweinidog ei bod yn poeni’n benodol am brinder athrawon, a’r cwymp yn nifer y siaradwyr Cymraeg ar ôl-16 oed. Roedd hi’n awyddus i wneud rhywbeth am hyn a soniodd bod ganddi ddiddordeb gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â Seren.
Dywedodd Aelod ei fod am i’r gwaith ar Fil y Gymraeg barhau, ac mai un o’r rhesymau am hynny oedd ei fod am weld yr hyn y bydd y Comisiwn arfaethedig yn llwyddo i’w wneud yn y dyfodol yn dra gwahanol i’r hyn y bu’r Comisiynydd yn ei wneud, ac mai’r consensws yw nad yw pethau wedi gweithio. Dywedodd hefyd nad oes un darn o ddeddfwriaeth yn berffaith, ond teimlai bod angen diwygio’r system a chael Comisiwn yn hytrach na Chomisiynydd.
Dywedodd y Gweinidog mai ei bwriad oedd bwrw ymlaen gyda’r Bil. Dywedodd y gallai Brexit gael effaith ar y rhaglen ddeddfwriaethol. Dywedodd ei bod yn awyddus i beidio â cholli amser a’i bod am drafod i weld a fydd y Comisiynydd newydd yn gallu gwneud mwy o waith hybu a hyrwyddo yn y cyfamser.
Eitem 5: Unrhyw fater arall
Nid oedd gan unrhyw aelod unrhyw fater arall i’w godi. Nodwyd bod yna nifer o argymhellion i symud ymlaen gyda nhw. Gofynnodd y Gweinidog i’r Aelodau roi gwybod os oes ganddynt unrhyw argymhellion i wella fformat cyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth.
Diolchodd y Gweinidog i’r aelodau am eu presenoldeb a daethpwyd â’r cyfarfod i ben.