Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn ailbenodi aelodau presennol i'r Comisiwn

Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies fod Mr Theodore Joloza a Mrs Julie May wedi cael eu hailbenodi fel aelodau i'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
Dydd Mercher 29 Awst 2018

Meddai Alun Davies:

"Rwy'n falch o gyhoeddi ailbenodi Theodore Joloza a Julie May.

"Bydd yr ailbenodiadau hyn yn sicrhau bod y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol yn y Comisiwn wrth iddi barhau i adolygu holl ardaloedd llywodraeth leol yng Nghymru, a threfniadau etholiadol prif gynghorau, ac i wneud cynigion i Lywodraeth Cymru, a ystyrir yn ddymunol er budd llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.

"Bydd Mr Joloza a Mrs May yn parhau i ddod â phrofiad gwerthfawr i'r rolau."

Mae'r ailbenodiadau wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a byddant yn cychwyn ar 1 Medi 2018 am dymor o dair blynedd.

Fel aelodau, telir ffi ddyddiol o £198 i Mr Joloza a Mrs May gydag ymrwymiad amser o 2-3 diwrnod y mis.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Llywodraeth leol 29 Awst 2018 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2019
Ll M M I G S S
<< Ion    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28      
I'n dilyn ni trowch i