Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Ailbenodi dau o aelodau presennol Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol

Heddiw, cyhoeddodd Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus, Gregory Owens a Stephen Mulholland fel aelodau i Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol.
Dydd Mercher 30 Mai 2018

Meddai Alun Davies: 

"Rwy'n falch o gyhoeddi ail-benodiad Gregory Owens a Stephen Mulholland”.

"Bydd yr ail-benodiadau hyn yn sicrhau bod y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol ar y Panel wrth iddynt barhau i ddarparu fframwaith cydnabyddiaeth deg a fforddiadwy ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru”.

"Mae Mr Owens a Mr Mulholland wedi gwasanaethu fel cynghorwyr a byddant yn parhau i ddod â phrofiad gwerthfawr i'r rolau."

Mae'r ail-benodiadau wedi'u gwneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a byddant yn dechrau ar 1 Ionawr 2019 am dymor dwy flynedd.

Fel aelod mae Mr Mulholland yn cael ei dalu ffi ddyddiol o £198 gydag ymrwymiad amser o o leiaf un diwrnod y mis.

Fel is-gadeirydd mae Mr Owens yn cael ei dalu ffi ddyddiol o £226 gydag ymrwymiad amser o o leiaf un diwrnod y mis.

Mae Gregory Owens wedi datgan gweithgaredd gwleidyddol.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Llywodraeth leol 30 Mai 2018 Gwasanaethau cyhoeddus Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Chwefror 2019
Ll M M I G S S
<< Ion    
        1 2 3
4 5 6 7 8 9 10
11 12 13 14 15 16 17
18 19 20 21 22 23 24
25 26 27 28      
I'n dilyn ni trowch i