Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

“Mae'r ffordd rydyn ni'n gofalu am ein gilydd yn gallu'n diffinio fel cenedl” – Huw Irranca-Davies

Mae angen sgwrs onest gyda phobl Cymru am ffyrdd o dalu am ofal cymdeithasol yn y dyfodol fel bod modd bodloni'r galw ychwanegol am ofal a chymorth gan boblogaeth sy'n heneiddio'n gyson, dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca-Davies heddiw.
Dydd Mercher 12 Medi 2018

Wrth siarad yng Nghynhadledd Genedlaethol Gofal Cymdeithasol Cymru yng Nghaerdydd, dywedodd y Gweinidog wrth gynulleidfa o arweinwyr gofal cymdeithasol bod "y ffordd rydyn ni'n gofalu am ein gilydd yn gallu'n diffinio fel cenedl."

Dywedodd bod camau eisoes wedi cael eu cymryd i helpu i fodloni'r heriau sy'n bodoli, ond "bydd angen ystyried buddsoddiad pellach yn y sector os ydyn ni am helpu pawb i fyw bywydau llawn a boddhaus."

Trafododd y Gweinidog raddfa'r her drwy ddatgelu i awdurdodau lleol ddarparu gofal a chymorth i tua 10,000 yn fwy o bobl dros 65 oed yn 2016-17 na'r flwyddyn flaenorol. 

Yn ôl adroddiad yr Asesiad Cenedlaethol o Anghenion y Boblogaeth a gyhoeddwyd yn 2017, amcangyfrifir y bydd cynnydd o 119% yn nifer y bobl dros 85 oed sy'n byw yng Nghymru erbyn 2035.

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ystyried sut y gellid datblygu ysgogiadau cyllidol newydd fel rhan o ystyriaethau ehangach am drethi newydd posib yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys ystyried cynnig gan yr Athro Gerald Holtham i gyflwyno ardoll gofal cymdeithasol i godi adnoddau ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, y byddai pobl yn ei dalu o'u hincwm. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

"Mae ateb y galw cynyddol ym mhob rhan o'r sector gofal cymdeithasol yn codi nifer o gwestiynau. Gyda'r pwysicaf, pa ofal a chymorth fydd ei angen yn y dyfodol? Sut ddylid darparu hyn, a'i ariannu? 

"Rydyn ni'n ymateb i'r her hon yn rhannol drwy adfywio gofal cymdeithasol a chymorth mewn nifer o ffyrdd; canolbwyntio mwy ar atal lle bynnag bo modd; datblygu'n dull gweithredu Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol wrth gomisiynu gofal; diogelu cyllid ar gyfer gofal cymdeithasol gymaint â phosib; a gwrando ac ymateb i'r hyn mae pobl yn dweud wrthym ni sy'n bwysig iddyn nhw.  

"Er bod y camau hyn yn golygu ein bod yn fwy parod i ateb heriau presennol, bydd angen ystyried buddsoddiad pellach yn y sector o hyd os ydym am helpu pawb i fyw bywydau llawn a boddhaus. O ganlyniad, rydyn ni wedi gwneud ymrwymiad yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb', i ddatblygu modelau ariannu dyfeisgar a fydd yn helpu i fodloni'r galw am ofal cymdeithasol yn y dyfodol."

Ychwanegodd y Gweinidog:

"Gallai annog pobl Cymru i gymryd rhan mewn deialog am ddyfodol gofal cymdeithasol fod yn heriol. Gall ystrydebau negyddol am heneiddio atal pobl rhag cynllunio ar gyfer eu dyfodol. Yn rhy aml, caiff pobl hŷn eu gweld fel y rheswm dros bwysau ariannol yn hytrach na rhan o'r ateb. Y gwir yw, wrth i'n poblogaeth heneiddio, mae mwy a mwy o bobl hŷn yn cyfrannu at gymdeithas, nid yn unig drwy wirfoddoli a darparu gofal hanfodol i'w hanwyliaid, ond hefyd drwy weithio a thalu trethi. 

"Rwy'n credu bod angen sgwrs onest gyda phobl Cymru am fanteision a heriau cymdeithas sy'n heneiddio. Rhaid edrych ar ofal cymdeithasol fel dewis cadarnhaol sy'n galluogi unigolion i barhau i fyw'r bywydau maen nhw'n eu dewis. Drwy ganolbwyntio ar yr unigolion, gall pawb gael eu cefnogi i gyflawni eu potensial, dysgu, heneiddio'n dda, ac yn bwysicaf oll, mwynhau bywyd.

“Mae'r ffordd rydyn ni'n gofalu am ein gilydd yn gallu'n diffinio fel cenedl.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 12 Medi 2018 Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Medi 2018
Ll M M I G S S
<< Aws    
          1 2
3 4 5 6 7 8 9
10 11 12 13 14 15 16
17 18 19 20 21 22 23
24 25 26 27 28 29 30
I'n dilyn ni trowch i