Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

£3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi ei fod yn rhoi £3m i wella mynediad at dechnoleg i staff y gwasanaeth iechyd a chleifion.
Dydd Mercher 07 Tachwedd 2018

Wrth siarad yn y Gynhadledd ar Iechyd a Gofal Digidol a gynhaliwyd yng Nghaerdydd ddoe, dywedodd Vaughan Gething y byddai'r cyllid yn rhan o raglen newydd dair blynedd ar gyfer Iechyd a Chynhwysiant Digidol. Nod y rhaglen yw gwella sgiliau technoleg staff a chleifion a'u helpu i fynd ar-lein a rheoli eu gwybodaeth feddygol.

Dywedodd:

“Drwy gael y sgiliau a'r cymhelliant i ddefnyddio gwasanaethau iechyd digidol, bydd pobl yn gallu rheoli eu cyflyrau iechyd yn fwy effeithiol, a bydd hynny ar yr un pryd yn lleihau'r pwysau mawr sydd ar wasanaethau'r GIG.”

“Roedd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18 yn dangos nad oedd  60% o bobl yng Nghymru 75 oed ac yn hŷn, a 26% o bob anabl, yn manteisio ar dechnoleg ddigidol. Mae'r bobl hyn hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio'r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol na gweddill y boblogaeth. Mae'n hanfodol ein bod ni'n gwella eu gallu i ddefnyddio gwasanaethau digidol."

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James, sydd â chyfrifoldeb dros faterion digidol: 

“Drwy wella llythrennedd digidol, gallwn wella canlyniadau iechyd i bobl yn sylweddol drwy ei wneud yn haws iddyn nhw reoli eu cyflyrau iechyd a gwella eu llesiant.

Mae datblygu sgiliau digidol sylfaenol pobl Cymru yn un o flaenoriaethau'r llywodraeth hon. Rydyn ni’n gwybod mai’r rheini sydd fwyaf tebygol o orfod defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yw’r rhai sydd leiaf tebygol yn aml iawn o ddefnyddio technoleg.

Wedi'r cyhoeddiad heddiw, byddwn ni'n gwahodd ceisiadau tendro y dydd Gwener yma ar gyfer rhaglen cynhwysiant digidol dair blynedd werth £6 miliwn, a fydd yn cael ei hariannu ar y cyd, i ddechrau ym mis Gorffennaf 2019. Mae'r cyllid hwn yn cydnabod pwysigrwydd cynhwysiant digidol o ran sicrhau trawsnewid digidol ym maes iechyd.”

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

Tagiau

Iechyd a gwasanaethau cymdeithasol 07 Tachwedd 2018 Programme for Government - Healthcare Y Canolbarth Y Gogledd Y De-ddwyrain Y De-orllewin
 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Tachwedd 2018
Ll M M I G S S
<< Hyd    
      1 2 3 4
5 6 7 8 9 10 11
12 13 14 15 16 17 18
19 20 21 22 23 24 25
26 27 28 29 30    
I'n dilyn ni trowch i