Skip to content
Cofrestrwch ar gyfer y canlynol: Cylchlythyr | Newyddion

Lesley Griffiths yn disgrifio'i gweledigaeth ar gyfer rheoli tir y ar ôl Brexit

Araith Ysgrifennydd y Cabinet i'r NHU yn Birmingham , yn disgrifio'i gweledigaeth ar gyfer rheoli tir ar ôl Brexit.
Dydd Llun 26 Chwefror 2018

Diolch ichi am y gwahoddiad. 

Rwyf yma heddiw i gynrychioli buddiannau ein ffermwyr yng Nghymru. 

Rwy'n gwbl grediniol fod y ddadl dros ddatganoli yn gryfach heddiw nag erioed. 

Mae natur ein ffermio'n wahanol. Mae'n tir yn wahanol. Mae'n cymunedau gwledig yn wahanol. 

Nid oes un ateb i wella pob clwyf. 

Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod cydweithio ar faterion perthnasol â Llywodraeth y DU a'm cydweinidogion yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ond rhaid inni fod yn bartneriaid cydradd.

Mae partneriaid cydradd yn golygu trafodaeth deg, llywodraethu teg ac yn bwysicach na dim, ariannu teg.

Ond heddiw, dros 18 mis ers y refferendwm, dydyn ni fawr callach pa arian sy'n dod yn ôl i Gymru.

O'm rhan i, bydda i'n para i fynnu na fydd Cymru'n colli'r un ddimai goch. 

A heddiw, rwyf am fynd sawl cam ymhellach. Bydda i'n ymladd i gadw arian fydd yn dod yn ôl i Gymru rhag mynd unrhyw le arall. Rhaid inni gadw'r cymorth hanfodol hwn.

Achos alla i ddim meddwl am ran arall o gymdeithas Cymru sy'n gwneud cyfraniad mor amlweddog at les ein gwlad. 

Mae ffermio'n rhan annatod o economi cefn gwlad. Ffermio yw angor cymdeithas ein cymunedau gwledig. A ffermwyr yw ceidwaid y tir sy'n sail i'n hamgylchedd naturiol. 

Rwy'n aml yn gorfod atgoffa pobl o'r tu allan i'r sector bod 80% o dir Cymru o dan ofal ffermwyr, coedwigwyr a chyrff amgylcheddol Cymru. Mae eu hangen nhw a'r gwaith maen nhw'n ei wneud arnon ni i'n helpu i wireddu'n huchelgais o Gymru ffyniannus.

Felly rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ynghyd ar gyfer fy Mord Gron Brexit am eu help a'u hegni. 

Mae'r Ford Gron wedi gallu edrych ar draws sectorau, i ystyried y risgiau a'r heriau a ddaw i Gymru yn sgil Brexit. 

Ddoe, cyhoeddodd y Ford Gron ei dadansoddiad o effaith senarios gwahanol ar Gymru ar ôl Brexit. Rwyf am fod yn ddiflewyn ar dafod. Fydd pethau ddim yn fêl i gyd. 

Felly rhaid bwrw ymlaen heb oedi. Â'r dasg honno wedi'i gwneud, rwyf am ddechrau'r cam trafod manwl nesa. I benderfynu ar ein polisi rheoli tir newydd. 

I'n helpu i benderfynu, rwyf am ddisgrifio fy syniadau cychwynnol. Mae gen i bum egwyddor graidd ar gyfer ein tir a'r bobl fydd yn ei reoli. 

Yn gyntaf, rhaid inni gadw'n ffermwyr ar y tir. Y rheini sy'n ei nabod ddylai rheoli tir Cymru. Dyna fyddai orau i economi cefn gwlad, i'n cymunedau ac i'n hamgylchedd. 

Yn ail, rydyn ni am weld sector amaethyddol llewyrchus a chryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fydd golwg y byd hwnnw.

I hynny ddigwydd, rhaid penderfynu ar y polisi iawn. 

Mae aelodau'r Ford Gron wedi dweud na wnaiff y status quo mo'r tro. Rwyf inne'n cytuno. 

Er bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn rhoi help pwysig i lawer o ffermwyr, wnaiff e ddim ein helpu ni i wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit.

Mae eisiau inni gynnig help mewn ffordd wahanol.

Ac felly fy nhrydedd egwyddor yw y dylai'r polisi newydd ganolbwyntio ar sicrhau bod tir Cymru'n rhoi nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru. 

Mae amrywiaeth a chyfoeth tir Cymru'n golygu nad oes prinder nwyddau cyhoeddus ganddo i'w rhoi.

Ein tir yw caffaeliad mwya'n gwlad. Mae'n rhoi dŵr glân ac aer glân inni, mae'n rheoli llifogydd, mae'n gartre i gynefinoedd a rhywogaethau prin.  Mae'r rhestr yn ddiddiwedd.  Ac mae'n fwy na'r amgylchedd hefyd: ein tirlun yw sylfaen brand Cymru, sy mor hanfodol i fwyd a thwristiaeth

Yn bedwerydd, dylai'r cymorth fod ar gael i bawb. Mae hynny'n golygu rhoi'r cyfle i ffermwyr bara i wneud bywoliaeth ar y tir.

Ond byddwn yn gofyn i ffermwyr wneud pethau gwahanol yn dâl am gymorth y trethdalwr. Mae hynny'n hanfodol i roi'r diwydiant ar sylfaen gadarn.

Fy egwyddor olaf yw na ddylwn droi'n cefnau ar gynhyrchu bwyd. Lle bo cynhyrchu cynaliadwy'n broffidiol, rhaid inni helpu'n ffermwyr i gystadlu ym marchnadoedd y byd.

Mae hyn yn ymwneud â chefnogi'n cadwyni cyflenwi, ein proseswyr a'n gweithgynhyrchwyr, yn ogystal â'n ffermwyr. 

Bwyd yw cnewyllyn gwerthoedd ffermio Cymru ac mae'n un o symbolau'n gwlad. Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus eisoes. Dyma'r amser i'w hybu. 

Rwyf am weithio gyda chi i ddangos sut y gall ffermwyr gynhyrchu bwyd  a nwyddau cyhoeddus o'r ansawdd gorau. 

Yr egwyddorion hyn yw sylfaen fy syniadau ond megis dechrau mae'r sgwrs mewn gwirionedd. Rhaid inni weithio at weledigaeth gytûn.

Ac felly rwy am ddysgu mwy. Sut gall ffermio a rheoli tir roi mwy o nwyddau cyhoeddus inni? Beth fyddai'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i berfformiad busnesau mewn sectorau gwahanol? Sut mae rhoi'r arweiniad a'r help gorau? 

Rwy am siarad hefyd ynghylch sut i fynd o'r fan hon i fan 'co. 

Dwi'n gwybod bod ffermwyr yn gallu addasu. Gwaith y Llywodraeth yw rhoi'r amser a'r arfau iddyn nhw allu gwneud hynny. 

Rhaid i'r cyfnod pontio fod yn un go iawn.  Rhaid ei gynllunio'n dda a rhaid iddo bara sawl blwyddyn. Mae gormod yn y fantol - yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol - inni beidio â gwneud hyn yn iawn.

Rydym yn wlad hyblyg ac rwy'n credu y gallwn gymryd camau mawr ymlaen. 

Ond mae'n werth pwyllo i wneud pethau'n iawn. Ddaw'r cyfle hwn ddim eto yn ein cenhedlaeth ni. 

Diolch.

 

Rhannu

Delicious
Delicious
Digg
Digg
reddit
reddit
Facebook
Facebook
 
Ynglyn a nodi tudalennau cymdeithasol

Perthnasol

 
 

Newyddion yn ôl dyddiad

 
Ionawr 2019
Ll M M I G S S
<< Rha    
  1 2 3 4 5 6
7 8 9 10 11 12 13
14 15 16 17 18 19 20
21 22 23 24 25 26 27
28 29 30 31      
I'n dilyn ni trowch i