Y nod: Creu cymdeithas sy’n hyrwyddo ac yn diogelu diwylliant, treftadaeth a’r Gymraeg ac sy’n caniatáu ac yn annog pobl i gymryd rhan yn y celfyddydau, mewn chwaraeon ac mewn gweithgareddau hamdden.

Awdur: Glyn Jones, Llywodraeth Cymru

Beth rydym wedi’i ddysgu o’r data yn y flwyddyn ddiwethaf?

Yn 2017-18 cawsom wybodaeth am y dangosydd cenedlaethol y cytunwyd arno am y tro cyntaf erioed oedd yn dangos bod 75 y cant o oedolion wedi mynychu neu gymryd rhan 3 gwaith neu fwy y flwyddyn mewn digwyddiadau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth. Nid oes modd cymharu’r dangosydd hwn gyda data ar gyfer blynyddoedd blaenorol ond yn gyffredinol mae’r rhain wedi dangos cynnydd yn nifer y bobl sy’n mynychu ac yn cymryd rhan yn y celfyddydau.

O ran plant, mae data diweddaraf Cyngor Celfyddydau Cymru yn dangos cynnydd yn nifer y plant sy’n mynychu neu gymryd rhan yn 2017, i ryw raddau yn gwyrdroi'r gostyngiad yn 2016.

Roedd cynnydd yn nifer yr oedolion sy’n cyfrannu mewn chwaraeon yn 2017-18 o gymharu â’r flwyddyn gyntaf o ddata ar gyfer y dangosydd hwn, gyda 32 y cant o oedolion wedi cymryd rhan 3 gwaith yr wythnos neu fwy. Ni fu arolwg newydd o chwaraeon mewn ysgolion.

Mae canran y siaradwyr Cymraeg, yn oedolion a phlant, wedi parhau ar yr un lefel yn gyffredinol. Mae data'r arolwg yn awgrymu bod cynnydd wedi bod ymhlith pobl sy'n datgan eu bod yn siarad ychydig o eiriau o Gymraeg. Eleni rydym wedi cynnwys data o gyfrifiad yr ysgolion ar ddisgyblion ysgol sy’n siarad Cymraeg gartref er mwyn cael cyd-destun. Mae ffigurau hyn wedi sefydlogi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae data newydd yn dangos bod 86 y cant o’r boblogaeth yn cytuno bod yr Iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohono.

Bu cynnydd yn y nifer o archifau achredadwy yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf. Mae cyflwr adeiladau rhestredig wedi parhau yn sefydlog, er y bu gostyngiad bychan yng nghanran yr henebion cofrestredig sydd mewn cyflwr da neu sefydlog.

Mae tri chwarter yr oedolion yn mynychu neu’n cymryd rhan yn y celfyddydau, ac mae'r nifer sy’n mynychu ac yn cymryd rhan wedi codi yn y blynyddoedd diwethaf.

Gall cymryd rhan yn y celfyddydau ac mewn chwaraeon gael effaith bositif ar iechyd meddwl, llesiant ac iechyd corfforol a gall hefyd wella cysylltiadau cymdeithasol a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan felly gefnogi nodau llesiant amrywiol iawn.

Ein dangosydd cenedlaethol, a gasglwyd yn Arolwg Cenedlaethol Cymru am y tro cyntaf yn 2017-18, yw’r nifer sydd wedi bod yn bresennol neu gymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth dair gwaith neu fwy mewn blwyddyn. At ddibenion y sylwadau hyn, wrth gyfeirio at fynychu neu gyfraniad “rheolaidd”, rydym yn cyfeirio at y diffiniad hwn. Mae’r dangosydd hwn yn cynnwys mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiadau cerddoriaeth, theatr, ffilm, dawns, y celfyddydau gweledol a chrefft, ysgrifennu creadigol, ymysg eraill.

Roedd y data yn dangos bod 75 y cant o oedolion 16 mlwydd oed neu hŷn wedi mynychu neu gymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol 3 gwaith neu fwy. Roedd menywod ar y cyfan yn fwy tebygol o wneud hynny.

Wrth ystyried cymryd rhan a mynychu ar wahân, roedd pobl yn llawer mwy tebygol o fod wedi mynychu digwyddiadau celfyddydol yn hytrach na chyfrannu atynt. Roedd 68 y cant o oedolion wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad celfyddydol, o gymharu â 22 y cant oedd wedi cymryd rhan. Fodd bynnag, o’r rhai hynny nad ydynt yn cymryd rhan, maent yn fwy tebygol o wneud hynny yn rheolaidd, gyda hanner y rhai hynny oedd wedi cyfrannu yn gwneud hynny o leiaf unwaith yr wythnos.

O ran mynychu, roedd oddeutu hanner yr oedolion wedi nodi eu bod wedi gweld ffilm, gyda cherddoriaeth fyw a’r theatr y digwyddiadau mwyaf poblogaidd nesaf. Y celfyddydau a’r crefftau gweledol neu gerddoriaeth oedd â’r nifer uchaf yn cyfrannu.

6.01 Pa mor aml ydych wedi cyfrannu mewn digwyddiad celfyddydol, yn eich amser eich hun, yn y flwyddyn ddiwethaf, 2017-18
Siart bar sy'n dangos, o ran y bobl a oedd wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol yn eu hamser eu hunain, pa mor aml y cymeront ran. Gwnaeth 52 y cant o bobl a gymerodd ran mewn digwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hynny o leiaf unwaith yr wythnos.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2017-18

6.02 Pa mor aml ydych wedi mynychu digwyddiad celfyddydol, yn eich amser eich hun, yn y flwyddyn ddiwethaf, 2017-18
Siart bar sy'n dangos, o ran y bobl a fynychodd digwyddiad celfyddydol yn eu hamser eu hunain, pa mor aml y mynychont. Gwnaeth 49 y cant o bobl a fynychodd digwyddiad celfyddydol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hynny'n llai aml nag unwaith y mis, ond o leiaf 3 neu 4 gwaith y flwyddyn.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18

Mae’r data o flynyddoedd blaenorol ar y celfyddydau yn dangos, ar gyfer y rheiny nad oedd wedi bod i ddigwyddiad celfyddydol, y rheswm mwyaf cyffredin am beidio â mynd oedd diffyg diddordeb.

Er bod y dangosydd cenedlaethol ei hun yn seiliedig ar y diffiniad newydd yn 2017-18, gallwn ystyried tueddiadau mwy hirdymor o ran cyfrannu at y celfyddydau a diwylliant o arolygon a gynhaliwyd gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Roedd yr Arolwg Celfyddydau Cymru 2015 diwethaf wedi dangos bod presenoldeb oedolion 16 oed a throsodd mewn digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu o’i gymharu â 2005, ond wedi disgyn ychydig o’i gymharu â 2010. Mae’r ymchwil hwn yn defnyddio diffiniad ychydig yn wahanol o ddigwyddiad celfyddydol – y gwahaniaeth mwyaf yw ei fod yn cynnwys gweld ffilm yn y sinema.

Mae ymchwil y Cyngor Celfyddydau hefyd yn rhoi syniad inni o dueddiadau yn y mathau o ddigwyddiadau yr eir iddynt, a chan gymharu data 2015 gyda data 2005, gwelir mai’r sinema, orielau celf / arddangosfeydd a cherddoriaeth byw sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf o ran presenoldeb.

Roedd arolygon Cyngor Celfyddydau Cymru hefyd yn dangos bod cynnydd rhwng 2010 a 2015 o safbwynt y nifer oedd yn cymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydol. Ymysg y ffactorau sy’n rhwystro pobl rhag cymryd rhan y mae amser, argaeledd, diddordeb a chost. Mae iechyd hefyd yn rhwystr, ac yn enwedig i’r bobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, ac mae pobl anabl yn llai tebygol o fynychu neu gymryd rhan.

Mae presenoldeb rheolaidd a chymryd rhan mewn digwyddiadau celfyddydol yn wahanol ar draws gwahanol grwpiau o bobl

Roedd menywod ychydig yn fwy tebygol o fynychu digwyddiad celfyddydol na dynion (77 y cant o gymharu â 73 y cant). O safbwynt presenoldeb, nid oedd unrhyw wahaniaeth ar draws y rhywiau ond roedd mwy o fenywod yn cymryd rhan yn rheolaidd (24 y cant o’i gymharu ag 20 y cant).

Roedd gweithgarwch diwylliannol yn amrywio mwy yn ôl grwpiau oedran. Roedd ar ei isaf ymhlith y grŵp oedran hynaf: 57 y cant o oedolion 75 oed a throsodd oedd wedi mynd neu gymryd rhan yn rheolaidd mewn digwyddiad celfyddydol yn y flwyddyn ddiwethaf o gymharu ag 83 y cant o’r rhai hynny o dan 45 mlwydd oed. Mae tueddiadau yn debyg ar y cyfan ar gyfer bod yn bresennol a chymryd rhan (h.y. mae pobl ifanc yn fwy tebygol o wneud y ddau beth). Ond ar gyfer cymryd rhan y gwahaniaeth mwyaf yw yn y grŵp oedran ieuengaf un ble yr oedd 36 y cant wedi cymryd rhan mewn digwyddiad celfyddydol yn y flwyddyn ddiwethaf o gymharu â’r ffigur cyffredinol o 22 y cant.

6.03 Canran o bob grŵp oedran fu’n bresennol neu a gymerodd ran o leiaf 3 gwaith y flwyddyn mewn gweithgareddau celfyddydol, diwylliannol neu dreftadaeth yn y flwyddyn ddiwethaf, 2017-18
Mae'r siartiau'n dangos bod presenoldeb neu gymryd rhan mewn gweithgareddau yn ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth yn lleihau gydag oedran. Roedd 83 y cant o bobl yn y grwpiau oedran 16 i 24 a 25 i 44 wedi bod yn bresennol / cymryd rhan mewn gweithgaredd yn ymwneud â’r celfyddydau, diwylliant neu dreftadaeth o leiaf 3 gwaith y flwyddyn. Mae hyn yn syrthio i 57 y cant ar gyfer y rhai 75 oed a throsodd.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2017-18

Efallai y gellir priodoli peth o’r gwahaniaeth rhwng y grwpiau oedran i blant, gan mai cyplau â phlant dibynnol oedd y math o aelwyd oedd fwyaf tebygol o fod wedi mynd i ddigwyddiad celfyddydol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Mae perthynas gref rhwng digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol a chymwysterau. Roedd pobl â lefelau uwch o gymwysterau gryn dipyn yn fwy tebygol o fod wedi mynychu neu gymryd rhan yn rheolaidd mewn celfyddyd a diwylliant na phobl â lefelau is o gymwysterau neu dim cymwysterau. Ymddengys hefyd fod amddifadedd yn effeithio ar bresenoldeb a chymryd rhan. Roedd y bobl o ardaloedd yn yr 20 y cant tlotaf yng Nghymru yn llai tebygol o fod wedi bod i ddigwyddiad celfyddydol na phobl o grwpiau llai difreintiedig.

Mae plant a phobl ifanc sy'n mynychu digwyddiadau celfyddydol wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf er gwaethaf gostyngiad yn 2016

Nid yw plant wedi’u cynnwys yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, ond mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn cynnal arolwg blynyddol o gyfraniad plant at y celfyddydau. Yn dilyn gostyngiad yn y nifer sy’n bresennol yn 2016, roedd data ar gyfer 2017 yn dangos cynnydd, gydag 87 y cant o’r rhai rhwng 7 ac 18 oed wedi bod i un digwyddiad celfyddydol unwaith y flwyddyn neu fwy. Er bod y ffigur diweddaraf yn parhau’n is na’r uchafbwynt a welwyd yn 2015, yn gyffredinol, mae canran y plant sydd wedi bod i ddigwyddiadau celfyddydol yn tyfu. Mae tueddiadau wedi bod yn debyg ar gyfer cyfrannu, gyda ffigur 2017 yn gwyrdroi’r gostyngiad a welwyd yn 2016 a’r cyfraniad cyffredinol yn uwch nag yn nechrau’r ddegawd.

Mae ymchwil y Cyngor Celfyddydau i ymgysylltiad plant â’r celfyddydau yn gofyn i blant am eu presenoldeb mewn dramâu, sioeau cerdd, operâu, perfformiadau cerddoriaeth fyw, perfformiadau dawns, orielau neu arddangosfeydd, digwyddiadau llenyddol, carnifalau a digwyddiadau celfyddyd stryd.

Fel gydag oedolion; merched a phlant o’r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch oedd fwyaf tebygol o fynd i ddigwyddiadau celfyddydol, a chymryd rhan ynddynt.

Yn ôl y disgwyl, mae gan blant ystod o gyfleoedd i fod yn bresennol neu gymryd rhan mewn digwyddiadau drwy eu hysgol neu goleg yn ogystal ag yn eu hamser eu hunain. Mae plant yn fwyaf tebygol o fod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad celfyddydol yn eu hamser eu hunain (76 y cant o blant) o gymharu â chymryd rhan (55 y cant). Ond mae cymryd rhan yn fwy tebygol o fod wedi ei arwain gan ysgol neu goleg.

6.04 Presenoldeb mewn digwyddiadau celfyddydol unwaith neu fwy y flwyddyn ymysg y rhai 7 i 18 oed, 2010 i 2017
Cyfres amser canran y rhai 7 i 18 oed a fu'n bresennol mewn digwyddiad celfyddydol. Mae cynnydd yn y tueddiad, o 76 y cant yn 2010 i 89 y cant yn 2015. Roedd gostyngiad yn 2016 cyn i'r ganran godi i 87 y cant yn 2017.

Ffynhonnell: Arolwg Omnibws y Plant Cyngor Celfyddydau Cymru


Un rhan o dair o oedolion yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos neu fwy, cynnydd o’r flwyddyn flaenorol

Yn ôl Arolwg Cenedlaethol Cymru, dywedodd 32 y cant o oedolion eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon tair gwaith yr wythnos neu fwy yn 2017-18, ond nododd 41 y cant o oedolion 16 oed a throsodd nad oeddent yn gwneud unrhyw weithgaredd rheolaidd. Roedd hyn yn uwch na’r ffigur ar gyfer 2016-17, sef y flwyddyn gyntaf y gofynnwyd y cwestiwn yn yr Arolwg Cenedlaethol.

Roedd dynion a phobl ifanc yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith neu fwy yr wythnos o gymharu â menywod a’r grwpiau oedran hŷn.

Mae’r gweithgareddau chwaraeon mwyaf cyffredin yn cynnwys cerdded, nofio, mynd i’r gampfa neu weithgareddau ffitrwydd, loncian, pêl-droed a beicio. Rhain oedd y gweithgareddau mwyaf cyffredin i ddynion a menywod, ar wahân i bêl-droed a beicio, ble yr oedd dynion yn llawer mwy tebygol o gymryd rhan.

6.05 Cyfranogaeth mewn chwaraeon yn ôl amlder, 2017-18

Siartiau bar sy'n dangos pa mor aml roedd pobl yn cyfranogi mewn chwaraeon Roedd y rhan fwyaf o bobl naill ai’n cyfranogi llawer neu ychydig iawn. Cyfranogodd 50 y cant o bobl mewn chwaraeon lai nag unwaith yr wythnos, a chyfranogodd 32 y cant o bobl dair gwaith yr wythnos neu ragor.

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru, 2017-18

Cyhoeddodd Chwaraeon Cymru adroddiad blynyddol cyflwr y genedl ar Chwaraeon a Ffyrdd o Fyw’n Egnïol. Cofnodwyd bod cyfraddau cyfranogi chwaraeon hefyd yn gysylltiedig ag anabledd (roedd pobl nad oedd ganddynt anabledd yn fwy tebygol o gyfranogi), statws cyflogaeth (pobl mewn gwaith yn fwy tebygol o gyfranogi) ac amddifadedd (roedd pobl nad oeddent yn dioddef amddifadedd materol yn fwy tebygol o gyfranogi).

Roedd yr Arolwg Cenedlaethol diweddaraf yn nodi bod 55 y cant o’r boblogaeth am wneud mwy o chwaraeon neu weithgareddau corffol. Mae’r mathau o weithgareddau sydd fwyaf poblogaidd yn cynnwys nofio, beicio a’r gampfa neu ddosbarthiadau ffitrwydd. Ymysg dynion a menywod y rhwystr mwyaf cyffredin i gyfranogi mewn chwaraeon oedd ymrwymiadau gwaith a theulu, oedran a ffitrwydd (data 2016-17). Fodd bynnag roedd y gost a chyfleusterau lleol hefyd yn cael eu nodi fel rhwystrau. I roi hyn yn ei gyd-destun, mae’r Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf wedi dangos bod llai na hanner yr oedolion yn teimlo bod ganddynt ganolfan neu glwb chwaraeon i’w defnyddio.

Disgyblion ysgol yn gwneud mwy o chwaraeon yn 2015

Roedd yr ymchwil diweddaraf gan Chwaraeon Cymru ar ddisgyblion ysgol sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon yn 2015 ac mae’r arolwg chwaraeon ysgol diweddaraf yn digwydd eleni. Felly nid oes newid yn yr adran hon o’r adroddiad Llesiant Cymru gyntaf.

Roedd ymchwil Chwaraeon Cymru ar gyfer 2015 yn dangos bod 48 y cant o ddisgyblion Blynyddoedd 3 i 11 (7 i 16 oed) yn cymryd rhan mewn chwaraeon 3 gwaith yr wythnos. Mae hyn i fyny o 40 y cant yn 2013.

Mae ychydig iawn yn wahanol rhwng cyfraddau cyfranogiad ar draws ysgolion cynradd ac uwchradd, gyda 49 y cant o ddisgyblion ysgol gynradd (7 i 11 oed) a 48 y cant o ddisgyblion uwchradd (11 i 16 oed) sy'n cymryd rhan 3 gwaith yr wythnos mewn chwaraeon.

Fodd bynnag, roedd bechgyn yn fwy tebygol o gymryd rhan yn rheolaidd mewn chwaraeon na merched (52 y cant o’i gymharu â 44 y cant) ac roedd y cyfraddau ar gyfer disgyblion yr ysgolion lleiaf difreintiedig yn dueddol o fod yn uwch na’r cyfraddau ar gyfer disgyblion yr ysgolion mwyaf difreintiedig.

Mae 19 y cant o oedolion yn siarad Cymraeg, gyda 10 y cant yn gallu siarad mwy nag ychydig o eiriau a hynny’n ddyddiol, ond mae mwy o bobl bellach yn dweud eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg”

Mae’r Iaith Gymraeg yn rhan arwyddocaol o ddiwylliant a hunaniaeth hanesyddol Cymru. Mae cwestiynau newydd yn yr Arolwg Cenedlaethol Cymru diweddaraf yn dangos bod 86 y cant o oedolion 16 oed a throsodd yn cytuno â’r datganiad bod yr iaith Gymraeg yn rhywbeth i fod yn falch ohoni, ac mae’r ffigur hwn yn debyg i’r rhan fwyaf o grwpiau o bobl ymysg y rhai nad ydynt yn siarad Cymraeg (84 y cant).

Yn ôl data Cyfrifiad 2011, gallai 19.0 y cant o boblogaeth Cymru (tair oed a throsodd) siarad Cymraeg, roedd hyn yn gwymp bychan o Gyfrifiad 2001 (20.8 y cant). Yn gyffredinol mae nifer a chanran y siaradwyr wedi lleihau gydol yr ugeinfed ganrif, ond mae ffigurau 2011 yn uwch na’r hynny yn 1991. Mae’r ardaloedd sydd â’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn ardaloedd Môn, Gwynedd, Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal â gwahaniaethau ar draws ardaloedd yng Nghymru, mae pobl gyda chymwysterau uwch, sy’n cyfrif eu hunain yn Wyn, ac/neu yn Gristion yn fwy tebygol o siarad Cymraeg.

Daw rhagor o wybodaeth ar siaradwyr Cymraeg o Arolwg Cenedlaethol Cymru sy’n nodi amcangyfrifon ar gyfer pobl 16 oed a throsodd. Ers 2011, mae’r amcangyfrifon ar gyfer pobl sy’n gallu siarad Cymraeg wedi parhau’n sefydlog ar oddeutu un rhan o bump o oedolion. Fodd bynnag, gwelwyd cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf yn y rhai hynny sy’n dweud eu bod yn gallu siarad “rhywfaint” o Gymraeg (er enghraifft siarad ychydig o eiriau), sydd wedi cynyddu i 12 y cant yn 2017-18, o’i gymharu â 4 y cant yn 2014-15.

Wrth ystyried bywiogrwydd y Gymraeg, mae hefyd yn bwysig ystyried a yw’r iaith yn cael ei defnyddio gan y bobl sy’n ei medru. Mae cyfuno data o’r Cyfrifiad ac Arolwg Defnydd Iaith 2013-15 yn dweud wrthym, ar draws y boblogaeth gyfan sy’n 3 oed a throsodd, fod 10 y cant yn gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg ac yn gwneud hynny’n ddyddiol. Mae hyn wedi aros yn weddol sefydlog o ran oedolion dros y blynyddoedd diwethaf yn ôl data’r Arolwg Cenedlaethol. Mae’r data hefyd yn awgrymu bod pobl sydd mewn cyflogaeth yn fwy tebygol o siarad yr iaith pob dydd.

Dangosodd Cyfrifiad 2011 ostyngiad yn nifer yr ardaloedd bychain lle y gallai'r mwyafrif - naill ai 50 y cant neu fwy neu 70 y cant neu fwy - o’r boblogaeth sy’n gallu siarad Cymraeg. Gall y mynychder is o siaradwyr Cymraeg yn ardal leihau'r tebygolrwydd a pha mor aml y defnyddir y Gymraeg mewn sgwrs.

6.06 Canran tair oed a throsodd sy'n gallu siarad Cymraeg

Siart sy'n dangos canran y bobl sy'n gallu siarad Cymraeg dros amser yn ôl y cyfrifiad. Roedd bwlch ym 1941 oherwydd na chafwyd cyfrifiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae gostyngiad mawr rhwng 1911 a 1971 ac, wedi hynny, mae canran y siaradwyr Cymraeg yn sefydlogi yn tua 19 i 21 y cant.

Ffynhonnell: Y Cyfrifiad

Nodyn: Ni chynhaliwyd Cyfrifiad ym 1941

Plant yw’r grŵp oedran mwyaf tebygol o nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg

Mae Cyfrifiad 2011 a’r Arolwg Defnydd o’r Iaith Gymraeg (2013-15) mwy diweddar yn dangos mai plant sy’n fwyaf tebygol o nodi eu bod yn gallu siarad Cymraeg, gyda’r ddwy ffynhonnell yn awgrymu bod oddeutu 40 y cant o blant 3-15 mlwydd oed yn gallu gwneud hynny. Mae plant ifanc wedi oedran addysg orfodol yn llai tebygol o nodi eu bod yn siarad Cymraeg.

Rhoddodd adroddiad yr Arolwg Defnydd Iaith ddadansoddiad llawn o’r defnydd o’r iaith Gymraeg ymhlith plant ac oedolion. I’w grynhoi, roedd yn dangos bod plant yn fwy tebygol nac oedolion o fod yn rhugl neu i siarad Cymraeg yn aml. Maent hefyd yn fwyaf tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg yn ddyddiol a hynny’n fwy na thebyg oherwydd eu bod yn defnyddio’r iaith yn rheolaidd yn yr ysgol. Roedd canran y plant rhwng 3 a 15 mlwydd oed a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn llawer uwch nag unrhyw grŵp oedran arall, gyda bron chwarter ohonynt yn siarad Cymraeg bob dydd. Mae canran y plant a’r bobl ifanc rhwng 3 a 15 sy’n siarad Cymraeg bob dydd yn debyg i’r canran o ddisgyblion sy’n derbyn eu haddysg mewn ysgolion cynradd, canol ac uwchradd cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog, er nad ydym yn gwybod o angenrheidrwydd mai yr un plant ydynt.

Ffynhonnell wybodaeth arall ar dueddiadau yn yr iaith Gymraeg ymysg plant yw’r Cyfrifiad Ysgolion blynyddol, a oedd yn dangos cynnydd yng nghanran y plant y gwnaeth eu rhieni ddatgan eu bod yn siarad Cymraeg gartref ar ddechrau’r 2010au, ond yn ddiweddar mae wedi sefydlogi ac mae bellach oddeutu 10.4 y cant. Dangosodd yr Arolwg o’r Defnydd o’r Iaith Gymraeg bod plant yn llawer mwy tebygol o ddefnyddio Cymraeg yn yr ysgol na gartref neu gyda’u ffrindiau.

6.07 Canran oedran 5 neu hŷn mewn ysgolion uwchradd a gynhelir sy’n siarad Cymraeg gartref, 2006 i 2017
Mae'r siart sy'n dangos cyfartaledd y rhai 5 oed a throsodd sy'n siarad Cymraeg gartref wedi aros yn sefydlog o 2006 i 2018, ar tua 10.5 y cant.
Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD)

Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod yn rhan o gelfyddyd neu chwaraeon, ac o’r rhain, mae siaradwyr Cymraeg rhugl yn llawer mwy tebygol o fynychu digwyddiadau yn y Gymraeg.

Mae perthynas rhwng siarad Cymraeg a chymryd rhan yn y celfyddydau neu chwaraeon. Fodd bynnag gallai hyn gael ei ddylanwadu gan y ffaith bod siaradwyr Cymraeg hefyd yn fwy tebygol o fod â chymwysterau uwch ac ar y cyfan yn dioddef llai o amddifadedd.

Ar y cyfan mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fynychu neu gyfrannu at y celfyddydau, gyda 79 y cant o siaradwyr Cymraeg yn gwneud hynny’n rheolaidd o gymharu â 72 y cant ar gyfer y rhai sydd ddim yn siarad Cymraeg.

Mae’r ystadegau hynny yn gysylltiedig â bod yn bresennol mewn unrhyw ddigwyddiad, ond roedd Arolwg Defnydd o’r Iaith 2013-15 yn dadansoddi mynychu gweithgareddau yn y Gymraeg.

Roedd yn dangos bod siaradwyr Cymraeg rhugl yn llawer mwy tebygol o fod yn bresennol mewn digwyddiad cymdeithasol, diwylliannol neu chwaraeon yn y Gymraeg yn hytrach na’r rhai llai rhugl. Ar gyfartaledd, roedd oedolion oedd yn diffinio eu hunain fel rhugl ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn bresennol mewn digwyddiad cymdeithasol neu ddiwylliannol yn y Gymraeg nac oedolion llai rhugl, a bron deirgwaith mor debygol o fod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad chwaraeon yn y Gymraeg.

O ran pobl ifanc rhwng 3-15 mlwydd oed, roedd 37 y cant wedi bod yn bresennol mewn digwyddiad cymdeithasol neu ddiwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg nad oedd wedi’i drefnu gan eu hysgol (roedd mwy wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau a drefnwyd gan eu hysgol), a bron i chwarter o’r rhain wedi bod mewn digwyddiad chwaraeon drwy gyfrwng y Gymraeg oedd heb ei drefnu gan eu hysgol. Eto, roedd siaradwyr Cymraeg rhugl yn llawer mwy tebygol o fod wedi bod yn bresennol mewn digwyddiadau diwylliannol neu chwaraeon a gynhaliwyd drwy gyfrwng y Gymraeg na’r rhai nad oeddent yn rhugl.

Dros hanner amgueddfeydd ac archifau Cymru wedi cyrraedd safonau achrededig y Deyrnas Unedig

Aeth 34 y cant o bobl 16 oed a throsodd i lyfrgell ac roedd 40 y cant wedi ymweld ag amgueddfa yn 2017-18, oddeutu yr un fath â 2016-17. Roedd cynnydd bychan yn y canran oedd yn ymweld â safle hanesyddol yn 2017-18 (bellach yn 63 y cant). Fodd bynnag, i ddiogelu hunaniaeth ddiwylliannol Cymru, mae’n bwysig bod asedau treftadaeth yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda, a’u bod yn hygyrch. Erbyn mis Mawrth 2018, roedd 94 amgueddfa a 12 sefydliad archifol yng Nghymru wedi bodloni’r safonau uchel sydd eu hangen i gael achrediad y Deyrnas Unedig. Roedd 4 yn ychwanegol o sefydliadau archifau wedi cael eu hachredu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Er nad oes ffigurau pendant ar gael, amcangyfrifir bod hyn yn cynrychioli oddeutu 60 y cant o amgueddfeydd ac archifau Cymru ac mae’r ffigur hwn wedi parhau’n sefydlog ers i’r gwaith adrodd ddechrau.

O’r 30,000 o adeiladau rhestredig yng Nghymru, mae’r canran sydd mewn cyflwr “sefydlog” neu sy’n “gwella” wedi aros yn weddol gyson dros y blynyddoedd diwethaf. Oherwydd sawl achlysur o dywydd gwael dros y gaeaf, mae canran y 4,200 o henebion rhestredig sy’n sefydlog neu’n gwella wedi cwympo ychydig dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd mae 14 y cant o henebion yn y categori ‘agored i risg’.

Mae tirwedd naturiol Cymru yn ased cenedlaethol pwysig ac yn hollbwysig o ran diwylliant a threftadaeth

Mae tirwedd naturiol Cymru yn rhan bwysig o ddiwylliant a lles ein gwlad ac mae hefyd yn bwysig i’r diwydiant twristiaeth, sy’n ddiwydiant a all hybu twf economaidd. Gellir effeithio arno drwy, er enghraifft, ehangu ardaloedd trefol a datblygiadau mawr ar dirwedd naturiol. Mae Adolygiad o Dirweddau Dynodedig yng Nghymru 2014 yn nodi bod Parciau Cenedlaethol Cymru ac Ardaloedd o Brydferthwch Naturiol Eithriadol yn cael eu hystyried yn dirweddau o bwysigrwydd cenedlaethol ac yn asedau cenedlaethol sy’n gorchuddio 25 y cant o Gymru. Mae dros 50 y cant o Gymru o bwys cenedlaethol penodol am olygfeydd a nodweddion.

Mae’r Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol yn nodi mai ychydig o newid tirweddol a welwyd hyd at 2015 – ond bod rhai achosion o newid sylweddol yn lleol. Dyma rai pethau allweddol sydd wedi cyfrannu at newid:

  • Ehangu aneddiadau
  • Datblygiadau masnachol a diwydiannol
  • Gwelliannau i ffyrdd a chwareli
  • Ffermydd gwynt ar dir
  • Torri coed conwydd a phlannu coed llydanddail
  • Ehangu coetiroedd

Mae’r cyd-destun hwn hefyd yn berthnasol i arfordir Cymru, sy’n 2,740 cilomedr o hyd, o ran ei fod yn rhan o dirwedd Cymru a’i fod yn bwysig ar gyfer hyrwyddo gweithgareddau awyr agored. Mae safon dŵr arfordirol a morol yn weddol dda ar y cyfan, a gwelwyd gwelliannau dros y blynyddoedd diweddar a chynnydd yn nifer y lleoliadau dŵr ymdrochi dynodedig.