Nod: Cymdeithas lle mae lles corfforol a meddyliol pobl yn cael ei hybu a lle mae pawb yn deall dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol

Awdur: John Morris, Llywodraeth Cymru

Beth a ddysgwyd o'r data dros y flwyddyn ddiwethaf?

Ychydig o newid, os o gwbl a welwyd i’r rhan fwyaf o'r prif fesurau ar gyfer iechyd dros y flwyddyn ddiwethaf - fel disgwyliad oes, canran y babanod a anwyd â phwysau geni isel a chanran y bobl â llai na dau ymddygiad iach.

Ar ôl blynyddoedd o gynnydd parhaus, mae data diweddar yn dangos bod y gwelliannau i ddisgwyliad oes wedi parhau i arafu, a hyd yn oed stopio. Mae hyn yn wir ar draws y DU, a hefyd i'w weld mewn mannau eraill ar draws y byd. Fodd bynnag, roedd y cynnydd mewn disgwyliad oes yn y DU yn fach o gymharu â nifer o wledydd eraill.

Nid oedd unrhyw newid sylweddol yn y 5 prif ymddygiad iach (peidio smygu, peidio yfed mwy na'r canllawiau wythnosol, bwyta ffrwythau a llysiau, ymarfer corff, pwysau iach) rhwng 2016-17 a 2017-18.

Darlun cymysg sydd ar gyfer iechyd plant, er enghraifft gwelwyd gwelliannau o ran iechyd deintyddol, ond ar yr un pryd gwelwyd cynnydd o ran gordewdra ymysg plant yn ystod y flwyddyn, ac mae bellach ar lefel debyg i bedair blynedd yn ôl.

Mae mesur llesiant yn fater cymhleth, ac mae llesiant yn newid drwy gydol ein bywydau. Yn ôl dadansoddiadau, mae llesiant plant a'u hadroddiadau eu hunain am eu hiechyd a'u ffyrdd o fyw yn newid yn syfrdanol yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol uwchradd. Yn 11 oed, mae adroddiadau merched a bechgyn am eu llesiant a'u hiechyd yn weddol debyg, ond erbyn cyrraedd 16 oed, mae bwlch wedi dod i'r amlwg, gyda'r merched yn dweud nad yw eu llesiant na'u hiechyd gystal.

Mae llesiant meddyliol yn gwella o oedrannau iau hyd at oedrannau hen iawn, ond mae boddhad â bywyd yn gostwng dros dro yn ystod canol oed. Mae merched yn sgorio cryn dipyn yn is na bechgyn wrth ystyried hwyliau a theimladau, ac yn fwy tebygol o hunan-niweidio.

Hunan adroddiadau am iechyd gwael iawn neu wael oedd y ffactor cryfaf yn ymwneud â llesiant personol gwael ymysg oedolion. Iechyd oedd y ffactor pwysicaf wrth ystyried llesiant meddyliol hefyd.

Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser, mae lefelau goroesi yn dirywio os yw'r diagnosis yn hwyrach - gall graddfa'r dirywiad rhwng camau cynharaf a chamau hwyraf y canser amrywio gan ddibynnu ar y math o ganser. Er bod cyfraddau goroesi Cymru yn wael o gymharu ag Ewrop, maent yn debyg i rai Lloegr.

Ar ôl blynyddoedd o gynnydd parhaus, mae'r gwelliannau i ddisgwyliad oes wedi pallu

Mae disgwyliad oes wedi cynyddu 3.0 blynedd ar gyfer dynion a 2.2 flynedd ar gyfer merched ers y cyfnod 2001 i 2003, ac mae’r bwlch rhwng disgwyliad oes dynion a merched yn cau. Gallai merch a aned yng Nghymru rhwng 2014 a 2016 ddisgwyl byw i fod yn 82 oed a gallai bachgen ddisgwyl byw i fod yn 78 oed.

Fodd bynnag, dros y tair neu bedair blynedd ddiwethaf, nid yw'r disgwyliad oes wedi cynyddu o gwbl. Mae ymchwil gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod hyn yn wir am Gymru a Lloegr, a bod gwelliannau o ran cyfraddau marwolaeth dros y degawd diwethaf wedi arafu ar gyfer bob oed. Mae adroddiadau pellach yn dangos bod yr arafu hwn wedi'i weld ar draws pedair gwlad y DU (ond yn bennaf yng Nghymru a Lloegr). Roedd hefyd yn amlwg mewn nifer o wledydd eraill yn rhyngwladol, er i'r DU arafu mwy na'r rhan fwyaf. Nododd yr adroddiad hefyd bod Japan wedi dod drwy gyfnod o welliannau isel i ddisgwyliad oes a bod y gwelliannau i gyfraddau marwolaeth wedi dechrau cyflymu eto yn ddiweddar, gan ddangos bod modd i wlad ddychwelyd at welliannau cyflym hyd yn oed ar ôl cyfnod o arafu.

3.01 Disgwyliad oes adeg genedigaeth yn ôl rhyw, 2001-03 i 2014-16
Mae disgwyliad oes adeg genedigaeth wedi cynyddu dros y cyfnod amser o 75.5 mlynedd i 78.4 mlynedd ar gyfer dynion, ac o 80.1 mlynedd i 82.3 mlynedd ar gyfer menywod.

Ffynhonnell: Y Swyddfa Ystadegau Gwladol


Mae disgwyliad oes iach yn dal i fod yn anghyfartal ledled Cymru

Mae cysylltiad cryf rhwng amddifadedd a disgwyliad oes – bydd gan bobl sy’n cael eu geni i deuluoedd difreintiedig ddisgwyliad oes iach byrrach. Adlewyrchir hyn yn y bwlch rhwng disgwyliad oes iach yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yng Nghymru, ac nid yw hyn wedi newid yn y blynyddoedd diwethaf.

3.02 Bwlch mewn disgwyliad oes rhwng y rhannau mwyaf a lleiaf difreintiedig yng Nghymru, 2005 i 2014
Siart sy'n dangos y bylchau mewn disgwyliad oes a disgwyliad oes iach rhwng y rhannau mwyaf a lleiaf difreintiedig o Gymru ar gyfer y ddau gyfnod o 2005-2009 a 2010-2014, wedi'u dadansoddi yn ôl rhyw. Roedd bwlch o 18.7 mlynedd yn y disgwyliad oes iach ar gyfer dynion yn 2010-2014.

Ffynhonnell: Arsyllfa Iechyd Cyhoeddus Cymru

Yn ôl dadansoddiad mwy diweddar gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae'r bwlch rhwng y mwyaf a'r lleiaf difreintiedig (gan ddefnyddio degraddau amddifadedd yn hytrach na phumedau) wedi parhau'n gymharol gyson dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae hunan adroddiadau am iechyd cyffredinol yn newid mwy yn yr ysgol uwchradd i ferched na bechgyn, ac yn dirywio'n sylweddol wrth i fywyd fynd yn ei flaen

Am faint rydych chi’n disgwyl bod mewn iechyd da? Wel, roedd y cyfnod y gallai rhywun yng Nghymru ddisgwyl bod mewn iechyd da wedi bod yn cynyddu (yn seiliedig ar y rhai a ddywedodd drostynt eu hunain bod eu hiechyd yn dda). Fodd bynnag, yn yr un ffordd â disgwyliad oes, mae hyn wedi pallu ac ychydig iawn o newid a welwyd dros y pum mlynedd ddiwethaf.

Gan fod merched yn byw i fod yn hŷn, mae’r ganran o’u hoes y disgwylir y bydd yn cael ei threulio mewn iechyd da yn is nag ar gyfer bechgyn: 76 y cant o oes merch a 79 y cant o oes bachgen.

O flwyddyn 9 ymlaen, mae mwy o ferched na bechgyn yn dweud bod eu hiechyd yn weddol/gwael. Yn 11 oed (blwyddyn 7) mae cyfran y bechgyn a merched sy'n dweud bod eu hiechyd yn wael yr un fath (un o bob saith), ond erbyn cyrraedd 16 oed (blwyddyn 11) mae bwlch - gydag un o bob tair o ferched yn dweud bod eu hiechyd yn wael o gymharu ag un o bob pedwar o fechgyn. Fodd bynnag, mae'r gyfran gyffredinol o blant sy'n dweud bod eu hiechyd yn wael wedi syrthio - o 26 y cant yn 2002 i 22 y cant yn 2018. Mae'r cwymp i'w weld yn fwyaf amlwg ymysg merched ond ychydig o newid a welwyd i ferched blwyddyn 11 dros y 12 mlynedd ddiwethaf.

Mae hunan adroddiadau oedolion Cymru am eu hiechyd yn gyffredinol wedi bod yn gwella dros amser ar gyfer oedolion hŷn, ond wedi dirywio ychydig ar gyfer oedolion iau (gan fod mwy o oedolion iau yn cael eu trin am gyflyrau iechyd meddwl). Mae hunan adroddiadau am iechyd yn dirywio dros amser, gydag 83 y cant o'r rhai 16-24 oed yn dweud bod eu hiechyd yn dda neu'n dda iawn o gymharu â 49 y cant o'r rhai 75 oed neu hŷn.

Mae cyfraddau goroesi canser Cymru yn cyfateb i rai Lloegr, ac mae dadansoddiad newydd yn dangos bod diagnosis cynnar yn bwysig

Nid oes unrhyw newidiadau sylweddol i gyfraddau goroesi pum mlynedd Cymru a Lloegr am unrhyw fath o ganser, ac mae'r un peth yn wir am gyfraddau goroesi blwyddyn bron i bob math o ganser. Fodd bynnag, gwelwyd bod cyfraddau goroesi yn is yng Nghymru na'r rhan fwyaf o wledydd Ewropeaidd eraill (ar sail Eurocare 5, 2000-2007), gyda'r cyfraddau goroesi pum mlynedd (hynny yw y rhai sy’n goroesi am 5 mlynedd ar ôl diagnosis o ganser) tua 4 pwynt canran yn llai na chyfartaledd Ewrop ar gyfer pob math o ganser.

3.03 Cyfraddau goroesi canser am 5 mlynedd (2000-2007, cymharol, safonedig yn ôl oedran)
Siart sy'n dangos cyfraddau goroesi canser am 5 mlynedd gwledydd yr UE. 54.15 y cant yw cyfartaledd Ewrop. Mae Cymru, ar 49.94 y cant, yn yr hanner isaf, yn union o dan Loegr.

Ffynhonnell: Eurocare V

Ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o ganser, mae lefelau goroesi yn dirywio os yw'r diagnosis yn hwyrach - gall graddfa'r dirywiad rhwng camau cynharaf a chamau hwyraf y canser amrywio gan ddibynnu ar y math o ganser. Mae cyfraddau goroesi dynion yn well na menywod ar gyfer sawl math o ganser pan fydd y diagnosis ar gam hwyrach neu anhysbys, ac eithrio canser yr ysgyfaint a melanoma.

Mae eich llesiant yn newid drwy gydol eich oes - mae'n dirywio pan fyddwch yn yr ysgol uwchradd (yn arbennig i ferched) ac yna'n gwella wrth fynd yn hŷn.

Mae hunan adroddiadau am foddhad â bywyd yn dirywio i ferched o flwyddyn 7 (11 oed) i flwyddyn 11 (16 oed) ac yn amlwg yn is na bechgyn. Yn gyffredinol, mae hunan adroddiadau am foddhad â bywyd wedi aros ar yr un lefel dros y degawd diwethaf fwy neu lai, o 2002 i 2018.

Mae cyfraddau boddhad â bywyd oedolion wedi cynyddu ychydig dros amser, ac maent yn debyg ar y cyfan i wledydd eraill y Deyrnas Unedig. Fodd bynnag, yn y flwyddyn a ddaeth i ben fis Rhagfyr 2017, nododd cyfran uwch o bobl Cymru lefelau isel o foddhad â bywyd, teimlo gwerth chweil a hapusrwydd o gymharu â chyfartaledd y DU. Er enghraifft, ar gyfer 4.3 y cant o bobl Cymru roedd eu sgôr o ran teimlo gwerth chweil rhwng 0 a 4, o gymharu â dim ond 3.4 y cant ar draws y DU yn gyfan. Er hynny, nid oedd gwahaniaeth sylweddol rhwng cyfraddau pryder rhwng Cymru a chyfartaledd y DU.

3.04 Canlyniadau llesiant meddyliol bechgyn a merched 14 oed, 2015, Cymru
Mae'r siart yn dangos bod canran uwch o ferched yn sgorio'n uchel ar y raddfa hwyliau a theimladau, eu bod yn fwy tebygol o fod yn anhapus â bywyd yn gyffredinol a'u bod hefyd yn fwy tebygol o hunan-niweidio na bechgyn.

(a) % â sgôr uchel (12 neu fwy allan o 26) ar y raddfa Hwyliau a Theimladau

(b) % â sgôr isel (o dan y pwynt canol) ar gyfer hapusrwydd mewn bywyd yn gyffredinol

(c) % sydd wedi anafu eu hunain yn fwriadol mewn unrhyw ffordd dros y flwyddyn ddiwethaf

Ffynhonnell: Astudiaeth Carfan y Mileniwm

 

Mae merched yn sgorio cryn dipyn yn is na bechgyn ar y raddfa hwyliau a theimladau, ac mae cyfran uwch ohonynt wedi hunan-niweidio yn y flwyddyn ddiwethaf.

Yn ôl dadansoddiad gan y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion mae llesiant meddyliol yn weddol debyg i fechgyn a merched blwyddyn 7, ond erbyn blwyddyn 10 mae llesiant meddyliol merched wedi dirywio mwy na bechgyn.

Dywedodd canran uwch o fechgyn na merched (19 y cant o gymharu ag 13 y cant) eu bod wedi bwlio plentyn arall, ond mae hyn wedi syrthio yn ystod y degawd diwethaf. Fodd bynnag, dywedodd canran uwch o ferched na bechgyn eu bod yn cael eu bwlio (38 y cant o gymharu â 33 y cant) gyda thystiolaeth bod hyn wedi cynyddu yn y blynyddoedd diweddaraf hyd at 2018.

Yn gyffredinol ar gyfer disgyblion ysgol uwchradd, roedd 35 y cant wedi cael eu bwlio yn ystod y ddau fis diwethaf, a 9 y cant wedi cael eu bwlio o leiaf unwaith yr wythnos.

3.05 Boddhad â bywyd a llesiant meddyliol yn ôl oedran, 2016-17
Siart sy'n dangos bod boddhad â bywyd yn lleihau ymhlith y rhai sy'n 16-24 oed a 45-64 oed, tra bo llesiant meddyliol yn cynyddu dros yr un cyfnodau oedran. Mae llesiant meddyliol a boddhad â bywyd, ill dau, ar eu huchaf ymhlith y grŵp oedran 65-74.
NODYN: NID YW'R SIART YN CYCHWYN AR SERO

Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Er bod llesiant meddyliol yn parhau i wella tan oedran hen iawn, mae boddhad â bywyd yn gostwng dros dro yn ystod canol oed. Yn ôl y siart uchod, er mai oedolion ifanc (16-24) sydd â'r sgôr isaf o lesiant meddyliol ar gyfartaledd, mae eu sgôr o ran boddhad â bywyd yn uwch na'r rhai 25-64 oed. Mae'r sgoriau llesiant meddyliol cyfartalog ar gyfer menywod yn gyson is na rhai dynion ar draws pob grŵp oedran. Er bod sgoriau boddhad â bywyd ychydig yn uwch i fenywod na dynion ar gyfartaledd (7.8 o gymharu â 7.7), mae mwy o fenywod yn cael sgôr isel iawn o ran boddhad â bywyd a sgôr uchel iawn o ran boddhad â bywyd, fel y gwelir yn y siart isod.

Yn 2017-18, dywedodd tua 9 y cant o oedolion bod ganddynt anhwylder meddyliol hirdymor.

3.06 Boddhad â bywyd yn ôl rhywedd, 2017-18
Dywedodd tua 51 y cant o ddynion a 47 y cant o fenywod bod eu boddhad â bywyd yn uchel iawn. Mae boddhad â bywyd yn uchel iawn ymhlith 32 y cant o ddynion a 35 y cant o fenywod, tra bo boddhad â bywyd yn isel ymhlith 6 y cant o fenywod a 5 y cant o ddynion.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae nifer o ffactorau eraill sydd hefyd yn bwysig ar gyfer lles corfforol a meddyliol ac mae llawer o’r rhain wedi’u cynnwys yn fframwaith canlyniadau iechyd y cyhoedd. Gan reoli ar gyfer amrywiol ffactorau, gwelwyd bod gwell llesiant meddyliol yn gysylltiedig yn bennaf ag iechyd da. Roedd peidio â bod mewn amddifadedd materol a bod yn hŷn hefyd ymysg y ffactorau pwysicaf ar gyfer llesiant meddyliol oedolion.

Gall amrywiol ffactorau ddylanwadu ar lesiant. Yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol iechyd oedd y prif ffactor a oedd yn dylanwadu ar les personol, yn cael ei ddilyn gan sefyllfa o ran gwaith a statws perthynas.

O ran cyflogaeth, mae'r data'n dangos gwelliant sylweddol yng nghyfradd cyflogaeth Cymru dros y cyfnod ers datganoli, gyda chyfradd cyflogaeth o 74.8 y cant ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mai a mis Gorffennaf 2018, 0.7 y cant yn is na ffigur y DU. Fodd bynnag, mae bwlch yn parhau rhwng cyfradd cyflogaeth y rhai 16 oed ac yn hŷn sydd â chyflyrau iechyd hirdymor a'r rhai heb gyflwr o'r fath, ac roedd yn 15.9 pwynt canran yn 2017. Mae'r gyfradd hunanladdiad ar gyfer pobl sydd wedi ysgaru dros ddwywaith gymaint â phobl sengl, tra mai'r rhai sydd mewn perthynas sydd â'r gyfradd isaf.

Mae'r man lle'r ydych yn byw yn bwysig o ran llesiant (ac iechyd) gyda mynediad at ofod gwyrdd a chydlyniant cymunedol yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn teimlo.

Yn gyffredinol, mae ansawdd aer yng Nghymru wedi gwella cryn dipyn ers y 1970au, yn bennaf yn sgil rheolaethau statudol dros allyriadau a dirywiad diwydiant trwm. Fodd bynnag, mae llygredd o ffynonellau eraill megis trafnidiaeth, amaethyddiaeth a gwresogi cartrefi yn fwy o destun pryder. Ceir y crynodiadau uchaf o allyriadau nitrogen deuocsid mewn ardaloedd trefol mawr, ac yn agos at ffyrdd prysur. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod cyfwerth â thua 1,600 o farwolaethau oherwydd amlygiad i PM2.5, a thua 1,100 o farwolaethau oherwydd amlygiad i NO2, bob blwyddyn yng Nghymru (oherwydd bod yr effaith ar iechyd o’r llygryddion unigol yn gorgyffwrdd, nid yw’n bosibl symio’r rhain).

Mae'r rhai sydd mewn iechyd da’n rhoi sgorau llawer uwch (cadarnhaol) ar gyfer llesiant meddyliol (gan ddefnyddio Graddfa Lles Meddyliol Warwick-Caeredin) na’r rhai nad ydynt mewn iechyd da.

Gall profiadau niweidiol yn ystod plentyndod gael effaith hirdymor, ond gall cymryd rhan mewn chwaraeon helpu rhywun i fod yn gryfach yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae canlyniadau’r astudiaeth gyntaf o Brofiadau Niweidiol mewn Plentyndod yn cymharu pobl sydd wedi dioddef pedwar neu ragor o brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod â phobl sydd heb gael unrhyw brofiadau niweidiol yn ystod eu plentyndod, ac yn dod i’r casgliad bod y rhai a oedd wedi dioddef 4 gwaith yn fwy tebygol o brofi yfed risg uchel yn ystod eu cyfnod fel oedolion, 6 gwaith yn fwy tebygol o fod yn smygwr ac 14 gwaith yn fwy tebygol o fod wedi dod i gysylltiad â thrais yn y flwyddyn ddiwethaf. Roedd yr ail arolwg yn dangos patrwm tebyg, a bod y bobl oedd wedi dioddef pedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod 6.1 gwaith yn fwy tebygol o gael eu trin am anhwylder meddyliol. Roedd cael rhywfaint o adnoddau cadernid yn mwy na haneru'r perygl o afiechyd meddyliol ar hyn o bryd ymysg y rhai â phedwar neu fwy o brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod.

Roedd yr adroddiad am brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd yn dangos perthynas gref rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod plentyndod a llai o salwch meddwl gydol oes. Ceir cysylltiadau hefyd rhwng cymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd fel oedolyn a salwch meddwl.

Dangosodd Arolwg Cenedlaethol Cymru bod 59 y cant o bobl wedi cymryd rhan mewn rhyw fath o chwaraeon neu ymarfer corff dros y 4 wythnos ddiwethaf yn 2017-18. Y gweithgaredd mwyaf cyffredin o bell oedd cerdded dros 2 filltir (33 y cant o bobl), yna mynd i'r gampfa neu wersi ffitrwydd (16 y cant), nofio dan do (13 y cant) a loncian (11 y cant). Roedd 11 y cant o'r oedolion yn cymryd rhan mewn gweithgaredd chwaraeon neu ymarfer corff o leiaf unwaith yr wythnos, 8 y cant dwywaith yr wythnos a 32 y cant o leiaf dair gwaith yr wythnos. Roedd menywod yn llai tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 45 y cant heb unrhyw weithgarwch rheolaidd o gymharu â 35 y cant o ddynion.

Mae blynyddoedd cynnar plentyn yn amser allweddol i helpu i sicrhau canlyniadau da yn ddiweddarach mewn bywyd

Mae nifer y babanod sengl (yn hytrach nag efeilliaid neu dripledi ac ati) sy’n pwyso llai na 2.5kg (5 pwys, 8 owns) ar adeg eu geni wedi bod yn gostwng dros y 10 mlynedd diwethaf. Dangosodd yr ystadegau diweddaraf ar gyfer 2017 fod 5.6 y cant o enedigaethau (babanod sengl) yn fabanod â phwysau geni isel yng Nghymru. Dyma’r ganran uchaf ers 2009.

Gall nifer o wahanol ffactorau arwain at bwysau geni isel, er enghraifft smygu yn ystod beichiogrwydd, anaemia, camddefnyddio sylweddau ac iechyd rhywiol gwael. Roedd y gyfradd ar gyfer yr holl enedigaethau byw yng Nghymru yn 6.8 y cant yn 2015 (mae hyn yn cynnwys genedigaethau nad oeddent yn rai sengl) a oedd ychydig yn uwch na chyfartaledd yr OECD (6.5 y cant). Ond tra mae cyfartaledd yr OECD wedi cynyddu 0.4 pwynt canran rhwng 2001 a 2015, mae’r gyfradd ar gyfer Cymru wedi gostwng.

Mae cysylltiad agos rhwng pwysau geni isel ac amddifadedd. Roedd y dadansoddiad diweddaraf, gan ddefnyddio data o 2012 i 2014, yn dangos bod y pumed mwyaf difreintiedig 30 y cant yn fwy tebygol o gael babi sengl â phwysau geni isel na’r pumed yn y canol.

Mae gan fwydo o’r fron fanteision iechyd i fabanod a mamau. Mae canran y babanod sy'n cael eu bwydo o’r fron adeg eu geni wedi cynyddu o 55 y cant yn 2006 i 61 y cant yn 2017. Mae babanod mamau hŷn yn fwy tebygol o gael eu bwydo o’r fron o’i gymharu â mamau iau. Mae cyfraddau bwydo o'r fron wedi cynyddu, ond tua 60 y cant o'r mamau a ddechreuodd fwydo eu babanod o'r fron ar eu geni sy'n dal i wneud hynny ar ôl 6-8 wythnos.

Mae'r ffigurau diweddaraf ar iechyd deintyddol plant (pump a deuddeg oed) yn dangos gwelliannau. Gwelwyd gostyngiad yng nghyfran y plant pump oed sydd â phydredd dannedd dros y degawd diwethaf fwy neu lai, ac er bod cyfran y plant sydd â phydredd dannedd ar ei huchaf ymysg yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r lleiaf, mae'r bwlch hwnnw yn cau.

Ar gyfer y rhai deuddeg oed, gwelwyd gostyngiad parhaus yn nifer yr achosion o bydredd yn y dannedd ar draws pob pumawd amddifadedd rhwng 2004 a 2017. Er gwaethaf hyn, mae cymarebau pydredd yn y dannedd yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig o gymharu â'r grwpiau o amddifadedd canolig i'w gweld yn ehangu ychydig bach.

Gostyngodd cyfraddau beichiogi yn yr arddegau i’w lefel isaf erioed yng Nghymru yn 2016, ac maent wedi gostwng yn ddramatig ers 2008. Mae’r gyfradd ar gyfer y rhai o dan 18 oed wedi mwy na haneru dros yr un cyfnod.

Mae data newydd ar gael ar camau datblygiad plant ar fynediad i ysgol cynradd.

Mae plant yng Nghymru yn cael eu hasesu, drwy Broffil y Cyfnod Sylfaen, yn ystod eu 6 wythnos gyntaf ar ôl dechrau yn yr ysgol gynradd (dosbarth derbyn). Mae hyn yn cael ei ddefnyddio i ddarganfod cam datblygiad a diddordebau’r plentyn yn ôl Proffil a Fframwaith y Cyfnod Sylfaen.

Mae’r data yn adlewyrchu’r ystod eang o aeddfedrwydd datblygiadol a ddisgwylir yn yr oed hwn, sydd o fewn yr ystod safonol ar gyfer plant wrth ddechrau yn yr ysgol, yn enwedig o ystyried oed amrywiol plant sy’n dechrau’r ysgol.

Un o’r meysydd lle asesir plant yw datblygiad personol a chymdeithasol, lles ac amrywiaeth ddiwylliannol. Mae tua 7 o bob 10 disgybl 4 oed wedi cyrraedd cam datblygiad yn y maes dysgu hwn a fyddai’n gyson â’u hoed yn ôl y fframwaith, neu’n well, ac mae tua 9 o bob 10 disgybl o fewn un cam i’r datblygiad sy’n gyson â‘u hoed.

3.07 Asesiadau dechreuol o ddisgyblion mewn dosbarthiadau derbyn: Datblygiad personol a chymdeithasol
Graff yn dangos categorïau’r asesiadau dechreuol, yn ôl rhyw.

Ffynhonnell: Asesiadau dechreuol o ddisgyblion, Llywodraeth Cymru

Mae'r rhan fwyaf o ymddygiadau iechyd yn dechrau dirywio yn yr ysgol uwchradd, ond yn gwella wrth fynd yn hŷn

Roedd 10 y cant o’r rhai 16 oed neu hŷn a 12 y cant o’r bobl ifanc 11 i 16 oed yn dangos llai na dau ymddygiad ffordd iach o fyw (dim smygu, dim yfed mwy na’r canllawiau, bwyta pum llysieuyn a ffrwyth bob dydd, bodloni canllawiau gweithgarwch corfforol ac (ar gyfer oedolion) pwysau iach). Ar gyfer plant, mae nifer yr ymddygiadau iach yn dirywio gydag oedran. Roedd gan 2 y cant o ddisgyblion blwyddyn 7 lai na dau ymddygiad iach, gan godi i 9 y cant ym mlwyddyn 9 a 27 y cant ym mlwyddyn 11.

3.08 Canran o blant yn dilyn llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iachus yn ôl blwyddyn ysgol, 2013/14
Mae’r siart yn dangos canran y plant sy’n ymgymryd â llai na dau ymddygiad ffordd o fyw iach o flwyddyn ysgol 7 i flwyddyn ysgol 11. Mae’r ganran yn codi o 2 y cant ym mlwyddyn 7 i 27 y cant ym mlwyddyn 11.

Ffynhonnell: Ymddygiadau Iechyd Plant Oedran Ysgol

Mae bechgyn yn fwy tebygol o fod yn ordew neu dros bwysau yn yr ysgol, gyda'r bwlch yn ehangu yn ystod ysgol uwchradd a hyd at ganol oed, pan fydd yn dechrau cau eto.

3.09 Canran o blant oed 11-16 yn dilyn ymddygiadau iechyd dewisol

Cyfres amser sy’n dangos canran y plant sy’n ymgymryd â phob un o’r tri ymddygiad iechyd: y rhai oedd yn egnïol yn gorfforol ar 7 diwrnod, y rhai oedd yn smygu o leiaf unwaith yr wythnos, a’r rhai sy’n yfed o leiaf unwaith yr wythnos. Mae smygu ac yfed wedi gostwng rhwng 1986 a 2014.

Ffynhonnell: Ymddygiadau Iechyd Plant Oedran Ysgol a Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion

Mae cyfraddau ysmygu wedi gostwng ers 1998 ar gyfer plant 11 i 16 mlwydd oed, o 13 y cant i oddeutu 4 y cant yn 2017/18. Mae cyfraddau yfed yn wythnosol ymhlith pobl ifanc wedi gostwng yn sylweddol rhwng 2002 (23 y cant) a 2017/18 (9 y cant). Nid yw cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol wedi newid llawer ers 2002, gyda bechgyn yn gyson fwy tebygol na merched o gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol. Data dros dro yw data 2017/18.

Tua thraean y plant ysgol uwchradd sy'n cerdded i'r ysgol, gyda chyfran ychydig yn uwch o fechgyn na merched yn gwneud hynny.

Mae cyfraddau smygu a chanran y bobl sy’n yfed gormod o alcohol yng Nghymru wedi gostwng dros amser. Ond er bod rhai tueddiadau cadarnhaol, mae heriau'n bodoli o hyd ac ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru yn wynebu mwy o heriau. Mae 15 y cant o’r oedolion yn yr ardaloedd hyn yn dangos llai na dau ymddygiad ffordd iach o fyw o gymharu â dim ond 9 y cant yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Er bod bron pob un o'r ymddygiadau ffordd o fyw yn 'waeth' mewn ardaloedd difreintiedig, roedd oedolion yn llai tebygol o yfed mwy na’r canllawiau alcohol wythnosol yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig nag yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig.

3.10 Ffordd o fyw oedolion fesul pumawd amddifadedd, 2017-18
Siart sy'n dangos canran y bobl sy'n ymgymryd â phob un o'r pum ymddygiad ffordd o fyw afiach, gan gymharu'r cwintel amddifadedd mwyaf â'r cwintel amddifadedd lleiaf. Yr ymddygiadau afiach mwyaf cyffredin yw peidio â bwyta 5 dogn o ffrwythau a llysiau, peidio â gwneud digon o weithgarwch corfforol a bod dros bwysau.
Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru

Mae'r rhai mewn amddifadedd materol yn fwy tebygol o'i chael yn anodd fforddio deiet iach. Dywedodd 2 y cant nad ydynt yn gallu fforddio bwyta prydau â chig, pysgod (neu rywbeth llysieuol cyfatebol) o leiaf bob yn ail ddiwrnod, tra dywedodd 4 y cant bod o leiaf un diwrnod yn y pythefnos diwethaf pan fu'n rhaid mynd heb bryd sylweddol o fwyd yn sgil prinder arian. Roedd pobl hŷn yn llai tebygol o fod mewn amddifadedd materol na phobl ifanc neu ganol oed.