Skip to main content

Cofnod

Yn bresennol

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Dyfed Edwards, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhys Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Rhian Huws Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Meleri Davies, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Lowri Morgans, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Enlli Thomas, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Andrew White, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Bethan Webb, Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Seimon Brooks, Y Comisiwn Cymunedau Cymraeg

(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

(Ysgrifenyddiaeth), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Aelodau staff Is-adran Cymraeg 2050 (arsylwi’n unig), Is-adran Cymraeg 2050, Llywodraeth Cymru

Ymddiheuriadau

Rosemary Jones, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Angharad Mai Roberts, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Samuel Williams, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Dafydd Hughes, Aelod, Cyngor Partneriaeth y Gymraeg

Croeso gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050

Croesawyd pawb i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg gan Ddirprwy Gyfarwyddwr Is-adran Cymraeg 2050.

Cafwyd trafodaeth gyffredinol am strwythur y Cyngor yn ogystal â thrafod awgrymiadau am bynciau ar gyfer cyfarfodydd y dyfodol, gan gynnwys estyn gwahoddiad i swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg.

Trafodwyd canlyniadau diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y Gymraeg sef ystadegau yn ymwneud ag iaith a hil / ethnigrwydd gyda. Cytunwyd y byddai’r Cyngor yn trafod y mater yn fanylach yn un o gyfarfodydd y dyfodol.

Nodwyd y byddai’n fuddiol gwahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol er mwyn cael diweddariad ar y gwaith hwn.

Cam Gweithredu 1

Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth ar ddata diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y berthynas rhwng y Gymraeg â hil / ethnigrwydd yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Cam Gweithredu 2

Ysgrifenyddiaeth i wahodd swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Cam Gweithredu 3

Ysgrifenyddiaeth i wahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

[Gweinidog y Gymraeg ac Addysg yn ymuno â’r cyfarfod ac yn cymryd y gadair]

Eitem 2: Gair o Groeso gan y Gweinidog

Estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, i gyfarfod Cyngor Partneriaeth y Gymraeg.

Cafwyd diweddariad gan y Gweinidog ar ddatblygiadau 'Rhaglen Waith Cymraeg 2050' ers y cyfarfod diwethaf.

Eitem 3: Papur Gwyn, Bil Addysg Gymraeg – diweddariad a thrafodaeth

Cafwyd trafodaeth yn dilyn cyhoeddi 'Papur Gwyn: Cynigion ar gyfer y Bil Addysg Gymraeg' yn gynharach yn ystod yr wythnos.

Diolchodd y Gweinidog yn swyddogol i bawb sydd wedi bod yn gweithio ar y Papur Gwyn am eu gwaith caled.

Roedd y drafodaeth a ddilynodd yn ffocysu yn bennaf ar rôl y gweithlu addysg i wireddu amcanion y Bil.

Eglurodd y Gweinidog fod Pennod 4 yn cynnig y bydd disgwyl i Weinidogion Cymru bennu targedau cenedlaethol ar gyfer nifer yr athrawon sydd eu hangen er mwyn hwyluso’r twf mewn addysg Gymraeg. Ni fydd y targed yn y Bil – yn hytrach, bydd y Bil yn gosod y fframwaith.

Nodwyd pwysigrwydd:

  • Cryfhau’r cyfraniad sy’n rhaid i brifysgolion a’r sector ôl-16 ei wneud o ran hyfforddi athrawon drwy osod targedau mwy pendant o ran y Gymraeg.
  • Trafodwyd yr effaith ar y gweithlu a’r mecanweithiau sydd wedi eu gosod er mwyn cynyddu nifer yr athrawon sy’n gallu dechrau dysgu siarad Cymraeg.
  • Yr angen i gynllunio’r gweithlu yn ofalus.

Trafodwyd hefyd:

  • Pwysigrwydd codi ymwybyddiaeth o’r ymgynghoriad ar y papur gwyn gyda’r rhanddeiliaid a thrafod ei gynnwys gyda phlant a phobl ifanc a’r holl randdeiliaid y bydd y Bil yn effeithio arnynt maes o law.
  • Pwysigrwydd canolbwyntio ar drochi cynnar.
  • Nodwyd bod y Bil yn cymryd camau a fydd yn lleihau’r bwlch sylweddol o ran deilliannau ieithyddol disgyblion rhwng ysgolion cyfrwng Cymraeg, dwyieithog a Saesneg.

Eitem 4: Cyflwyniad ar beilot Dwyfor (ail gartrefi a fforddiadwyedd)

Cafwyd cyflwyniad gan un o swyddogion y Llywodraeth ar beilot Dwyfor sydd wedi bod yn weithredol ers y llynedd. Cytunwyd i rannu’r papur yn nodi crynodeb diweddaraf o waith y peilot gydag aelodau’r Cyngor. Nododd y swyddog ei fod yn hapus i drafod gydag unrhyw un sydd am wybodaeth bellach.

Cam Gweithredu 4

Ysgrifenyddiaeth i rannu papur sy’n crynhoi Peilot Dwyfor gyda’r aelodau.

Eitem 5: Comisiwn Cymunedau Cymraeg: Trafodaeth

Trosglwyddwyd yr awenau i Seimon Brooks, Cadeirydd y Comisiwn Cymunedau Cymraeg, i roi diweddariad ar waith y Comisiwn hyd yma:

  • Diolchodd i bawb am eu sylwadau i’r alwad am dystiolaeth. Cadarnhaodd y bydd crynodeb o’r ymatebion yn cael ei gyhoeddi maes o law ac y bydd yr Aelodau yn cael copi.
  • Cytunodd i roi diweddariadau rheolaidd i’r Cyngor Partneriaeth yn ôl y galw yng nghyfarfodydd y dyfodol.
  • Nododd y bydd y Comisiwn yn awr yn mynd ati i baratoi papur safbwynt a fydd yn cael ei gyhoeddi yn Eisteddfod yr Urdd. Bydd y papur yn crynhoi egwyddorion cynllunio ieithyddol o safbwynt cynllunio cymdeithasol, yn ogystal â thrafod ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol a chanlyniadau’r cyfrifiad.
  • Y bwriad yw cynnal cyfres o gyfarfodydd rhwng Eisteddfod yr Urdd a’r Eisteddfod Genedlaethol, gyda’r gwaith ysgrifennu manwl yn digwydd rhwng mis Awst a Rhagfyr.
  • Cafwyd trafodaeth bellach ar ardaloedd o arwyddocâd ieithyddol a sut y gallai’r ardaloedd hyn gael eu dynodi.

Cam Gweithredu 5

Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o grynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth a’r papur safbwynt at yr aelodau unwaith caiff ei gyhoeddi.

Cam Gweithredu 6

Ysgrifenyddiaeth i wahodd Seimon Brooks i gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn rheolaidd er mwyn trafod cynnydd y gwaith.

Eitem 6: Unrhyw Fater Arall

Trafodwyd y posibilrwydd o gynnal cyfarfod wyneb yn wyneb y tro nesaf gyda’r lleoliad yn ddibynnol ar galendr y Gweinidog. Cytunodd yr Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau’r manylion maes o law.

Cam Gweithredu 7

Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau manylion y cyfarfod nesaf gyda’r Aelodau maes o law.

Crynodeb o’r Pwyntiau Gweithredu

Pwynt gweithredu

Cam Gweithredu

Pwynt gweithredu

I bwy?

Wedi cwblhau?

1

 

 

Ysgrifenyddiaeth i drefnu trafodaeth ar ddata diweddaraf Cyfrifiad 2021 o ran y berthynas rhwng y Gymraeg â hil / ethnigrwydd yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.

2

Ysgrifenyddiaeth i wahodd swyddog o’r Adran Iechyd i drafod heriau maes iechyd a’r Gymraeg yn un o gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn y dyfodol.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.

3

Ysgrifenyddiaeth i wahodd Rheolwr Rhaglen Arfor i un o gyfarfodydd  y dyfodol.

Ysgrifenyddiaeth

Bydd gwahoddiad yn cael ei anfon at un o gyfarfodydd y dyfodol.

4

Ysgrifenyddiaeth i rannu papur sy’n crynhoi Peilot Dwyfor gyda’r aelodau.

Ysgrifenyddiaeth

Papur wedi ei rannu.

5

Ysgrifenyddiaeth i anfon copi o grynodeb o’r ymatebion i’r alwad am dystiolaeth a’r papur safbwynt at yr aelodau unwaith caiff ei gyhoeddi.

Ysgrifenyddiaeth

Papurau wedi’u rhannu.

6

Ysgrifenyddiaeth i wahodd Seimon Brooks i gyfarfodydd y Cyngor Partneriaeth yn rheolaidd er mwyn trafod cynnydd y gwaith

Ysgrifenyddiaeth

SB yn mynychu cyfarfod 13/07/23.

7

Ysgrifenyddiaeth i gadarnhau manylion y cyfarfod nesaf gyda’r Aelodau maes o law.

Ysgrifenyddiaeth