Dylech roi acenion ar lythrennau lle bo’u hangen. Mae peidio â’u cynnwys nid yn unig yn golygu eich bod yn camsillafu ond weithiau yn gwneud yr ystyr yn aneglur. Yr acenion a ddefnyddir yn Gymraeg yw’r acen grom (neu’r to bach), ee cytûn; yr acen ddyrchafedig, ee amgáu; yr acen ddisgynedig, ee sgìl; a’r didolnod, ee glanhäwr.
Yr Arddulliadur
This Welsh-language style guide has been developed to give advice and guidance to translators of general Welsh Government texts. You can search for specific words or browse by section. This guidance is revised and updated regularly.
Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.
Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.
Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.
Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.
Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.
Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.
Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).
Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.
Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.
O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.
Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).
Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.
Byddwch yn ofalus wrth gyfieithu ymadroddion sy’n defnyddio’r ferf ‘can’ yn Saesneg. Mae’n aml yn cael ei defnyddio i olygu ‘may’. Ystyriwch yr enghraifft isod:
Can builders work in other people’s homes under the coronavirus restrictions?
Mae’n amlwg y bydden nhw’n gallu gweithio yn nghartrefi pobl eraill (hynny yw, mae ganddynt y sgiliau a’r offer i wneud y gwaith). Y cwestiwn yw, a fydden nhw’n cael gwneud hynny (hynny yw, a oes caniatâd iddynt wneud hynny?).
Gweler hefyd yr eitem ‘may (has discretion to, is permitted to)’.
Egwyddorion
Dyma'r egwyddorion a ddilynir wrth bennu ffurfiau Cymraeg ar enwau gwladwriaethau, tiriogaethau a chenhedloedd diwladwriaeth, i'w rhoi yn TermCymru. Dylid nodi mai pennu ffurf benodol at ddibenion Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru a wneir, ac nad yw hynny’n golygu bod ffurfiau eraill yn annilys.
Dyma’r egwyddorion a ddilynir wrth benderfynu ar ffurfiau:
- Y nod yw dewis ffurfiau ymarferol sy’n taro cydbwysedd rhwng bod yn ddealladwy i gynulleidfaoedd amrywiol testunau Cymraeg Llywodraeth Cymru, a chydymffurfio â chonfensiynau orgraffyddol y Gymraeg.
- Dosberthir yr enwau i dri phrif gategori, yn y drefn hon: (1) ffurf sefydledig yn Gymraeg, (2) Cymreigiad o’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig, (3) y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ceir rhagor o fanylion am y categorïau yn y tabl isod.
- Yn gyffredinol o ran categori (2), rhoddir mwy o bwys ar gydnabod y ffurfiau hynny sydd eisoes yn gyfarwydd fel ffurfiau wedi’u Cymreigio mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant. Gochelir rhag Cymreigio ffurfiau oni bai bod rheswm da dros wneud hynny yn unol â’r egwyddorion, rhag amlhau ffurfiau a chyflwyno ffurfiau sy’n anghyfarwydd i’r gynulleidfa.
- Yn sgil egwyddor 3 ac yn sgil cysylltiadau daearyddol, diwylliannol, masnachol a gwleidyddol â Chymru, rhoddir ystyriaeth i Gymreigio pob un o enwau gwledydd yn Ewrop nad oes ganddynt eisoes ffurf sefydledig yn Gymraeg.
- Yn sgil egwyddor 3, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurfiau i’w defnyddio yn Gymraeg newid dros amser, wrth i leoedd ddod yn fwy cyfarwydd mewn trafodaethau yn Gymraeg.
Ffurfiau sefydledig Cymraeg a ffurfiau a Gymreigiwyd
- Yn gyffredinol, ni Chymreigir ffurfiau sydd angen mwy nag un neu ddau addasiad i’r orgraff er mwyn eu Cymreigio.
- Yn gyffredinol, dylid naill ai Gymreigio’r enw cyfan, neu beidio â’i Gymreigio o gwbl: Kosovo, nid Kosofo.
O ran cytseiniaid
- Mae’n arferol defnyddio’r llythyren f yn Gymraeg i gyfleu’r sain [v] a ddynodir gan y llythyren v yn Saesneg ar gychwyn ac yng nghanol enwau: Dinas y Fatican, nid Dinas y Vatican, Slofenia, nid Slovenia.
- Mae’n llai arferol defnyddio’r llythyren c yn Gymraeg i gyfleu’r sain [k] a ddynodir gan y llythyren k yn Saesneg ar gychwyn enwau lleoedd tramor: Gogledd Korea, nid Gogledd Corea. Serch hynny, mae’n fwy arferol ei defnyddio felly yng nghanol enwau: Slofacia, nid Slovakia
- Mae llai arferol trosi rhai cytseiniaid eraill i’r orgraff gyfatebol yn y Gymraeg, ar gychwyn ac yng nghanol enwau. Er enghraifft mae’n llai arferol Cymreigio enwau sy’n cynnwys llythrennau neu gyfuniadau fel y llythyren g i gyfleu’r sain [dʒ] (Gibraltar, Georgia), y llythyren q i gyfleu’r sain [k] (Martinique), y llythyren z i gyfleu’r sain [ts] (Bosnia a Herzegovina), a’r cyfuniad ti i gyfleu’r sain [ʃ] (Croatia).
- Nid yw’n arferol defnyddio’r cyfuniad tsi i gyfleu’r sain [tʃ] ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd (Chad, Chile). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn ar gychwyn enwau (Y Weriniaeth Tsiec, Tsieina).
- Nid yw’n arferol defnyddio’r llythyren s ar gychwyn nac yng nghanol enwau llai cyfarwydd i gyfleu’r seiniau [z] neu [s] (Zambia, Tanzania). Serch hynny, mae rhai enwau sydd eisoes yn sefydledig yn y Gymraeg yn defnyddio’r cyfuniad hwn (Seland Newydd, Brasil).
O ran llafariaid
- Yn gyffredinol yn achos enwau a Gymreigir, dylid Cymreigio llafariaid er mwyn cyfleu’r ynganiad yn Gymraeg: Bwlgaria, Lithwania, Periw, Ciwba.
O ran marciau diacritig
- Yn gyffredinol hepgorir marciau diacritig sy’n dangos yr aceniad mewn ffurfiau a Gymreigiwyd, a hynny er mwyn osgoi creu ffurfiau sydd yn fwy anghynefin na’r angen i ddefnyddwyr. Tybir y bydd y gynulleidfa yn gyfarwydd â’r ynganiad ac nad oes angen dangos lle mae’r acen yn syrthio: Fietnam, Irac, Pacistan, Belarws.
O ran y fannod
- Gall y defnydd o'r fannod amrywio gyda rhai enwau, ac ystyrir y defnydd hwnnw wrth bennu'r ffurf safonol.
Ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig
- Mae rhai ffurfiau cynhenid a ffurfiau Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg ac eithrio, efallai, farciau diacritig i ddynodi acen neu hyd llafariad: Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellid ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden.
- Derbynnir bod llawer o enwau lleoedd tramor yn seiliedig ar ieithoedd nad yw eu seiniau, eu hynganiad, eu horgraff na’u morffoleg yn cyd-fynd â nodweddion a chonfensiynau’r Gymraeg. Oherwydd hyn, yn achos ffurfiau sy’n adlewyrchu’r ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig:
- Derbynnir y gall yr arwyddion orgraffyddol gyfleu seiniau nad ydynt yn seiniau cynhenid i’r Gymraeg neu gallent gyfleu seiniau nad ydynt fel arfer yn cael eu cyfleu yn Gymraeg gan yr arwyddion hynny: Croatia, Lesotho, Niger.
- Derbynnir y gall rhai o’r arwyddion orgraffyddol a chlymau cytseiniol fod yn anghyfarwydd: Kyrgyzstan, Ynysoedd Åland, Djibouti.
- Derbynnir y gall yr acen syrthio ar sillafau nad ydynt yn gyfarwydd yn Gymraeg, heb nodau diacritig i ddynodi’r acenion hynny: Tajikistan, Mozambique, Paraguay.
Enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol
- Yn achos enwau lle y byddai modd mabwysiadu un o sawl ffurf wahanol, dylid ystyried pa mor ymarferol fyddai creu tarddeiriau Cymraeg fel enwau ieithoedd neu hunaniaethau/pobloedd ar sail y ffurf a ddewisir. Er enghraifft, wrth ystyried Faroe Islands, dylid hefyd ystyried enw’r iaith Faroese neu’r hunaniaeth Faroese. Mae Ynysoedd Ffaro yn rhoi Ffaröeg a Ffaroaidd, ond anodd fyddai creu tarddeiriau Cymraeg dealladwy pe defnyddid Ynysoedd Føroyar neu Ynysoedd Faroe yn enw ar Faroe Islands.
- Dylid osgoi amlhau ffurfiau. Wrth benderfynu ar ffurfiau lle ceir mwy nag un ffurf bosibl drwy ddilyn yr egwyddorion hyn, rhoddir ystyriaeth i ffurfiau rhestr Bwrdd yr Iaith Gymraeg o enwau lleoedd tramor (2011), ffurfiau yr Atlas Cymraeg Newydd (CBAC, 1999) a ffurfiau sydd eisoes yn TermCymru fel rhan o dermau eraill a safonwyd (ee enwau safonol anifeiliaid a phlanhigion).
Cyfieithu a throsi elfennau i’r Gymraeg
- Ni waeth ym mha gategori y mae’r enw, cyfieithir yr elfennau canlynol:
- elfennau cyffredinol megis Ynysoedd, Gweriniaeth, Tiroedd.
- ansoddeiriau: Guinea Gyhydeddol, Seland Newydd.
- cysyllteiriau: St Kitts a Nevis.
- pwyntiau’r cwmpawd a geiriau lleoliadol: Gogledd Korea, Ynysoedd Sandwich y De, Gweriniaeth Canolbarth Affrica.
- elfennau disgrifiadol a meddiannol: Ynys y Nadolig, Ynysoedd Prydeinig y Wyryf, Polynesia Ffrengig.
- Ni throsir enwau personol i’r Gymraeg: Ynysoedd Marshall. Nac ychwaith enwau seintiau: St Lucia, Sint Maarten.
Materion ymarferol wrth ddefnyddio enwau
- Rhaid gwerthfawrogi bod enwau gwledydd yn gallu bod yn wleidyddol sensitif. Os oes dwy iaith swyddogol a dwy ffurf bosibl ar enw yn sgil hynny, dylid dilyn y testun gwreiddiol wrth gyfieithu. Er enghraifft, os rhoddir ‘New Zealand (Aotearoa)’ yn y Saesneg, dylid rhoi’r ddwy ffurf ‘Seland Newydd (Aotearoa)’ yn y Gymraeg. Os na roddir ond un ffurf yn y gwreiddiol, dylid ystyried bwriad yr awdur wrth benderfynu ar ba ffurf i’w dewis ar gyfer y testun Cymraeg.
- Mae enwau a chyd-destunau gwleidyddol enwau yn gallu newid ac yn gallu amrywio: Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo (gynt Zaire), Eswatini (gynt Gwlad Swazi). Oherwydd hyn, sylwer y gallai’r penderfyniad ynghylch y ffurf i’w ddefnyddio yn Gymraeg newid.
- Gall fod yn anodd penderfynu a ddylid treiglo enwau tramor. Yn gyffredinol, argymhellir treiglo ffurfiau sydd yng nghategorïau (1) a (2). Argymhellir peidio â threiglo’r rhan fwyaf o’r ffurfiau sydd yng nghategori (3) ond dylid arfer crebwyll o ran treiglo enwau o’r fath sy’n cyd-fynd ag orgraff y Gymraeg. Mae’n gyffredin treiglo ambell un sy’n gyfarwydd yn Gymraeg: i Ganada ond nid yw’n gyffredin treiglo eraill: i Trinidad a Tobago, o Malawi, yn Botswana.
Tabl o'r categoriau
Categori | Treiglo | Acennu | Pa fath o leoedd | |
---|---|---|---|---|
1 |
Ffurf sefydledig Gymraeg Gall hyn gynnwys enwau lle cyfieithwyd pob elfen |
Confensiynau arferol y Gymraeg | Confensiynau arferol y Gymraeg |
Lleoedd sydd ag enwau traddodiadol yn Gymraeg (ond gan osgoi ffurfiau hynafiaethol). Ffrainc, Gwlad Pwyl, Denmarc, Ariannin, Yr Aifft Lleoedd sydd ag enwau cwbl ddisgrifiadol yn y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig. Ynys y Nadolig, Y Tiriogaethau Deheuol Ffrengig |
2 | Cymreigiad o ffurf gynhenid neu ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig | Confensiynau arferol y Gymraeg | Osgoi acennu yn gyffredinol |
Lleoedd lle nad yw’r ffurf a Gymreigiwyd yn ffurf sefydledig yn Gymraeg, ond (i) bod y lle yn Ewrop Lithwania, Slofenia, Wcráin. (ii) bod y ffurf a Gymreigiwyd eisoes yn gyfarwydd mewn cyd-destunau penodol fel y newyddion, y cyfryngau, chwaraeon a diwylliant Affganistan, Ffiji, Ciwba, Mecsico |
3 |
Enwau nad ymdrechwyd eu Cymreigio, lle y cadwyd y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig Sylwer bod cyfran o’r ffurfiau hyn yn cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg (gyda neu heb farciau diacritig) Estonia, Tonga, Iran, Jamaica. Gellir ystyried rhai o’r ffurfiau hyn yn rhai sefydledig Cymraeg ar sail eu cynefindra: Canada, India, Sweden. |
Dim treiglo Serch hynny, dylid arfer crebwyll yn achos ffurfiau sy’n cyd-fynd â chonfensiynau orgraff y Gymraeg. Bydd yn gyffredin treiglo ambell un sy’n sefydledig yn Gymraeg (ee Canada) ond nid y rhelyw (ee Botswana, Trinidad a Tobago, Malawi) |
Acennu yn ôl y ffurf gynhenid neu’r ffurf Saesneg a fabwysiedir gan y Cenhedloedd Unedig |
Lleoedd nad oes ganddynt enw sefydledig Cymraeg, ac nad yw’n briodol eu Cymreigio o dan yr egwyddorion Libya, Qatar, Réunion, Chile, Tuvalu, Kenya Mae’n bosibl y bydd ambell elfen o enw o’r fath wedi ei chyfieithu De Korea, Ynysoedd Åland, Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo. |
fel + berf
fel y, nid ‘fel a’:
fel y nodir isod, nid ‘fel a nodir isod’
fel a ganlyn
as – fel / yn traethiadol
Mae pobl yn drysu weithiau rhwng ‘fel’ ac ‘yn’ traethiadol, gan ddefnyddio ‘fel’ yn anghywir i gyfieithu ‘as’.
Gall ‘fel’ olygu ‘yn debyg i’, a gellir ei ddefnyddio i drosi ‘like’ neu ‘as’ yn yr ystyr hon:
‘Despite being new to the job, she answered the journalists’ questions as someone with years of experience’
‘Er ei bod yn newydd yn y swydd, atebodd gwestiynau’r wasg fel un oedd wedi bod wrthi ers blynyddoedd’
Gall ‘fel’ hefyd olygu ‘yn rôl / yn swyddogaeth / yng ngapasiti / yn rhinwedd / yn sgil bod yn’, a gellir ei ddefnyddio i drosi ‘as’ yn yr ystyr hon:
‘As minister, she is responsible for a portfolio of issues’
‘Fel gweinidog, mae’n gyfrifol am bortffolio o faterion’
‘This was one of her achievements as minister’
‘Roedd hyn yn o’i llwyddiannau fel gweinidog’
Ond ni all ‘fel’ olygu ‘i rôl / swyddogaeth / capasiti’, ac ni ellir ei ddefnyddio i drosi ‘as’ yn yr ystyr hon – ‘yn’ traethiadol sy’n briodol yn y frawddeg hon, nid ‘fel’:
‘She was appointed as minister last year’
‘Cafodd ei phenodi yn weinidog y llynedd’
Mae’n demtasiwn osgoi defnyddio’r gair ‘o’ yn Gymraeg er mwyn cyfieithu ‘of’, gan feddwl ei fod yn gyfieithiad slafaidd o’r Saesneg bob tro. Mae’n wir ei fod yn anghywir mewn rhai sefyllfaoedd. Ar y llaw arall mae’n dderbyniol mewn sefyllfaoedd eraill, ac yn wir yn angenrheidiol mewn rhai. Disgrifir tri math o ymadrodd isod, er mwyn ceisio dangos y gwahaniaeth.
Meddiannol
Mae’n debyg bod pawb yn ymwybodol ei bod yn gwbl annerbyniol cynnwys ‘o’ mewn ymadroddion lle mae’r elfen gyntaf yn perthyn neu yn eiddo i’r ail elfen, ee
The University of Wales
Prifysgol Cymru
The species of the Andes
Rhywogaethau’r Andes
Cyfrannol
Ar y llaw arall, rhaid cynnwys yr arddodiad ‘o’ pan fo’r enw cyntaf yn rhan o gyfanrwydd mwy ee ‘rhan o’r darten’, ‘aelod o’r tîm’.
Efallai bod y gair ‘nifer’ yn dangos y gwahaniaeth rhwng y ddwy gystrawen yn fwy eglur:
The number of pupils attending the school decreased.
Gostyngodd nifer y disgyblion a oedd yn mynychu’r ysgol.
(hy cyfanswm disgyblion yr ysgol)
A number of pupils at the school were suspended.
Cafodd nifer o ddisgyblion yr ysgol eu gwahardd.
(hy rhan o gyfanswm disgyblion yr ysgol gyfan)
Enghraifft arall sy’n dangos y gwahaniaeth yn sgil cynnwys yr ‘o’ neu beidio yw ‘mwyafrif’. Gan ddilyn y rheol uchod, mae angen yr ‘o’ wrth gyfeirio at gyfran o rywbeth mwy:
Most of the Conservatives are large.
Mae’r mwyafrif o’r Ceidwadwyr yn fawr.
Wrth hepgor yr ‘o’, mae’r ystyr yn newid:
The Conservatives’ majority is large.
Mae mwyafrif y Ceidwadwyr yn fawr.
Mae’r un peth yn wir am yr ymadrodd ‘y rhan fwyaf’:
The largest section of the wedding cake was chocolate flavoured.
Blas siocled oedd ar ran fwyaf y deisen briodas.
Most of the cake fell on the floor but some was saved
Disgynnodd y rhan fwyaf o’r deisen ar y llawr, ond arbedwyd peth ohoni.
Disgrifiadol
Mae trydydd math o ymadrodd sy’n defnyddio ‘of’ yn Saesneg – rhai fel ‘the provision of support’, ‘the use of plastic’. Yn y rhain, gellid dweud bod yr ail elfen yn disgrifio’r elfen gyntaf. Mae modd aralleirio ar brydiau, gan ddibynnu ar y frawddeg, er enghraifft trwy ddefnyddio berfenw yn lle’r enw haniaethol:
The provision of support is important to ensure the scheme’s success.
Mae’n bwysig darparu cymorth er mwyn sicrhau bod y cynllun yn llwyddo.
The company aspires to reduce its use of plastic.
Mae’r cwmni yn awyddus i ddefnyddio llai o blastig.
Er hynny, mae’n dderbyniol defnyddio’r arddodiad ‘o’ yn y math hwn o gystrawen, a cheir enghreifftiau mor bell yn ôl â’r 14eg ganrif yng Ngeiriadur Prifysgol Cymru. Yn wir, byddai’n anodd aralleirio mewn rhai cymalau neu frawddegau mwy cymhleth. Sylwer ar yr enghreifftiau isod, lle mae modd hepgor yr ‘o’ yn y frawddeg gyntaf ond lle mae angen ei gynnwys yn yr ail frawddeg gan ei bod ychydig yn fwy cymhleth:
The translation of the Bible was slow work
Gwaith araf oedd cyfieithu’r Beibl
William Morgan’s translation of the Bible was an important step
Roedd cyfieithiad William Morgan o’r Beibl yn gam pwysig
Er cysondeb: ‘yn sgil’ nid ‘yn sgîl’.
Pan mai 'skill' yw'r ystyr.
Er cysondeb: ‘sgìl’ nid ‘sgil’.
Mae Llywodraeth Cymru’n arddel y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r ddealltwriaeth hon o anabledd yn golygu gwahaniaethu rhwng amhariadau ac anabledd.
- Mae amhariadau yn nodweddion ar bobl, a all effeithio ar eu hymddangosiad neu ar sut y mae eu corff neu eu meddwl yn gweithio, neu sut y maent yn cyfathrebu. Gallant achosi amrywiaeth o anawsterau gan gynnwys poen a blinder. Gallant fod yn amhariadau gydol oes neu gallant ddeillio o salwch neu anaf
- Mae anabledd yn cyfeirio at anfanteision y mae pobl ag amhariadau yn eu profi yn sgil ffactorau fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau. Er enghraifft, os oes gan rywun amhariad ar ei glyw, efallai y caiff ei anablu os na ddarperir system lŵp.
O dan y Model Cymdeithasol o Anabledd, ein dealltwriaeth yw mai cymdeithas, yr amgylchedd, polisi, arferion, neu fethiant i ddarparu addasiadau, sy’n anablu pobl anabl.
Mae hyn yn wahanol i’r Model Meddygol o Anabledd, sy’n deall mai’r amhariad ei hun sy’n anablu’r person anabl.
Rydym wedi addasu rhai o’r geiriau a’r termau a ddefnyddiwn er mwyn cyd-fynd â’r Model Cymdeithasol o Anabledd, ee:
- Rydym yn diffinio’r gair ‘anabl’, mewn termau fel ‘pobl anabl’, i olygu ‘anabledig’ neu ‘sy’n cael eu hanablu’ – hynny yw, ein diffiniad a’n dealltwriaeth yw bod person anabl yn cael ei anablu gan gymdeithas, yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau
- Rydym yn defnyddio ‘anablu’ (sy’n cyfateb i ‘to disable’ yn Saesneg) i olygu peri bod person yn anabl
- Rydym yn nodi y gellir defnyddio termau ac ymadroddion eraill am ‘bobl anabl’ er mwyn ei gwneud yn glir fod pobl yn cael eu hanablu gan gymdeithas, yr amgylchedd, polisi neu arferion. Enghreifftiau o’r termau a’r ymadroddion hyn yw ‘pobl anabledig’ neu ‘pobl sy’n cael eu hanablu’
- Defnyddiwn ‘anabledd’ wrth gyfeirio at brofiadau pobl anabl neu at y prosesau sy’n eu hanablu, ond nid yw ‘anabledd’ yn rhywbeth y mae pobl yn meddu arno
- Nid ydym yn defnyddio’r gair ‘nam’ i gyfieithu ‘impairment’ bellach – defnyddiwn ‘amhariad’ oherwydd bod cynodiadau mwy negyddol i ‘nam’. Mae ‘amhariad’ yn cyfateb i ‘impairment’ fel y diffinnir ‘impairment’ o dan y Model Cymdeithasol o Anabledd.
Mae’r Model Cymdeithasol hefyd yn golygu bod angen ailystyried rhai ymadroddion a arferai fod yn gyffredin. Mae crynodeb o rai o’r rhain isod:
I’w defnyddio |
Ddim i’w defnyddio |
pobl anabl (disabled people) staff anabl (disabled staff) cydweithwyr anabl (disabled colleagues) plant anabl (disabled children) Neu, os oes angen yn y cyd-destun, ‘pobl anabledig’, ‘pobl sy’n cael eu hanablu’ etc |
yr anabl (the disabled) anabliaid pobl ag anableddau (people with disabilities) |
cyfleusterau hygyrch (accessible facilities) toiledau hygyrch (accessible toilets) |
cyfleusterau anabl (disabled facilities) toiledau anabl (disabled toilets) |
ananabl (non-disabled) heb amhariad (does not have an impairment) nad yw’n anabl (non-disabled) heb ei anablu (non-disabled) Neu, os oes angen yn y cyd-destun, ‘ananabledig’, ‘nad yw’n cael ei anablu’ etc |
heb nam abl (able) abl o gorff (able-bodied) |
ag amhariad (has an impairment) yn meddu ar amhariad (has an impairment) ag amhariad arno (has an impairment) |
dioddef o amhariad (suffers from an impairment) dioddef o anabledd (suffers from a disability) â nam meddu ar nam a chanddo nam |
amhariad golwg (sight impairment) amhariad symudedd (mobility impairment) |
anabledd golwg (sight disability) anabledd symudedd (mobility disability) nam golwg nam symudedd |
amhariad anweledig (invisible impairment) |
anabledd cudd (hidden disability) |
anghenion dysgu ychwanegol (additional learning needs) gofynion hygyrchedd (accessibility requirements) |
anghenion arbennig (special needs) |
|
bregus (vulnerable) |
Anabledd dysgu
Nid yw’r defnydd o “anabledd” yn y term cyffredin “anabledd dysgu” yn gyson â’r Model Cymdeithasol, gan ei fod yn cyfeirio at amhariad yn hytrach nag at rwystrau sy’n anablu pobl. Fodd bynnag mae Llywodraeth Cymru’n derbyn mai dyma’r eirfa sy’n arferol ym maes anabledd dysgu, ac a ffefrir gan sefydliadau cynrychioladol yn y maes ar hyn o bryd, felly fe’i defnyddir gan Lywodraeth Cymru. Adolygir hyn yn gyson.