Gair sy’n asio elfennau o ddau air arall, o ran sain ac ystyr, yw portmanteau. Maen nhw’n gyffredin iawn yn Saesneg, ee brunch o breakfast a lunch, smog o smoke a fog.
Cynigir isod nifer o ddulliau posibl o drosi portmanteaux, ynghyd ag ambell ystyriaeth wrth benderfynu pa un i’w ddefnyddio. Nid ydynt mewn unrhyw drefn arbennig. Bydd y dull a ddewisir yn dibynnu ar yr hyn sy’n gweithio orau ar gyfer y gair dan sylw. Mae’n werth ystyried hefyd a ydy portmanteau newydd yn un o gyfres, ac felly y byddai’n ddymunol dilyn yr un patrwm ar gyfer pob un (gweler ‘vishing’ a ‘smishing’ isod).
- Cadw’r un gair ag yn y Saesneg
Gallai hyn fod yn briodol os yw’r gair wedi ennill ei blwyf yn gyflym iawn, mewn deunyddiau Cymraeg a Saesneg, ee Brexit.
- Cymreigio’r sillafiad
Er enghraifft ‘glampio’ am ‘glamping’ a ‘secstio’ am ‘sexting’. Mae’n bosibl bod angen ystyried cywair y darn yma. Er enghraifft, byddai ‘secstio’ yn addas mewn deunyddiau wedi’u targedu at bobl ifanc ond mae’n bosibl y byddai ‘anfon delweddau rhywiol eu natur’ yn fwy priodol mewn deunyddiau mwy ffurfiol.
- Cyfieithu un neu ragor o’r elfennau, neu aralleirio
Gwelir enghreifftiau lle mae un elfen wedi’i chyfieithu, ee ‘blog fideo’ am ‘vlog’. Mewn enghreifftiau eraill mae’r ddwy elfen yn cael eu cyfieithu, ee ‘llais-rwydo’ am ‘vishing’ (‘voice’ + ‘phishing’) ac ‘SMS-rwydo’ am ‘smishing’ (‘SMS’ + ‘phishing’) – ill dau yn seiliedig ar ‘gwe-rwydo’ am ‘phishing. Gellid hefyd aralleirio’r cysyniad cyfan, ee ‘llysieuwr hyblyg’ am ‘flexitarian’.
Un ystyriaeth yma fyddai hyd y cyfieithiad neu’r aralleiriad. Gallai fynd yn feichus os yw’n codi’n aml mewn darn. Gallai hefyd fod yn amhriodol mewn rhywbeth byr a bachog fel neges drydar.
- Creu portmanteau Cymraeg
Ateb gwych pan mae modd dod o hyd i un sy’n gweithio, ee ‘sgyrsfot’ am ‘chatbot’, ‘gweddarlledu’ am ‘webcasting’.
Rhaid gofalu ei bod yn amlwg ar unwaith i’r darllenydd pa ddau air sydd wedi cael eu cyfuno i greu’r gair newydd.