Mae acronymau yn digwydd yn gyffredin (ac yn wir yn cael eu gorddefnyddio) mewn testunau Saesneg. Ni ddylid dilyn hynny’n slafaidd a defnyddio acronym yn y testun Cymraeg bob tro y ceir un yn y Saesneg. Ond, ar y llaw arall, nid oes modd eu hosgoi’n llwyr.
Natur y ddogfen fydd yn penderfynu weithiau i ba raddau y dylid defnyddio acronymau. Er enghraifft, mae’n bosibl y byddai cyfieithydd yn dewis ysgrifennu enw rhaglen neu gorff yn llawn pe bai’n ymddangos unwaith neu ddwy mewn datganiad i’r wasg neu lythyr, ond pe bai’r un teitl yn codi ddegau o weithiau mewn dogfen bolisi byddai ei roi’n llawn bob tro yn llafurus i’r darllenydd ac yn ychwanegu at hyd y ddogfen.
Os byddwch yn rhoi’r enw yn llawn yn Gymraeg, ystyriwch a oes angen defnyddio priflythrennau. Er enghraifft, defnyddir yr acronym PL yn Saesneg, ond mae ‘dysgu proffesiynol’ heb briflythrennau yn iawn yn Gymraeg.
Os byddwch yn defnyddio acronym, rhowch yr enw llawn y tro cyntaf, heblaw am ambell un na fyddai ei enw llawn yn gyfarwydd, ee TGAU neu BBC.
Weithiau, ni fydd yr enw llawn wedi’i gynnwys yn y ddogfen Saesneg a bydd angen holi’r sawl a gomisiynodd y gwaith, yn hytrach na dyfalu’r ystyr.
Os na fydd yr acronym yn gyfarwydd, y peth gorau yw cynnig cyfieithiad llawn y tro cyntaf y byddwch yn cyfeirio at y corff yn y testun a rhoi’r acronym ar ôl y teitl mewn cromfachau, ee Arolygiaeth Safonau Gofal Cymru (ASGC). Gallwch wedyn ddefnyddio’r acronym Cymraeg yng ngweddill y testun neu gyfeirio at y corff fel ‘yr Arolygiaeth’, ‘yr Awdurdod’ neu ‘y Bwrdd’ ac yn y blaen, fel y bo’n briodol.
Yn achos ‘WG’ (Welsh Government’) – yn hytrach na gorddefnyddio ‘LlC’ gellir rhoi ‘Llywodraeth Cymru’ y tro cyntaf ac yna ‘y Llywodraeth’ (mewn achosion lle’r ydych yn gwbl fodlon nad oes modd i hynny roi’r argraff mai Llywodraeth y DU sydd dan sylw).
Peidiwch â chreu acronymau Cymraeg ar gyfer enwau cyrff neu fudiadau os nad ydynt yn eu defnyddio eu hunain. Defnyddiwch yr enw llawn yn Gymraeg (lle bo hynny’n briodol) ond yr acronym Saesneg.
Mae enwau rhai cymwysterau’n cael eu trin yn yr un modd. Er enghraifft, defnyddiwch yr acronymau NVQ a GNVQ, ond lle bo angen cyfeirio at y teitlau yn llawn defnyddiwch Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol a Cymhwyster Galwedigaethol Cenedlaethol Cyffredinol.
O ddefnyddio acronym Saesneg ac enw llawn Cymraeg, ni fydd angen cynnwys y teitl llawn Saesneg hefyd er mwyn esbonio’r acronym.
Wrth ymdrin â’r lluosog, dilynwch yr un egwyddor ar gyfer acronymau Cymraeg a Saesneg. Ceisiwch osgoi creu acronymau lluosog, os oes modd, trwy aralleirio’r frawddeg. Os nad oes modd gwneud hynny, ystyrir yr acronym fel gair ynddo’i hun felly rhowch y terfyniad lluosog ar ddiwedd yr acronym, ee ‘AALlau’ am ‘Awdurdodau Addysg Lleol’, nid ‘AauALl’. Am yr un rheswm, defnyddiwch yr un terfyniadau bob tro ni waeth pa ffurf sydd i’r lluosog: ‘s’ ar gyfer acronym Saesneg ee NVQs ac ‘au’ ar gyfer acronym Cymraeg ee CNLCau (Cyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru).
Peidiwch â threiglo llythyren gyntaf yr acronym, ee anfon e-bost i CBAC, nid ‘i GBAC’.
Mae Cynllun Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru yn nodi mai’r polisi cyffredinol, yn achos unrhyw fenter bolisi newydd, fydd defnyddio brandiau dwyieithog, gan gynnwys acronymau, sloganau a logos. Mae hynny’n wir hefyd am enwau prif adrannau polisi’r Llywodraeth, ee DfES (Department for Education and Skills) – AdAS (Yr Adran Addysg a Sgiliau). Nid yw’n arfer defnyddio acronymau Cymraeg ar gyfer teitlau’r is-adrannau, fodd bynnag.