Skip to main content

Yr Arddulliadur

This Welsh-language style guide has been developed to give advice and guidance to translators of general Welsh Government texts. You can search for specific words or browse by section. This guidance is revised and updated regularly.

and/or
1 results
Results are displayed in alphabetical order.

berfau ymadroddol

Dyma un o nodweddion hynod yr iaith Saesneg, ac mae’n un sy’n gallu peri penbleth i’r cyfieithydd. Mae berf ymadroddol yn cynnwys berf ac arddodiad neu adferfol, ee fly away, carry on, keep up. Mae pob un ohonom ni yn eu cyfieithu’n llythrennol ar lafar – rydym ni i gyd yn ‘cario ymlaen efo’r gwaith’, er enghraifft. Ar y llaw arall, gall hynny fod yn amhriodol mewn dogfennau ffurfiol a byddai’n well ‘dal ati â’r gwaith’. Mae angen ystyried cywair y darn felly, a Chymreigio os oes modd. Ond rhaid hefyd ystyried a yw’r ymadrodd Cymraeg yn cyfleu union ystyr ac ergyd y Saesneg.

Isod, rhoddir y berfau hyn mewn tri chategori, gan gynnig enghreifftiau ynghyd â syniadau ynghylch sut i ymdrin â nhw.

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ddwy elfen

The boy ran up the hill

Mae’r bachgen yn rhedeg, ac mae ‘i fyny’ yn disgrifio i ba gyfeiriad y mae’n rhedeg. Mae’n gwbl dderbyniol cyfieithu’r rhain yn llythrennol felly. Mae nifer fawr ohonynt yn ymwneud â symud i gyfeiriad penodol:

come in > dod i mewn
go out > mynd allan

Sylwch fod un gair yn cyfateb i nifer o’r rhain. Gellid dweud bod y berfau un gair yn fwy ffurfiol o bosibl, ond nid yw honno’n rheol gaeth. Gallant hefyd fod yn ddefnyddiol er mwyn arbed lle, ee mewn negeseuon trydar:

dod yn ôl > dychwelyd
mynd i ffwrdd > gadael
mynd i fyny > dringo

Berfau lle mae ystyr llythrennol i’r ferf yn unig

Ceir amrywiaeth eang iawn o’r rhain, ac mae’n bosibl mai’r dull mwyaf cyffredin o ymdrin â nhw yw cyfieithu’r ferf yn unig. Ystyriwch a fyddai’r ail elfen yn cyfrannu unrhyw beth at yr ystyr. Os na, mae’n bosibl nad oes ei hangen. Dyma rai enghreifftiau:

count out > cyfrif
tidy up > tacluso
fall down > disgyn/cwympo/syrthio
fill in > llenwi
slow down > arafu

Un dull o bwyso a mesur a oes angen yr ail elfen yw ei chyfnewid am ei gwrthwyneb, ee ‘i fyny’ am ‘i lawr’ neu ‘i mewn’ am ‘allan’. Os yw’n synhwyrol, mae’n debyg bod yr elfen honno yn cyfrannu at yr ystyr a bod ei hangen. Os yw’n nonsens, gellir ei hepgor.

Os nad yw’r ferf ar ei phen ei hun yn cyfleu’r union ystyr, ystyriwch a oes modd aralleirio:

miss out > colli > colli cyfle
write down > ysgrifennu > gwneud nodyn
sit up > eistedd > codi ar ei eistedd

Berfau lle nad oes ystyr llythrennol i’r elfennau unigol

Ystyriwch y frawddeg “My money has run out”. Nid yw’r arian yn rhedeg i unlle, i mewn nac allan. Yn ddelfrydol felly, dylid dod o hyd i ymadrodd idiomatig Cymraeg. Yn yr achos hwn, byddai “Mae fy arian wedi darfod/dod i ben” yn gweithio. Dyma ragor o enghreifftiau, a chyfieithiadau posibl:

own up > cyfaddef
take place > digwydd
work out > cyfrifo
stand out > dal sylw
carry on > dal ati

Byddai’n anodd iawn llunio rhestr gynhwysfawr, gan y bydd y cyfieithiad yn amrywio yn unol â’r cyd-destun. Er enghraifft:

He worked out the bill
Cyfrifodd y bil

He worked out what to do
Penderfynodd beth i’w wneud

He worked out the puzzle
Datrysodd y pos

 

Set out

Dyma enghraifft sy’n codi’n aml wrth gyfieithu dogfennau ffurfiol. Mae fel arfer yn cael ei gyfieithu fel ‘nodi’ mewn deddfwriaeth, gan nad oes unrhyw amwysedd:

These regulations set out the procedure to be followed
Mae’r rheoliadau hyn yn nodi’r weithdrefn sydd i’w dilyn

Mewn testunau cyffredinol, ar y llaw arall, gall ‘set out’ gyfleu rhywbeth mwy disgrifiadol neu amhenodol:

The Minister set out the government’s plans for the next five years

Gallai ‘disgrifio’, ‘egluro’, ‘mynegi’, neu hyd yn oed ‘amlinellu’ weithio, gan ddibynnu pa mor benodol y teimlir y mae’r Gweinidog wedi bod. Bydd rhaid pwyso a mesur yn ôl y cyd-destun.

Gall ‘set out’ fynegi ystyr gwahanol hefyd wrth gwrs:

He did not set out to break the world record
Nid torri record y byd oedd ei fwriad

Draw on

Dyma enghraifft arall lle mae angen pwyso a mesur pa ystyr yn union y mae’r awdur yn ceisio’i gyfleu. Er enghraifft, gallai ‘defnyddio’, ‘manteisio ar’ ac ‘elwa ar’ fod yn bosibl yn y frawddeg isod:

The report draws on published contributions and comments made in focus groups

Os teimlir bod y testun Saesneg yn fwriadol amwys, efallai y dylid ystyried atgynhyrchu hynny yn y cyfieithiad.