Skip to main content

English: International Day of Disabled Persons

Welsh: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl

Part of speech

Noun, Masculine, Singular

Notes

Diwrnod blynyddol a gaiff ei drefnu gan y Cenhedloedd Unedig. Yn Saesneg, yr enw swyddogol yw International Day of People with Disabilities, ond bydd llawer yn defnyddio’r ffurf answyddogol International Day of Disabled Persons. Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.