Skip to main content

English: contracting authority information

Welsh: gwybodaeth yr awdurdod contractio

Part of speech

Noun, Feminine, Singular

Context

Ystyr “gwybodaeth yr awdurdod contractio” yw—(a) pan fo un awdurdod contractio ar gyfer caffaeliad, enw’r awdurdod contractio, (b) pan fo dau neu ragor o awdurdodau contractio yn gweithredu ar y cyd ar gyfer caffaeliad—(i) enw’r awdurdod contractio y mae’r awdurdodau contractio sy’n gweithredu ar y cyd yn ei bennu’n awdurdod arweiniol ar gyfer y caffaeliad, a (ii) enw pob un o’r awdurdodau contractio eraill, (c) cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost ar gyfer pob awdurdod contractio, (d) y cod adnabod unigryw ar gyfer pob awdurdod contractio, neu ar gyfer pob awdurdod contractio sy’n gweithredu ar y cyd, (e) ar gyfer unrhyw berson sy’n cyflawni’r caffaeliad, neu ran o’r caffaeliad, ar ran awdurdod contractio, neu ar ran un neu ragor o’r awdurdodau contractio sy’n gweithredu ar y cyd—(i) enw’r person, (ii) cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person, (iii) cod adnabod unigryw y person, a (iv) crynodeb o rôl y person, ac (f) mewn cysylltiad â hysbysiad a gyhoeddir gan yr awdurdod contractio, enw, cyfeiriad post cyswllt a chyfeiriad e-bost y person y dylid cysylltu ag ef os bydd ymholiad ynghylch yr hysbysiad.

Notes

Term o faes caffael. Ychwanegwyd i’r gronfa yn sgil Deddf Caffael 2023 (deddfwriaeth Llywodraeth y DU, sydd ar gael yn Saesneg yn unig) a Rheoliadau Caffael (Cymru) 2024. Daw’r frawddeg gyd-destunol o Reoliadau Caffael (Cymru) 2024.