Skip to main content

English: common law

Welsh: cyfraith gyffredin

Part of speech

Noun, Feminine, Singular

Definition

Rheolau cyfraith a ddatblygwyd yng Nghymru a Lloegr yn hanesyddol gan Lysoedd y Brenin o’u cyferbynnu â rheolau ecwiti a ddatblygwyd gan Lysoedd y Canghellor; mae’r ddwy set o reolau bellach yn cael eu gweinyddu gan system lysoedd unedig.

Context

Effaith gwneud y llysoedd yn awdurdod cyhoeddus o dan y Ddeddf yw rhoi pwysau arnynt i fireinio ac i ddatblygu rheolau’r gyfraith gyffredin ac ecwiti mewn ffordd sy’n cyd-fynd â hawliau’r Confensiwn.

Notes

Er bod y ddwy “system” yn cael eu gweinyddu o fewn yr un drefn lysoedd, mae gwahaniaeth yn parhau rhyngddynt, er enghraifft rhwng rhwymedïau’r gyfraith gyffredin a rhwymedïau ecwiti. Os yw rhywun yn torri contract, un o rwymedïau’r gyfraith gyffredin yw talu iawndal, ond o dan reolau ecwiti, mae modd i’r llys orchymyn i’r parti sydd heb gyflawni telerau’r contract i wneud hynny (‘specific performance’) neu roi’r ddau barti yn ôl yn eu sefyllfa cyn gwneud y contract drwy ddad-wneud y contract (‘recission’).