Skip to main content

English: negative procedure

Welsh: gweithdrefn negyddol

Part of speech

Noun, Feminine, Singular

Plural

gweithdrefnau negyddol

Definition

Ar ôl i Weinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth, mae'r weithdrefn negyddol yn darparu bod yn rhaid iddynt osod yr is-ddeddfwriaeth gerbron y Senedd. Yna, mae gan y Senedd gyfnod o 40 niwrnod i wrthwynebu'r is-ddeddfwriaeth. Os na fydd y Senedd yn gwrthwynebu, bydd yr is-ddeddfwriaeth yn parhau i gael effaith (mae'n 'parhau' i gael effaith oherwydd y bydd yr is-ddeddfwriaeth wedi dod i rym yn awtomatig cyn gynted ag y cafodd ei rhyddhau i'r cyhoedd). Os bydd y Senedd yn gwrthwynebu, caiff yr is-ddeddfwriaeth ei dirymu ac ni fydd dim byd arall y gellir ei wneud o dan yr is-ddeddfwriaeth.

Notes

Mae'r Saesneg weithiau yn gollwng y fannod o flaen 'negative procedure' ee 'many SIs are subject to negative procedure' ond fel arfer defnyddir y fannod yn Gymraeg ee 'mae llawer o Osau yn ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol'.