Skip to main content

English: progression

Welsh: cynnydd

Part of speech

Noun, Masculine, Singular

Notes

Term sy'n allweddol i'r cwricwlwm newydd i Gymru. Defnyddiwyd y geiriau Cymraeg 'cynnydd' a 'dilyniant' mewn deunyddiau hanesyddol yn ymwneud â'r cwricwlwm newydd wrth drosi'r gair 'progression'. Mae modd dehongli bod y ddau air Cymraeg yn addas gan fod y cysyniad gwaelodol yn cynnwys synnwyr o dwf a gwelliant ('cynnydd') yn ogystal â synnwyr o symudiad o un pwynt i bwynt arall ('dilyniant'). Serch hynny, barnwyd bod y synnwyr o dwf a gwelliant yn fwy arwyddocaol i'r cysyniad ac felly argymhellir defnyddio'r gair 'cynnydd' i'w gyfleu yn Gymraeg yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd. Dyma'r gair a ddefnyddir mewn termau cyfansawdd fel 'camau cynnydd' a 'fframwaith cynnydd'. O bryd i'w gilydd, pan fo'r testun yn amlwg yn cyfeirio at y synnwyr o symudiad o un pwynt i bwynt arall, sydd hefyd yn elfen o'r cysyniad gwaelodol, byddai'n werth ystyried defnyddio'r gair Cymraeg amgen 'dilyniant' i gyfleu hynny.