Skip to main content

English: Planning to Increase Access to Schools for Disabled Pupils

Welsh: Cynllunio ar gyfer Cynyddu Mynediad i Ysgolion i Ddisgyblion ag Anableddau

Part of speech

Verb

Definition

Assembly document 2004

Notes

Teitl dogfen gyhoeddedig - ni fyddai Llywodraeth Cymru bellach yn defnyddio'r ffurf "disgyblion ag anableddau", ond yn hytrach "disgyblion anabl". Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.