Status A
Subject:
General
Source:
TermCymru
Noun, Masculine, Singular
Un o israniadau tybieidig y ddynoliaeth ar sail nodweddion corfforol neu dras cyffredin. Mae’r cysyniad o ‘hil’ yn un problemus a derbynnir ei fod yn gyfluniad cymdeithasol yn hytrach nag yn gategori corfforol / biolegol gwrthrychol.
Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Mae derbynioldeb y term hwn yn dibynnu llawer ar y cyd-destun, ond pan nad oes raid cyfieithu ‘race’ yn uniongyrchol, gall fod yn fwy cadarnhaol defnyddio termau fel ‘pobl’, ‘cymuned’ a ‘grŵp ethnig’ yn hytrach na ‘hil’."