Skip to main content

English: breach

Welsh: tor

Part of speech

Noun, Masculine, Singular

Definition

Elfen mewn termau cyfansawdd sy'n disgrifio gweithred sy'n mynd yn groes i gyfraith, rheol, cod ac ati.

Notes

Bydd yr elfen hon bob amser yn ymddangos mewn ffurfiau cyfansawdd enwol fel 'tor amod', 'tor rheol' ac ati. Dylid defnyddio ffurfiau sy'n cynnwys yr elfen 'tor' pan fo angen enw yn hytrach na berfenw wrth drosi'r gair Saesneg 'breach'. Gall hyn olygu addasu termau sy'n cynnwys yr elfen 'torri' yn y gronfa hon. Sylwer ei fod yn ymddangos fel gair ar wahân, heb gysylltnod, wrth ffurfio termau cyfansawdd. Sylwer hefyd mai enw gwrywaidd yw 'tor' ac oherwydd hynny mai gwrywaidd fydd termau cyfansawdd lle bydd 'tor' yn ben yr ymadrodd, hyd yn oed os yw'r enw a ddilyna yn fenywaidd, ee "y tor rheol hwn".