Skip to main content

English: Black

Welsh: Du

Part of speech

Adjective

Definition

Fel disgrifiad o bobl, mae ‘Du’ gan amlaf yn cyfeirio at hunaniaeth sy’n tarddu’n wreiddiol neu’n rhannol o Affrica islaw’r Sahara. Gall fod ag elfennau diwylliannol yn perthyn iddo, ac felly nid yw’n cyferbynnu bob tro â ‘gwyn’ lle nad oes yr un ymdeimlad o berthyn i hunaniaeth arbennig.

Notes

Daw'r term hwn o gasgliad y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Derminoleg ym maes Cydraddoldeb o ran Hil ac Ethnigrwydd. Diffiniad a nodiadau defnydd y Grŵp a gofnodir gyda'r cofnod hwn: "Hyd y bo modd, defnyddiwch briflythyren gyda’r gair ‘Du’ wrth gyfeirio at bobl, a dim priflythyren gyda ‘gwyn’ mewn cyd-destunau tebyg. Yr unig eithriad yw lle mae angen cysondeb rhwng dwy ddogfen yn y ddwy iaith a bod yn rhaid i’r cyfieithiad ddilyn arddull y gwreiddiol. PEIDIWCH â defnyddio ansoddeiriau lliw yn enwol (h.y. yn lle enwau) wrth gyfeirio at grwpiau o bobl e.e. ‘y Duon’ / ‘y gwynion’. PEIDIWCH â defnyddio ffurfiau lluosog yr ansoddeiriau ‘du’ a ‘gwyn’ wrth gyfeirio at bobl (h.y. ‘pobl Ddu’ nid ‘pobl Dduon’, a ‘pobl wyn’ nid ‘pobl wynion’). Mewn rhai ymadroddion, e.e. ‘bywydau Duon’ gallai ymddangos fel petai ‘Duon’ yn enwol yn hytrach nag yn ansoddeiriol a gwell osgoi hynny, fel y nodir uchod."