Skip to main content

English: proceedings

Welsh: achos

Part of speech

Noun, Masculine, Singular

Plural

achosion

Definition

cwyn neu hawliad a ddygir i gyfraith i'w benderfynu mewn llys barn, tribiwnlys, etc

Context

Ni chaniateir i achos mewn cysylltiad â throsedd o dan y Rhan hon neu reoliadau a wneir odani, heb gydsyniad ysgrifenedig Cwnsler Cyffredinol Llywodraeth Cymru, gael ei ddwyn gan unrhyw berson ac eithrio’r Cwnsler Cyffredinol neu Weinidogion Cymru.

Notes

Mae ‘proceedings’ fel arfer yn cael ei ddefnyddio fel enw unigol yn yr ystyr hon, ond dyma’r ffurf luosog hefyd. Felly bydd angen ystyried ai ‘achos’ ynteu ‘achosion’ y mae eu hangen yn y cyd-destun dan sylw. Mewn testunau cyffredinol fe all ystyr ‘proceedings’ fod yn nes at ‘procedure’ e.e. ‘capability proceedings’ ac felly gellid defnyddio ‘gweithdrefn(au)’.