Skip to main content

English: Abilympics

Welsh: Cystadlaethau Abilympaidd

Part of speech

Noun, Plural

Definition

Cystadlaethau sgiliau galwedigaethol ar gyfer pobl anabl.

Context

Fel Pennaeth Prentisiaethau, roeddwn i am ysgrifennu atoch i’ch llongyfarch ar gael eich dewis yn ddiweddar i ymuno â Thîm y DU yn y Cystadlaethau Abilympaidd yn Bordeaux, Ffrainc.

Notes

Gweler yr erthygl ar y Model Cymdeithasol o Anabledd yn yr Arddulliadur. Yn unol â'r Model, mae amhariad ("impairment", a elwid yn "nam" o'r blaen) yn nodwedd ar berson, a all effeithio ar ei ymddangosiad neu ar sut y mae ei gorff neu ei feddwl yn gweithio; caiff pobl anabl (y gellir hefyd cyfeirio atynt fel "pobl anabledig" neu "bobl sy'n cael eu hanablu") eu hanablu gan ffactorau allanol fel yr amgylchedd, polisi neu arferion, neu yn sgil methiant i ddarparu addasiadau ar eu cyfer; ac anabledd yw canlyniad anablu pobl sydd ag amhariadau.