Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Dyfodol Llywodraeth Leol yng Nghymru

Dolenni perthnasol

Os hoffech gael unrhyw ddogfennau sydd ar y dudalen hon mewn fformat gwahanol, rhowch wybod inni.
Leighton Andrews, y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus
Daeth yr ymgynghoriad ar ein Papur Gwyn Diwygio Llywodraeth Leol – Grym i Bobl Leol i ben ar 28 Ebrill 2015. Daeth dros 700 o ymatebion i law i’r Papur Gwyn ei hun a mwy na 3,000 o ymatebion i’r arolwg barn. Hefyd, cynhaliwyd 38 o ddigwyddiadau ymgysylltu ledled Cymru gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid, a daeth mwy na 600 o unigolion i’r sesiynau hynny.
 
Roedd y Papur Gwyn ei hun yn ymdrin ag ystod eang o faterion. Rydym wedi gwneud dadansoddiad cychwynnol o’r ymatebion i’r ymgynghoriad ac mae hynny’n dangos bod cefnogaeth gref i nifer o’r cynigion, gan gynnwys rhoi pŵer cymhwysedd cyffredinol i awdurdodau lleol a’r cynnig i sefydlu Comisiwn Staff Gwasanaethau Cyhoeddus. 
 
I’r gwrthwyneb, roedd barn gref hefyd yn erbyn rhai o’r cynigion, gan gynnwys cyfyngu ar nifer tymhorau aelodau etholedig, cynnal etholiadau Llywodraeth Leol gam wrth gam, cael gwared ar y gwaharddiad sy’n golygu na chaiff swyddogion sefyll ar gyfer etholiad yn eu hawdurdodau eu hunain, a’r prawf cymhwysedd y dylai trosiant cynghorau cymuned fod yn £200,000 o leiaf. O ganlyniad, rwyf wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r cynigion hyn yn y Bil Uno a Diwygio Llywodraeth Leol drafft a fydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad yn yr hydref. 
 
O ran nifer yr aelodau y gellid eu hethol i’r awdurdodau unedig newydd, rwy’n cynnig y dylid cael gwared ar y terfyn presennol o 75 o aelodau etholedig i bob awdurdod ac y dylid ystyried terfyn uwch. Rwy’n derbyn y gallai cynghorau mwy olygu y bydd cynghorwyr yn cynrychioli nifer afresymol o fawr o etholwyr. Rwyf felly’n bwriadu ymgynghori’n fuan ar y Cyfarwyddiadau rwy’n bwriadu eu rhoi i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at weld beth yw’r farn ar y terfyn priodol ar gynghorwyr i’r awdurdodau newydd er mwyn sicrhau’r gynrychiolaeth a’r trefniadau llywodraethu democrataidd mwyaf effeithiol. 
 
Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer  patrwm Llywodraeth Leol yng Nghymru yn y dyfodol. Rydym wedi datgan yn gyson, er mai Opsiwn 1 Williams oedd yr un roeddem yn ei ffafrio, ein bod yn agored i ystyried opsiynau eraill. 
 
Mae ystod o faterion wedi cael eu hystyried ymhellach, gan gynnwys safbwyntiau awdurdodau lleol unigol, ac mae’r rheini wedi’u hadlewyrchu yn y trefniadau isod a’r mapiau sydd ynghlwm. Yn y Gogledd, rydym yn teimlo bod achos dros gael trafodaeth bellach ynghylch y strwythur yn y dyfodol, felly rydym wedi cynnwys dau opsiwn.
 
9 Awdurdod Lleol
  • Ynys Môn a Gwynedd
  • Conwy a Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint a Wrecsam
  • Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
  • Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd
  • Powys 
8 Awdurdod Lleol
  • Ynys Môn, Gwynedd a Chonwy 
  • Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam
  • Ceredigion, Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot
  • Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful
  • Caerdydd a Bro Morgannwg
  • Blaenau Gwent, Caerffili, Torfaen, Sir Fynwy a Chasnewydd
  • Powys

Hoffwn bwysleisio nad hwn yw’r penderfyniad terfynol – yn hytrach, dyma’r cam diweddaraf yn y trafodaethau. Wedi i’r opsiynau hyn gael eu trafod, byddwn yn cyhoeddi ac yn ymgynghori ar Fil Uno a Diwygio drafft yn yr hydref. Bydd hyn yn cynnwys ymgynghoriad ffurfiol pellach ar ein cynigion ar gyfer uno awdurdodau lleol, ynghyd ag Asesiad Effaith Rheoleiddiol. Bydd hefyd yn gyfle ffurfiol i ymgynghori ar yr opsiwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ffafrio ar gyfer ffurf Llywodraeth Leol yng Nghymru yn y dyfodol.