Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Dyfodol Amaeth a Rheoli Tir

Nid yw cynnwys y dudalen hon yn cael ei ddiweddaru. Ewch i beta.llyw.cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y canlynol: Datganiadau'r Cabinet.

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Ers degawdau, yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi llywio’r ffordd yr ydym yn rheoli’n tir, gan ddylanwadu’n fawr ar strwythur a pherfformiad ein sector amaethyddol.

Mae Brexit yn dod â newidiadau sylweddol a chyflym. Mae gadael y Polisi Amaethyddol Cyffredin a chael trefniadau masnachu newydd yn golygu na wnaiff y status quo mo’r tro.

Mae hyn o bwys mawr i Gymru. Ffermwyr, coedwigwyr a chyrff amgylcheddol yw perchenogion a rheolwyr mwyafrif helaeth ein tir. Mae ffermio yn rhan annatod o’n heconomi wledig. Mae’n angor cymdeithasol i gymunedau a rheolwyr tir yw ceidwaid y tir sy’n sail i’n hamgylchedd naturiol.

Her fawr Brexit yw sicrhau nad yw ei effaith yn tanseilio’r gwir werth y mae rheoli tir yn ei roi i Gymru. Mae gennym gyfle euraidd i lunio polisi newydd a fydd yn  helpu Cymru i addasu i rymoedd marchnadoedd y dyfodol a ffynnu ym marchnadoedd y byd.

Mae’r ddadl dros ddatganoli yn gryfach nag erioed. Mae natur ein sector ffermio yn wahanol iawn i weddill y DU, yn arbennig i Loegr.  Mae’n tirwedd yn fwy amrywiol, mae’n cymunedau gwledig yn gyfran fwy o’n poblogaeth ac mae’n sector amaethyddol yn rhan fwy integredig o’n diwylliant, yn enwedig mewn cysylltiad â’r iaith Gymraeg. Mae gennym gyfle unigryw i ail-lunio’n polisïau yn unol ag ymagwedd unigryw ac integredig  Cymru, at ein heconomi, cymdeithas a’n hamgylchedd naturiol.

Rwy’n ddiolchgar i bawb sydd wedi dod ynghyd ar gyfer fy Mord Gron Gweinidogol ar Brexit am eu help a’u hegni. O ganlyniad i’r trafodaethau hynny, rwyf wedi llunio pum egwyddor graidd ar gyfer ein tir a’r bobl sy’n yn ei reoli.

Yn gyntaf, rhaid inni gadw’n ffermwyr ar y tir. Credaf yn gryf mai dyma sydd orau i’n tir, ein cymunedau a’n heconomi wledig.

Yn ail, mae cynhyrchu bwyd yn aros yn hollbwysig. Bwyd yw craidd gwerthoedd ffermio yng Nghymru ac mae’n un o symbolau’n gwlad. Mae gennym ddiwydiant bwyd a diod ffyniannus eisoes a dyma’r amser i’w hybu.

Lle bo modd cynhyrchu’n gynaliadwy ac yn economaidd, byddwn yn rhoi cymorth penodol i helpu’n ffermwyr i gystadlu ym marchnadoedd y byd. Bydd hynny’n golygu canolbwyntio ar ansawdd a brand Cymru, ac ystyried yr holl gadwyn gyflenwi.

Nid oes angen inni ddewis rhwng cynhyrchu bwyd a nwyddau cyhoeddus. Er nad yw cynhyrchu bwyd ei hunan yn nwydd cyhoeddus, nid oes rheswm pam na all yr un fferm gynhyrchu’r ddau beth.

Mae angen i sylfeini ein system gymorth fod yn ddigon cryf i wrthsefyll newidiadau mewn marchnadoedd yn y dyfodol.  Felly, fy nhrydedd egwyddor yw y dylai ein polisi newydd sicrhau bod tir Cymru yn darparu nwyddau cyhoeddus i holl bobl Cymru.

Mae amrywiaeth a chyfoeth tir Cymru yn golygu nad oes prinder nwyddau cyhoeddus ganddo i’w rhoi. Ein tir yw trysor mwyaf ein gwlad. Mae’n rhoi dŵr glân ac aer glân inni, mae’n rheoli llifogydd, mae’n darparu cynefinoedd ar gyfer rhywogaethau prin. Mae’r rhestr yn ddiddiwedd. Fodd bynnag, mae’n rhaid inni ystyried mwy na’r amgylchedd. Yn benodol mae’n rhaid rhoi sylw i sut y mae’n tirwedd yn sail i frand Cymru, sydd mor bwysig ar gyfer y diwydiannau bwyd a thwristiaeth.

Yn bedwaredd, mae’n rhaid i bob rheolwr tir allu cael cymorth. Mae’n rhaid iddynt barhau i allu gwneud bywoliaeth ar y tir. Fodd bynnag, byddaf yn gofyn i reolwyr tir wneud pethau gwahanol yn dâl am gymorth - ni fydd unrhyw fath o daliad awtomatig. Mae hynny’n hanfodol er mwyn sicrhau diwydiant sydd ar sylfaen gadarn.

Yn olaf, rhaid inni sicrhau y gall ein sector amaethyddol ffynnu ac aros yn gryf mewn byd ar ôl Brexit, sut bynnag fo hynny. Er bod Cynllun y Taliad Sylfaenol yn rhoi help pwysig i lawer o’n ffermwyr, ni wnaiff eu helpu i wrthsefyll y newidiadau a ddaw yn sgil Brexit. Mae angen inni ddarparu cymorth mewn ffordd wahanol.

Bydd yr egwyddorion hyn yn sail i bolisïau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Maent yn golygu newid sylweddol ac mae’n rhaid inni gael cyfnod pontio dros nifer o flynyddoedd sydd wedi’i gynllunio’n dda. Rwy’n siŵr y gall ein rheolwyr tir addasu, a swyddogaeth Llywodraeth yw darparu amser a chymorth.  

Dyma pam rwyf wedi lansio cyfnod newydd o ymgysylltu dwys â rhanddeiliaid er mwyn inni gydweithio ar y manylion. Drwy fy Mord Gron, byddaf yn sefydlu gweithgorau newydd a fydd yn ystyried sut orau i roi’r egwyddorion ar waith. Bydd y grwpiau hyn yn helpu Llywodraeth Cymru i lunio cynigion cychwynnol am ddiwygio erbyn toriad yr haf.