Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Gwahoddiad i Awdurdodau Cynllunio Lleol baratoi Cynllun Datblygu Strategol

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig

Mae bron 14 o flynyddoedd ers i Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Cynllunio Lleol lunio, monitro ac adolygu Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae cynnydd wedi’i wneud a bellach mae 20 o Gynlluniau Datblygu Lleol wedi’u llunio.

Mae’r Adroddiadau Monitro Blynyddol ar Gynlluniau Datblygu Lleol, a gyflwynwyd ym mis Hydref, wedi dangos mai dim ond rhai o’r cynlluniau a fabwysiadwyd rhwng 2010 a 2015 oedd yn llwyddiannus. Mae hyn yn amlwg yn benodol ar gyfer canlyniadau cynllunio holl bwysig, gan gynnwys darparu tai mewn lleoliadau cynaliadwy. Â hyn mewn golwg, dylem oedi a meddwl am y trywydd iawn i’w dilyn ar gyfer llunio digon o Gynlluniau Datblygu Lleol cyn sefydlu Cynllun Datblygu Strategol ar gyfer pob rhanbarth. Hefyd, mae angen darparu fframwaith dibynadwy ar gyfer ymdrin â’r goblygiadau sydd ynghlwm wrth y Fargen Ddinesig a’r Fargen Dwf o ran defnyddio tir, nawr ac yn y dyfodol.

Nid yw’r rôl y mae system gynllunio yn ei chwarae i sicrhau canlyniadau ardderchog i Gymru, yn genedlaethol, yn rhanbarthol ac yn lleol, erioed wedi bod mor amlwg. Mae’n strategaeth genedlaethol newydd, Ffyniant i Bawb, yn cydnabod y rôl allweddol y dylai’r system gynllunio ei chwarae drwy gydnabod bod penderfyniadau cynllunio’n adnoddau holl bwysig ar gyfer sicrhau prif nod ffyniant i bawb. Mae’n nodi bod penderfyniadau cynllunio’n effeithio ar bob agwedd ar ein bywydau. Maent yn effeithio ar bennu lleoliadau ar gyfer tai a gwasanaethau, ansawdd yr amgylchedd lleol, hyrwyddo twf economaidd cynaliadwy ac ar fynediad i fannau agored. Mae’r system gynllunio iawn yn holl bwysig ar gyfer sicrhau nodau’r strategaeth. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol a Chynlluniau Datblygu Strategol yn cael eu llunio’n well yn y dyfodol.

Nid yw’n gweledigaeth ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol yn ymwneud yn unig â sicrhau bod pob cynllun yn gyflawn. Mae’n rhaid ei gwireddu yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon ac ar yr un pryd wneud gwahaniaeth go iawn i bobl ac i leoedd. Nid yw hyn yn golygu defnyddio’r hen weithdrefnau, megis llunio cynlluniau unigol. Yn aml, canlyniad gwneud hyn oedd proses hir a chlogyrnaidd gyda chryn oedi a diffyg sylw i faterion gweinyddol ar draws adrannau. Roedd yn anodd gweld manteision y system hon. Roedd llunio Cynllun Datblygu Lleol cychwynnol yn arfer cymryd bron chwe blynedd a hanner ar gyfartaledd. Nid yw hyn yn dderbyniol o gwbl ac ni ddylem ddefnyddio’r system hon mwyach. Roedd tystiolaeth ar gyfer Bil Cynllunio (Cymru) wedi nodi mai cost llunio Cynllun Datblygu Lleol yw rhwng £1.4 miliwn a £2.2 miliwn. Ers hynny mae gwariant llywodraeth leol ar wasanaethau cynllunio wedi gostwng 53% rhwng 2009/10 a 2016/17 o ganlyniad i raglen gyni Llywodraeth y DU a gafodd ei sefydlu yng Nghymru. Roedd llawer o’r gostyngiadau hyn yn effeithio ar y timau sy’n gyfrifol am lunio cynlluniau datblygu lleol. Nid wyf yn credu bod gan lawer o’r awdurdodau ar hyn o bryd ddigon o staff cymwys nac adnoddau priodol i ymdrin â chynlluniau datblygu lleol yn annibynnol.

Mae tri ar ddeg o Awdurdodau Cynllunio Lleol naill ai wedi dechrau adolygu eu Cynlluniau Datblygu Lleol yn llawn, neu byddant yn dechrau gwneud hyn erbyn mis Mehefin 2019. Enwau’r Awdurdodau hyn yw:

Blaenau Gwent, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili, Ceredigion, Conwy, Sir Ddinbych, Sir Fynwy, Casnewydd, Sir Benfro, Rhondda Cynon Taf a Thorfaen.

Mae gan yr Awdurdodau hyn amserlenni tebyg iawn, sef gwanwyn 2018, ar gyfer adolygu’u cynlluniau, eu ffiniau daearyddol a rennir, a materion gweinyddol sy’n gorgyffwrdd. Ceir cyfle i wella canlyniadau cynllunio’n sylweddol drwy lunio Cynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd, o’i gymharu â’r system bresennol ar gyfer cynlluniau cychwynnol.

Y Canolbarth a’r Gorllewin

Sir Caerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro

Y Gogledd

Conwy a Sir Ddinbych

Y De-ddwyrain - y Dwyrain

Blaenau Gwent, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen

Y De-ddwyrain - y Canolbarth a’r Gorllewin

Pen-y-bont ar Ogwr, Caerffili a Rhondda Cynon Taf

Rwyf wedi ysgrifennu at yr awdurdodau hyn i’w gwahodd i gydweithio â’i gilydd er mwyn cyflwyno Cynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd. Pan fo awdurdodau lleol yn anwybyddu’r cyfle hwn, byddaf yn ystyried defnyddio fy mhwerau ymyrraeth i sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd yn cael eu llunio a bod canlyniadau gwell yn cael eu sicrhau.

Wrth gynllunio’n strategol, ers mis Hydref 2015 mae deddfwriaeth wedi caniatáu cyflwyno Cynlluniau Datblygu Strategol. Hyd yma, nid oes unrhyw gynnig wedi dod i law. Byddai llunio Cynllun Datblygu Strategol ochr yn ochr â Chynlluniau Datblygu Lleol ar y cyd yn sicrhau bod adnoddau’n cael eu defnyddio’n effeithlon ar draws yr awdurdodau cynllunio, a bod fframwaith penderfynu effeithiol yn cael ei gynnal. Yn ymarferol, nid oes modd sicrhau cynnydd cynnar o ran Cynlluniau Datblygu Strategol os na chaiff Cynlluniau Datblygu Lleol eu llunio ar y cyd.

Ni fyddai angen dyblygu gwaith technegol na chael adnoddau ychwanegol er mwyn dechrau’r gwaith o lunio Cynllun Datblygu Strategol. Y brif ystyriaeth yw sut y bydd yr awdurdodau cynllunio lleol yn cydweithio i rannu’u hadnoddau, o gofio y byddant yn rhannu gwybodaeth a chydweithio i lunio cynlluniau ar lefel strategol a lleol. Gan fod arbenigedd wedi’i golli, mae’n holl bwysig bod adnoddau o’r fath yn cael eu defnyddio’n well ac yn fwy eang i gynnal y gwaith hwn. Rwyf wedi ysgrifennu at yr holl Awdurdodau Cynllunio Lleol i’w gwahodd i gyflwyno cynigion ar gyfer Cynlluniau Datblygu Lleol yn y tri rhanbarth sy’n cynnwys y Gogledd, y Canolbarth a’r Gorllewin, a’r De-ddwyrain.