Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Bil Addysg Dechnegol a Phellach

Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Caiff y datganiad ysgrifenedig hwn ei osod o dan Reol Sefydlog 30 - Hysbysu mewn perthynas â Biliau Senedd y DU.

Mae'n ymwneud â darpariaethau yn y Bil Addysg Dechnegol a Phellach (y Bil), a fydd yn addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru, ond nad oes angen Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar eu cyfer o dan Reol Sefydlog 29.    

Cyflwynwyd y Bil yn Nhŷ'r Cyffredin ar 27 Hydref 2016. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth ar gyfer (ymhlith pethau eraill) trefn ansolfedd ar gyfer corfforaethau addysg bellach (colegau AB) a chwmnïau sy'n cynnal sefydliad addysg bellach dynodedig (sefydliadau dynodedig).

Ceir copi o'r Bil yn:
http://services.parliament.uk/bills/2016-17/technicalandfurthereducation/documents.html (Saesneg yn unig)

Amcan polisi

Amcan polisi Llywodraeth y DU yw cyflwyno trefn ansolfedd a fydd yn sicrhau cydnerthedd ariannol cyrff AB. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn darparu ar gyfer diddymu colegau AB solfent ond nid oes darpariaeth ar gyfer colegau ansolfent. Felly, mae'r Bil yn amlinellu cynigion ar gyfer pennu trefn ansolfedd addas er mwyn sicrhau eglurder i golegau a chredydwyr.

Mae'r drefn ansolfedd arfaethedig yn darparu ar gyfer cymhwyso gweithdrefnau ansolfedd arferol i golegau AB yng Nghymru a Lloegr fel bod colegau ansolfent yn cael eu trin mewn modd tebyg i gwmnïau ansolfent.

Yn ogystal, mae'r Bil yn cynnig creu trefn weinyddu arbennig a fyddai'n gweithredu ochr yn ochr â'r drefn ansolfedd arferol er mwyn diogelu dysgwyr pe bai coleg AB neu sefydliad dynodedig (cyrff AB) yn mynd yn ansolfent.  

Darpariaethau perthnasol y Bil

Mae'r Bil Addysg Bellach a Thechnegol yn gwneud y darpariaethau canlynol sy'n addasu swyddogaethau Gweinidogion Cymru:

Cymal 7(3)(a)

Caiff Gweinidogion Cymru y swyddogaeth o dderbyn hysbysiad o gais am orchymyn gweinyddu arferol mewn perthynas â chorff AB.

Cymal 9(2)(a)

Caiff Gweinidogion Cymru y swyddogaeth o dderbyn hysbysiad o ddeiseb ar gyfer dirwyn i ben gorff AB.

Cymal 10(3)(a)

Caiff Gweinidogion Cymru y swyddogaeth o dderbyn hysbysiad o gais gan gorff AB am ganiatâd llys i gymeradwyo penderfyniad i ddirwyn i ben yn wirfoddol.

Cymal 11(a)

Caiff Gweinidogion Cymru y swyddogaeth o dderbyn hysbysiad o fwriad i orfodi sicrwydd dros eiddo corff AB.

Cymal 16

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i wneud cais i'r llys am orchymyn gweinyddu addysg mewn perthynas â chorff AB, a’r ddyletswydd i hysbysu’r corff AB perthnasol am gais o'r fath, ac unrhyw berson arall a nodwyd yn y rheolau a wnaed o dan Ddeddf Ansolfedd 1986.

Cymal 25 (1) i (3)

Caiff Gweinidogion Cymru bŵer i roi grantiau neu fenthyciadau i gorff AB y mae gorchymyn gweinyddu addysg wedi’i wneud mewn perthynas ag ef, a hynny ar ba bynnag delerau y mae Gweinidogion Cymru’n eu hystyried yn briodol, gan gynnwys gwneud y grant neu'r benthyciad yn ad-daladwy gyda neu heb log. Rhaid i'r telerau hynny nodi sut y dylid ad-dalu'r benthyciad ac unrhyw log pan fydd gweinyddwr addysg wedi gadael ei swydd.

Cymal 26 (1) i (3) a (5)

Caiff Gweinidogion Cymru bŵer i gytuno i indemnio personau rhag unrhyw rwymedigaeth, golled neu ddifrod a berir mewn cysylltiad ag arfer swyddogaethau'r gweinyddwr addysg. Gall indemniad o'r fath fod ar ba bynnag delerau y mae Gweinidogion Cymru’n eu hystyried yn briodol, a rhaid gosod datganiad ynghylch y cytundeb indemniad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru cyn gynted â phosibl ar ôl i Weinidogion Cymru gytuno i'w roi. Mae pŵer Gweinidogion Cymru i indemnio personau o dan y ddarpariaeth hon wedi'i gyfyngu i rwymedigaethau, colled neu ddifrod y mae personau o'r fath yn eu peri, ond mae'n cynnwys pŵer i gytuno i indemnio personau sy'n dod yn 'bersonau perthnasol" wedi hynny. Mae "person perthnasol" yn cynnwys y gweinyddwr addysg ei hun, a hefyd y rheini sy'n cyflogi'r gweinyddwr neu a gyflogir ganddo.

Cymal 27 (2), (3) a (5)

Caiff Gweinidogion Cymru bŵer i'w gwneud yn ofynnol i gorff AB ad-dalu unrhyw symiau y gall Gweinidogion Cymru eu talu o dan indemniad (a roddir o dan gymal 26) ac i bennu pryd a sut i wneud ad-daliadau o’r fath. Rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru os bydd angen gwneud taliad o dan indemniad y cytunwyd arno o dan gymal 26.

Cymal 28

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i roi gwarant mewn perthynas â benthyciadau corff AB sydd yn nwylo gweinyddwr addysg. Rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad o'r warant gerbron y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted â phosibl ar ôl i'r warant gael ei roi.

Cymal 29

Caiff Gweinidogion Cymru bŵer, lle mae taliadau'n cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru o dan warant (o dan gymal 28), i gyfarwyddo corff AB i ad-dalu unrhyw symiau a llog sy'n weddill. Mae gan Weinidogion Cymru bŵer hefyd i bennu pryd a sut i wneud y taliadau hyn. Rhaid i Weinidogion Cymru osod datganiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru, mewn perthynas â'r swm a dalwyd o dan y warant, cyn gynted â phosibl ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol y talwyd y swm ynddi; ac ar ôl diwedd bob blwyddyn ariannol ddilynol nes bod y corff AB wedi arfer ei rwymedigaeth.  

Atodlen 2, paragraffau 3, 4 a 5

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i gymeradwyo unrhyw gynllun gan y gweinyddwr addysg i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau o gorff AB i un neu fwy o bersonau neu gyrff a ragnodir mewn rheoliadau a wneir o dan adran 27B o Ddeddf Addysg Bellach Ac Uwch 1992. Caiff Gweinidogion Cymru bŵer hefyd i addasu cynllun trosglwyddo cyn ei gymeradwyo (ond dim ond os yw'r gweinyddwr addysg a'r trosglwyddai yn cydsynio) ac i addasu cynllun trosglwyddo ar ôl iddo ddod i rym (drwy rybudd i'r trosglwyddwr a'r trosglwyddai a gyda'u cydsyniad).

Atodlen 2, paragraff 8

Caiff Gweinidogion Cymru'r swyddogaeth o ddarparu tystiolaeth bendant ar ffurf tystysgrif bod unrhyw beth a nodir mewn tystysgrif o'r fath wedi'i drosglwyddo i berson o dan gynllun trosglwyddo.

Atodlen 3, paragraffau 13 ac 14 ac Atodlen 4, paragraffau 12 ac 13

Caiff Gweinidogion Cymru'r swyddogaeth o dderbyn copi o ddatganiad ar gynigion gweinyddwr mewn perthynas â chorff AB (sy'n amlinellu cynigion y gweinyddwr ar gyfer cyflawni diben y gweinyddu) fel y darparwyd ym mharagraff 49, Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986.

Atodlen 3, paragraff 21 ac Atodlen 4, paragraff 19

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i wneud cais i'r llys yn honni nad yw'r gweinyddwr addysg yn arfer ei swyddogaethau yn unol ag adran 22(2) neu (3) o'r Ddeddf. Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer hefyd i wneud sylwadau ar gais i'r llys gan gredydwr ac ar y rhwymedi, y rhyddhad neu’r gorchymyn arfaethedig. Ni all y llys ganiatáu unrhyw rwymedi, rhyddhad neu orchymyn o’r fath nes ei fod wedi rhoi cyfle i Weinidogion Cymru wneud sylwadau.

Atodlen 3, paragraff 23 ac Atodlen 4, paragraff 21


Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i wneud cais i'r llys i ofyn bod penodiad gweinyddwr addysg ar gyfer corff AB yn dod i ben o ddyddiad penodol. Caiff Gweinidogion Cymru bŵer hefyd i ganiatáu i'r gweinyddwr addysg ei hun wneud cais o'r fath i'r llys.

Atodlen 3, paragraff 24 ac Atodlen 4, paragraff 22

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i ganiatáu i weinyddwr corff AB hysbysu'r cofrestrydd cwmnïau bod paragraff 83, Atodlen B1 o Ddeddf Ansolfedd 1986 yn berthnasol (hynny yw, y dylai'r gweinyddwyr symud i ddiddymiad gwirfoddol).

Atodlen 3, paragraff 25 ac Atodlen 4, paragraff 23

Caiff Gweinidogion Cymru'r swyddogaeth o dderbyn hysbysiad gan y gweinyddwr nad oes gan y corff AB eiddo y gellid ei ddosbarthu ymhlith ei gredydwyr, ynghyd â’r pŵer i gyfarwyddo'r gweinyddwr i hysbysu'r cofrestrydd cwmnïau.

Atodlen 3, paragraff 29 ac Atodlen 4, paragraff 27

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer i wneud cais i'r llys i benodi gweinyddwr addysg newydd.

Atodlen 3, paragraff 34 ac Atodlen 4, paragraff 32

Caiff Gweinidogion Cymru'r pŵer, lle aeth cwmni i ddwylo gweinyddwyr drwy orchymyn gweinyddu, i wneud cais i'r llys i benodi rhywun yn weinyddwr gyda'r person neu’r personau’n gweithredu fel gweinyddwr y cwmni.

Y rhesymau dros wneud y darpariaethau hyn yn y Bil Addysg Dechnegol a Phellach


Ymgynghorwyd â Gweinidogion Cymru ynghylch a ddylid ymestyn y drefn ansolfedd i golegau yng Nghymru. Mae Gweinidogion Cymru eisiau i'r drefn gael ei hymestyn i golegau yng Nghymru rhag ofn bod ei hangen yn y dyfodol i ddarparu eglurder cyfreithiol a mecanwaith cyfreithiol trefnus pe bai coleg yn dod yn ansolfent, a hefyd i ddiogelu dysgwyr.
Mae ansolfedd wedi'i eithrio o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Bil Cymru sydd gerbron y Senedd ar hyn o bryd yn nodi ansolfedd fel mater a gedwir yn ôl o gymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.  
Ystyrir ei bod yn briodol i'r darpariaethau hyn gael eu gwneud yn y Bil Addysg Dechnegol a Phellach oherwydd ni fyddai modd eu gwneud gan Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru.