Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Pysgodfa Cregyn Bylchog Bae Ceredigion - Mesurau Rheoli Newydd

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cynhaliodd Lywodraeth Cymru ymgynghoriad helaeth, a ddaeth i ben ar 17 Chwefror 2016, ar gynigion ar gyfer rheoli’r bysgodfa cregyn bylchog ym Mae Ceredigion yn y dyfodol. Gwnaethom dderbyn 5,500 o ymatebion. Hoffwn ddiolch i bawb a gyflwynodd eu barn. Mae pob ymateb i'r ymgynghoriad wedi cael ei ystyried yn ofalus.

Cyn yr ymgynghoriad, cynhaliodd Prifysgol Bangor ymchwil helaeth am ddwy flynedd yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion mewn cydweithrediad â'r diwydiant pysgota. Dyma oedd yr astudiaeth gyntaf o'r fath, ac roedd yn canolbwyntio ar ddeall faint o bysgota y gellid ei ystyried fyddai’n gynaliadwy ac na fyddai'n effeithio'n wael ar werth Ardal Cadwraeth Arbennig. Mae'r ymchwil yn cynnig cyfle unigryw i reoli’r bysgodfa ar sail ecosystemau. Diben yr ymgynghoriad oedd ystyried y fframwaith deddfwriaethol newydd sydd ei angen i reoli'r bysgodfa yn y dyfodol.

Bu ymateb sylweddol i'r ymgynghoriad. Mae'n amlwg bod gan lawer o bobl farn gref, a’u bod yn poeni’n fawr am ein hamgylchedd morol a'r rhywogaethau sy'n byw yno. Fodd bynnag, roedd llawer o'r ymatebion yn gwrthwynebu'r egwyddor o dreillio am gregyn bylchog, ond heb gynnig tystiolaeth ategol. Roedd hefyd nifer sylweddol o ymatebwyr a oedd yn cefnogi'r cynigion gyda nifer yn ymateb yn fanwl i'r ymgynghoriad a'r dystiolaeth wyddonol a nodwyd yn yr ymgynghoriad. O ganlyniad, gwnaethom drefnu adolygiad annibynnol, gwyddonol gan gymheiriaid o ymchwil Prifysgol Bangor a oedd yn cynnwys dadansoddiad gwyddonol o'r dystiolaeth a gyflwynwyd. Mae'r adolygiad gan gymheiriaid wedi pennu bod tystiolaeth a chanlyniadau Prifysgol Bangor yn gadarn ac o safon teilyngdod wyddonol uchel, ac roedd y data o safon ddigonol i fodloni Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd statudol. Rwyf wedi gofyn i'r dogfennau gwyddonol ac ymchwil perthnasol gael eu cyhoeddi yn dilyn fy mhenderfyniad.


Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth y gallwn i sicrhau ein bod yn diogelu'r nodweddion a'r rhywogaethau dynodedig yn ein Hardaloedd Cadwraeth Arbennig. Yn wir, mae Gweinidogion Cymru yn cael eu gorfodi gan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd i wneud hynny, yn ogystal â'n helpu i gyflawni ein hymrwymiadau statudol a nodir yn neddfwriaeth Cymru, yn bennaf Deddf yr Amgylchedd a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.  Ar yr un pryd, pan fo'r dystiolaeth yn nodi bod ychydig o bysgota yn bosibl heb effaith sylweddol ar y nodweddion hynny a heb effaith wael ar werth yr ardal cadwraeth arbennig, ni ddylwn rwystro gweithgarwch economaidd.  

Rwyf wedi ystyried yr amrywiaeth o ymatebion i'r ymgynghoriad yn ofalus iawn er mwyn ein helpu i sicrhau’r cydbwysedd hwn ym Mae Ceredigion.

Ni wnaeth ymatebion yr ymgynghoriad ddangos unrhyw dystiolaeth newydd i awgrymu y byddai'r bysgodfa yn cael effaith ar y nodweddion sydd wedi'u hamddiffyn yn Ardal Cadwraeth Arbennig Bae Ceredigion nac ar werth yr ardal ei hun. Rwy'n hyderus y bydd y dull hyblyg newydd a gynigir yn gymesur ac yn caniatáu i ni ystyried ardaloedd a dulliau rheoli priodol ar gyfer dyfodol y bysgodfa hon.

Felly, rwyf wedi dod i'r casgliad ei bod yn briodol symud ymlaen i baratoi deddfwriaeth newydd i gyflwyno cynllun trwydded hyblyg ym Mae Ceredigion.

Ar hyn o bryd, mae'r cynigion hyn yn cynnwys:

  • Cynllun rheoli hyblyg gyda'r gallu i weithredu amodau addas ac amserol i gael y mwyaf o'r bysgodfa tra’n diogelu nodweddion y safle drwy'r amser;
  • Sefydlu bwrdd cynghori rheoli sy'n cynnwys grwpiau gwyddoniaeth, diwydiant ac amgylcheddol perthnasol, gyda'r diben o wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru ar osod amodau trwydded addas; a
  • Cynnal ymgynghoriad blynyddol (cyn agor y bysgodfa) i gael barn am yr amodau a fydd yn cael eu gosod ac er mwyn cynnwys y rhanddeiliaid yn natblygiadau'r bysgodfa.


Hoffwn roi sicrwydd i bawb y bydd hon yn bysgodfa a fydd yn cael ei rheoli'n ofalus ac yn rhagweithiol a bydd nifer y cychod pysgota yn cael eu monitro. Bydd y gyfundrefn rheoli newydd hon yn golygu y bydd Cymru ar y blaen yn rhyngwladol o ran ei hymdrechion i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn dull hollol integredig a blaengar.  Gofynnais i fy swyddogion gysylltu â'r rhanddeiliaid i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad a'm rhesymau drosto er mwyn dechrau gweithio ar y cyd i symud ymlaen â'r camau nesaf.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/mesurau-rheoli-newydd-arfaethedig-ar-gyfer-y-bysgodfa-cregyn-bylchog-ym-mae-ceredigion