Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ymateb Llywodraeth Cymru i Adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol

Dolenni perthnasol

Adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol.
Rydym am greu Cymru sy'n iach ac egnïol, yn ffyniannus a diogel, yn uchelgeisiol ac yn dysgu, ac yn unedig a chysylltiedig.
Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddais Iaith, Gwaith a Gwasanaethau Dwyieithog, Adroddiad y Gweithgor ar yr Iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol, yn dilyn datganiad llafar yn y Senedd ar 14 Mehefin.   Mae’r Adroddiad yn cynnwys nifer o argymhellion sydd, yng ngeiriau’r Cadeirydd, Rhodri Glyn Thomas, yn “heriol ond ymarferol”.  Ar y pryd, addewais wrando ar farn Awdurdodau Lleol ac eraill cyn ymateb. Heddiw rwy’n cyhoeddi ymateb Llywodraeth Cymru.

Comisiynwyd yr Adroddiad yn dilyn pryderon a fynegwyd gan Aelodau’r Cynulliad yn ystod trafodaethau ar ddiwygio Llywodraeth Leol. Roedd y pryderon hynny yn ymwneud â sefyllfa’r Gymraeg  fel iaith weinyddol pe bai rhaglen o uno Awdurdodau Lleol yn cael ei gweithredu.

Ers hynny, mae llawer wedi digwydd, gan gynnwys cyhoeddi’r rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016-2021, sy’n gosod blaenoriaethau newydd Llywodraeth Cymru i’r iaith Gymraeg a Llywodraeth Leol.

Ar 4 Hydref, yn dilyn cyfarfodydd gydag Arweinwyr Awdurdodau Lleol dros yr haf, fe wnes i ddatganiad i’r Cynulliad ar y ffordd ymlaen i Lywodraeth Leol.  Ni fydd rhaglen o uno Awdurdodau Lleol yn cael ei gweithredu, ag eithrio os yw Awdurdodau yn dymuno gwneud hynny yn wirfoddol. Byddaf yn ymgysylltu ymhellach gydag Awdurdodau Lleol ar gynigion i ymestyn a dyfnhau eu swyddogaethau sy’n cael eu cyflawni ar lefel rhanbarthol, a bydd y Prif Awdurdodau yn parhau fel yr haen ddemocrataidd leol a’r mynediad i wasanaethau lleol.

Ym mis Awst, lansiodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes ymgynghoriad ar strategaeth ddrafft newydd Llywodraeth Cymru i’r Gymraeg,  sy’n cynnwys nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae’r nod yma yn uchelgeisiol ond mae’n adeiladu ar y sylfaen gadarn a osodwyd eisoes drwy bolisïau a deddfwriaeth i sicrhau ffyniant yr iaith Gymraeg. Mae’r Gweinidog hefyd wedi cyhoeddi y bydd yn adolygu Mesur y Gymraeg 2011 gyda’r bwriad i gyflwyno Bil newydd, gan nodi

rwy’n awyddus i edrych eto ar y Mesur er mwyn sicrhau fod y sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer y dyfodol yn addas, yn gyfredol a hefyd yn sicrhau bod y broses o wneud a gosod safonau yn llai biwrocrataidd.”

Ym maes addysg bellach ac addysg uwch, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wedi cyhoeddi adolygiad o’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Ar ôl pum mlynedd, mae’n amser priodol i edrych eto ar gyfrifoldebau’r Coleg, gan gynnwys a ddylai’r Coleg fod â chyfrifoldebau ym maes addysg bellach.

Yn ogystal, yn y refferendwm ar 23 Mehefin, pleidleisiodd y DU drwy fwyafrif bach i adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yr oblygiadau yn bell gyrhaeddol i bawb yng Nghymru, yn enwedig o ran polisi datblygu economaidd a datblygu gwledig, cyflogaeth a hyfforddiant, a rhaglenni a ariennir gan gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Prif flaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw diogelu buddiannau Cymru wrth i’r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.

Gyda’i gilydd, mae’r datblygiadau pwysig hyn yn gosod cyd-destun newydd i ystyried Adroddiad y Gweithgor.

Nid ydym yn medru derbyn dau argymhelliad cysylltiedig, sef argymhellion 2(a) a 3, a fyddai’n gorfodi isafswm sgiliau iaith Gymraeg ar bob swydd yng ngweithlu Llywodraeth Leol, beth bynnag yw gofynion y swyddi hynny.  Mae’r gyfundrefn safonau, fel y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi ei chymhwyso at Awdurdodau Lleol, eisoes yn gorfodi Awdurdodau Lleol i asesu pob swydd newydd a phob swydd wag am anghenion ieithyddol cyn recriwtio ac apwyntio. Mae’r safonau yn cynnal yr egwyddor sylfaenol y dylai fod cysylltiad uniongyrchol rhwng gofynion swydd a gofynion ieithyddol.

Mae’r strategaeth ddrafft newydd ar gyfer yr iaith Gymraeg yn rhoi ffocws ar yr angen i gynllunio, drwy’r system addysg, er mwyn “cynyddu nifer y bobl sy’n gallu gweithio drwy'r Gymraeg mewn nifer o feysydd arbenigol a gwasanaethau, fel bod gwasanaethau Cymraeg ar gael i’r bobl.” Rydym yn credu mai dyma’r dull mwyaf effeithiol ar unwaith o gwrdd â’r nod o gynyddu’r nifer sy’n gallu a defnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Mae’n glir bod modd symud ymlaen gyda’r rhan fwyaf o argymhellion eraill yr Adroddiad, ac rydym yn cefnogi ffocws yr Adroddiad ar arweinyddiaeth, Cymraeg yn y gweithle ac fel iaith weinyddol yn Llywodraeth Leol, hyfforddiant, cyfleon digidol,  newid ymddygiad a chadernid cymunedau ble mae’r Gymraeg yn gryf. Rydym yn cydnabod rôl yr iaith Gymraeg mewn datblygu economaidd, gan gynnwys rôl trefi prifysgol megis Caerfyrddin, Aberystwyth a Bangor, a bydd hyn yn nodwedd o’n ffordd ymlaen ehangach.

Un o brif amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yw i osod fframwaith ar gyfer datblygu cynaliadwy sy’n hyrwyddo cynllunio economaidd a chynllunio iaith integredig drwy gynlluniau llesiant lleol. Byddem yn annog Awdurdodau Lleol i weithio gyda’i gilydd ar hyn, er mwyn pennu eu blaenoriaethau lleol a rhanbarthol, drwy bartneriaethau sefydledig fel Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a’r Partneriaeth Tyfu Canolbarth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi a hyrwyddo y fath gyd-weithio rhanbarthol.

Yn hytrach na gweithredu’r argymhellion fesul un, fodd bynnag, rydym o’r farn bod y strategaeth ddrafft newydd i’r iaith Gymraeg a’r cynlluniau gweithredu yn rhoi cyfle i ni dynnu’r llinynnau at ei gilydd mewn ffordd rymus ac effeithiol. Byddai hyn yn fodd i Lywodraeth Cymru roi cyfeiriad clir i bolisi’r iaith Gymraeg sy’n ennyn cefnogaeth ym mhob rhan o Gymru, yn integredig, ac yn gwneud y gorau o adnoddau prin.

Rwy’n ddiolchgar eto i Rhodri Glyn Thomas ac aelodau’r Gweithgor am eu gwaith ac ar ran Llywodraeth Cymru, rwy’n annog pawb i ddweud eu dweud ar ein cynigion ar gyfer Llywodraeth Leol ac ar y strategaeth ddrafft newydd, Miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.