Skip to content

Datganiad Ysgrifenedig - Ymgynghoriad ar yr Adolygiad o’r Ardaloedd Dynodedig a Rhaglen Weithredu i fynd i’r afael â Llygredd Nitradau yng Nghymru

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig
Ledled y DU, mae nifer o ardaloedd wedi’u dynodi’n Barthau Perygl Nitradau; ardaloedd lle mae risg benodol o lygredd dŵr a achosir gan nitradau o ffynonellau amaethyddol. Yn yr ardaloedd hyn, sefydlwyd mesurau gorfodol sy’n rhan o Raglen Weithredu, a hynny’n seiliedig ar arferion da sydd wedi ennill eu plwyf. Y nod yw er mwyn atal llygredd. 

Heddiw, rydw i’n lansio ymgynghoriad i ystyried opsiynau ar gyfer addasu’r mesurau yn y Rhaglen Weithredu a hefyd yr ardaloedd yng Nghymru lle bydd y mesurau hynny’n gymwys.  

Aeth pedair blynedd heibio ers cynnal yr adolygiad diwethaf o’r ardaloedd a ddynodwyd yn Barthau Perygl Nitradau ac o’r mesurau yn y Rhaglen Weithredu yng Nghymru. O dan Gyfarwyddeb Nitradau’r UE, mae’n ofynnol cynnal adolygiad bob pedair blynedd. Tra bo’r DU yn parhau i fod yn rhan o’r DU, mae’n ofynnol  cydymffurfio â chyfraith yr UE. Hyd nes bod y broses o adael yr UE wedi’i chwblhau, bydd Llywodraethau Cymru a’r DU yn parhau i orfod  gwneud a gorfodi deddfwriaeth i drosi gofynion y Gyfarwyddeb.

O safbwynt diogelu ansawdd ein dŵr, mae amcanion Cyfarwyddeb Nitradau’r UE yr un fath ag amcanion Llywodraeth Cymru ac maent wedi’u pennu gan nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, mewn perthynas â Chymru Iachach a Chymru Gydnerth. Mae’r amcanion hyn hefyd yn cyd-fynd â’r broses o reoli adnoddau naturiol yn statudol a amlinellwyd yn Neddf yr Amgylchedd. Mae Cymru’n mynd ati i weithredu’r Gyfarwyddeb drwy ganolbwyntio ar arferion da ar gyfer rheoli maethynnau ac mae’n cefnogi’r defnydd cynaliadwy o’n hadnoddau naturiol gwerthfawr. Mae rheoli maethynnau’n effeithlon yn hanfodol ar gyfer lleihau llygredd amaethyddol yn ein cyrsiau dŵr a’n cyflenwad dŵr yfed. Mae hefyd yn gwella enw da’r diwydiant ffermio yng Nghymru am fod gan y diwydiant a ffermwyr unigol rôl bwysig o ran cynorthwyo i reoli amgylchedd Cymru.  
Mae Cymru’n falch o’r cynnyrch o ansawdd uchel a gynhyrchir yma mewn gwlad sydd ag enw da am amgylchedd iach, ac mae hynny’n ddigon teg. Mae llawer o fasnach Cymru sy’n ymwneud â chynnyrch amaethyddol yn seiliedig ar y rhagdybiaeth sylfaenol  hon a phe bai’r enw da hwn yn cael ei niweidio byddai hynny’n peri gwir berygl i’r diwydiant. Pe bai Cymru’n colli’r fantais gystadleuol hon, a allai ddod yn fwyfwy pwysig yn y dyfodol, ni fyddai modd ei hadennill yn rhwydd iawn.

Bydd mesurau i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn gwella ansawdd dŵr yng Nghymru, a hynny yn y cyfnod a fydd yn arwain at adael yr UE ynghyd â’r cyfnod wedi inni adael yr UE. Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi cyfle i bobl Cymru  gyflwyno sylwadau ar yr hyn y gellid ei gynnwys yn y mesurau a sut y dylid eu cymhwyso yn awr ac yn y dyfodol.